Consultation outcome

Ymgynghoriad ar daliadau diwygiedig ar gyfer y Rhaglen Rheoli Gweddillion Genedlaethol

Updated 27 August 2024

Cyflwyniad

Rhwng 17 Ionawr 2024 a 28 Mawrth 2024, cyhoeddodd y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ymgynghoriad ar y cyd ar daliadau diwygiedig ar gyfer y Rhaglen Rheoli Gweddillion Genedlaethol (NRCP).  Cynhaliwyd yr ymgynghoriad drwy ddefnyddio CitizenSpace, ein hadnodd ymgynghori ar-lein.

Mae’r ddogfen hon yn rhoi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a ddaeth i law ynghyd ag ymateb gan y llywodraeth.

Mae’r dadansoddiad hwn wedi’i seilio ar yr ymatebion ffurfiol i’r ymgynghoriad a gawsom drwy CitizenSpace.  Wrth ddatblygu ymateb y llywodraeth, rydym hefyd wedi ystyried safbwyntiau eraill a fynegwyd gan y rhanddeiliaid mewn trafodaethau eraill.

Cefndir

Mae’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD) yn Asiantaeth Weithredol i’r Adran Bwyd, Amgylchedd a Materion Gwledig (Defra).  Mae’r VMD yn rheoli’r Rhaglen Rheoli Gweddillion Genedlaethol (NRCP), sy’n rhaglen statudol sydd wedi’i chynllunio i helpu i ddiogelu iechyd pobl drwy adnabod gweddillion  anniogel sylweddau gwaharddedig, meddyginiaethau milfeddygol, a halogion mewn cynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid ac sydd wedi’u bwriadu ar gyfer y gadwyn fwyd.  Mae’r NRCP yn helpu i ddiogelu iechyd pobl.  Mae hefyd yn rhoi sicrwydd i bartneriaid masnachu’r Deyrnas Unedig ynghylch ansawdd a diogelwch cynhyrchion sy’n cael eu hallforio ac sy’n deillio o anifeiliaid.  Mae’r rhaglen yn helpu i gynnal masnach ryngwladol sy’n werth rhyw £12 biliwn y flwyddyn i economi’r Deyrnas Unedig.

Mater datganoledig yw’r polisi ar weddillion a gwyliadwriaeth gweddillion ac felly mae’r VMD yn gweithio mewn partneriaeth agos â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban i gyflawni’r NRCP ym Mhrydain Fawr.

Mae’r rhaglen yn gweithredu ar y sail bod y costau llawn yn cael eu hadennill, felly mae gweithredwyr busnesau bwyd ym mhob un o’r sectorau da byw sy’n cymryd rhan ynddi yn cael eu hanfonebu bob blwyddyn.  Ar hyn o bryd mae’r rhaglen yn costio tua £5 miliwn y flwyddyn, a rhagwelir y bydd hyn yn cyrraedd rhyw £8m y flwyddyn erbyn 2028, a hynny oherwydd cynnydd yng nghostau gwasanaethau caffael sy’n angenrheidiol i ddarparu’r rhaglen fel samplu, profi a nwyddau traul.  Heb y diwygiadau arfaethedig i’r costau presennol mae’r cyfranogwyr yn eu talu, rhagwelir y bydd yna ddiffyg o £1.2 miliwn wrth adennill costau’r rhaglen yn y flwyddyn ariannol bresennol, a disgwylir i’r diffyg godi i £3 miliwn y flwyddyn erbyn 2029.

Ar hyn o bryd mae mwy na 500 o gwmnïau ar draws y sectorau amrywiol wedi’u cynnwys yn yr NRCP.

Trosolwg

Nifer yr ymatebion a ddaeth i law

Cafwyd 7 ymateb trwy CitizenSpace (ein hadnodd ymgynghori ar-lein).

Mae rhestr o’r sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad wedi’i nodi isod. Dywedodd 4 o’r ymatebwyr eu bod yn dymuno i’w hymateb gael ei gadw’n gyfrinachol, felly mae enwau eu sefydliadau nhw wedi’u hepgor.

Methodoleg

Rhai ansoddol oedd y prif gwestiynau yn y papur ymgynghori, felly dadansoddiad thematig sydd wedi’i wneud. Dadansoddwyd pob ymateb ddwywaith i nodi’r themâu a godwyd gan yr ymatebwyr a’r argymhellion polisi a gyflwynwyd. Cafodd yr ymatebion i bob cwestiwn eu crynhoi er mwyn llunio’r crynodeb cyffredinol o’r ymatebion isod.

Y prif negeseuon

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cytuno â’n hargymhelliad mai’r dull mwyaf teg o osod y taliadau newydd fyddai seilio’r cyfrifiadau ar faint y cynhyrchion penodol ym mhob sector (gweler opsiwn C isod). Byddai’r dull hwn yn atal rhai sectorau rhag rhoi cymhorthdal croes i eraill yn annheg.  Nodir y taliadau newydd yn Nhabl 1.

Nododd hanner yr ymatebwyr bod yr amgylchedd gweithredu yn anodd i rai lladd-dai bach oherwydd goruchafiaeth y gweithredwyr mawr, gan arwain at brisiau marchnad isel ac elw bach.  Gofynnodd yr ymatebwyr hyn am fwy o dryloywder o ran sut mae eu taliadau penodol yn cael eu cyfrifo, ac am fethodoleg a fyddai’n cymryd maint eu busnes i ystyriaeth.  Roedden nhw hefyd yn teimlo y dylai’r taliadau gael eu talu gan ffermwyr nid y busnesau prosesu bwyd.

Crynodeb o’r ymatebion – fesul cwestiwn

Esboniodd y ddogfen ymgynghori y rhesymau y tu ôl i’r angen i gynyddu taliadau ar gyfer busnesau sy’n rhan o’r NRCP.  Nodwyd y tri opsiwn canlynol gydag argymhelliad o blaid Opsiwn C:

A: gwneud dim.  Byddai’r taliadau’n cael eu cynnal ar y lefelau presennol. Byddai hyn yn peri risg i ddiogelwch bwyd ac i rwymedigaethau masnach ryngwladol.

B: cynnydd cyfradd unffurf o 65% yn y taliadau a gâi ei gymhwyso ar draws pob sector sy’n cymryd rhan yn yr NRCP. Byddai hyn yn peri risg y byddai sectorau’n rhoi cymhorthdal croes i sectorau eraill.

C: cynnydd canran penodol wedi’i deilwra ar gyfer pob sector diwydiant ar sail eu cynllun samplu penodol a’u lefelau cynhyrchu. Gweler Tabl 1

Gofynnodd cwestiwn 1:  I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n hasesiad mai Opsiwn C yw’r dull mwyaf teg o ddiwygio Atodlen 1?

Roedd yn well gan bob ymatebydd Opsiwn C.  Dyma’u prif bwyntiau:

  • mae’n ymddangos mai’r opsiwn hwn oedd y senario lleiaf niweidiol, er y byddai’n well peidio â thalu taliadau ychwanegol o gwbl
  • roedd 30% o’r ymatebwyr yn amau pam roedd y taliadau yn syrthio ar weithredwyr busnesau bwyd yn lle ffermwyr neu gwmnïau tramor a mewnforwyr
  • pwysleisiodd rhai o’r ymatebwyr fod angen mwy o eglurder o ran sut mae taliadau’n cael eu cyfrifo a chanolbwyntio ar werth am arian

Gofynnodd cwestiwn 2: Oes unrhyw ffactorau eraill y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban eu hystyried?

Dyma brif themâu’r ymatebion:

  • gall defnyddio lefelau cynhyrchu hanesyddol y diwydiant fel elfen ar gyfer amcangyfrif taliadau yn y dyfodol fod yn faich annheg ar rai busnesau, yn enwedig os oedd eu cynhyrchiant unigol wedi lleihau’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf
  • gellid gweithredu dull gwyliadwriaeth sy’n seiliedig ar risg – gan flaenoriaethu lleoliadau penodol y gwyddys eu bod yn wynebu risg neu gynhyrchwyr sydd â’r cynhyrchiant mwyaf neu’r rhai y gwyddys eu bod yn defnyddio meddyginiaethau milfeddygol yn rheolaidd
  • angen sicrhau bod partneriaid cyflenwi’r VMD ac asiantaethau casglu yn darparu’r gwerth gorau am eu gwasanaethau

Gofynnodd cwestiwn 3: Pa effaith fyddech chi’n disgwyl i’r cyfraddau diwygiedig ei chael ar faint eich elw chi?

Roedd yr ymatebwyr yn gyffredinol yn cydnabod bod unrhyw gynnydd mewn costau yn effeithio ar elw.  Nododd 65% o’r ymatebwyr y gallai taliadau uwch effeithio’n fwy ar ladd-dai bach am eu bod nhw ar hyn o bryd yn gweithredu mewn amgylchedd economaidd anodd lle mae’r holl gostau eraill hefyd wedi codi – er enghraifft, nodwyd y cynnydd cyffredinol mewn chwyddiant a welwyd dros y 2-3 blynedd diwethaf, ac effaith ddisgwyliedig cynnydd yn yr isafswm cyflog ym mis Ebrill 2024.  Dywedodd yr ymatebwyr hefyd fod cwmnïau bach yn y sector ffermio moch eisoes yn gweithredu ar golled.

Gofynnodd cwestiwn 4: A fyddech chi’n disgwyl amsugno’r gost ychwanegol yma neu ei throsglwyddo i’ch cwsmeriaid?

17. Ddywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr ddim byd penodol am sut y bydden nhw’n rheoli’r costau uwch yn sgil y taliadau newydd.

Response to question Nifer o ymatebwyr
amsugno 1
wn i ddim 3
trosglwyddo 1
Heb ateb 0
arall 0

Gofynnodd cwestiwn 5: sut bydd yr adolygiad yma o ffioedd yn effeithio ar y galw am eich nwyddau a’ch gwasanaethau?

Nododd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr y byddai hyn yn gost ychwanegol i’w busnesau, ac efallai na fyddai modd ei throsglwyddo i gwsmeriaid yn yr amgylchedd gweithredu presennol.  Cododd y themâu ychwanegol canlynol hefyd:

  • bod yna wahaniaeth cost cynyddol rhwng yr un cynhyrchion yn y Deyrnas Unedig a’r UE.  Gallai dull samplu sy’n seiliedig ar risg a gwyliadwriaeth helpu i leihau costau i gynhyrchwyr yn y Deyrnas Unedig
  • awgrymiadau y dylid adennill costau rhaglen yr NRCP trwy drethi ar gynhyrchion cig wedi’u mewnforio (fel cig moch).  Byddai hyn i bob pwrpas yn golygu y byddai cynhyrchwyr tramor yn talu cymhorthdal croes i gynhyrchwyr amaeth a chig yn y Deyrnas Unedig

Ymateb y llywodraeth

Cafodd yr ymgynghoriad ei lansio â datganiad i’r wasg a’i uwchlwytho i CitizenSpace. Fe’i cyhoeddwyd hefyd ar VMD-Connect, ein porth ymgysylltu â rhanddeiliaid arbenigol, ac fe anfonon ni lythyr hefyd at gyfranogwyr yr NRCP.  Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn ddiolchgar am y sylwadau craff ac adeiladol a gafwyd i’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn.  Er bod nifer yr ymatebion a gafwyd yn gyfystyr ag 1% o gyfanswm y cyfranogwyr yn y cynllun, mae’r adborth o safon yn llinyn mesur defnyddiol a bydd yn rhan o drafodaethau polisi am y trefniadau codi tâl ar gyfer yr NRCP yn y dyfodol.  Gall yr ymateb isel fod yn deillio o sawl ffactor, gan gynnwys y ffaith bod y cyfranogwyr, cyn inni ymadael â’r UE, yn tueddu i ymgysylltu â’r NRCP o safbwynt gweithredu a chydymffurfio yn unig, ac yn hanesyddol nad ydynt wedi cael llawer o gydadwaith o ran polisi. Ar ben hynny, hwn fyddai’r cynnydd cyntaf yn nhaliadau’r NRCP ers 2011.  Byddwn yn parhau i ofyn am sylwadau ac ymgysylltu â’r cyfranogwyr i ddeall materion sector-benodol yn well.  Rydym yn annog y rhanddeiliaid yn gryf i barhau â’r sgwrs trwy gysylltu â Thîm Gweddillion y VMD yn [email protected].

Roedd yr ymatebion yn canolbwyntio ar y themâu allweddol canlynol:

  • newid y fethodoleg a ddefnyddir i gyfrifo taliadau i’w gwneud yn fwy pwrpasol ac yn fwy ymatebol i newidiadau yn lefelau cynhyrchu busnesau unigol
  • canolbwyntio ar werth am arian a newid dull y rhaglen wyliadwriaeth i ganolbwyntio ar y sectorau neu’r meysydd sydd â’r risg fwyaf; felly, lleihau’r baich ar gynhyrchwyr mewn meysydd risg isel
  • barn bod yr amgylchedd economaidd presennol yn anodd i fusnesau oherwydd costau gweithredu uwch, llai o elw a chystadleuaeth gyda chynhyrchion wedi’u mewnforio

Cafodd sail ddeddfwriaethol yr NRCP ei nodi yn y papur ymgynghori.  Esboniodd hyn fod ein hymagwedd at wyliadwriaeth gweddillion wedi’i seilio ar gyfateb i’r safonau rhyngwladol, sydd hefyd wedi’u mabwysiadu gan bartneriaid masnachu’r Deyrnas Unedig. Cafodd y safonau hyn eu cymathu yn y ddeddfwriaeth ddomestig, ac o ganlyniad maent yn helpu i gynnal gwerth £12 biliwn o allforion blynyddol o gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid yn y Deyrnas Unedig (£8 biliwn ohonynt ar gyfer marchnad yr UE). Ar hyn o bryd mae cynigion i newid dull gwyliadwriaeth yr NRCP ar weddillion y tu allan i rychwant yr ymarfer ymgynghori presennol a byddai angen casglu tystiolaeth gadarn i sicrhau bod yr NRCP yn dal i fodloni’r safonau a sefydlwyd i ddiogelu iechyd pobl. Er hynny, mae’r llywodraeth wedi nodi adborth y diwydiant, a bydd yn bwydo hyn i mewn i gynlluniau ehangach i adolygu’r NRCP.

Mae’r llywodraeth yn nodi’r sylwadau am yr amgylchedd gweithredu anodd y mae busnesau’n ei wynebu, a’r costau uwch.  Y ffactorau hyn sydd wedi arwain at yr angen inni ddiwygio’r taliadau ar gyfer yr NRCP am y tro cyntaf ers 2011.  Mae’r VMD yn gweithio’n barhaus gyda’n partneriaid cyflenwi ac arbenigwyr masnachol i fonitro ac archwilio’r NRCP i sicrhau gwerth am arian.  Mae unrhyw arbedion cost yn cael eu trosglwyddo ar unwaith i’r busnesau yn yr NRCP, ac mae hyn yn esbonio’n rhannol ein bod wedi llwyddo i atal unrhyw gynnydd ers 2011.  Nid yw rheolau Trysorlys EF ar reoli arian cyhoeddus yn caniatáu i’r VMD wneud unrhyw elw na’i gadw.

Fel y nodwyd yn y papur ymgynghori, mae ein rhagolygon ariannol yn dangos bod y costau’n debygol o barhau i godi yn y blynyddoedd i ddod.  Mae’r VMD yn cynnig cynyddu taliadau ar 1 Hydref 2024 ac ar 1 Ebrill 2025 i’n galluogi i sicrhau bod yr NRCP unwaith eto yn adennill y costau llawn wrth inni ystyried opsiynau a methodolegau codi tâl yn y dyfodol.  Ein bwriad yw parhau i fonitro sut mae’r cynllun yn gweithredu a chyflwyno ymgynghoriad cyhoeddus pellach os bydd angen newidiadau eraill.

Fel yr esboniwyd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus, bydd y VMD, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth angenrheidiol ar wahân er mwyn diweddaru’r ffioedd yn unol ag opsiwn C yn y papur ymgynghori ac a nodir isod yn Nhabl 1.

Atodiad 1 – Rhestr o’r sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad

Nid yw rhai o’r ymatebwyr i’w gweld ar y rhestr hon gan eu bod wedi gofyn i’w hymatebion gael eu cadw’n gyfrinachol. Er hynny, mae eu barn nhw yn dal i fwydo’n dadansoddiad o’r ymgynghoriad hwn ac maent wedi’u hymgorffori yn y ffigurau a gyflwynir drwyddi draw.  Cyflwynir y rhestr ganlynol yn nhrefn yr wyddor.

  • Cymdeithas Milfeddygon Moch
  • J&E MEDCALF
  • Pickstock Foods Ltd
  • Salmon Scotland

Pob ymatebydd

Math o ymatebydd Nifer o ymatebwyr
Unigolion 1
Diwydiant 4

Lleoliad yr ymatebwyr

Lleoliad yr ymatebwyr Nifer o ymatebwyr
Lloegr 3
Yr Alban 1
Cymru 1

Tabl 1: newidiadau yn Atodlen 1

Math o anifail neu gynnyrch anifeiliaid Rheoliadau Taliadau  am Wyliadwriaeth Gweddillion (Diwygio) 2011 (£) Taliadau arfaethedig (£) yn 2024 - 2025 Cynnydd gwirioneddol (£) Taliadau arfaethedig (£) yn 2025 - 2026 Cynnydd gwirioneddol (£)
Buchol 0.5106 y carcas 0.7007 y carcas 0.1901 y carcas 0.7617 y carcas 0.0610 y carcas
Gafr 0.0507 y carcas 0.0691 y carcas 0.0184 y carcas 0.0751 y carcas 0.0060 y carcas
Dafad 0.0507 y carcas 0.0691 y carcas 0.0184 y carcas 0.0751 y carcas 0.0060 y carcas
Anifeiliaid carngaled 0.3536 y carcas 0.4287 y carcas 0.0751 y carcas 0.4660 y carcas 0.0373 y carcas
Moch 0.0543 y carcas 0.0676 y carcas 0.0133 y carcas 0.0735 y carcas 0.0059 y carcas
Cig hela a chig hela wyllt 1.0461 y dunnell 1.0461 y dunnell 0 y dunnell 1.0461 y dunnell 0 y dunnell
Dofednod 0.5568 y dunnell 0.5917 y dunnell 0.0349 y dunnell 0.6432 y dunnell 0.0515 y dunnell
Wyau 0.0179 y cas o 360 (32,345 y chwarter) 0.0206 y cas o 360 (37,197 y chwarter) 4,852 y chwarter 0.0206 y cas o 360 (37,197 y chwarter) 0
Llaeth 0.0276 y 1000 litr 0.0373 y 1000 litr 0.0097 y 1000 litr 0.0405 y 1000 litr 0.0032 y 1000 litr
Pysgod heblaw brithyllod 2.1265 y dunnell o gynnyrch wedi’i farchnata 2.1660 y dunnell o gynnyrch wedi’i farchnata 0.0395 y dunnell o gynnyrch wedi’i farchnata 2.3546 y dunnell o gynnyrch wedi’i farchnata 0.1885 y dunnell o gynnyrch wedi’i farchnata
Brithyllod 1.6840 y dunnell o fwyd pysgod 2.5963 y dunnell o fwyd pysgod 0.9123 y dunnell o fwyd pysgod 2.8222 y dunnell o fwyd pysgod 0.2260 y dunnell o fwyd pysgod