Cynllun Gwaith y Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol 2023 i 2024: Cais am fewnbwn
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Daw’r Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol (DRCF) â phedwar rheoleiddiwr yn y DU (CMA, Ofcom, ICO a’r FCA) ynghyd i ddarparu ymagwedd gydlynus at reoleiddio digidol er budd pobl a busnesau ar-lein. Ffurfiwyd y DRCF gan fod rheoleiddio cydgysylltiedig effeithlon yn allweddol wrth ymdrin â’r heriau cymhleth a gyflwynir gan wasanaethau a thechnolegau digidol.
Mae’r rôl hon yn bwysicach fyth mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd i ddefnyddwyr a’r diwydiant ill dau, a’n nod yw darparu mwy o eglurder a chysondeb iddynt.
Rydym mewn cyfnod cyffrous o gyflwyno ein huchelgeisiau, ac yn edrych ar beth y gallwn ei ddisgwyl yn y flwyddyn nesaf. Mae’r Cais am Fewnbwn hwn yn gwahodd barn rhanddeiliaid am faterion y dylai’r DRCF eu hystyried wrth iddo ddatblygu ei gynllun gwaith ar gyfer 2023 i 2024.
Saif ochr yn ochr â’n hymgysylltiad parhaus a rheolaidd â rhanddeiliaid allanol gan gynnwys diwydiant, Llywodraeth a Senedd y DU, cyrff rheoleiddio eraill a phartneriaid rhyngwladol. Rydym yn ceisio barn ar sut y gall y DRCF fel corff cydlynu ddod â’i aelodau at ei gilydd er budd pobl a busnesau ar-lein, a byddwn yn ystyried yr holl fewnbwn wrth i ni baratoi i gyhoeddi ein cynllun gwaith nesaf.
More: https://www.gov.uk/government/consultations/digital-regulation-cooperation-forum-drcf-workplan-2023-to-2024-call-for-input