Consultation outcome

Crynodeb o'r ymatebion

Updated 23 January 2024

Cefndir

Mae maes polisi Amrywogaethau a Hadau Planhigion (PVS) yn cynnwys:

  • hawliau dros amrywogaethau planhigion (hawliau eiddo deallusol bridwyr planhigion)
  • cofrestru amrywogaethau planhigion (sydd yn aml yn cael ei alw’n rhestru amrywogaethau)
  • gosod safonau ar gyfer marchnata ac ardystio hadau a deunydd lluosogi planhigion eraill a sicrhau bod y safonau hyn yn cael eu cynnal

Mae Defra, Llywodraeth Cymru, DAERA a Llywodraeth yr Alban yn cydweithio i ddatblygu strategaeth PVS y Deyrnas Unedig. Rydym yn bwriadu i’r strategaeth osod cyfeiriad ar gyfer maes PVS a darparu fframwaith cyffredinol i ategu blaenoriaethu’r llywodraeth a’r diwydiant.

Trwy’r gwaith hwn, mae gan y llywodraeth a’r diwydiant gyfle i gydweithio i nodi gweledigaethau, blaenoriaethau a chamau cyffredin. Bydd yn gyfle i randdeiliaid amaethyddol a garddwriaethol ddweud eu dweud a bod yn rhan o ffurfio dyfodol y sector.

Fel cam cyntaf, lansiodd y llywodraeth alwad am syniadau ym mis Medi 2022. Yn ystod y cam cynnar hwn, gwahoddwyd cyfraniadau o bob rhan o’r diwydiant i fwydo’n strategaeth.

Rhoddodd yr alwad hon am syniadau gyfle i’r rhanddeiliaid:

  • rhoi sylwadau ar ein datganiadau arfaethedig o ‘weledigaethau’ a ‘deilliannau’
  • rhoi syniadau i helpu i gyflawni’n canlyniadau a ddymunir
  • rhoi gwybod i Defra a’r gweinyddiaethau datganoledig sut yr hoffai’r ymatebwyr fod yn rhan o ddatblygu’r strategaeth PVS wrth symud ymlaen

Daeth cyfanswm o 56 o ymatebion i law, ac mae’r ddogfen hon yn rhoi crynodeb o’r ymatebion hynny. Yn y crynodeb hwn, mae’r ymatebion yn cael eu trin yn gyfartal waeth beth fo’r math o ymatebydd (sy’n golygu nad yw’r ymatebion wedi’u pwysoli). Nid yw’r crynodeb hwn o’r ymatebion yn rhestr gynhwysfawr o’r holl bwyntiau a godwyd, ond mae’n cynnig y sylwadau mwyaf cyffredin. Mae canlyniadau’r ymgynghoriad hwn yn gynrychioliadol unig o’r rhai a ymatebodd iddo yn unig.

Canfyddiadau

Datganiadau o’r gweledigaethau ar gyfer PVS

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud a oedd y datganiadau gweledigaeth a ganlyn yn cwmpasu’r set gywir o swyddogaethau blaenoriaeth ar gyfer maes polisi PVS.

Gweledigaeth 1

Caniatáu sector bridio planhigion ffyniannus a deinamig sy’n gallu ateb heriau a chyfleoedd byd sy’n newid.

Gweledigaeth 2

Cynnal safonau cymesur ynglŷn ag ansawdd a marchnata ar gyfer hadau a deunyddiau lluosogi eraill i sicrhau marchnad fewnol sy’n gweithio’n dda.

Gweledigaeth 3

Cynnal a gwella enw da byd-eang y Deyrnas Unedig mewn safonau bridio a marchnata planhigion.

Ffigur 1: Ydy’r datganiadau o’r weledigaeth yn ymdrin â’r set gywir o swyddogaethau blaenoriaeth ar gyfer maes polisi PVS

Ymateb % o’r ymatebwyr (wedi’i dalgrynnu)
 Cytuno  42%
 Cytuno u raddau  25%
 Anghytuno  28%
 Dim ateb clir  6%

Er bod y mwyafrif o’r ymatebion yn cytuno neu’n cytuno i raddau fod y swyddogaethau blaenoriaeth cywir wedi’u cynnwys, rhannodd sawl ymatebydd feysydd blaenoriaeth o ddiddordeb roedden nhw’n credu eu bod yn eisiau neu fod angen ehangu arnynt, ac mae’r rhain wedi’u categoreiddio. Gallai un ymatebydd godi nifer o gategorïau o fewn eu hymateb.

I’w nodi: oherwydd natur amrywiol y cwestiynau barn agored, cafodd yr ymatebion eu crynhoi’n gategorïau deilliadol (Cytuno, Cytuno i raddau neu Anghytuno) sy’n agored i oddrychedd. Gan hynny, defnyddiwch y data hwn yn ofalus.

Ffigur 2: Canran yr ymatebwyr yn codi maes blaenoriaeth y bernid ei fod yn eisiau yn y datganiadau o’r weledigaeth ar gyfer PVS

Ymateb % o’r ymatebwyr (wedi’i dalgrynnu)
Amrywogaethau gwydn o blanhigion      20%
Newid hinsawdd      18%
Masnach a chydweithredu rhyngwladol      16%
Diogelwch bwyd      16%
Cynnwys y rhanddeiliaid (pob lefel o’r diwydiant)      14%
Costau cofrestru cynyddol      13%
Bioamrywiaeth      11%
Cadw amrywogaethau treftadaeth genetig      9%
Hawliau eiddo deallusol      7%
Hadau heterogenaidd      7%
Rheoleiddio GMOs (organebau wedi’u haddasu’n enetig)     7%
Ansawdd bwyd      5%
Hadau wedi’u harbed ar y fferm 4%

Y prif feysydd blaenoriaeth yr oedd yr ymatebwyr eisiau i’r datganiadau o’r weledigaeth ar gyfer PVS eu disgrifio oedd amrywogaethau gwydn o blanhigion (20%), newid yr hinsawdd (18%), masnach ryngwladol a Chydweithredu (16%) a diogelwch bwyd (16%).

Yn ychwanegol, roedd 23% o’r ymatebwyr yn credu bod y datganiadau o’r weledigaeth ar gyfer PVS a awgrymwyd gennym yn rhy amwys.

Roedd rhai sylwadau hefyd yn canolbwyntio ar eiriad y datganiadau o’r weledigaeth ar gyfer PVS. Yn benodol, nodwyd bod angen arddull gyfathrebu ‘iaith glir’, yn ceisio bod yn glir ac yn hawdd ei ddeall (hyd yn oed os nad yw’r darllenydd yn gyfarwydd â’r maes pwnc).

Datganiadau o ddeilliannau PVS

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud a oedd unrhyw beth pwysig ar goll o’r datganiadau deilliant arfaethedig a ganlyn.

Deilliant 1

System sy’n ateb pob un o amcanion llywodraethau’r Deyrnas Unedig nawr ac yn y dyfodol gan gynnwys ar yr amgylchedd, newid hinsawdd a diogelwch bwyd.

Deilliant 2

Safonau a chynlluniau rhyngwladol sy’n adlewyrchu blaenoriaethau cyffredin y Deyrnas Unedig.

Deilliant 3

Bod y Deyrnas Unedig yn cael ei gweld fel opsiwn deniadol a sefydlog i ddatblygu amrywogaethau newydd o blanhigion i’r farchnad a dod â nhw i’r farchnad.

Deilliant 4

Trefn reoleiddio dryloyw a hygyrch sy’n adlewyrchu’r angen i ymyrryd yn y farchnad mewn gwahanol sectorau.

Deilliant 5

System gyflenwi ymatebol, sy’n gallu addasu i fentrau newydd mewn bridio a masnachu planhigion, gan ddarparu gwasanaethau effeithlon sy’n rhoi gwerth am arian.

Deilliant 6

Gweithio mewn partneriaeth â’r rhanddeiliaid ar ddatblygu a chyflwyno polisïau a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i rannu cyfrifoldebau.

Rhannodd yr ymatebwyr eu barn ar ba feysydd blaenoriaeth yr oedden nhw’n credu eu bod yn eisiau neu yr oedd angen ehangu arnynt, ac mae’r rhain wedi’u categoreiddio. Gallai un ymatebydd godi nifer o gategorïau o fewn eu hymateb.

Ffigur 3: Canran yr ymatebwyr yn codi maes blaenoriaeth y bernid ei fod yn eisiau yn y datganiadau ar ddeilliannau PVS

Maes blaenoriaeth                                     % o’r ymatebwyr (wedi’i dalgrynnu)
Prosesau cofrestru neu reoleiddio y Deyrnas Unedig ar gyfer PBR (Hawliau Bridwyr Planhigion) a VL (rhestru amrywogaethau) 29%
Masnach ryngwladol a Chydweithredu 21%
Cynnwys y rhanddeiliaid (pob lefel o’r diwydiant) 21%
Amrywogaethau gwydn o blanhigion 18%
Ysgogi arloesedd neu ymchwil 13%
Hadau heterogenaidd 13%
Bioamrywiaeth 13%
Newid hinsawdd 11%
Cadw amrywogaethau treftadaeth genetig 9%
Hawl i gadw hadau (FSS) 7%
Rheoleiddio GMOs 7%
Diogelwch bwyd 5%

Dyma’r themâu amlaf y dywedodd yr ymatebwyr eu bod yn eisiau yn y deilliannau:

  • ‘Prosesau cofrestru neu reoleiddio y Deyrnas Unedig ar gyfer PBR a VL’ yw’r prif fater ar gyfer y datganiadau deilliannau ac fe’i crybwyllir yn aml yng nghyd-destun symleiddio gweithdrefnau ardystio hadau
  • Soniwyd yn aml am ‘gynnwys y rhanddeiliaid’ yng nghyd-destun busnesau a bridwyr llai sydd eisiau mwy o gynrychiolaeth. Yn ychwanegol, mae awydd am amserlenni prosiect clir sy’n hygyrch i’r cyhoedd
  • Soniwyd yn aml am ‘fasnach a chydweithredu rhyngwladol’ yng nghyd-destun gwneud masnach ryngwladol, gan gynnwys gyda’r UE, yn symlach

Crynodeb o’r syniadau ar gyfer datganiadau deilliannau PVS

Gofynnwyd i’r ymatebwyr roi syniadau a fyddai’n cyfrannu at gyflawni’r datganiadau deilliannau arfaethedig. Nodwyd themâu penodol ar gyfer pob deilliant.

Nodwyd y rhain drwy grynhoi syniadau cyffredin a rannwyd gan yr ymatebwyr neu drwy dynnu sylw at syniadau unigryw sy’n berthnasol iawn i’r datganiadau o’r deilliannau.

Prosesau cofrestru neu reoleiddio y Deyrnas Unedig ar gyfer PBR a VL

Byddai prosesau cofrestru neu reoleiddio y Deyrnas Unedig ar gyfer PBR a VL yn cyfrannu at y deilliannau drwy wneud y canlynol:

  • gwneud rheoleiddio yn gymesur â maint busnesau, proffil risg, a phwysigrwydd economaidd
  • symleiddio’r broses gofrestru
  • cofrestru amrywogaethau heterogenaidd
  • creu mwy o hawliau IP fforddiadwy

Masnach Ryngwladol a Chydweithredu

Byddai masnach ryngwladol a chydweithredu yn cyfrannu at y deilliannau drwy wneud y canlynol:

  • cysoni safonau rheoleiddio i ddatrys materion mewnforio ac allforio
  • atal marchnad y Deyrnas Unedig rhag cael ei hynysu
  • cynyddu mynediad at amrywogaethau o hadau o’r UE

Cynnwys y rhanddeiliaid

Byddai cynnwys y rhanddeiliaid (pob lefel o’r diwydiant) yn cyfrannu at y deilliannau drwy wneud y canlynol:

  • creu grwpiau llywio (gweithdai) gyda chynrychiolwyr o’r diwydiant
  • canolbwyntio ar gynnwys rhanddeiliaid llai
  • creu amserlenni prosiect clir a hygyrch i’r cyhoedd

Cymell arloesedd ac ymchwil

Byddai cymell arloesi ac ymchwil yn cyfrannu at y deilliannau drwy wneud y canlynol:

  • buddsoddi mewn technolegau ardystio newydd (er enghraifft data dilyniannau ffenoteipig a genomig modern)
  • agor arian cyhoeddus i randdeiliaid bach (er enghraifft treialon amrywogaethau ar y fferm)

Ymwneud  â chyrff rhyngwladol

Byddai ymwneud â chyrff rhyngwladol yn cyfrannu at y deilliannau drwy wneud y canlynol:

  • cymryd rhan mewn cyrff rhyngwladol fel UPOV (Undeb Diogelu Amrywogaethau), WIPO (Sefydliad Eiddo Deallusol y Byd) ac Ymddiriedolaeth Amrywogaethau Cnydau Byd-eang
  • cynyddu eglurder ynghylch blaenoriaethau cyffredin y cytunir arnynt

Dewisiadau ymgysylltu’r rhanddeiliaid

Sut hoffai’r rhanddeiliaid ymgysylltu â datblygu’r strategaeth PVS yn y dyfodol?

Cyflwynwyd y cwestiwn hwn fel un amlddewis gyda’r opsiwn o gynnig sylwadau ychwanegol i esbonio’r ymateb. Sylwch y gallai un ymatebydd ddewis mwy nag un dull ymgysylltu a ffefrid.

Ffigur 4: Sut hoffai’r ymatebwyr ymgysylltu â’r broses o ddatblygu’r strategaeth?

Ymateb % o’r ymatebwyr (wedi’i dalgrynnu)
Ymatebion ysgrifenedig 73%
Cyfarfodydd i grwpiau ehangach o randdeiliaid 70%
Arall 13%
Byddai’n well gen i pe na baech chi’n cysylltu â mi 2%

Y ddau brif ddewis ar gyfer ymgysylltu yw ‘ymatebion ysgrifenedig’ a ‘chyfarfodydd i grwpiau ehangach o randdeiliaid’. Un cais cyffredin ymhlith yr ymatebwyr oedd cynnal gweithdai wedi’u teilwra i gynulleidfa benodol, yn ogystal â chyflwyniadau gweminar gyda sesiwn holi ac ateb.

Roedd y categori ‘Arall’ yn fodd i’r ymatebwyr wneud awgrymiadau pellach, ac roedd y rhain yn cynnwys ceisiadau am ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol, defnyddio fforymau presennol y rhanddeiliaid a rhagor o waith ymgynghori.

Dim ond 2% o’r ymatebwyr a ddewisodd beidio â chynnwys eu hunain ymhellach a gofyn inni beidio â chysylltu â nhw.

Byddwn yn ystyried yr ymatebion hyn wrth ddylunio cam nesaf y gwaith ymgysylltu â’r diwydiant ynghylch y strategaeth PVS.

Y camau nesaf

Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad hwn yn cael eu gwerthuso gan Defra, Llywodraeth Cymru, DAERA a Llywodraeth yr Alban.

Datblygu’r strategaeth PVS ymhellach

Rydym yn ddiolchgar am yr adborth ar ein syniadau cychwynnol, y byddwn yn eu hystyried wrth inni barhau i ddatblygu’r strategaeth PVS ymhellach.

Rydym yn bwriadu cynnal cyfres o weithdai ar themâu penodol i’r rhanddeiliaid yn 2024. Nid yw’r logisteg a’r amseriadau ar gyfer y gweithdai hyn wedi’u gosod eto, ond darperir rhagor o wybodaeth yn fuan.

Bydd ymgynghoriad pellach hefyd yn cael ei lansio ar gynigion manylach cyn i’r strategaeth PVS gael ei chwblhau a’i chyhoeddi.

Manylion cysylltu

Os na wnaethoch ymateb i’r alwad am syniadau ond yr hoffech inni gysylltu â chi ynghylch datblygu’r strategaeth PVS ymhellach neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ychwanegol, cysylltwch â [email protected]