Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Os ydych chi'n cael yr elfen Credyd Gwarant o’r Credyd Pensiwn
Rydych chi’n gymwys i gael y gostyngiad os oedd y canlynol i gyd yn gymwys ar 11 Awst 2024:
-
bod eich cyflenwr ynni yn rhan o’r cynllun
-
bod eich enw chi (neu enw’ch partner) ar y bil trydan
-
eich bod chi neu’ch partner yn cael yr elfen Credyd Gwarant o’r Credyd Pensiwn (hyd yn oed os ydych chi’n cael Credyd Cynilo hefyd)
Yr enw ar hyn yw’r ‘grŵp craidd 1’ yng Nghymru a Lloegr. Yn yr Alban, dyma’r ‘grŵp craidd’.
Os nad ydych chi’n cael yr elfen Credyd Gwarant o’r Credyd Pensiwn, efallai y byddwch chi’n dal yn gymwys os ydych chi:
Sut i gael y gostyngiad
Fe gewch chi lythyr rhwng Hydref 2024 a dechrau Ionawr 2025:
-
os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun
-
os gallech chi fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, ond bod angen ichi roi rhagor o wybodaeth
Os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun, bydd eich llythyr yn cadarnhau nad oes angen ichi wneud dim. Fe gewch chi’r gostyngiad yn awtomatig.
Os oes angen ichi roi rhagor o wybodaeth, bydd eich llythyr yn dweud wrthoch chi am ffonio’r llinell gymorth erbyn 28 Chwefror 2025 i gadarnhau’ch manylion.
Os ydych chi’n gymwys, bydd eich cyflenwr trydan yn rhoi’r gostyngiad ar eich bil erbyn 31 Mawrth 2025.
Os na chewch chi lythyr
Cysylltwch â’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes os na chewch chi’r llythyr erbyn dechrau mis Ionawr 2025 a’ch bod yn credu eich bod yn gymwys.
Mae’n rhaid ichi gysylltu â nhw cyn 28 Chwefror 2025.
Llinell gymorth y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Ffôn: 0800 030 93222
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau
Warm Home Discount Scheme
PO Box 14127
Selkirk
TD7 9AH