Dod o hyd i atwrnai, dirprwy neu warcheidwad rhywun
Gwneud cais i chwilio cofrestri Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) i weld a oes gan rywun berson arall yn gweithredu ar eu rhan.
Gall y person sy’n gweithredu fod yn:
- atwrnai o dan atwrneiaeth arhosol
- atwrnai o dan atwrneiaeth barhaus
- dirprwy wedi’i benodi gan y llys
- gwarcheidwad dros rywun sydd ar goll wedi’i benodi gan yr Uchel Lys
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Bydd angen i chi llenwi ffurflen i chwilio’r gofrestr. Mae hwn yn wasanaeth am ddim.
Dylech anfon eich ffurflen ar ôl ei llenwi i:
[email protected]
Ffacs: 0870 739 5780
Gallwch gysylltu â’r OPG drwy’r post yn:
Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Cyfeiriad Cyfnewid Dogfen (DX):
Office of the Public Guardian
DX 744240
Birmingham 79
Bydd yr OPG yn ymateb o fewn pum diwrnod gwaith. Gallai gymryd hirach os ydynt yn cysylltu gyda chi drwy’r post.