Cwyno i’r Archwilydd Achosion Annibynnol
Gwnewch gŵyn i’r Archwilydd Achosion Annibynnol am y gwasanaeth rydych wedi ei gael gan unrhyw asiantaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) os nad yw eich cwyn wedi cael ei datrys ganddynt.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae asiantaethau DWP yn cynnwys y Ganolfan Byd Gwaith, y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr, y Gwasaneth Pensiwn, Rheoli Dyled, y Cynllun Cymorth Ariannol, yr Asiantaeth Cynnal Plant a’r Gronfa Byw’n Annibynnol.
Rhaid eich bod wedi cael llythyr gan yr asiantaeth sy’n rhoi eu hymateb terfynol cyn cysylltu â’r Archwilydd Achosion Annibynnol.
Sut i gwyno
Cysylltwch â’r Archwilydd Achos Annibynnol gan esbonio beth ddigwyddodd a phryd.
Archwilydd Achosion Annibynnol\
[email protected]
Ffôn: 0800 414 8529
O du allan i’r DU: +44 151 221 6500
Ffacs: 0151 221 6601
Typetalk: 18002 0151 221 6500
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 414 8529
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Independent Case Examiner
PO Box 209
Bootle
L20 7WA
Mae angen i chi anfon eich cwyn o fewn 6 mis i gael yr ymateb terfynol.
Gall yr archwilydd ofyn i DWP ail-agor eich cais os ydynt yn cadarnhau eich cwyn. Ni fyddant yn talu eich costau cyfreithiol.
Os na fydd eich cwyn yn cael ei chadarnhau
Gwnewch gŵyn i’r Ombwdsmon Gwasanaeth Iechyd Seneddol os ydych yn anhapus gydag ymateb yr archwilydd.