Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiadau
Adroddiadau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys ar ffurf CSV.
Mae’r casgliad hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Ystadegyn Cenedlaethol yw Mynegai Prisiau Tai y DU. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon bob chwarter.
Mae ailgyhoeddi data yn egluro’r amodau defnyddio. Trwy lawrlwytho’r data rydych yn cytuno i’r amodau hynny.
Cyhoeddi’r Mynegai Prisiau Tai nesaf
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Awst 2024 am 9.30am ddydd Mercher 16 Hydref 2024. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
Nifer gwerthiannau Gogledd Iwerddon
Rydym wedi newid y ffordd y cyhoeddir nifer gwerthiannau Gogledd Iwerddon ac wedi cywiro’r ffordd rydym yn eu cynnwys yn ffigurau’r DU. Rydym wedi cynhyrchu amcangyfrif misol trwy rannu cyfanswm y gwerthiannau ar gyfer y chwarter yng Ngogledd Iwerddon â 3.
Yn flaenorol, roedd data chwarterol Gogledd Iwerddon yn cael ei gynnwys yn nata nifer gwerthiannau misol y DU, a oedd yn arwain at ffigurau gwerthiant uwch na’r disgwyl.
Diwygiadau data
Yn dilyn adolygu amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o fis Ionawr 2021 ymlaen i wneud defnydd o ddata prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU o 12 mis, rydym wedi nodi gwall yng nghyfrifon trafodion arian parod a morgais ar gyfer data’n rhychwantu Ionawr 2021 a Rhagfyr 2022. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod hyn wedi effeithio ar fynegeion a lefelau prisiau Mynegai Prisiau Tai y DU.
Cywirwyd cyfrif trafodion arian parod a morgais ar gyfer Ionawr 2021 i Ragfyr 2022 yn nata Mynegai Prisiau Tai y DU a gyhoeddwyd ar 17 Ebrill 2024 ac yn dilyn datganiadau Mynegai Prisiau Tai y DU.
Bydd data cywir ar gael cyn gynted â phosibl.
Newid methodoleg ar gyfer eiddo newydd
Oherwydd effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar nifer a chyflenwad y trafodion tai, rydym wedi gwneud rhai newidiadau methodoleg. Mae prosesu eiddo “a adeiledir o’r newydd” wedi cael ei effeithio mwy na phrosesu “hen” eiddo. Cynghorir defnyddwyr y gall amcangyfrifon ar gyfer eiddo a adeiledir o’r newydd fod yn llai cynrychioliadol ac yn fwy tebygol o gael eu diwygio. Er mwyn helpu i roi sylw i hyn, rydym wedi cyfuno trafodion eiddo a adeiledir o’r newydd ar gyfer rhai misoedd yng Nghymru a Lloegr er 2020:
- Mawrth 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir o’r newydd o Chwefror 2024 a Mawrth 2024
- Ebrill 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir o’r newydd o Fawrth 2024 ac Ebrill 2024
- Mai 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir o’r newydd o Ebrill 2024 a Mai 2024
- Mehefin 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir o’r newydd o Fai 2024 a Mehefin 2024
- Gorffennaf 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir o’r newydd o Fehefin 2024 a Gorffennaf 2024
- Awst 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir o’r newydd o Orffennaf 2024 ac Awst 2024
Nid yw Medi 2024 wedi ei effeithio gan nad yw’r model ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf yn defnyddio’r dangosydd eiddo a adeiledir o’r newydd i ragfynegi prisiau eiddo oherwydd natur y prosesu.
Gallai’r newidiadau hyn arwain at wneud mwy o ddiwygiadau i amcangyfrifon cyhoeddedig nag arfer. Mae’r oedi cyffredinol sy’n gysylltiedig â chofrestru eiddo a adeiledir o’r newydd hefyd yn arwain at gyfan is o werthiannau eiddo a adeiledir o’r newydd sydd ar gael i gyfrifo’r pris cychwynnol a’r amcangyfrif mynegai nag ar gyfer gwerthiannau hen eiddo. Felly rydym yn atal nifer y gwerthiannau wedi eu cadarnhau ar gyfer eiddo a adeiledir o’r newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf (neu’r ddau chwarter diweddaraf ar gyfer Gogledd Iwerddon), fodd bynnag, nid oes gennym ddigon o werthiannau i sicrhau bod y model atchweliad a ddefnyddir i gyfrifo Mynegai Prisiau Tai y DU a’r ystadegau cysylltiedig yn gadarn ac yn gywir. Mae rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eiddo a adeiledir o’r newydd fel arfer i’w gweld yng nghyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Cofrestrfa Tir EF.
Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol, a elwir Acorn (wedi ei gynhyrchu a’i drwyddedu gan CACI Ltd), yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.
O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, gwnaethpwyd newid i’r ffordd y caiff trafodion eiddo ar gyfer Prydain Fawr gyda dosbarthiad Acorn coll eu defnyddio yn y model atchweliad. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn cynyddu cydlyniant ar draws y DU ac yn gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Ngwybodaeth Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU ac yng ngwybodaeth sicrhau ansawdd Acorn.
Yn natganiad Medi 2024, cafodd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU eu diwygio o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod diwygio 12 mis arferol Mynegai Prisiau Tai y DU. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i’r cyfnod diwygio arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer a nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau eiddo a adeiledir o’r newydd.
Yn natganiad 19 Hydref 2025, bydd Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ail-gyfeirio i Ionawr 2023 fel y cyfnod sylfaen newydd. Mae hyn yn golygu y bydd mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd Ionawr 2023 = 100 a bydd y gyfres lefel prisiau yn newid i fyny neu i lawr er mwyn adlewyrchu’r cyfnod sylfaen newydd, ond ni fydd y cyfraddau chwyddiant yn newid oherwydd ail-gyfeirio, fel yr esbonnir yn Adran 3: “Dulliau a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU” yn nghyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Cofrestrfa Tir EF.
Medi 2024
Am Fynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn dangos newidiadau yng ngwerth eiddo preswyl. Mae’r cyfarwyddyd canlynol yn cynnwys:
Adroddiadau a data wedi eu harchifo
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 27 Ionawr 2021Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Tachwedd 2024 + show all updates
-
Added the September 2024 index.
-
Added the July 2024 index.
-
Added the March 2024 index.
-
Added the February 2024 index.
-
Added the January 2024 index.
-
Added the December 2023 index.
-
Added the November 2023 index.
-
Added the October 2023 index.
-
Added the September 2023 index.
-
Added the August 2023 index.
-
Added the July 2023 index.
-
Added the May 2023 index.
-
Added the April 2023 index.
-
Added the March 2023 index.
-
Added the February 2023 index.
-
Added the January 2023 index.
-
Added the December 2022 index.
-
Added the November 2022 index.
-
Added the October 2022 index.
-
Added the September 2022 index.
-
Added the August 2022 index.
-
Added the July 2022 index.
-
Added the June 2022 index.
-
Added May 2022 index.
-
Added the April 2022 index.
-
Added the March 2022 index.
-
Added February 2022 index.
-
Added January 2022 index.
-
Added December 2021 index.
-
Added November 2021 index.
-
Added October 2021 index.
-
Added September 2021 index.
-
Added August 2021 index.
-
Added July 2021 index.
-
Added June 2021 index.
-
Added May 2021 index.
-
Added April 2021 index.
-
Added March 2021 index.
-
Added February 2021 index.
-
Added January 2021 index.
-
Added December 2020 index.
-
First published.