Casgliad

Atwrneiaeth arhosol: cychwyn y broses fel atwrnai

Deall beth i’w wneud gyntaf os ydych chi’n gweithredu ar ran rhywun yn unol ag atwrneiaeth arhosol.

Mae’r rhain yn ganllawiau cryno sy’n rhoi gwybodaeth am fod yn atwrnai yn unol ag atwrneiaeth arhosol.

Os oes rhywun wedi’ch penodi yn eu hatwrneiaeth arhosol mewn cysylltiad â materion iechyd a lles neu faterion ariannol ac eiddo, gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn, yn cynnwys:

  • dysgu mwy am y person rydych chi’n gweithredu drosto
  • helpu’r unigolyn i wneud penderfyniadau
  • deall eich cyfrifoldebau cyfreithiol
  • delio â phobl a sefydliadau eraill ar ran rhywun arall

Gallwch hefyd edrych ar God Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol, sy’n esbonio’n fanwl beth y gallwch chi ei wneud a beth na allwch chi ei wneud fel atwrnai.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Documents

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Ionawr 2016