Closed consultation

Disgrifiad o’r Ymgynghoriad (accessible version)

Published 29 November 2023

This was published under the 2022 to 2024 Sunak Conservative government

Disgrifiad o’r Ymgynghoriad

Er ein bod yn gwybod y gall plant fod yn agored i niwed gan oedolion, mae ymchwil gynyddol hefyd i blant sy’n dangos ymddygiad niweidiol tuag at rieni/gofalwyr. Nid oes diffiniad cytûn ar gyfer y math hwn o niwed neu gamdriniaeth, sy’n ei gwneud yn anodd ei adnabod a siarad amdano. Yn absenoldeb diffiniad cytûn, defnyddir termau a disgrifiadau amrywiol.

Roedd y Cynllun Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestig yn ymrwymo i ddatblygu diffiniad y cytunwyd arno gan y sector a diweddaru’r canllawiau ar gyfer gweithwyr proffesiynol rheng flaen yn unol ag ef. At ddibenion y ddogfen ymgynghori hon, mae’r Swyddfa Gartref yn defnyddio’r term Cam-drin Rhieni Blant (CPA) hyd nes y cytunir ar y derminoleg.

Mae’r diffiniad statudol o gam-drin domestig, fel y’i diffinnir yn Neddf Cam-drin Domestig 2021, yn ymwneud â cham-drin rhwng y rhai sydd â chysylltiad personol a thros 16 oed, gyda phlant yn cael eu cydnabod fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain lle maent yn gweld, clywed, neu brofi’r effeithiau’r gamdriniaeth ac maent yn gysylltiedig â naill ai’r camdriniwr neu’r sawl a gafodd ei gam-drin. Am y rheswm hwn, bydd y diffiniad o CPA yn berthnasol i rai dan 16 oed, er mwyn peidio â dyblygu’r diffiniad o gam-drin domestig. Mae Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Plant yn glir y dylai pob plentyn (0-18) gael ymateb diogelu, gan gynnwys pan fyddant yn achosi niwed i eraill a dylid cymryd camau i ddeall ymddygiad y plentyn.

Nodau allweddol diffiniad y cytunwyd arno yw:

  • Sefydlu iaith gyffredin o amgylch CPA
  • Cynorthwyo gweithwyr proffesiynol rheng flaen a rhieni a gofalwyr i ganfod y math hwn o gam-drin, er mwyn ei gwneud yn haws ceisio a chynnig cymorth.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y prif derminoleg ar gyfer y CPA a’r disgrifyddion o’r CPA a fydd gyda’i gilydd yn ffurfio’r diffiniad. Cytunir ar y diffiniad yn gyntaf ac yna ei ddefnyddio fel sail i’r canllawiau ar gyfer gweithwyr proffesiynol rheng flaen a fydd yn dilyn. Bydd y canllawiau’n rhoi cyfle i roi rhagor o fanylion am y diffiniad ac ystyried rhai o’r materion cymhleth sy’n ymwneud â’r math hwn o gam-drin, er enghraifft yr heriau a wynebir gan blentyn neu ei anghenion addysgol arbennig neu anableddau.

Bydd yr ymgynghoriad hwn ar agor am ddeg wythnos, gan gau ar 23:55 07/02/2024. Gallwch ateb drwy’r ffurflen ar-lein neu drwy e-bostio [email protected]

Anelir yr ymgynghoriad at:

  • Gwasanaethau cymorth sy’n gweithio ym maes CPA
  • Academyddion â diddordeb ymchwil mewn CPA
  • Gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol
  • Gweithwyr proffesiynol rheng flaen sy’n gweithio ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, plismona a throseddau ieuenctid.
  • Gwasanaethau arbenigol / gweithio gyda phlant ag AAAA
  • Rhieni/aelodau teulu/gofalwyr sydd â phrofiad o CPA
  • Unrhyw randdeiliaid eraill â diddordeb, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad o CPA a defnyddwyr gwasanaethau cymorth ac atal

Defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain

Gallwch weld neu lawrlwytho’r ymgynghoriad yn Iaith Arwyddion Prydain

Os ydych chi am holi ynghylch cyflwyno ymateb i ymgynghoriad fideo Iaith Arwyddion Prydain, e-bostiwch [email protected]

Holiadur ymgynghori

Rhan 1 Gwybodaeth am yr ymatebydd

1 ) A ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad?

  • Unigolyn
  • Ar ran sefydliad

1a) Nodwch enw eich sefydliad.

1b) Pa un o’r categorïau canlynol sy’n disgrifio’ch sefydliad orau?

  • Gwasanaethau cymorth – rhieni/gofalwyr
  • Gwasanaethau cymorth cynnar – plant a theuluoedd
  • Gwasanaethau cymorth - SEND
  • Plismona
  • Gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol
  • Addysg
  • Iechyd
  • Gofal cymdeithasol plant
  • Gofal cymdeithasol oedolion
  • Troseddau ieuenctid
  • Arall – nodwch os gwelwch yn dda

1c) Fe wnaethoch ateb eich bod yn ymateb i’r ymgynghoriad hwn fel unigolyn. Pa un o’r categorïau canlynol sy’n disgrifio eich diddordeb yn y maes hwn orau?

  • Gweithiwr proffesiynol rheng flaen
  • Rhiant/gofalwr gyda phrofiad uniongyrchol o CPA
  • Plentyn â phrofiad uniongyrchol o CPA
  • Tyst o CPA • Academydd gyda diddordeb ymchwil mewn CPA • Gofalwr maeth • Arall – nodwch os gwelwch yn dda

2) Beth yw eich cyfeiriad e-bost? (dewisol)

3) O’r rhestr isod, ble rydych chi neu’ch sefydliad wedi’ch/wedi’i leoli?

  • Gogledd-ddwyrain Lloegr
  • Gogledd-orllewin Lloegr
  • Swydd Efrog a’r Humber
  • Dwyrain Canolbarth Lloegr
  • Gorllewin Canolbarth Lloegr
  • Dwyrain Lloegr
  • Llundain
  • De-ddwyrain Lloegr
  • De-orllewin Lloegr
  • Cymru
  • Cenedlaethol

Rhan 2 Prif derminoleg

Mae tair cydran i’r derminoleg, gofynnir i chi rannu’ch barn ar bob un ohonynt.

Mae’r diffiniad o CPA yn cynnwys cyfeiriad at ddau grŵp o bobl fel y nodir isod – y person sy’n arddangos ymddygiad camdriniol a’r person y mae’r ymddygiad hwnnw wedi’i gyfeirio ato. Bydd yr adran hon yn gofyn i chi am y prif derminoleg y dylid ei defnyddio i ddisgrifio’r ddau grŵp hynny.

  • Grŵp 1: Plant dan 16 oed. Dyma’r person sy’n arddangos yr ymddygiad.
  • Grŵp 2: Pobl â chyfrifoldeb rhiant am blentyn o dan 16 oed, gofalwyr (megis gofalwyr maeth), neu’r rhai sydd â pherthynas ofalu anffurfiol (fel nain neu daid sy’n darparu gofal gan berthnasau). Dyma darged ymddygiad y plentyn. Ni fyddai hyn yn cynnwys y rhai mewn sefyllfa gofal plant â thâl, er enghraifft gwarchodwr plant neu nani.

4) A ddylai’r diffiniad ddisgrifio Grŵp 1 fel:

  • Plant
  • Plant a’r glasoed
  • Rhywbeth arall

Esboniwch eich rhesymau.

5) A ddylai’r diffiniad ddisgrifio Grŵp 2 fel:

  • Rhieni
  • Rhieni a gofalwyr
  • Rhywbeth arall

Esboniwch eich rhesymau.

6) A ddylai’r diffiniad gyfeirio at:

  • Cam-drin
  • Trais a cham-drin
  • Rhywbeth arall

Esboniwch eich rhesymau.

7) A oes gennych unrhyw sylwadau pellach yr hoffech eu rhannu ar y prif derminoleg?

Rhan 3 Disgrifiad

Disgrifiad arfaethedig o’r math hwn o gamdriniaeth yw:

  • Patrwm o ymddygiad lle gall ymddygiad camdriniol fod yn gorfforol, neu’n rhywiol, yn fygythiol, yn rheoli neu’n gorfodi, yn seicolegol neu’n emosiynol, neu’n economaidd.

Mae’r tabl isod yn rhoi rhai enghreifftiau o’r mathau hyn o ymddygiadau ond nid yw’n hollgynhwysol.

  1. Baker and Bonnick (2021) CAPVA Rapid Literature Review
  2. Y Swyddfa Gartref (2021) Y Swyddfa Gartref (2021) Domestic Abuse Statutory Guidance
  • Corfforol neu rywiol: Dyrnu, taro, cicio, gwthio, tynnu gwallt, taflu neu binio, brathu, taflu neu daro â gwrthrychau, tagu, defnyddio arfau, sgaldio, ymddygiad rhywiol uwch, ymosodiad rhywiol, treisio
  • Bygythiol: Gweiddi a rhegi i ddadlau, herio, neu ddychryn, iaith ddiraddiol neu feirniadol
  • Rheoli neu orfodi: Rheoli neu fonitro gweithgareddau dyddiol, monitro cyllid, ynysu oddi wrth deulu a ffrindiau
  • Emosiynol neu seicolegol: Galw enwau difrïol, atal hoffter, bygythiadau o hunan-niweidio a defnyddio ymddygiad mentrus neu beryglus, ystrywio, bygythiadau, blacmel
  • Economaidd: Dinistrio eiddo, mynnu neu ddwyn eiddo neu nwyddau, gwerthu eiddo, peryglu cyflogaeth neu denantiaethau, tynnu dirwyon

Gofynnir i chi rannu’ch barn mewn perthynas â’r disgrifiad arfaethedig uchod.

8) Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng ymddygiad profi ffiniau ac ymddygiad niweidiol sy’n gyfystyr â chamdriniaeth. Mae’n bwysig bod y disgrifiad cytunedig o CPA yn helpu i wneud y gwahaniaeth hwn.

a. Mae ymchwil yn awgrymu y gall patrwm ymddygiad fod yn fodd gwahanu pwysig. Fodd bynnag, mae’r diffiniad o gam-drin domestig yn Neddf Cam-drin Domestig 2021 yn nodi ‘nad oes ots a yw’r ymddygiad yn cynnwys un digwyddiad neu gwrs o ymddygiad’.

Ydych chi’n credu y dylai’r diffiniad o CPA gynnwys yr amod ar gyfer ‘patrwm ymddygiad’ neu alinio â’r diffiniad statudol o gam-drin domestig?

  • Dylai’r disgrifiad gynnwys yr amod ar gyfer ‘patrwm ymddygiad’
  • Dylai’r disgrifiad gydfynd â’r Ddeddf Camdrin Domestig a chynnwys digwyddiadau unigol a chwrs ymddygiad
  • Ni ddylai’r disgrifiad nodi’r naill na’r llall ond dylai’r canllawiau sy’n cyd-fynd ag ef nodi’r arlliwiau

Esboniwch eich rhesymau.

b. Mae ymchwil yn awgrymu y gall rhieni neu ofalwyr sy’n teimlo bod angen iddynt addasu eu hymddygiad eu hunain i ddarparu ar gyfer ymddygiad plentyn fod yn arwydd pwysig bod ymddygiad profi ffiniau yn dod yn gamdriniol.

Ydych chi’n credu y dylai’r diffiniad hwn gynnwys rhieni yn addasu eu hymddygiad fel arwydd o ymddygiad camdriniol?

  • Dylai, dylai’r disgrifiad gynnwys rhieni neu ofalwyr yn addasu eu hymddygiad eu hunain i ddarparu ar gyfer ymddygiad plentyn
  • Na ddylai, ni ddylai’r disgrifiad gynnwys rhieni neu ofalwyr yn addasu eu hymddygiad eu hunain i ddarparu ar gyfer ymddygiad plentyn
  • Ni ddylai’r disgrifiad gyfeirio’n benodol at y mater hwn ond dylid ei drafod yn y canllawiau cysylltiedig

Esboniwch eich rhesymau.

9) Mae’r categorïau cam-drin a gynhwysir yn y diffiniad arfaethedig uchod (corfforol neu rywiol, bygythiol, rheoli neu orfodi, seicolegol neu emosiynol, neu economaidd) yn cyd-fynd â’r rhai yn y diffiniad statudol o gam-drin domestig.

a. A oes categorïau eraill sy’n benodol i’r math hwn o gamdriniaeth y dylid eu cynnwys yn y diffiniad?

  • Oes (Nodwch)
  • Nac oes

b. Ydych chi’n teimlo y dylid tynnu unrhyw un o’r categorïau uchod (corfforol neu rywiol, bygythiol, rheoli neu orfodi, seicolegol neu emosiynol, neu economaidd) o ddiffiniad CPA?

  • Ydw (Nodwch)
  • Nac ydw

10) A oes gennych unrhyw sylwadau pellach yr hoffech eu rhannu ar y disgrifiad?