Dyfarnu £20 miliwn i hwb hamdden newydd yng Nghaerffili
Dyrannwyd £20 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro i Gyngor Sir Caerffili. Mae Caerffili yn bwriadu defnyddio’r cyllid i adeiladu canolfan hamdden a lles newydd.
Cyfleusterau hamdden newydd sbon
Bydd y cyfleuster newydd o’r radd flaenaf yn cael ei ddatblygu ger Parc Busnes Caerffili. Bydd yn disodli Canolfan Hamdden bresennol Caerffili, sydd wedi dyddio, yng nghanol y dref.
Bydd yn cynnwys:
- neuadd chwaraeon amlbwrpas
- pwll nofio chwe lôn
- sba lles a chyfleusterau lles
- lle chwarae meddal antur i blant
- ystafell ffitrwydd
Dywedodd Cyngor Caerffili:
Ein nod yw creu ased cymunedol hanfodol sy’n gatalydd ar gyfer gwella’r cyfleoedd iechyd a bywyd i bawb ac sy’n gwella gwydnwch ein cymunedau. Bydd yr hwb yn cryfhau ymgyrch barhaus y Cyngor i leihau anghydraddoldeb cymdeithasol, iechyd ac ariannol ledled y fwrdeistref sirol.
Budd i’r gymuned ehangach
Nod y prosiect yw rhoi cyfleoedd hamdden gwell i drigolion Caerffili. Bydd yn darparu:
- mynediad hygyrch i gyfleusterau iechyd a lles
- mannau cymunedol amlbwrpas fforddiadwy
Mae’r hwb yn cynrychioli cyfle datblygu sylweddol i greu swyddi, hyrwyddo twristiaeth a masnach newydd, a gwasanaethu cenedlaethau presennol a’r dyfodol yn y dref a’r fwrdeistref sirol. Bydd yr hwb yn cynnig cysylltiadau cryf â choridor teithio llesol y dref i hyrwyddo hygyrchedd a chynhwysiant, gan fod mewn sefyllfa dda i ddenu trigolion o bob rhan o’r fwrdeistref sirol ac ymwelwyr o’r tu allan i’r ardal.
Mae’r prosiect yn rhan o raglen adfywio ehangach canol tref Caerffili o dan Cynllun Creu Lleoedd 2035 Caerffili
Darganfyddwch fwy am Levelling Up