Gwirio’ch band Treth Gyngor

Dysgwch beth yw’r band Treth Gyngor am gartref yng Nghymru neu Loegr drwy chwilio am ei gyfeiriad neu god post.

Chwiliwch am gartrefi yn yr Alban ar wefan Aseswyr yr Alban.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i herio’ch band Treth Gyngor os ydych chi’n credu ei fod yn anghywir. Bydd angen i chi roi tystiolaeth ar gyfer eich her.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Ffyrdd eraill o wneud cais

Gallwch hefyd ffonio neu e-bostio Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) i herio eich band Treth Gyngor os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.

Asiantaeth y Swyddfa Brisio
[email protected]
Ffôn (Lloegr): 03000 501 501
Ffôn (Cymru): 03000 505 505
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 4:30pm
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau