Anghytuno â phenderfyniad treth neu gosb

Sgipio cynnwys

Anghytuno â phenderfyniad treth

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn rhoi gwybod i chi yn ei lythyr o benderfyniad beth i’w wneud os ydych yn anghytuno.

Fel arfer bydd gennych 30 diwrnod i ddyddiad y llythyr o benderfyniad i naill ai apelio neu dderbyn adolygiad.

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, bydd angen i chi ddarparu esgus rhesymol.

Mae sut rydych yn herio penderfyniad yn dibynnu a yw’n dreth uniongyrchol neu anuniongyrchol.

Treth uniongyrchol 

Mae treth uniongyrchol yn cynnwys:

  • Treth Incwm (gan gynnwys TWE)
  • Treth Gorfforaeth
  • Treth Enillion Cyfalaf
  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • Treth Etifeddiant

Treth anuniongyrchol

Mae treth anuniongyrchol yn cynnwys:

  • TAW
  • Toll Ecséis
  • Toll Dramor
  • Trethi Amgylcheddol fel y Dreth Deunydd Pacio Plastig, Treth Dirlenwi neu’r Ardoll Newid yn yr Hinsawdd

Anghytuno â phenderfyniad treth uniongyrchol

Bydd eich llythyr o benderfyniad yn rhoi gwybod i chi sut i wneud apêl ac erbyn pryd y mae’n rhaid i chi apelio. Mae’r dyddiad cau fel arfer cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad y llythyr.

Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • defnyddio’r ffurflen apelio a gawsoch gyda’ch llythyr o benderfyniad
  • ysgrifennu at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad ar y llythyr

Os nad oes gennych lythyr na ffurflen apêl, gallwch ysgrifennu at y swyddfa CThEF sy’n ymwneud â’ch Ffurflen Dreth. 

Bydd rhaid i chi roi gwybod i CThEF beth rydych yn anghytuno ag ef a pham.

Gallwch hefyd gynnwys:

  • eich enw neu enw’ch busnes
  • eich cyfeirnod – er enghraifft eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
  • unrhyw wybodaeth ychwanegol neu unrhyw beth yr ydych yn meddwl bod CThEF wedi’i fethu
  • y ffigurau cywir yn eich barn chi, a sut yr ydych wedi’u cyfrifo

Ar ôl i chi anfon eich apêl

Bydd y gweithiwr achos a wnaeth y penderfyniad yn edrych ar eich achos eto ac yn ystyried eich apêl. 

Bydd eich gweithiwr achos yn ceisio dod i gytundeb â chi. Datrysir y rhan fwyaf o anghytundebau drwy’r dull hwn. Bydd yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi beth sydd wedi ei benderfynu.

Os na fydd yn newid ei benderfyniad neu os na allwch ddod i gytundeb, bydd adolygiad yn cael ei gynnig i chi.

Byddwch yn cael 30 diwrnod i ddyddiad y cynnig i naill ai dderbyn y cynnig o adolygiad neu apelio ar y tribiwnlys treth

Fel arfer, mae adolygiadau’n gynt nag apeliadau i’r tribiwnlys treth.

Gallwch hefyd ofyn am adolygiad ar unrhyw adeg ar ôl i chi wneud apêl – does dim rhaid i chi aros am ganlyniad yr apêl.

I ofyn am adolygiad, ysgrifennwch at yr un swyddfa CThEF yr ydych wedi anfon yr apêl ati.

Anghytuno â phenderfyniad treth anuniongyrchol

Bydd adolygiad yn cael ei gynnig i chi gan CThEF yn y llythyr o benderfyniad.

Byddwch yn cael 30 diwrnod i ddyddiad y cynnig i naill ai dderbyn y cynnig o adolygiad neu apelio ar y tribiwnlys treth.

Fel arfer, mae adolygiadau’n gynt nag apeliadau i’r tribiwnlys treth.

Os hoffech gael adolygiad ond bod angen mwy o amser arnoch (er enghraifft, i gasglu gwybodaeth i’w rhoi i’r swyddog adolygu), gallwch ofyn i CThEF ymestyn y dyddiad cau. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad y cynnig.

Ni allwch gael estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer apelio ar y tribiwnlys treth.

Os yw’ch eitemau wedi’u hatafaelu, gallwch ofyn am eu cael yn ôl (yn agor tudalen Saesneg).