Astudiaeth achos

Hwb i ganol tref Pont-y-pŵl gyda £7.6 miliwn

Bydd Cyngor Torfaen yn defnyddio £7.6 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro i adfywio Canol Tref Pont-y-pŵl. Bydd adeiladau adfeiliedig yn cael eu hadnewyddu i greu bwyty a chanolfan diwylliant a chelfyddydau amlbwrpas.

Mae’r pecyn o dri phrosiect wedi’u lleoli o amgylch cyffordd Hanbury Road/Glantorvaen Road.

Canolfan ddiwylliannol a chelfyddydol

Bydd cyllid yn adfywio adeilad adfeiledig Eglwys St James, rhestredig Gradd II, yn ganolbwynt diwylliannol ffyniannus.

Bydd y ganolfan ddiwylliannol newydd yn cynnwys:

  • sinema a siopau bwyd a diod dros dro
  • gofod defnydd cymysg gan gynnwys bar mesanîn
  • arddangosfa a gofod digwyddiadau cymunedol

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Yr hwb diwylliannol yw conglfaen ein cynlluniau Creu Lleoedd Pont-y-pŵl. Mae gennym asedau gwych yn y dref a bydd yr holl brosiectau hyn yn darparu rheswm dros ymweld â Phont-y-pŵl gyda’r nos.”

Caffi a bwyty newydd

Bydd toiledau cyhoeddus gyferbyn ag Eglwys St James ac wrth fynedfa Parc Pont-y-pŵl yn cael eu hailddatblygu, hefyd. Bydd y toiledau’n cael eu trawsnewid yn gaffi a bwyty nodedig.

Bydd y caffi a’r bwyty newydd yn:

  • cynnig caffi amser cinio o ansawdd uchel a bwyty ‘platiau bach’ gyda’r nos
  • creu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth ac entrepreneuriaeth

Maes Parcio Glantorvaen

Bydd cyllid hefyd yn cael ei ddefnyddio i adnewyddu maes parcio presennol Glantorvaen.

Bydd y gwaith adnewyddu yn:

  • darparu lleoedd parcio saff a diogel
  • cyflwyno ynni solar i’r cyfleuster
  • cynnwys pwyntiau gwefru trydanol
  • lleihau’r cyfleoedd ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol

Bydd y pecyn o brosiectau yn sbarduno adfywiad ehangach Pont-y-pŵl.

Darganfyddwch fwy am Levelling Up

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Tachwedd 2023