Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref

Sgipio cynnwys

Trosolwg

Cynllun i helpu i ddiogelu Pensiwn y Wladwriaeth rhieni a gofalwyr oedd Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP). Fe wnaeth credydau Yswiriant Gwladol ddisodli HRP yn 2010.

Byddwch wedi cael HRP yn awtomatig os oeddech yn hawlio un o’r canlynol rhwng 6 Ebrill 1978 a 5 Ebrill 2010:

  • Budd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 16 oed
  • Cymhorthdal Incwm oherwydd eich bod yn gofalu am berson sâl neu anabl ac nad oeddech ar gael i weithio

Bydd angen i chi wneud cais ar gyfer HRP os credwch ei fod ar goll o’ch cofnod Yswiriant Gwladol (YG).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Pwy all wneud cais

Mae’n bosibl y byddwch yn dal i allu gwneud cais am HRP os oeddech, am flynyddoedd treth llawn (6 Ebrill i 5 Ebrill) rhwng 1978 a 2010, naill ai:

  • yn rhannu gofal plentyn o dan 16 oed gyda phartner yr oeddech yn byw gydag ef a’i fod yn hawlio Budd-dal Plant yn lle chi - mae’n bosibl y byddwch yn gallu trosglwyddo ei HRP
  • yn gofalu am berson sâl neu anabl

Gallwch hefyd wneud cais os oeddech, am flwyddyn dreth lawn rhwng 2003 a 2010, naill ai:

  • yn ofalwr maeth
  • yn gofalu am blentyn ffrind neu aelod o’r teulu (‘gofalwr sy’n berthynas’) yn yr Alban

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 06 Ebrill 2010

Cafodd unrhyw HRP a gawsoch am flynyddoedd treth llawn cyn 6 Ebrill 2010 ei drosi’n gredydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig, os oes eu hangen arnoch, hyd at uchafswm o 22 o flynyddoedd cymhwysol.