Dod â nwyddau i mewn i’r DU at ddefnydd personol
Datgan nwyddau a thalu treth a tholl i dollau’r DU
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn cyn cyrraedd y DU er mwyn:
- gwirio a oes angen i chi dalu treth neu doll ar unrhyw nwyddau rydych yn dod â nhw i mewn
- datgan nwyddau os ewch dros eich lwfansau
- talu unrhyw dreth neu doll sydd arnoch
Gallwch wneud hyn unrhyw bryd o 5 diwrnod (120 awr) cyn i chi ddisgwyl cyrraedd y DU.
Os byddwch yn datgan eich nwyddau ar-lein, bydd y doll dramor a’r doll ecséis yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio cyfraddau symlach.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen y canlynol arnoch:
- union bris eich nwyddau yn yr arian cyfred a ddefnyddioch i dalu amdanynt
- nifer neu gyfaint eich nwyddau
- y wlad lle y cafodd eich nwyddau eu gwneud neu eu cynhyrchu os ydych yn teithio o’r UE
- eich rhif pasbort neu rif cerdyn adnabod yr UE
- eich dyddiad ac amser cyrraedd
- cerdyn credyd neu ddebyd os oes angen i chi dalu treth neu doll
Gallwch ddefnyddio’ch rhif trwydded yrru neu’ch rhif ffôn yn lle rhif pasbort os ydych yn teithio o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr neu’r Alban) i Ogledd Iwerddon.
Datgan a thalu unrhyw dreth neu doll
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:
- gwneud datganiad tollau ar-lein
- diweddaru datganiad tollau ar-lein
- talu unrhyw dreth neu doll sydd arnoch cyn i chi gyrraedd y DU
Ar ôl i chi ddatgan eich nwyddau
Os ydych wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost, cewch e-bost mewn ymateb. Os na, gwnewch nodyn o’r cyfeirnod a roddir i chi.
Gall swyddogion tollau ofyn am yr e-bost mewn ymateb neu’r rhif cadarnhau wrth ffin y DU.
Gallwch ddefnyddio’r sianel werdd ‘dim i’w ddatgan’ wrth ddod i mewn i’r DU.
Os oes angen i chi ddatgan rhagor o nwyddau
Gallwch wneud newidiadau ar-lein ar ôl gwneud eich datganiad gwreiddiol.
I newid eich datganiad, bydd angen y canlynol arnoch:
- cyfeirnod eich datganiad
- union bris eich nwyddau yn yr arian cyfred a ddefnyddioch i dalu amdanynt
- nifer yr eitemau neu gyfaint eich nwyddau
- y wlad lle y cafodd eich nwyddau eu cynhyrchu os ydych yn teithio o’r UE
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth
Ffoniwch y llinell gymorth Gymraeg ar gyfer Ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.
Llinell gymorth Gymraeg ar gyfer Ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis
Ffôn: 0300 200 3705
Dydd Llun - Dydd Gwener, 08:30 - 17:00
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau
Gwneud cais am ad-daliad
Llenwch ffurflen C82 (yn agor tudalen Saesneg) os ydych wedi talu gormod o dreth neu doll ac mae angen i chi wneud cais am ad-daliad. Anfonwch hi i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.
E-bostiwch CThEF os oes angen y ffurflen hon arnoch mewn fformat arall: [email protected]