Galwad am dystiolaeth – Trwyddedu gyrwyr ar gyfer pobl â chyflyrau meddygol
Published 31 July 2023
Applies to England, Scotland and Wales
Rhagair
Fel y Gweinidog Ffyrdd, mae diogelwch holl ddefnyddwyr y ffyrdd yn un o’m blaenoriaethau allweddol. Er bod llawer o ffactorau’n cyfrannu at ddiogelwch ar y ffyrdd, mae iechyd a ffitrwydd gyrwyr yn ystyriaeth bwysig iawn. Mae gyrru cerbyd yn dasg gymhleth sy’n cynnwys canfyddiadau, defnyddio barn dda, amseroedd ymateb digonol a gallu corfforol priodol.
Gall amrywiaeth o gyflyrau meddygol, anableddau a thriniaethau effeithio ar allu unigolyn i reoli cerbyd yn ddiogel. Felly mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar bob gyrrwr i ddweud wrth yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am unrhyw gyflwr meddygol sy’n effeithio ar ei allu i yrru. Mae hyn yn hanfodol i helpu i sicrhau nad yw eu hiechyd yn cynyddu’n ormodol eu risg o gael damwain ffordd a allai achosi anaf neu farwolaeth iddynt hwy eu hunain a defnyddwyr eraill y ffyrdd.
Mae’r DVLA yn gyfrifol am drwyddedu gyrwyr ym Mhrydain Fawr. Wrth i nifer a chymhlethdod ceisiadau am drwydded yrru neu adnewyddiadau lle mae gan yr ymgeisydd 1 cyflwr meddygol neu fwy gynyddu, mae’r Llywodraeth o’r farn bod yr amser yn iawn i adolygu’r fframwaith cyfreithiol presennol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod llawer o bobl a sefydliadau ag ystod eang o arbenigedd a allai fod â safbwyntiau neu syniadau y maent am eu rhannu a dyna pam yr ydym yn lansio’r alwad hon am dystiolaeth. Rydym am ddeall unrhyw gyfleoedd ar gyfer newid yn y maes hwn ac rydym angen eich help gyda hynny.
Nod yr alwad hon am dystiolaeth yw manteisio ar ystod eang o brofiadau, safbwyntiau ac ymchwil i’n helpu i nodi meysydd lle gallai newidiadau polisi neu ddeddfwriaethol wella canlyniadau i yrwyr a defnyddwyr eraill y ffyrdd.
Richard Holden AS, Gweinidog y Ffyrdd a Thrafnidiaeth Lleol
Crynodeb gweithredol
DVLA sy’n pennu addasrwydd meddygol i yrru ar gyfer deiliaid ac ymgeiswyr am drwyddedau gyrru sy’n ymwneud â phob dosbarth o gerbydau ym Mhrydain Fawr (mae trwyddedu gyrwyr wedi’i ddatganoli yng Ngogledd Iwerddon).
Mae DVLA yn gweinyddu’r swyddogaeth statudol hon ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, sy’n gyfrifol yn y pen draw am benderfynu a yw deiliad neu ymgeisydd am drwydded yrru yn diwallu’r safonau meddygol gofynnol ar gyfer gyrru. Mae’r DVLA yn asesu addasrwydd i yrru unigolion â chyflyrau meddygol ac yn gwneud penderfyniadau trwyddedu i wneud yn siŵr mai dim ond i’r rhai sy’n diwallu’r safonau meddygol gofynnol y rhoddir trwyddedau gyrru. Mae’n bwysig bod penderfyniadau trwyddedu’n cael eu gwneud ar sail y wybodaeth gywir ac yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng y risgiau diogelwch ar y ffyrdd ac anghenion gyrrwr i gynnal symudedd.
Mae’r alwad hon am dystiolaeth yn egluro’r fframwaith trwyddedu gyrwyr presennol ac yn rhoi cipolwg ar brosesau trwyddedu meddygol gwledydd eraill. Nid ymgynghoriad ar gynigion a ddatblygwyd yw hwn, ond yn hytrach cais cynnar am fewnbwn i helpu i lunio cynigion a allai gefnogi newidiadau posibl i’r fframwaith deddfwriaethol yn y dyfodol.
Sut i ymateb
Dechreuodd cyfnod yr alwad am dystiolaeth ar 31 Gorffennaf a bydd yn parhau tan 22 Hydref.
Wrth ymateb i’r alwad am dystiolaeth hon, byddai’n ddefnyddiol ichi roi rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi’ch hun. Dywedwch wrthym a ydych yn ymateb fel unigolyn neu’n cynrychioli barn sefydliad. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad mwy, nodwch yn glir pwy mae’r sefydliad yn ei gynrychioli a, lle bo’n berthnasol, sut y casglwyd barn yr aelodau.
Wrth ateb y cwestiynau, rhowch unrhyw enghreifftiau ymarferol, data perthnasol, tystiolaeth ymchwil neu brofiad sy’n cefnogi’ch barn.
Peidiwch â theimlo rheidrwydd i ateb pob cwestiwn.
Gallwch ymateb i’r alwad am dystiolaeth hon gan ddefnyddio teclyn SNAP Survey Ltd y DVLA yn:
https://online1.snapsurveys.com/s3dxzw
Fel arall, gallwch ymateb drwy anfon e-bost atom yn [email protected]
Neu gallwch bostio eich ymateb i:
Polisi Trwyddedu Gyrwyr
Galwad am Dystiolaeth
C2 Dwyrain
DVLA
Abertawe
SA6 7JL
Gwnewch yn siŵr bod eich ymateb yn ein cyrraedd cyn y dyddiad cau. Gallwch gysylltu â [email protected] os oes angen fformatau amgen arnoch (er enghraifft, copïau papur, CD sain).
Rhyddid Gwybodaeth
Gall gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r alwad am dystiolaeth hon gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA) neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
Os hoffech i wybodaeth a ddarperir gennych gael ei thrin yn gyfrinachol, byddwch yn ymwybodol, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fod Cod Ymarfer statudol y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef ac sy’n ymdrin, ymhlith pethau eraill, â rhwymedigaethau cyfrinachedd.
O ystyried hyn, byddai’n ddefnyddiol pe gallech esbonio inni pam yr ydych yn ystyried bod y wybodaeth a ddarperir gennych yn gyfrinachol. Os byddwn yn derbyn cais i ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cadw cyfrinachedd dan bob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddo’i hun, yn cael ei ystyried yn rhwymol ar yr adran.
Bydd yr adran yn prosesu’ch data personol yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 (DPA) ac yn y rhan fwyaf o amgylchiadau bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael eu datgelu i drydydd partïon.
Diogelu data
Bwriad yr alwad am dystiolaeth hon gan y DVLA, un o asiantaethau gweithredol yr Adran Drafnidiaeth (DfT), yw casglu barnau i lywio ein barn wrth ystyried newidiadau posibl i’r fframwaith a’r broses trwyddedu meddygol presennol.
Yn yr alwad hon am dystiolaeth, rydym yn gofyn am:
- eich enw a’ch cyfeiriad e-bost, rhag ofn y bydd angen inni gysylltu â chi ynglŷn â’ch ymatebion (nid oes rhaid ichi roi gwybodaeth bersonol inni, ond os byddwch yn ei darparu, byddwn yn ei defnyddio dim ond at ddiben gofyn cwestiynau dilynol os byddwn angen)
Ar gyfer sefydliadau, rydym yn gofyn am:
- ddisgrifiad byr o’ch sefydliad i ddeall yn well y berthynas rhwng gwaith eich sefydliad a’r pwnc
Mae’r alwad am dystiolaeth hon a’r prosesu data personol y mae’n ei olygu yn angenrheidiol ar gyfer arfer ein swyddogaethau fel adran o’r llywodraeth. Os yw eich atebion yn cynnwys unrhyw wybodaeth sy’n caniatáu ichi gael eich adnabod, y DVLA, o dan gyfraith diogelu data, fydd y rheolydd ar gyfer y wybodaeth hon.
Os byddwch yn ymateb i’r alwad hon am dystiolaeth ar-lein, bydd eich data personol yn cael eu prosesu ar ran y DVLA gan SNAP Surveys Ltd, sy’n rhedeg y meddalwedd casglu arolygon. Mae SNAP Surveys Ltd. yn cynnal casgliad yr arolwg yn unig, ac ni fydd eich data personol yn cael eu rhannu ag unrhyw drydydd parti arall. Os ydych eisiau deall sut mae SNAP Surveys Ltd yn defnyddio’ch data, efallai y byddwch am ddarllen eu datganiad preifatrwydd.
Mae eich ymateb a’r prosesu data personol y mae’n ei olygu yn angenrheidiol ar gyfer arfer ein swyddogaethau fel adran o’r llywodraeth. Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol yw cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd, neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd gyda’r rheolydd.
Ni fyddwn yn defnyddio’ch enw na manylion personol eraill a allai ddatgelu pwy ydych pan fyddwn yn adrodd ar ganlyniadau’r alwad am dystiolaeth. Bydd unrhyw wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw’n ddiogel a’i dinistrio o fewn 12 mis i’r dyddiad cau. Bydd unrhyw wybodaeth a roddir drwy’r holiadur ar-lein yn cael ei symud i’n systemau mewnol o fewn 2 fis i ddyddiad diwedd cyfnod yr alwad am dystiolaeth.
Mae gan bolisi preifatrwydd y DVLA ragor o wybodaeth am eich hawliau mewn perthynas â’ch data personol, sut i gwyno a sut i gysylltu â’r Rheolwr Diogelu Data.
1. Cyflwyniad
Hanes trwyddedu meddygol
1.1 Fe fu angen trwyddedau gyrru ers 1903 at ddiben adnabod gyrrwr. Datblygwyd y cysyniad o ffitrwydd meddygol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan fynegwyd pryder ynghylch ffitrwydd gyrwyr cerbydau modur, bysiau neu dramiau a oedd wedi colli aelod neu lygad. Ym 1916, ystyriodd pwyllgor seneddol anableddau o’r fath yn anghydnaws â diogelwch teithwyr.
1.2 Nid tan 1930 y cyflwynwyd isafswm oedran ar gyfer trwyddedau gyrru ac yn yr un flwyddyn cyflwynwyd math o brawf gyrru yn benodol ar gyfer gyrwyr anabl. Ni ddaeth profion gyrru ar gyfer ceir yn orfodol i bob gyrrwr tan 1935 ac roedd y rhain yn cynnwys prawf craffter golwg ar ffurf y gallu i ddarllen plât rhif ar bellter rhagnodedig. Mae’r agwedd hon yn dal yn ei lle heddiw fel rhan o’r prawf gyrru. Un o’r ffactorau a ddylanwadodd ar gyflwyno’r prawf gyrru oedd, gyda dim ond 1.5 miliwn o gerbydau cofrestredig ym 1934, bod 7,000 o farwolaethau mewn damweiniau ffordd.
1.3 Epilepsi oedd y cyflwr meddygol cyntaf i gael ei nodi fel rhwystr posibl rhag cael trwydded yrru. Arhosodd hyn yn sefyllfa, ag ychydig eithriadau, tan y 1960au pan sefydlodd gweinidogion banel o arbenigwyr i ystyried caniatáu i bobl ag epilepsi yrru. Ym 1970, daeth argymhelliad y panel y gellid caniatáu gyrru ar ôl 3 blynedd o fod yn rhydd rhag trawiadau i rym, sef rhagflaenydd rheolau epilepsi heddiw.
1.4 Hyd at 1973, pan ddechreuodd y DVLA gofrestru a thrwyddedu pob gyrrwr a cherbyd, rhoddwyd trwyddedau gyrru gan awdurdodau lleol ac roedd rhaid eu hadnewyddu bob 3 blynedd. Ym 1971, penderfynwyd canoli a chyfrifiaduro’r system trwyddedu gyrwyr ac ymestyn dilysrwydd hawliau gyrru hyd at ben-blwydd y gyrrwr yn 70 oed. Yna gellid ymestyn trwyddedau ymhellach o bryd i’w gilydd pe byddai gyrwyr yn bodloni’r safonau iechyd. Ym 1999, cyflwynwyd trwyddedau gyrru cerdyn-llun gyda dilysrwydd gweinyddol o ddeng mlynedd. Mae’n ofynnol i yrwyr ddiweddaru eu llun pan ydynt yn adnewyddu eu trwydded bob 10 mlynedd.
Trwyddedu meddygol gyrwyr a’r gyfraith
1.5 Gallai rhai cyflyrau meddygol a chyfnodau o salwch fod yn wanychol i yrwyr. Mae’r gyfraith ar hyn o bryd yn dweud y bydd cael rhai cyflyrau meddygol penodol yn arwain at unigolyn yn cael trwydded yrru am gyfnod cyfyngedig fel y gellir adolygu gyrwyr yn rheolaidd.
1.6 Mae’n ofyniad cyfreithiol i ddeiliaid ac ymgeiswyr am drwydded yrru hysbysu’r DVLA ar unrhyw adeg am unrhyw gyflwr meddygol a allai effeithio ar eu gallu i yrru’n ddiogel. Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yn dweud wrth feddygon y dylent hysbysu eu cleifion lle mae cyflwr neu ddiagnosis sy’n effeithio ar eu gallu i yrru, a phryd y dylai’r gyrrwr, yn unol â’r gofyniad deddfwriaethol, hysbysu’r DVLA. Gall meddygon hysbysu DVLA yn uniongyrchol heb dorri cyfrinachedd os yw eu claf yn methu â gwneud hynny er gwaethaf eu cyngor. Darperir canllawiau tebyg gan y Cyngor Optegol Cyffredinol. Mae DVLA yn darparu arweiniad i feddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ynghylch y gofynion iechyd ar gyfer gyrru ar GOV.UK, Asesu addasrwydd i yrru: canllaw i weithwyr meddygol proffesiynol (AFTD).
1.7 Yn ogystal, mae DVLA wedi cyhoeddi ar GOV.UK A-Z o gyflyrau iechyd y gall ymgeiswyr a gyrwyr eu gwirio i ddeall a oes angen iddynt ddweud wrth DVLA am eu cyflwr. Mae 189 o gyflyrau meddygol wedi’u cynnwys yn yr A-Z. Nid yw hon yn rhestr gyflawn, ond dylid nodi nad oes angen hysbysu pob cyflwr meddygol ac mae’r gyfraith yn eithrio’n benodol hysbysiad o gyflwr meddygol a fydd yn parhau llai na 3 mis, er enghraifft anaf syml i’r goes a gaiff ei ddatrys o fewn y cyfnod hwnnw.
1.8 Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth (yn ymarferol DVLA yn gweithredu ar ei ran) sy’n gyfrifol am sefydlu a yw’r safonau meddygol ar gyfer gyrru yn cael eu bodloni ai peidio. Rhaid i’r DVLA fod yn fodlon, yn dilyn ymholiad, y gall gyrrwr fodloni’r safonau iechyd priodol cyn rhoi trwydded. Gall ymholiad DVLA amrywio o ystyried gwybodaeth a roddir gan y gyrrwr neu’r ymgeisydd i ymchwiliad manylach a all gynnwys gwybodaeth a roddir gan weithwyr meddygol proffesiynol, adroddiadau, neu archwiliadau.
1.9 Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i yrrwr neu ymgeisydd gydweithredu ag ymchwiliad meddygol gan y DVLA, gan ddarparu gwybodaeth, awdurdodiad i’w weithwyr gofal iechyd proffesiynol ryddhau gwybodaeth feddygol i’r DVLA a thrwy fynychu unrhyw asesiadau meddygol neu yrru a all fod eu hangen fel rhan o’r ymchwiliad. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar y DVLA i dalu ffioedd am adroddiadau neu archwiliadau sydd eu hangen fel rhan o’r ymchwiliad hwn[footnote 1].
1.10 Mae’r broses trwyddedu meddygol yn seiliedig ar y ddeddfwriaeth allweddol ganlynol:
Mae Adrannau 92 i 96 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 yn cynnwys y ddeddfwriaeth gyffredinol sy’n cwmpasu’r gofynion statudol ynghylch addasrwydd i yrru a rhwymedigaethau’r DVLA i wneud ymholiadau meddygol. Crynhoir pob adran isod:
Adran 92
-
Yn diffinio’r cyflyrau meddygol hynny sy’n anableddau ‘perthnasol’ a ‘phosibl’ at ddibenion trwyddedu gyrwyr.
-
Yn cynnwys y gofyniad i ddatgan ar gais a oes gan ddeiliad trwydded neu ymgeisydd anabledd perthnasol neu anabledd posibl.
-
Yn gosod y cyfrifoldeb ar yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i wrthod rhoi trwydded yrru lle mae’n ymddangos o ddatganiad bod deiliad y drwydded neu ymgeisydd yn dioddef o anabledd perthnasol.
Adran 93
Rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol:
-
Ddirymu trwydded yrru gyfredol os yw’n fodlon ar ôl gwneud ymholiadau bod deiliad y drwydded yn dioddef o anabledd perthnasol.
-
Dirymu trwydded bresennol a rhoi trwydded newydd am gyfnod cyfyngedig (rhwng un a 10 mlynedd) i ganiatáu adolygiad rheolaidd.
Adran 94
-
Yn darparu’r gofyniad i ddeiliad trwydded hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol ar unrhyw adeg o anabledd perthnasol neu anabledd posibl nas datgelwyd yn flaenorol a hysbysu’n ysgrifenedig o’r natur a’r graddau.
-
Yn rhoi’r pwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol gynnal ymholiadau meddygol.
-
Yn caniatáu i’r DVLA ofyn i ddeiliad y drwydded neu’r ymgeisydd ddarparu awdurdodiad i gael gwybodaeth gan eu meddyg, neu i’r gyrrwr gael archwiliad meddygol neu asesiad gyrru.
-
Yn rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol wrthod cais am drwydded bresennol neu ei dirymu os bydd yr ymgeisydd neu ddeiliad y drwydded yn methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu awdurdodiad neu fynychu archwiliad meddygol neu asesiad gyrru.
-
Yn mynnu bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn talu am unrhyw adroddiadau neu archwiliadau meddygol a gomisiynir gan feddyg.
-
Mae adran 94A yn darparu y bydd gyrrwr yn euog o drosedd os yw’n gyrru ar ôl i’w gais am drwydded yrru gael ei wrthod neu ar ôl i’w drwydded bresennol gael ei dirymu.
Adran 95
- Yn darparu i yswiriwr hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol o gyflwr iechyd gyrrwr os yw’n gwrthod rhoi polisi yswiriant iddo ar sail iechyd.
Adran 96
- Yn darparu y bydd gyrrwr yn euog o drosedd os yw’n gyrru gyda golwg diffygiol heb ei gywiro.
Rheoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) 1999 Rheoliadau 70 i 75
-
Yn egluro’r amodau rhagnodedig ar gyfer gyrwyr ceir a beiciau modur (Grŵp 1) a bysiau a lorïau (Grŵp 2).
-
Yn gosod y safonau golwg gofynnol ar gyfer pob gyrrwr.
-
Yn darparu’r gofynion y mae angen eu bodloni ar gyfer diabetes ac epilepsi.
-
Yn nodi manylion y cynllun Troseddwyr Risg Uchel ar gyfer y gyrwyr hynny sydd wedi’u gwahardd am rai troseddau yfed a gyrru.
-
Yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol fynnu bod yr ymgeisydd neu ddeiliad y drwydded yn cael ei archwilio gan swyddog enwebedig. Mae’r archwiliadau hyn yn cynnwys asesiadau gyrru lle mae anabledd aelod, neu graffter golwg a/neu brofion maes gydag optometrydd, neu brawf plât rhif gyda’r DVSA lle mae cyflwr meddygol yn effeithio ar olwg.
Cwestiynau’r alwad am dystiolaeth
1a Beth yw eich barn am y rhwymedigaethau cyfreithiol a osodir ar:
i. yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a’r DVLA
ii. gyrwyr ac ymgeiswyr
iii. gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
1b Ydych chi’n credu y dylid newid unrhyw ran benodol o’r gyfraith ac a allwch chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi’ch barn?
Safonau meddygol addasrwydd i yrru
1.11 Mae’r safonau meddygol sy’n ymwneud â golwg, clyw, gweithrediad llai neu symudedd, clefydau cardiofasgwlaidd, diabetes mellitus, clefydau niwrolegol, anhwylderau meddwl, alcohol, cyffuriau a chynhyrchion meddyginiaethol, anhwylderau arennol a chyflyrau amrywiol a allai o bosibl achosi analluogrwydd gweithredol sy’n effeithio ar ddiogelwch ffyrdd, yn cael eu darparu amdanynt mewn deddfwriaeth neu ymdrinnir ag ef yn weinyddol trwy eu cynnwys yn y canllawiau AFTD.
1.12 Prif ddiben canllawiau AFTD yw cynghori gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar safonau meddygol addasrwydd i yrru. Mae’n rhoi’r sylfaen y mae aelodau’r proffesiwn meddygol yn ei defnyddio i gynghori unigolion os gallai unrhyw gyflwr meddygol a allai fod ganddynt effeithio ar eu gallu i yrru cerbyd yn ddiogel, neu a oes angen i’r gyrrwr hysbysu’r DVLA.
1.13 Mae’r safonau meddygol yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gan baneli Cynghori Meddygol Anrhydeddus yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, sy’n ystyried y cynnydd gwyddonol a thechnegol o ran diagnosis a thriniaeth cyflyrau meddygol mewn perthynas â gyrru. Mae 6 phanel meddygol sy’n cynnwys arbenigwyr meddygol, ac maent yn gweithio’n agos gyda’r DVLA i helpu i lunio deddfwriaeth, polisi a chanllawiau i yrwyr. Mae’r 6 phanel yn rhoi cyngor yn y meysydd dilynol:
-
Anhwylderau Seiciatrig
-
Diabetes Mellitus
-
Anhwylderau Gweledol
-
Anhwylderau’r System Nerfol
-
Anhwylderau’r System Gardiofasgwlaidd
-
Camddefnyddio Alcohol, Cyffuriau a Sylweddau
Grwpiau trwydded
1.14 Dosberthir trwyddedau gyrru yn 2 grŵp. Mae ceir, faniau ysgafn a beiciau modur yn cael eu categoreiddio fel Grŵp 1 a bysiau a lorïau yw Grŵp 2. Rhaid i bob ymgeisydd am drwydded yrru ddatgan ar eu cais a oes ganddynt unrhyw rai o’r cyflyrau meddygol a restrir ac y gallant hefyd fodloni’r safonau golwg gofynnol ar gyfer gyrru.
1.15 Mae safonau meddygol llymach ar gyfer gyrwyr lorïau a bysiau. Rhaid i’r grŵp hwn o yrwyr fodloni’r safonau gofynnol ar gyfer trwyddedu grŵp 1 ynghyd â safonau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer gyrru cerbydau mwy. Mae safonau llymach ar waith ar gyfer gyrwyr cerbydau Grŵp 2 oherwydd bod y cerbydau hyn yn gyffredinol yn fwy, yn aml yn cludo teithwyr ac oherwydd bod y gyrwyr yn debygol o dreulio mwy o amser ar y ffyrdd yn ystod eu swydd.
1.16 Rhaid i yrwyr Grŵp 2 ddarparu a thalu am adroddiad archwiliad meddygol D4 y mae’n rhaid ei gyflwyno gyda’u ffurflen gais pan ydynt yn gwneud cais am drwydded am y tro cyntaf. Ers 19 Ionawr 2013, mae’n ofynnol i ymgeiswyr newydd am drwydded grŵp 2 adnewyddu eu trwydded bws neu lori bob 5 mlynedd. Rhaid i yrwyr o dan 45 oed ddarparu hunan-ddatganiad am eu hiechyd pan ydynt yn adnewyddu. Mae angen adroddiad archwiliad meddygol D4 hefyd pan fydd gyrrwr Grŵp 2 yn cyrraedd 45 oed ac yna bob 5 mlynedd wedi hynny nes bod y gyrrwr yn cyrraedd 65 oed, ac ar yr adeg honno rhaid adnewyddu trwydded yrru Grŵp 2 yn flynyddol. Lle canfyddir cyflwr meddygol fel rhan o’r broses adnewyddu, mae’r DVLA yn gyfrifol am ymchwilio, cael a thalu am unrhyw wybodaeth feddygol bellach sydd ei hangen i sefydlu a ellir bodloni’r safonau iechyd perthnasol.
Y broses trwyddedu meddygol ar gyfer gyrwyr
1.17 Ar hyn o bryd mae 50 miliwn o ddeiliaid trwydded yrru ym Mhrydain Fawr ac mae mwy na 2 filiwn o yrwyr wedi datgan cyflyrau meddygol. Yn 2022-2023, gwnaeth y DVLA 873,579 o benderfyniadau trwyddedu meddygol. Mae gan y DVLA adran Feddygol Gyrwyr bwrpasol o fwy na 900 o staff sy’n prosesu ceisiadau meddygol ac yn asesu addasrwydd i yrru. Mae’r tîm hwn yn cynnwys 42 o feddygon a 7 nyrs.
1.18 Ar hyn o bryd, mae’r gyfraith yn gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar yrrwr i hysbysu’r DVLA os bydd cyflwr meddygol newydd yn datblygu neu os bydd cyflwr meddygol presennol yn gwaethygu. Gall gyrrwr hysbysu’r DVLA am newid yn ei iechyd mewn sawl ffordd, gan gynnwys ar-lein, e-bost, drwy’r post a thros y ffôn. Mae canllawiau AFTD yn cefnogi meddygon fel y gallant gynghori eu cleifion a ddylent hysbysu DVLA am gyflwr meddygol. Mae’r DVLA, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, yn gyfrifol am ymchwilio i bob hysbysiad i benderfynu a fydd cyflwr meddygol gyrrwr yn effeithio ar ei allu i yrru’n ddiogel.
1.19 Mae’r siart isod yn dangos y ganran a’r mathau o gyflyrau meddygol y mae’r DVLA yn ymchwilio iddynt ar hyn o bryd ar 25 Ionawr 2023.
1.20 Pan gaiff ei hysbysu am gyflwr meddygol, rhaid i’r DVLA asesu a all yr unigolyn fodloni’r safonau meddygol gofynnol ar gyfer gyrru. Os canfyddir bod y gyrrwr yn dioddef o gyflwr meddygol a allai amharu ar yrru, gall hyn arwain at ddiddymu ei drwydded, rhoi trwydded cyfnod byrrach neu drwydded hirdymor (yn ddilys nes bod y gyrrwr yn cyrraedd 70 oed) yn cael ei cyhoeddi.
1.21 Mae’r broses bresennol yn ymwneud â gofyn i yrwyr sy’n gwneud cais am drwydded newydd a’r rhai sydd â thrwydded gyfredol i lenwi a dychwelyd holiaduron meddygol sy’n benodol i’w cyflwr/cyflyrau meddygol. Gofynnir hefyd i’r gyrrwr roi awdurdodiad i’w weithiwr gofal iechyd proffesiynol ryddhau gwybodaeth a gedwir ar ei gofnodion meddygol i’r DVLA os oes angen archwiliadau pellach.
1.22 Mewn llawer o achosion gellir gwneud penderfyniad trwyddedu ar sail y wybodaeth gychwynnol a roddir gan ddeiliad y drwydded neu ymgeisydd. Mewn achosion mwy cymhleth, efallai y bydd angen i’r DVLA gael rhagor o wybodaeth gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n ymwneud â gofal a thriniaeth yr unigolyn. Bydd y DVLA yn ysgrifennu’n uniongyrchol at y meddyg ac yn gofyn am ragor o wybodaeth feddygol ar ffurf holiadur, sydd wedi’i gynllunio i’w gwblhau o gofnodion meddygol. Yn yr achosion hyn, mae’r gyfraith hefyd yn caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig eraill roi gwybodaeth i’r DVLA lle bo’n briodol gwneud hynny. Mater i’r practis unigol neu’r tîm ysbyty yw penderfynu pa weithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi’i gofrestru’n briodol i lenwi’r holiadur. Gall y DVLA hefyd gomisiynu archwiliad meddygol, er enghraifft, prawf golwg, neu ofyn am asesiad gyrru. Os oes gan yrrwr fwy nag 1 cyflwr meddygol efallai y bydd angen ymchwilio i bob cyflwr meddygol yn y modd hwn.
1.23 Mae’r rhan fwyaf o geisiadau am drwyddedau gyrru lle mae cyflwr meddygol yn cael ei hysbysu, yn cael eu prosesu gan staff DVLA sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig ac sy’n cyfeirio at gyfarwyddiadau gweithredu sy’n cyfateb i’r holiaduron. Mae’r cyfarwyddiadau gweithredu hyn yn seiliedig ar safonau meddygol addasrwydd i yrru. Mae gan y DVLA hefyd dîm mewnol o feddygon a nyrsys sydd wedi’u hyfforddi i asesu’r achosion mwy cymhleth yn seiliedig ar farn glinigol.
1.24 Mae’r DVLA yn mabwysiadu ymagwedd strwythuredig wrth asesu addasrwydd person i yrru ac eir i’r afael â cheisiadau neu hysbysiadau meddygol ar wahanol lefelau, yn unol â faint o wybodaeth sydd ei hangen i wneud penderfyniad trwyddedu.
1.25 Gellir datrys yr achosion mwyaf syml ar ôl ystyried yr wybodaeth a ddarperir gan y gyrrwr neu’r ymgeisydd. Mae’r achosion anoddaf i’w datrys yn cynnwys y rhai lle mae gan yrwyr naill ai gyflyrau meddygol cymhleth neu luosog. Efallai y bydd angen i’r rhain gael eu hystyried gan weithwyr achos mwy profiadol neu nyrsys a meddygon y DVLA. Bydd yr achosion mwy cymhleth fel arfer yn gofyn am ragor o wybodaeth gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, er enghraifft meddyg neu feddyg ymgynghorol.
1.26 Mae’r DVLA yn talu am yr holl brofion, archwiliadau, adroddiadau meddygol, a holiaduron meddygol a gomisiynir gan feddygon neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Mae DVLA hefyd yn talu am asesiadau gyrru. Yr eithriadau i hyn yw’r archwiliadau sydd eu hangen ar rywun sy’n dod o dan y cynllun Troseddwyr Risg Uchel (rhywun sy’n gwneud cais am drwydded ar ôl cyflawni troseddau yfed a gyrru penodol) lle mae taliad gan y DVLA wedi’i eithrio gan y gyfraith ac ar gyfer yr asesiadau meddygol safonol D4 sydd eu hangen ar holl yrwyr bysiau a lorïau, waeth beth fo’u hiechyd. Mae gan DVLA hefyd rwydwaith o feddygon rhyddfraint, aseswyr diabetes annibynnol ac optometryddion sy’n cynnal rhai archwiliadau meddygol ar ei rhan.
Newidiadau i ddeddfwriaeth
1.27 Ym Mhrydain Fawr, mae’r rheoliadau a’r safonau meddygol sy’n ymwneud ag addasrwydd i yrru yn cael eu rheoli gan y DVLA a’u cefnogi gan baneli cynghori meddygol arbenigol. Mae DVLA yn adolygu ei pholisïau a deddfwriaeth trwyddedu ar gyfer gyrwyr yn rheolaidd yn unol â chyngor y paneli i sicrhau ei bod yn cadw i fyny â datblygiadau meddygol. Er bod y DVLA wedi gwneud newidiadau i’r gyfraith i adlewyrchu newidiadau mewn arferion clinigol, nid yw egwyddorion sylfaenol y fframwaith cyfreithiol sy’n sail i’r broses trwyddedu meddygol wedi newid ac mae’n rhaid eu cymhwyso o hyd.
1.28 Yn 2018, newidiodd y DVLA y gyfraith i ganiatáu i yrwyr ceir a beiciau modur (Grŵp 1) ddefnyddio systemau monitro glwcos yn barhaus i fonitro eu lefelau glwcos ar adegau sy’n berthnasol i yrru. Yn flaenorol, roedd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i yrwyr fonitro glwcos yn y gwaed gan ddefnyddio’r prawf ‘pig bys’ traddodiadol a oedd yn cynnwys echdynnu gwaed bob 2 awr. Mae’r newid deddfwriaethol hwn wedi gwella’r gofynion trwyddedu gyrwyr ar gyfer gyrwyr Grŵp 1 â diabetes yn fawr trwy ganiatáu iddynt ddefnyddio dulliau amgen i fonitro eu lefelau glwcos yn effeithiol.
1.29 Er mwyn lleihau’r baich gweinyddol ar feddygon y GIG a gwella amseroedd gweithredu ar gyfer cwsmeriaid, newidiodd y DVLA y gyfraith ym mis Gorffennaf 2022 i ehangu’r gronfa o weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, er enghraifft i gynnwys nyrsys arbenigol, a all ddarparu gwybodaeth i’r DVLA. Yn flaenorol gellid gwneud hyn gan feddyg yn unig. Mae’r newid hwn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i feddygfeydd a thimau ysbyty unigol yn y ffordd y maent yn rheoli ceisiadau DVLA am wybodaeth feddygol. Bydd y newid hwn yn helpu i leihau’r amser y mae’n ei gymryd i’r DVLA dderbyn gwybodaeth feddygol.
2. Beth mae gwledydd eraill yn ei wneud
2.1 Ledled y byd, mae angen i lywodraethau ac awdurdodau trwyddedu gyrwyr ystyried y ffordd orau o gydbwyso anghenion gyrwyr yn erbyn diogelwch holl ddefnyddwyr y ffyrdd. Mae hon yn her i bob awdurdod trwyddedu, ac mae amrywiaeth o ffyrdd y mae gwahanol wledydd yn asesu addasrwydd i yrru[footnote 2]. Mae rhai yn gofyn i’r gyrrwr gael archwiliad meddygol neu ddarparu tystysgrif iechyd ymlaen llaw pan yw’n gwneud cais am drwydded yrru. Mae rhai gwledydd angen hyn o bryd i’w gilydd yn ystod cylch bywyd trwydded yrru, er enghraifft, bob 10 mlynedd.
2.2 Mae rhai gwledydd yn defnyddio profion meddygol i nodi’r rhai nad ydynt yn addas i yrru, mae gan awdurdodau trwyddedu eraill rwydwaith penodol o feddygon cofrestredig sy’n llwyr gyfrifol am gynnal asesiadau meddygol at ddibenion trwyddedu gyrwyr. Mae eraill yn dibynnu’n bennaf ar feddyg yr ymgeisydd ei hun i ddarparu asesiad o addasrwydd unigolyn i yrru. Nid oes rhaid i’r archwiliadau neu dystysgrifau meddygon hyn bob amser gael eu darparu gan feddyg y gyrrwr ei hun ac mewn llawer o achosion maent ar draul y gyrrwr ei hun. Mae rhai gwledydd yn capio’r ffi y gellir ei chodi am y dystiolaeth feddygol sydd ei hangen ar gyfer cais am drwydded yrru tra gall eraill ganiatáu i’r ymgeisydd hawlio’r ffioedd yn ôl o dan amgylchiadau cyfyngedig.
2.3 Mae rhai gwledydd yn gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar feddygon i hysbysu’r awdurdod trwyddedu gyrwyr os mae gan rywun gyflwr meddygol a allai ei wneud yn anaddas i yrru. Nid oes rhwymedigaeth o’r fath yn bodoli ym Mhrydain Fawr, ond mae’r GMC yn annog meddygon i hysbysu’r DVLA os ydynt yn credu na fydd yn gwneud hynny ac y bydd y claf yn rhoi eu hunan ac eraill mewn perygl.
2.4 Mae’r paragraffau canlynol yn nodi’r arfer ym Mhrydain Fawr a gwledydd dethol eraill o asesu addasrwydd i yrru’r rhai sydd â hawl arferol (ceir a beiciau modur).
Prydain Fawr
2.5 Mae fframwaith deddfwriaethol trwyddedu gyrwyr meddygol ym Mhrydain Fawr yn seiliedig ar hunan ddatganiad cychwynnol. Mae’n ofynnol i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais am drwydded yrru a datgan a oes ganddynt gyflwr meddygol a allai effeithio ar eu gallu i yrru’n ddiogel. Nid oes angen i weithiwr gofal iechyd proffesiynol lofnodi’r ffurflen gais hon.
2.6 Os oes gan yr ymgeisydd gyflwr meddygol hysbysadwy, bydd y DVLA yn cychwyn archwiliadau meddygol ac yn anfon holiadur cyflwr meddygol penodol ato i’w gwblhau. Os oes angen rhagor o wybodaeth, gall y DVLA gysylltu â meddyg neu feddyg ymgynghorol yr ymgeisydd ei hun, trefnu i’r ymgeisydd gael ei archwilio gan feddyg, meddyg ymgynghorol neu arbenigwr neu ofyn i’r ymgeisydd gael asesiad gyrru, prawf golwg neu brawf gyrru. Mae’r DVLA yn talu’r holl gostau sy’n gysylltiedig ag archwiliadau meddygol, gan gynnwys ffioedd ar gyfer darparu gwybodaeth gan feddygon teulu, meddygon ymgynghorol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gan mai gwasanaeth preifat a ddarperir gan feddygfeydd ac ysbytai yw hwn ac nid yw’n rhan o gontract y GIG.
2.7 Unwaith y bydd y DVLA yn fodlon bod yr holl wybodaeth feddygol berthnasol wedi’i chasglu, bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â safonau meddygol addasrwydd i yrru ynghylch a ellir rhoi trwydded.
Yr Almaen
2.8 Nid yw’r Almaen yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd am drwydded yrru car neu feic modur wneud datganiad iechyd, fodd bynnag, rhaid iddynt gael prawf golwg wrth wneud cais am drwydded yrru gyntaf. Cynhelir y prawf golwg gan ganolfan golwg â chymhwysedd addas, a fydd yn rhoi tystysgrif i’r ymgeisydd sy’n nodi a oes ganddo olwg addas neu a oes angen lensys cywiro arnynt. Os bydd yr ymgeisydd yn methu’r prawf golwg, mae angen iddo gael adroddiad pellach gan offthalmolegydd a rhaid iddo gyflwyno hwn i’r awdurdodau trwydded yrru. Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd dalu am bob tystysgrif neu adroddiad. Os yw’r adroddiad yn ffafriol, bydd yr awdurdod trwyddedu yn rhoi trwydded yrru â dilysrwydd 15 mlynedd.
2.9 Nid yw’r Almaen yn sgrinio’r boblogaeth yrru fel mater o drefn ar ôl iddynt gael eu trwydded yrru, gan gynnwys pan fyddant yn hŷn. Yn lle hynny, dibynnir ar yrwyr, neu mae’n ofynnol i weithwyr meddygol proffesiynol roi gwybod i’r awdurdodau trwyddedu am gyflyrau iechyd a allai effeithio ar addasrwydd i yrru. Bydd adroddiadau o’r fath yn sbarduno asesiad addasrwydd meddygol i yrru cychwynnol.
2.10 Bydd disgwyl i yrrwr fynychu archwiliad meddygol gyda meddyg traffig annibynnol mewn canolfan arbenigol, i benderfynu a yw’r ymgeisydd yn addas i yrru, neu a oes angen asesiad gyrru. Bydd y meddyg traffig yn cyflwyno adroddiad i’r awdurdod trwyddedu gyda’i benderfyniad. Os oes gan yr ymgeisydd gyflwr meddygol, bydd yn cael trwydded yrru amodol a rhaid iddo gael prawf sgrinio addasrwydd meddygol i yrru yn rheolaidd bob tro y bydd angen adnewyddu ei drwydded yrru. Mae’n ofynnol i ymgeiswyr am drwydded yrru dalu’r archwiliwr meddygol neu’r meddyg traffig yn uniongyrchol am archwiliadau meddygol a phrofion golwg.
Y Ffindir
2.11 Yn y Ffindir, caiff addasrwydd meddygol ymgeiswyr i yrru ei wirio pan ydynt yn gwneud cais am drwydded yrru gyntaf a phob tro y byddant yn adnewyddu eu trwydded yrru. Mae’n ofynnol iddynt gael archwiliad a phrawf llygaid gyda’u meddyg eu hunain a, lle bo angen, archwiliad pellach gan ymgynghorydd arbenigol. Pan yw gyrrwr yn bodloni’r safonau iechyd priodol, cyhoeddir tystysgrif iddo y bydd yn ei darparu gyda’i gais am drwydded yrru i’r awdurdod trwyddedu. Ni ellir gwneud cais am drwydded yrru i’r awdurdod trwyddedu heb dystysgrif feddygol. Mae’r holl ffioedd sy’n gysylltiedig â dangos addasrwydd i yrru yn cael eu talu gan yr ymgeisydd ac yn cael eu capio cyn belled â’u bod yn cael eu gwneud o dan ei system iechyd cyhoeddus. Nid yw ffioedd archwiliadau preifat yn sefydlog.
2.12 Ar ôl cael trwydded, rhaid i yrwyr gael prawf golwg yn 45 oed. Mae angen archwiliad meddygol pan yw’r drwydded yn cael ei hadnewyddu yn 70 oed a phob 5 mlynedd ar ôl hynny. Gellir adnewyddu’r drwydded hefyd am gyfnod llai na 5 mlynedd lle bo angen. Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i yrwyr na’u meddygon hysbysu’r awdurdod trwyddedu am gyflwr iechyd. Ar unrhyw adeg yn ystod dilysrwydd trwydded yrru, gall yr heddlu orchymyn gyrrwr i gyflwyno tystysgrif feddygol newydd wedi’i chwblhau gan feddyg neu arbenigwr, i ailsefyll y prawf gyrru ymarferol neu i gymryd ailasesiad sgiliau gyrru os oes rheswm i gredu nad yw deiliad y drwydded bellach yn bodloni’r gofynion iechyd ar gyfer gyrru.
Denmarc
2.13 Mae angen i bawb sy’n gwneud cais am eu trwydded yrru gyntaf ddarparu tystysgrif feddygol yn seiliedig ar hunan-ddatganiad, archwiliad meddygol, a phrawf llygaid. Os nad yw’r meddyg archwilio wedi penderfynu neu os oes ganddo bryderon, yr awdurdod trwyddedu fydd yn ystyried addasrwydd meddygol. Efallai y bydd angen gwybodaeth ychwanegol ar yr awdurdod trwyddedu a gall ofyn am dystysgrifau neu wybodaeth arall gan arbenigwyr, archwiliadau pellach, a phrawf gyrru. Mae’r costau a dynnir wrth gael y dystysgrif feddygol ac unrhyw adroddiadau eraill yn cael eu talu gan yr ymgeisydd, nid ydynt yn sefydlog a gallant amrywio yn dibynnu ar ba archwiliadau sydd eu hangen.
2.14 Nid oes unrhyw asesiadau dilynol rheolaidd o iechyd ar gyfer y rhai sy’n bodloni’r gofynion i gael trwydded yrru a rhoddir trwydded yrru sy’n ddilys am 15 mlynedd i yrwyr. Y gyrrwr sy’n gyfrifol am hysbysu’r awdurdod trwyddedu os bydd yn datblygu cyflwr meddygol sy’n effeithio ar addasrwydd i yrru yn ystod cyfnod y drwydded. Mae angen tystysgrif feddygol ar bob gyrrwr 70, 75 oed ac yna bob 2 flynedd. Fodd bynnag, gellir rhoi trwydded yrru am gyfnod byrrach os yw iechyd yr ymgeisydd yn gofyn am hyn. Dim ond y gyrwyr hynny â chyflyrau meddygol penodol sy’n gorfod cael asesiad meddygol rheolaidd bob tro y mae angen adnewyddu eu trwydded yrru. Rhoddir trwydded yrru amodol gyda dilysrwydd cyfyngedig o rhwng 1 a 15 mlynedd gan yr awdurdod trwyddedu gyrwyr, i asesu a yw’r cyflwr meddygol yn gwaethygu dros amser. Yr ymgeisydd sy’n talu am y dystysgrif feddygol, ac unrhyw dystiolaeth bellach sydd ei hangen.
Sbaen
2.15 Mae pob gyrrwr yn Sbaen yn cael sgrinio meddygol rheolaidd bob 10 mlynedd ac yna bob 5 mlynedd o 65 oed mewn canolfannau profi gyrwyr arbenigol. Wrth wneud cais am y tro cyntaf neu wrth adnewyddu eu trwydded, mae angen archwiliad seicoffisegol yn un o’r nifer o Ganolfannau Cydnabod Gyrwyr. Bydd angen i ymgeiswyr gael nifer o brofion, a gynhelir gan feddyg, offthalmolegydd, a seicolegydd. Mae’r prawf yn cymryd tua 20 munud, ac mae 2 gam i’r asesiad. Mae lefel sylfaenol ar gyfer pob gyrrwr ac ymgeisydd ac yna protocol penodol dim ond pan yw cyflwr meddygol yn bodoli a allai effeithio ar yrru yn cael ei nodi neu ei adrodd. Ym mhob prawf, y canlyniad fydd pasio neu fethu. Gall gyrrwr ailsefyll y profion mewn canolfan yrru wahanol ac os bydd yn llwyddo byddai angen i drydedd ganolfan wirio’r canlyniad. Mae’r ymgeisydd yn talu’r ffi am yr archwiliad. Rhoddir trwydded yrru 10 mlynedd i ymgeiswyr sy’n pasio’r sgrinio meddygol.
2.16 Mae’r map isod yn dangos dosbarthiad gwledydd ar draws Ewrop a’r 4 dull cyffredinol o drwyddedu gyrwyr ac asesu addasrwydd meddygol i yrru.
a) Nid oes angen i rywun yn y gwledydd a ddangosir mewn gwyrdd (Ffrainc, yr Almaen, Awstria, Gwlad Belg, Bwlgaria, Ffrainc a Gwlad Pwyl) wneud datganiad iechyd pan ydynt yn gwneud cais am drwydded yrru gyntaf. Yn hytrach, mae’n ofynnol iddynt gael prawf golwg gorfodol, a darparu tystysgrif neu adroddiad ymlaen llaw i’r awdurdod trwyddedu gyda’u cais am drwydded yrru. Mae ymgeiswyr fel arfer yn cael trwydded yrru â dilysrwydd 15 mlynedd, oni bai eu bod yn dod i sylw’r awdurdod trwyddedu, naill ai trwy hunan-adrodd cyflwr meddygol, methu prawf, yn cael eu hadrodd i’r awdurdod trwyddedu gan eu meddyg, neu’n dod i sylw’r heddlu drwy droseddau traffig ffyrdd. Mae’n ofynnol i ymgeiswyr a gyrwyr dalu am bob tystysgrif ac adroddiad sy’n cefnogi eu cais am drwydded yrru.
b) Mae’r gwledydd a ddangosir mewn melyn (Y Deyrnas Unedig, Sweden) angen i berson wneud datganiad iechyd pan ydynt yn gwneud cais am y tro cyntaf a’r tro nesaf y maent yn adnewyddu eu trwydded yrru. Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd a gyrrwr hunan-adrodd cyflwr meddygol neu olwg a allai effeithio ar eu gallu i yrru’n ddiogel. Dim ond ar ôl i’r awdurdod trwyddedu gael gwybod am gyflwr iechyd y mae’n cynnal, ac yn talu am, ymchwiliadau meddygol i addasrwydd person i yrru.
c) Mae’r gwledydd a ddangosir mewn coch (yr Eidal, Portiwgal, y Weriniaeth Tsiec, Lwcsembwrg, Gwlad Groeg, Slofacia, Cyprus, Denmarc, y Ffindir, Malta, Slofenia, Yr Iseldiroedd) angen i bob gyrrwr gael asesiad meddygol gyda meddyg pan ydynt yn gwneud cais am y tro cyntaf a phan ydynt yn adnewyddu eu hawl gyrru nesaf. Mae’n ofynnol i ymgeiswyr dalu am yr asesiadau meddygol hyn a rhaid iddynt ddarparu tystysgrif neu adroddiad i’r awdurdod trwydded yrru, a fydd yn penderfynu a ellir rhoi trwydded yrru. Mae’r gwiriadau meddygol yn seiliedig ar oedran, er enghraifft, mae’r Eidal a Phortiwgal yn ei gwneud yn ofynnol i bob gyrrwr 50 oed gael gwiriad meddygol cyn gwneud cais i adnewyddu eu trwydded yrru, ni waeth a oes ganddynt gyflwr meddygol ai peidio.
d) Mae’r gwledydd a ddangosir mewn oren (Rwmania, Hwngari, Lithwania, Latfia, Estonia a Sbaen) angen i berson gael archwiliad meddygol pan yw’n gwneud cais am drwydded yrru am y tro cyntaf. Y meddyg archwilio sy’n penderfynu a yw unigolyn yn addas i yrru ac yn hysbysu’r awdurdod trwyddedu pan yw person yn pasio neu’n methu. Rhoddir trwyddedau gyrru i’r rhai sy’n pasio’r archwiliad meddygol yn unig, am gyfnod o 10 mlynedd. Mae’n ofynnol i bob gyrrwr gael archwiliadau meddygol pellach bob tro y mae’n adnewyddu ei drwydded yrru.
Cymhariaeth ryngwladol o ystadegau damweiniau ffordd
2.17 Mae’n hysbys bod rhai damweiniau ffordd yn ymwneud â gyrwyr sydd â chyflwr meddygol, ond ychydig iawn o ddata sydd ar gael ynghylch a oedd y cyflwr meddygol neu’r digwyddiad yn achos neu’n ffactor a gyfrannodd at y ddamwain neu a oedd wedi chwarae unrhyw ran o gwbl. Er enghraifft, mae amgylchiadau lle mae gyrwyr mewn damweiniau angheuol wedi cael digwyddiad meddygol, er enghraifft, trawiad ar y galon, ond mae’n amhosibl gwybod ai dyna oedd achos y gwrthdrawiad neu a ddigwyddodd yn syth wedyn oherwydd y gwrthdrawiad.
2.18 Gall gwrthdrawiadau ar y ffyrdd ddigwydd am amrywiaeth eang o resymau, gan gynnwys ymddygiad defnyddwyr y ffyrdd a’r ffyrdd a’r cerbydau dan sylw. Fodd bynnag, mae ‘Adroddiad Blynyddol Anafusion Ffyrdd ar gyfer Prydain Fawr 2021’ yn rhoi cymariaethau defnyddiol o farwolaethau ar y ffyrdd fesul miliwn o’r boblogaeth rhwng gwledydd yn Ewrop. Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod ffigurau marwolaethau ar y ffyrdd ar gyfer Prydain Fawr wedi bod ymhlith yr isaf yn y byd ers blynyddoedd lawer. Yn 2021, roedd gan Brydain Fawr y bumed gyfradd isaf o farwolaethau ar y ffyrdd fesul miliwn o bobl ymhlith gwledydd Ewropeaidd gyda phoblogaeth o dros filiwn, y tu ôl i Norwy, Sweden, Denmarc a’r Swistir. Mae’n bwysig nodi, fodd bynnag, nad oes unrhyw ddata ar effaith cyflyrau meddygol ar ddamweiniau ffyrdd, felly mae’n anodd iawn dod i gasgliadau pendant am effaith gwahanol gyfundrefnau trwyddedu gyrru meddygol ar ystadegau damweiniau.
Marwolaethau ffyrdd fesul miliwn o boblogaeth fesul gwlad 2021
Cwestiynau’r alwad am dystiolaeth
2a Os oes gennych brofiad o drwyddedu gyrwyr meddygol o wlad arall, dywedwch wrthym amdano.
2b Beth yw eich barn am agwedd Prydain Fawr at drwyddedu gyrwyr?
2c Ydych chi’n credu y dylai Prydain Fawr ystyried mabwysiadu dull gwahanol? Esboniwch eich rhesymau a darparwch unrhyw dystiolaeth i gefnogi’ch barn.
3. Sectorau eraill lle mae Addasrwydd Meddygol yn cael ei Asesu
3.1 Mae enghreifftiau eraill lle mae angen asesu ffitrwydd parhaus unigolyn ar gyfer ei rôl yn y Deyrnas Unedig.
Awdurdod Hedfan Sifil (CAA)
3.2 Mae 62,000 o beilotiaid trwyddedig yn y DU, 43,000 ohonynt yn beilotiaid preifat (hamdden). Cyn gwneud cais am drwydded, rhaid eu bod wedi cwblhau cwrs hyfforddi mewn sefydliad hyfforddi cymeradwy. Mae gofynion amrywiol yn dibynnu ar y math o drwydded y gwneir cais amdani.
3.3 Mae’r broses ymgeisio ar-lein ar hyn o bryd ac mae’n gofyn bod gan yr ymgeisydd ddogfennaeth benodol wedi’i hardystio gan bartïon awdurdodedig a’i chyflwyno gyda’r cais, gan gynnwys tystysgrif feddygol. Ar gyfer awyrennau ysgafn, gellir cael y dystysgrif gan feddyg teulu. Fodd bynnag, os caiff cyflwr meddygol ei nodi neu ei hysbysu, yna rhaid atgyfeirio’r ymgeisydd at archwiliwr aerofeddygol (AME). Mae angen adnewyddu profion meddygol bob 5 mlynedd ar gyfer cynlluniau peilot o dan 40 oed a phob 2 flynedd ar gyfer y rhai dros 40 oed.
3.4 Mae tystysgrifau meddygol ar gyfer peilotiaid masnachol yn llymach a rhaid i AME gynnal archwiliad. Mae Canolfannau Aerofeddygol yn gyfleusterau meddygol sydd wedi’u cymeradwyo’n arbennig ac sydd wedi’u hawdurdodi i roi tystysgrifau meddygol ar gyfer peilotiaid. Mae’r archwiliad a’r profion gofynnol yn cymryd tua hanner diwrnod ac yn cynnwys hanes meddygol, golwg, archwiliad corfforol, Electrocardiogram (ECG), prawf gweithrediad yr ysgyfaint, prawf gwaed haemoglobin, prawf wrin. Mae angen profion pellach os canfyddir cyflwr meddygol.
3.5 Mae taliadau penodol ar gyfer archwiliadau a phrofion sy’n daladwy gan yr ymgeisydd. Er enghraifft, mae cost apwyntiad newydd neu gychwynnol ar gyfer tystysgrif feddygol dosbarth 1 oddeutu £620, a chost adnewyddu yw £186 ynghyd â chost ECG a/neu awdiogram os oes angen. Mae tystysgrif feddygol Dosbarth 2 gychwynnol oddeutu £225 a chost adnewyddu yw £165 ynghyd â chost ECG os oes angen.
3.6 Os bodlonir yr holl ofynion yn yr archwiliad gellir rhoi’r ardystiad priodol ar yr un diwrnod. Os oes angen rhagor o wybodaeth, bydd yn cymryd mwy o amser i’r dystysgrif gael ei chyhoeddi.
3.7 Gellir rhoi rhai cyfyngiadau neu reolaethau ar dystysgrifau meddygol lle nad yw ymgeiswyr yn bodloni’r safonau gofynnol, a gall yr AME esbonio’r rhain yn fanylach.
Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (MCA)
3.8 Yn 2021, amcangyfrifwyd bod 21,970 o wladolion y DU yn weithredol ar y môr. Bydd angen tystysgrif feddygol neu dystysgrif feddygol ac adroddiad meddygol ar unrhyw berson sy’n gweithio mewn unrhyw swyddogaeth ar fwrdd llong ac y mae ei weithle arferol ar long, yn dibynnu ar ei rôl. Mae angen tystysgrif feddygol ar forwr i wneud yn siŵr ei fod yn addas ar gyfer y swydd y mae’n ei gwneud o ddydd i ddydd, ac yn ystod argyfyngau. Bydd archwiliad meddygol yn sefydlu a oes cyflwr iechyd a allai olygu bod angen triniaeth frys ar rywun, neu a allai roi bywydau cyd-griw neu deithwyr mewn perygl ar y môr. Mae ymarferwyr meddygol a gymeradwyir gan yr MCA, a elwir yn “Feddygon Cymeradwy”, yn cynnal yr archwiliad meddygol sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
3.9 Cyfrifoldeb y Meddyg Cymeradwy yw penderfynu bod iechyd morwr yn bodloni’r safonau meddygol a golwg statudol. Mae’r safonau’n darparu rhywfaint o hyblygrwydd i adlewyrchu risg gymharol ac yn galluogi Meddygon Cymeradwy i roi rhywfaint o ystyriaeth i amgylchiadau penodol, megis y pellter y bydd y morwr o ofal meddygol, a dyletswyddau a gofynion arferol aelodau’r criw.
3.10 Mae archwiliad meddygol ENG1 yn cymryd oddeutu 45 munud. Mae’r gost wedi’i gosod yn ôl y gyfraith ar £115 ac yn cael ei thalu gan gyflogwr. Os oes angen profion ychwanegol, gall y Meddyg Cymeradwy godi mwy.
3.11 Mae tystysgrifau’n ddilys am 2 flynedd i’r rhai dros 18 oed (blwyddyn o dan 18 oed) a gallant fod yn fyrrach yn seiliedig ar argymhelliad y meddyg sy’n archwilio. Gall y meddyg archwilio hefyd gofnodi cyfyngiadau neu amodau ar y dystysgrif, er enghraifft, o ran ardal ddaearyddol.
3.12 Os bydd morwr yn pasio’r archwiliad ENG1, bydd tystysgrif fel arfer yn cael ei rhoi ar ddiwrnod yr archwiliad. Os oes gan y Meddyg Cymeradwy unrhyw bryderon ynghylch addasrwydd meddygol a bod angen iddo gael gwybodaeth feddygol ychwanegol neu ofyn am gyngor gan brif gynghorydd meddygol yr MCA, bydd ‘tystysgrif anaddas dros dro’ yn cael ei rhoi i gwmpasu unrhyw oedi tebygol ym mhenderfyniad terfynol y meddyg.
3.13 Gall Meddyg Cymeradwy atal neu ganslo tystysgrif feddygol os yw’n credu bod yr amgylchiadau meddygol wedi newid ers rhoi’r dystysgrif, lle nad yw’r amodau sydd ynghlwm wrth ardystio yn cael eu bodloni, neu pan fo’r wybodaeth a ddarparwyd ar adeg yr ardystiad yn anghyflawn.
Cwestiynau’r alwad am dystiolaeth
3a Os oes gennych brofiad o orfod profi addasrwydd meddygol fel peilot, morwr neu mewn sefyllfa arall, dywedwch wrthym amdano.
4. Cyflyrau meddygol lluosog a phoblogaeth sy’n heneiddio
4.1 Dros y degawdau diwethaf fe fu newidiadau demograffig sylweddol gyda datblygiadau mewn meddygaeth a gwell ymwybyddiaeth o iechyd yn arwain at unigolion yn byw’n hirach ac yn gweithio’n hirach. Fel cymdeithas, rydym yn disgwyl gallu defnyddio ceir, beiciau modur, a cherbydau hamdden am gyfnod hwy ac yn ein blynyddoedd diweddarach a helpu i gynnal ffordd o fyw annibynnol, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig. Gall colli trwydded yrru fod yn ddigwyddiad sy’n newid bywyd a gall gael effeithiau sylweddol ar unigolyn, gan eu gwneud yn fwy dibynnol ar eraill, gan leihau eu rhyddid a’u hymdeimlad o les.
4.2 Mae’r broses heneiddio naturiol yn cynyddu’r risg y bydd unigolion yn datblygu rhai cyflyrau meddygol a allai effeithio ar eu haddasrwydd i yrru. Mae hyn yn berthnasol nid yn unig mewn blynyddoedd diweddarach ond yn y canol oed lle mae rhai cyflyrau meddygol sy’n berthnasol i yrru, er enghraifft cyflyrau’r galon a chyflyrau golwg, yn dod yn fwy cyffredin. Er bod rhai cyflyrau meddygol fel Clefyd Alzheimer, Clefyd Parkinson, strôc, ac arthritis yn fwy cyffredin ymhlith y boblogaeth hŷn, gall cyflyrau eraill arwain at nam mewn galluoedd gwybyddol, corfforol neu weledol sy’n angenrheidiol i yrru’n ddiogel, ar gyfer gyrwyr o bob oed.
4.3 Mae enghreifftiau’n cynnwys colli ymwybyddiaeth neu reolaeth oherwydd cyflyrau meddygol gan gynnwys diabetes, epilepsi, ac apnoea cwsg, namau corfforol oherwydd sglerosis ymledol, anafiadau i fadruddyn y cefn, a thrychiadau, namau mewn gweithrediad gwybyddol oherwydd anaf trawmatig i’r ymennydd, salwch meddwl fel sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn a chlefydau llygaid, ac anhwylderau sy’n effeithio ar y golwg.
4.4 Gall llawer o feddyginiaethau a ddefnyddir i drin cyflyrau meddygol hefyd amharu ar yrru’n ddiogel gan y gallent gael sgîl-effeithiau gan gynnwys syrthni, pendro, isbwysedd, hypoglycemia, llewygu, golwg aneglur, a cholli cydsymud. Wrth gynnal ymchwiliadau meddygol, mae’r DVLA yn gynyddol yn gorfod ystyried effeithiau cronnol posibl cyfuniad o gyflyrau meddygol a meddyginiaeth ac a yw hyn yn debygol o effeithio ar ddiogelwch gyrru.
4.5 Mae disgwyliad oes uwch, poblogaeth sy’n heneiddio, a chynnydd yn nifer yr achosion o rai cyflyrau meddygol yn golygu bod nifer yr hysbysiadau iechyd a adroddir i’r DVLA yn cynyddu ac yn debygol o barhau i dyfu bob blwyddyn. Nid yn unig y mae llwyth achosion y DVLA yn cynyddu, ond mae achosion hefyd yn dod yn fwyfwy cymhleth wrth i fwy o bobl hysbysu’r DVLA am fwy nag 1 cyflwr meddygol. Mae fframwaith cyfreithiol a safonau meddygol Prydain Fawr ar gyfer gyrru yn canolbwyntio’n bennaf ar gyflyrau meddygol sengl. Fodd bynnag, mae gyrwyr sydd â mwy nag 1 cyflwr yn gyffredin a rhagwelir y bydd nifer yr achosion o gyflyrau meddygol lluosog yn cynyddu yn y dyfodol. Mae’r tebygolrwydd y bydd cyflyrau meddygol lluosog hefyd yn cynyddu ag oedran.
4.6 Mae’r graff isod yn dangos ciplun o gyfeintiau gwaith achos presennol y DVLA [ar 27 Mawrth 2023] gyda dadansoddiad o bobl â chyflyrau meddygol sengl a lluosog yn ôl oedran.
4.7 Mae’r cynnydd mewn cyflyrau meddygol lluosog a hysbysir i’r DVLA yn adlewyrchu’r niferoedd cynyddol o bobl yn y boblogaeth gyffredinol sydd â mwy nag 1 cyflwr meddygol. Mae’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal yn awgrymu bod mwy nag 1 o bob 4 o’r boblogaeth oedolion yn byw gyda 2 gyflwr meddygol neu fwy [footnote 3]. Rhaid nodi na fydd yr holl amodau hyn yn hysbysadwy oherwydd efallai na fyddant yn effeithio ar yrru’n ddiogel.
4.8 Mae’r llu o gyfuniadau o gyflyrau meddygol (a meddyginiaethau i’w trin) sy’n cael eu hadrodd i’r DVLA, a’u difrifoldeb, yn cyflwyno lefel o gymhlethdod sy’n cymhlethu’r broses benderfynu wrth asesu addasrwydd gyrru. Mae asesu cyflyrau meddygol lluosog yn cymryd llawer o amser gan fod angen gwybodaeth feddygol yn aml gan nifer o feddygon neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n ymwneud â gofal a thriniaeth barhaus person.
4.9 Ar hyn o bryd, mae cyfraith trwyddedu gyrwyr a chanllawiau meddygol yn canolbwyntio ar safonau meddygol sy’n cael eu cymhwyso i bob cyflwr sy’n cael diagnosis. Fodd bynnag, mae ystyried effaith gyfunol cyflyrau meddygol lluosog sy’n effeithio ar yrru’n ddiogel yn her a bydd angen barn glinigol fel arfer. Pan fydd cyflyrau meddygol lluosog yn cael eu hasesu, rhaid i’r DVLA fabwysiadu ymagwedd gyfannol ac ystyried yr holl dystiolaeth feddygol a gasglwyd i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a ellir rhoi trwydded yrru.
Cwestiynau’r alwad am dystiolaeth
4a A oes angen unrhyw newidiadau i fynd i’r afael â’r nifer cynyddol o yrwyr â chyflyrau meddygol lluosog?
5. Proses a chostau trwyddedu meddygol
5.1 Rhoddwyd y fframwaith cyfreithiol presennol ar gyfer cyflyrau meddygol a gyrru ar waith yn gyntaf dros 30 mlynedd yn ôl. Mae’r amgylchedd yr ydym yn awr yn byw ac yn gweithio ynddo’n wahanol iawn i’r adeg pan ysgrifennwyd y gyfraith gyntaf. Mae’r DVLA wedi gweld cynnydd mawr yn nifer yr achosion meddygol a’u cymhlethdod. Bu newid hefyd yn yr awydd i yrru. I lawer o bobl, mae gyrru yn cael ei ystyried yn anghenraid bywyd bob dydd, gan ei fod yn hanfodol ar gyfer gwaith, addysg, a rhesymau cymdeithasol. Yn ystod blynyddoedd diweddarach, mae gyrru yn aml yn gysylltiedig â lles ac ansawdd bywyd parhaus[footnote 4].
5.2 Mae’r broses trwyddedu meddygol yn dibynnu’n helaeth ar fewnbwn meddygol o ffynonellau allanol y mae’n rhaid i’r DVLA eu cael a thalu amdanynt yn ôl y gyfraith yn hytrach nag unigolion sy’n gwneud cais am drwydded.
5.3 Mae angen rhagor o wybodaeth gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol mewn llawer o’r achosion y mae’r DVLA yn eu hystyried. Yn fwyaf cyffredin, mae angen i’r DVLA gael rhagor o wybodaeth gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n ymwneud â gofal a thriniaeth yr unigolyn. Gofynnir am y wybodaeth hon gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol awdurdodedig trwy holiadur cyflwr meddygol penodol, a gynlluniwyd i’w gwblhau o gofnodion meddygol.
5.4 Nid yw llenwi holiaduron meddygol y DVLA yn rhan o gontract y GIG felly mae’r DVLA yn talu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y GIG am gwblhau pob holiadur. Gan mai gwasanaeth preifat yw llenwi’r holiaduron hyn, nid yw’n orfodol i feddygon teulu na gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eu llenwi. Os oes gan unigolyn fwy nag 1 cyflwr meddygol, mae angen holiadur meddygol ar wahân ar gyfer pob cyflwr. Mae DVLA hefyd yn cael gwybodaeth o archwiliadau meddygol, er enghraifft profion maes gweledol, neu asesiadau gyrru ar y ffordd.
5.5 Ar unrhyw un adeg, mae oddeutu hanner llwyth achosion byw y DVLA fel arfer yn aros am wybodaeth o ffynhonnell allanol cyn y gellir bwrw ymlaen â’r achos, er bod hynny wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y pandemig. Er bod y DVLA yn gofyn i holiaduron gael eu cwblhau o fewn amserlen benodedig, nid oes ganddi lawer o reolaeth dros yr amser y mae’n ei gymryd iddynt gael eu dychwelyd. Mae’r amser a gymerir i gael archwiliad meddygol neu asesiad gyrru hefyd yn dibynnu ar argaeledd mewn ardal benodol.
5.6 Mae’r broses trwyddedu meddygol wedi’i heffeithio’n fawr gan y nifer cynyddol o achosion, pobl yn hysbysu am gyflyrau meddygol lluosog ac argaeledd y wybodaeth feddygol sydd ei hangen o ffynonellau allanol. Er bod y DVLA yn anelu at wneud 90% o benderfyniadau trwyddedu o fewn 90 diwrnod, mae hyn yn dod yn fwyfwy heriol wrth i achosion ddod yn fwy cymhleth a lle mae angen mwy o wybodaeth gan drydydd partïon.
5.7 Yn ogystal â hyn, mae’r gyfraith yn darparu y bydd y DVLA yn talu unrhyw ffioedd sy’n gysylltiedig ag ymchwiliadau meddygol. Mae hyn yn cynnwys talu ffi am lenwi pob holiadur cyflwr meddygol penodol, profion golwg, cyffuriau a phrofion sgrinio alcohol (oni bai dan ddeddfwriaeth HRO) ac archwiliadau.
5.8 Mae’r costau sy’n gysylltiedig â chasglu gwybodaeth i asesu a all unigolyn fodloni’r safonau meddygol priodol ar gyfer gyrru bron wedi dyblu yn y 10 mlynedd diwethaf, o oddeutu £10 miliwn i oddeutu £20 miliwn y flwyddyn. Mae hyn yn adlewyrchu nid yn unig nifer cynyddol o yrwyr â chyflyrau iechyd lluosog ond cymhlethdod y cyflyrau hynny.
Cwestiynau’r alwad am dystiolaeth
5a Ydych chi’n credu y dylai’r gost sy’n gysylltiedig ag archwiliadau meddygol gael ei thalu gan drethdalwyr a’r DVLA?
5b A fyddai’n briodol i’r cwsmer unigol dalu am archwiliadau meddygol mewn perthynas â’u haddasrwydd i yrru?
5c A oes gennych unrhyw wybodaeth am drefniadau amgen ar gyfer ariannu gofynion trwyddedu gyrwyr meddygol? Os felly, disgrifiwch.
5d A oes gennych unrhyw dystiolaeth yn ymwneud â llwyddiant y trefniadau hyn neu unrhyw broblemau gyda nhw?
6. Syniadau ar gyfer y dyfodol
Technolegau mewn cerbyd
6.1 Mae’r defnydd o gerbydau i lawer o unigolion, yn arbennig y tu allan i’r dinasoedd mawr, yn rhan annatod o’u bywydau bob dydd. Ers blynyddoedd lawer mae addasiadau wedi’u gwneud i gerbydau sydd wedi galluogi unigolion ag anableddau i barhau i reoli cerbyd yn ddiogel.
6.2 Fodd bynnag, rydym bellach mewn oes lle mae llawer o weithgynhyrchwyr cerbydau wedi dechrau cynnwys technolegau a synwyryddion mewn cerbydau amrywiol i’w cynorthwyo i yrru’n ddiogel. Mae’r rhain yn cynnwys rheoli llywio addasol, llywio gweithredol, systemau brecio gwrth-glo a thechnoleg llywio GPS.
6.3 Bydd angen i drwyddedu gyrwyr addasu i ystyried effaith y technolegau mewn cerbyd sydd eisoes ar gael ac a oes angen addasu’r safonau meddygol ar gyfer gyrru, gan agor gyrru i grwpiau o unigolion sydd wedi’u heithrio rhag trwyddedu o’r blaen oherwydd eu cyflyrau iechyd, lle mae’n ddiogel gwneud hynny.
Gwneud penderfyniadau awtomataidd
6.4 Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) a dysgu peirianyddol yn dechnoleg bwerus y gellir ei defnyddio i gyflawni tasgau a swyddogaethau amrywiol sy’n cynorthwyo, yn addasu ac yn disodli penderfyniadau dynol, er enghraifft ceir hunan-yrru, cynorthwywyr rhithwir, ac argymhellion personol mewn siopa ar-lein.
6.5 Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r DVLA wedi gweithredu AI ar ffurf sgwrsfotiau awtomataidd yn ei Chanolfan Gyswllt, a all helpu cwsmeriaid drwy ddarparu ymatebion cyflymach i ymholiadau. Yn fwy diweddar, mae Awtomeiddio Prosesu Robotig (RPA) o drafodion cerbydau penodol wedi darparu mwy o gyflymder ac effeithlonrwydd wrth brosesu trwy dynnu data o drafodion wedi’u sganio a’i fewnbynnu’n uniongyrchol i gronfeydd data DVLA yn awtomatig. Nid oes unrhyw gysylltiad gan staff ar ôl y sganio ac eithrio canran fach iawn o achosion.
6.6 Ym meysydd meddygol a gwaith achos y DVLA, gallai AI ar ffurf dysgu peirianyddol a gwneud penderfyniadau awtomataidd fod â’r potensial i gynorthwyo wrth wneud penderfyniadau, cyflymu’r gwasanaeth i gwsmeriaid a lleihau’r hyfforddiant sydd ei angen ar rai staff. Fodd bynnag, pan gyflwynwyd y ddeddfwriaeth bresennol sy’n sail i drwyddedu gyrwyr meddygol, ni ragwelwyd y datblygiadau technolegol y dyfodol sy’n newid yn gyflym. Mae’r gyfraith felly wedi’i hysgrifennu mewn ffordd sydd ar hyn o bryd yn atal y defnydd o dechnolegau a fyddai’n awtomeiddio’r broses o wneud penderfyniadau’n llawn ac yn lle hynny yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i benderfyniadau i ddirymu neu roi trwydded yrru gael eu gwneud gan ddyn, lle gellir cymhwyso disgresiwn.
6.7 Mae’r DVLA yn cydnabod potensial AI a dysgu peirianyddol ym maes trwyddedu meddygol ond er mwyn mabwysiadu technolegau AI a chyflwyno proses gwneud penderfyniadau gwbl awtomataidd, byddai angen newidiadau sylweddol i’r fframwaith cyfreithiol er mwyn i’r broses trwyddedu meddygol i ddileu’r elfen o ddisgresiwn.
Cwestiynau’r alwad am dystiolaeth
6a A ydych yn credu y bydd angen newid y safonau meddygol presennol er mwyn ystyried datblygiadau mewn technolegau mewn cerbydau? Rhowch y rheswm dros eich ateb.
6b A oes unrhyw dystiolaeth yr hoffech ei darparu ar sut y gallai trwyddedu gyrwyr gael ei ddiogelu at y dyfodol er mwyn darparu ar gyfer technolegau uwch mewn cerbydau?
6c A ydych yn credu y byddai defnyddio prosesau gwneud penderfyniadau awtomataidd o fudd i waith achos meddygol gyrwyr? Eglurwch eich rhesymu.
6d A ydych yn credu y dylai person barhau i wneud y penderfyniad ynghylch rhoi neu ddirymu trwydded yrru? Eglurwch eich rhesymu.
-
Mae’r gyfraith yn eithrio’n benodol archwiliadau sy’n ofynnol fel rhan o’r cynllun Troseddwyr Risg Uchel ar gyfer y rhai sy’n gwneud cais am drwydded ar ôl cyflawni troseddau yfed a gyrru penodol. ↩
-
https://evidence.nihr.ac.uk/collection/making-sense-of-the-evidence-multiple-long-term-conditions-multimorbidity/ ↩
-
https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/NationalLibraryofMedicine/ ↩