Apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal

Sgipio cynnwys

Os ydych yn anfodlon gyda phenderfyniad y tribiwnlys

Efallai y gallwch:

Mae rhagor o wybodaeth yn eich llythyr penderfyniad.

Cael penderfyniad wedi’i roi o’r neilltu

Fe’ch hysbysir sut i gael penderfyniad wedi’i ‘roi o’r neilltu’ (canslo) os credwch bod camgymeriad wedi bod yn y broses. Gallwch yna ddechrau’r broses eto fel y gall penderfyniad newydd cael ei wneud. Cysylltwch â Cyngor ar Bopeth os ydych angen help.

Apelio i’r Uwch Dribiwnlys - Siambr Apeliadau Gweinyddol

Dim ond os credwch fod y penderfyniad yn anghywir am reswm cyfreithiol y gallwch apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol), er enghraifft, os na wnaeth y tribiwnlys:

  • roi rhesymau cywir dros ei benderfyniad, neu cefnogi’r penderfyniad â ffeithiau
  • cymhwyso’r gyfraith yn gywir

Efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol pan fyddwch yn apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol) - gall hyn helpu i dalu am gyngor cyfreithiol.

Cysylltwch â Cyngor ar Bopeth os ydych angen help.

Yna mae’n rhaid i chi ddilyn 3 cam.

  1. Gofynnwch i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant am ddatganiad o resymau llawn yn ysgrifenedig (a elwir yn ‘datganiad o resymau’) o fewn mis o ddyddiad y penderfyniad. Bydd y llythyr penderfyniad yn dweud wrthych sut i wneud hyn.

  2. Gofynnwch i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol).

  3. Os bydd y Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant yn gwrthod, gofynnwch i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol) am ganiatâd i apelio.