Diwygio Rheoliadau Bara a Blawd 1998 a Rheoliadau Bara a Blawd (Gogledd Iwerddon) 1998
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ceisio eich barn ar gynigion i ddiweddaru a diwygio Rheoliadau Bara a Blawd 1998 a Rheoliadau Bara a Blawd (Gogledd Iwerddon) 1998 sy’n ymdrin â gofynion penodol o ran cyfansoddiad a labelu. Mae’r rheoliadau’n darparu’n bennaf ar gyfer gorfodi ychwanegu maethynnau penodol at flawd gwenith nad yw’n gyflawn er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Fel rhan o’r ymgynghoriad ceir cynigion i wneud rhai addasiadau i’r rheolau hyn, a hefyd gynnwys asid ffolig gyda’r nod o wella canlyniadau iechyd i boblogaeth y Deyrnas Unedig (DU). Ymdrinnir hefyd â chynigion i egluro a symleiddio’r gofynion y bwriedir iddynt gefnogi diwydiant y DU, cynorthwyo awdurdodau gorfodi a diogelu defnyddwyr.