Archebwch eich prawf gyrru
Archebwch eich prawf gyrru ymarferol ar gyfer:
- ceir
- beiciau modur
- lorïau, bysiau a choetsis
- profion hyfforddwyr gyrru cymeradwy (ADI) rhan 2 a 3
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn y Saesneg (English).
Archebu prawf ar-lein
Byddwch yn cael eich rhoi mewn ciw pan fyddwch yn dechrau archebu’ch prawf gyrru - dywedir wrthych pa mor hir y bydd angen i chi aros cyn gynted â’ch bod yn dechrau. Mae hyn yn gyflymach nac archebu dros y ffôn oherwydd bod y llinellau ffôn yn brysur iawn ar hyn o bryd.
Gallwch archebu prawf hyd at 24 wythnos yn y dyfodol. Nid oes rhestr aros na rhestr ganslo.
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael o 6am i 11:40pm.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen eich:
- rhif trwydded yrru’r DU
- cerdyn credyd neu ddebyd
- cyfeirnod personol eich hyfforddwr gyrru os byddwch yn dymuno gwirio ei fod ar gael
Gallwch wirio cost eich prawf gyrru cyn i chi ddechrau.
Mae’n rhaid eich bod wedi byw yn Lloegr, Cymru neu’r Alban am o leiaf 185 o ddiwrnodau yn y 12 mis diwethaf cyn y diwrnod y byddwch yn sefyll eich prawf.
Mae gwasanaeth gwahanol i archebu eich prawf gyrru yng Ngogledd Iwerddon.
Gallwch wirio am apwyntiadau cynharach ar ôl i chi archebu. Mae’r rhain yn cael eu galw weithiau’n ‘apwyntiadau canslo’.
Archebwch brawf i uwchraddio’ch trwydded
Mae’n rhaid i chi alw’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) os oes angen ‘prawf uwchraddio’ arnoch, megis awtomatig i gar â llaw, neu lori o faint canolig i lori fawr.
Cymorth archebu prawf gyrru DVSA
Teleffon: 0300 200 1122
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 4pm
Dysgwch am
Pryd nad oes angen prawf theori arnoch
Fel arfer mae’n rhaid eich bod wedi llwyddo yn eich prawf theori cyn archebu.
Nid oes angen prawf theori arnoch i archebu:
- prawf tractor
- prawf i uwchraddio o awtomatig i â llaw
- prawf i symud ymlaen trwy’r categorïau beic modur (mynediad cynyddol)
- prawf lori a threlar, pan fydd gennych drwydded lori
- prawf bws a threlar, pan fydd gennych drwydded bws
- prawf lori, pan fydd gennych drwydded lori ganolig
- prawf bws, pan fydd gennych drwydded bws mini
Cymorth â’ch archeb
Cymorth i gael mynediad i’r gwasanaeth ar-lein
Darganfyddwch beth i’w wneud os ydych chi’n cael problemau cyrchu’r gwasanaeth ar-lein, er enghraifft:
- byddwch yn cael neges ‘gwall 15’ ar ôl dewis ‘Cychwyn nawr’
- nid yw’r gwasanaeth yn llwytho ar ôl dewis ‘Cychwyn nawr’
- byddwch yn cael neges ‘cyrhaeddiad terfyn chwilio’
Cael cymorth i archebu eich prawf
Cysylltwch â DVSA i gael cymorth i archebu’ch prawf.
Cymorth archebu prawf gyrru DVSA
[email protected]
Teleffon: 0300 200 1133
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 4pm
Dysgwch ragor am