Eich dyletswyddau

Byddwch chi’n gyfrifol am helpu’r rhoddwr i wneud penderfyniadau am bethau fel:

  • arian a biliau
  • cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu
  • eiddo a buddsoddiadau
  • pensiynau a budd-daliadau

Dylech ddarllen y ffurflen atwrneiaeth barhaus (EPA) i weld a yw’r rhoddwr wedi rhoi:

  • cyfyngiadau ar beth allwch ei wneud
  • canllawiau ar sut y maent eisiau i benderfyniadau gael eu gwneud

Sut i ofalu am faterion ariannol y rhoddwr

Rhaid i chi ofalu am faterion ariannol y rhoddwr ar sail eu lles gorau.

Dylech gadw materion ariannol y rhoddwr ar wahân i’ch rhai chi, oni bai fod gennych gyfrif banc ar y cyd neu’n gyd-berchen ar gartref. Os ydych, rhaid i chi ddweud wrth y banc neu’r cwmni morgais eich bod yn gweithredu fel atwrnai’r person arall.

Rhaid i chi gadw cyfrifon o asedau, incwm, gwariant ac all-daliadau’r rhoddwr. Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) a’r Llys Gwarchod ofyn am gael gwirio’r pethau hyn.

Gallwch gael eich erlyn os byddwch yn camddefnyddio arian y rhoddwr.

Rhoddion

Gallwch brynu anrhegion neu roi rhoddion ariannol ar ran y rhoddwr, gan gynnwys gwneud rhoddion i elusennau. Dylech wneud rhoddion dim ond:

  • i bobl a fyddai fel arfer yn cael rhoddion gan y rhoddwr
  • ar achlysuron addas - er enghraifft, pen-blwydd, priodas
  • i elusennau sydd fel arfer yn cael rhoddion gan y rhoddwr

Rhaid i’r rhoddion fod yn rhesymol – dylech ddarllen y canllawiau ar roddion addas.

Prynu neu werthu eiddo

Gallwch brynu neu werthu eiddo ar ran y rhoddwr os yw hynny ar sail ei les gorau.

Dylech gysylltu â’r OPG:

  • os yw’r gwerthiant o dan werth y farchnad
  • os ydych chi neu eich teulu eisiau prynu’r eiddo
  • os ydych yn ei roi i rywun arall

Gallant roi cyngor i chi a fydd angen i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod ar y mater neu beidio.

Os ydych yn gwerthu cartref y rhoddwr ac mae gan y rhoddwr atwrneiaeth arhosol (LPA) iechyd a lles, efallai y bydd angen i chi drafod ble bydd y rhoddwr yn mynd i fyw gyda’r atwrnai perthnasol.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
[email protected]
Ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Ffôn testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

Ewyllysiau

Ni allwch wneud ewyllys ar ran y rhoddwr.

Gallwch wneud cais i’r Llys Gwarchod am ‘ewyllys statudol’ os oes angen i’r rhoddwr wneud ewyllys, ond nid oes galluedd meddyliol ganddynt i wneud hyn.