Adnewyddu neu newid trwydded lori neu fws

Sgipio cynnwys

Os ydych yn 45 oed neu'n hŷn

Bydd DVLA yn anfon 2 ffurflen atoch cyn i’ch trwydded yrru ddod i ben. Byddwch yn cael:

  • ffurflen ‘cais i adnewyddu hawl lori a bws’ (D47PW)

  • ffurflen ‘adroddiad archwiliad meddygol’ (D4)

Mae’n rhad ac am ddim i adnewyddu eich trwydded lori neu fws.

Mae’r broses yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon.

Archebwch y pecyn D2/D4 os nad ydych wedi derbyn ffurflenni D47PW a D4 drwy’r post.

Sut i wneud cais

  1. Cwblhewch ffurflen D47PW.

  2. Gofynnwch i feddyg gwblhau’r adroddiad archwiliad meddygol (ffurflen D4). Gallwch ofyn i optometrydd neu optegydd lenwi’r adran asesu golwg os na all eich meddyg gwblhau’r adroddiad cyfan. Fel arfer, bydd y meddyg, yr optegydd neu’r optometrydd yn codi tâl am hyn.

  3. Anfonwch y ffurflenni wedi’u cwblhau i DVLA.

DVLA
Abertawe
SA99 1BR

Os oes angen ichi newid y ffotograff

Bydd eich ffurflen gais yn dweud wrthych os oes angen ffotograff gyda’ch cais.

Os felly, bydd angen ichi gynnwys ffotograff math pasbort newydd.

Os yw eich enw wedi newid

Os yw eich enw wedi newid bydd hefyd angen ichi anfon dogfennaeth wreiddiol yn cadarnhau eich bod wedi newid eich enw.

Os oes gennych drwydded yrru bapur

Os oes gennych drwydded yrru bapur bydd hefyd angen ichi anfon:

Gyrru cyn i’ch trwydded gael ei dychwelyd

Gallwch yrru tra bod eich trwydded yn cael ei hadnewyddu os ydych yn bodloni’r holl amodau canlynol:

  • nid yw eich meddyg neu optegydd wedi dweud wrthych na ddylech yrru

  • roedd gennych drwydded ddilys

  • rydych dim ond yn gyrru o dan amodau’r drwydded flaenorol

  • mae eich cais yn llai na blwydd oed

  • ni chafodd eich trwydded ddiwethaf ei diddymu na’i gwrthod am resymau meddygol

  • nid ydych wedi’ch gwahardd ar hyn o bryd

  • ni chawsoch eich gwahardd fel troseddwr risg uchel ar neu ar ôl 1 Mehefin 2013

Darllenwch y canllawiau am ragor o wybodaeth ar yrru tra bod eich cais gyda DVLA.