Categorïau trwydded yrru

I yrru math penodol o gerbyd, mae angen ‘hawl’ arnoch ar gyfer y categori hwnnw ar eich trwydded yrru.

Gallwch wirio ar-lein i weld pa gerbydau y gallwch eu gyrru.

Efallai y bydd cyfyngiadau ychwanegol ar eich hawliau. Gwiriwch y codau cyfyngu ar gyfer eich trwydded yrru.

Mae categorïau trwydded yrru yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon.

Gallwch wirio diffiniadau’r pwysau cerbydau i benderfynu ar eich categori trwydded yrru.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mopedau

Categori AM

Gallwch yrru cerbydau 2 olwyn neu 3 olwyn ag uchafswm terfyn cyflymder o dros 25km/awr (15.5mya) ond dim mwy na 45km/awr (28mya).

Mae’r categori hwn hefyd yn cynnwys beiciau cwad ysgafn gyda:

  • màs mewn trefn olynol o ddim mwy na 425kg (heb gynnwys batris os yw’n gerbyd trydan)

  • uchafswm terfyn cyflymder dros 25km/awr (15.5mya) ond dim mwy na 45km/awr (28mya)

Categori P

Gallwch yrru cerbydau 2 olwyn ag uchafswm terfyn cyflymder o dros 45km/awr (28mph) ond dim mwy na 50km/awr (31mph).

Ni ddylai maint ei injan fod yn fwy na 50cc os yw’n cael ei bweru gan beiriant tanio mewnol.

Categori Q

Gallwch yrru cerbydau 2 olwyn a 3 olwyn heb bedalau gyda:

  • maint injan dim mwy na 50cc os yw’n cael ei bweru gan beiriant tanio mewnol

  • uchafswm terfyn cyflymder dim mwy na 25km/awr (15.5mya)

Mae’r categori hwn hefyd yn cynnwys e-sgwteri treial.

Beiciau modur

Categori A1

Gallwch yrru beiciau modur ysgafn gyda:

  • maint injan hyd at 125cc

  • allbwn pŵer o hyd at 11kW

  • cymhareb pŵer i bwysau dim mwy na 0.1kW y kg

Mae’r categori hwn hefyd yn cynnwys beiciau modur tair olwyn ag allbwn pŵer hyd at 15kW.

Categori A2

Gallwch yrru beiciau modur gydag:

  • allbwn pŵer hyd at 35kW

  • cymhareb pŵer i bwysau dim mwy na 0.2kW y kg

Ni ddylai’r beic modur fod yn deillio o gerbyd o fwy na dwbl ei bŵer.

Gallwch hefyd yrru beiciau modur yn nghategori A1.

Categori A

Gallwch yrru:

  • beiciau modur ag allbwn pŵer mwy na 35kW neu gymhareb pŵer i bwysau mwy na 0.2kW y kg

  • beiciau modur tair olwyn ag allbwn pŵer mwy na 15kW

Gallwch hefyd yrru beiciau modur yn nghategorïau A1 ac A2.

Cerbydau ysgafn a beiciau cwad

Categori B1

Gallwch yrru cerbydau modur â 4 olwyn heb lwyth hyd at 400kg neu 550kg os ydynt wedi’u cynllunio ar gyfer cludo nwyddau.

Ceir

Categori B - os pasioch eich prawf cyn 1 Ionawr 1997

Fel arfer caniateir ichi yrru cyfuniad cerbyd ag ôl-gerbyd hyd at uchafswm màs awdurdodedig (MAM) o 8,250kg. Gweld eich gwybodaeth trwydded yrru i’w wirio.

Gallwch hefyd yrru bws mini gydag ôl-gerbyd dros 750kg MAM.

Categori B - os pasioch eich prawf ar neu ar ôl 1 Ionawr 1997

Gallwch yrru cerbydau sydd ag uchafswm màs awdurdodedig (MAM) o 3,500kg gyda hyd at 8 o seddau i deithwyr.

Gallwch dynnu ôl-gerbyd sy’n pwyso hyd at 3,500kg MAM.

Gallwch yrru beiciau modur tair olwyn ag allbwn pŵer sy’n uwch na 15kW os ydych dros 21 oed.

Bydd gan yrwyr ag anabledd corfforol sydd â hawl categori B dros dro hefyd hawl dros dro i reidio beiciau modur tair olwyn categori A1 neu A.

Ni all gyrwyr nad ydynt yn anabl reidio beiciau modur gyda thrwydded categori B dros dro.

Categori B awto

Gallwch yrru cerbyd categori B - ond dim ond un awtomatig.

Categori BE

Gallwch yrru cerbyd ag uchafswm màs awdurdodedig (MAM) o 3,500kg gydag ôl-gerbyd.

Mae maint yr ôl-gerbyd yn dibynnu ar y dyddiad ‘yn ddilys o’ BE a ddangosir ar eich trwydded. Os yw’r dyddiad:

  • cyn 19 Ionawr 2013, gallwch dynnu unrhyw faint o ôl-gerbyd o fewn terfynau tynnu’r cerbyd

  • ar neu ar ôl 19 Ionawr 2013, gallwch dynnu ôl-gerbyd gyda MAM o hyd at 3,500kg o fewn terfynau tynnu’r cerbyd

Cerbydau maint canolig

Categori C1

Gallwch yrru cerbydau sydd ag uchafswm màs awdurdodedig (MAM) rhwng 3,500 a 7,500kg (gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg).

Categori C1E

Gallwch yrru cerbydau categori 1 gydag ôl-gerbyd dros 750kg.

Ni all yr uchafswm màs awdurdodedig (MAM) cyfunol am y ddau fod yn fwy na 12,000kg.

Cerbydau mawr

Categori C

Gallwch yrru cerbydau dros 3,500kg gydag ôl-gerbyd ag uchafswm màs awdurdodedig (MAM) hyd at 750kg.

Categori CE

Gallwch yrru cerbydau categori C gydag ôl-gerbyd dros 750kg.

Bysiau mini

Categori D1

Gallwch yrru cerbydau gyda:

  • dim mwy na 16 o seddau i deithwyr

  • uchafswm hyd o 8 metr

  • ôl-gerbyd hyd at 750kg

Categori D1E

Gallwch yrru cerbydau categori D1 gydag ôl-gerbyd ag uchafswm màs awdurdodedig (MAM) dros 750kg.

Ni all y MAM cyfunol am y ddau fod yn fwy na 12,000kg.

Bysiau

Categori D

Gallwch yrru unrhyw fws gyda mwy nag 8 o seddau i deithwyr gydag ôl-gerbyd ag uchafswm màs awdurdodedig (MAM) hyd at 750kg.

Categori DE

Gallwch yrru cerbydau categori D gydag ôl-gerbyd dros 750kg.

Categorïau eraill

Categori Cerbyd y gallwch ei yrru
f Tractor amaethyddol
G Rholer ffordd
H Cerbydau â thrac
k Peiriant lladd gwair a cherbyd a reolir gan gerddwr
l Cerbyd a yrrir yn drydanol
M Cerbydau troli
n Wedi’i eithrio rhag treth

Nid oes angen trwydded yrru arnoch ar gyfer beiciau trydan, sgwteri symudedd neu gadeiriau olwyn modur.