Consultation outcome

Police Covenant for England and Wales (Welsh) (accessible version)

Updated 11 August 2021

This was published under the 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Applies to England and Wales

Mae’r ymgynghoriad yn dechrau ar 26 Chwefror 2020.

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 22 Ebrill 2020.

Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn

I: Mae’r ymgynghoriad hwn yn agored i’r cyhoedd.

Bydd gennym ddiddordeb penodol mewn clywed gan swyddogion yr heddlu ac aelodau staff yr heddlu mewn swydd a blaenorol, yn ogystal â’u teuluoedd a’r cyhoedd.

Hyd: O 26 Chwefror 2020 hyd 22 Ebrill 2020.

Ymholiadau (yn cynnwys ceisiadau i gael y papur ar ffurf amgen) at:

Cyfamod yr Heddlu
Uned Gweithlu a Phroffesiynoldeb yr Heddlu
Y Swyddfa Gartref
6th Floor, Fry Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF

E-bost: [email protected]

Sut i ymateb: Anfonwch eich ymateb erbyn 22 Ebrill 2020 at:

E-bost: [email protected]

Os na allwch ddefnyddio’r system ar-lein, er enghraifft am eich bod yn defnyddio meddalwedd hygyrchedd arbenigol nad yw’n gydnaws gyda’r system, gallwch lawrlwytho fersiwn dogfen Word o’r ffurflen a’i hanfon mewn e-bost neu ei phostio at:

Cyfamod yr Heddlu
Uned Gweithlu a Phroffesiynoldeb yr Heddlu
Y Swyddfa Gartref
6th Floor, Fry Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF

E-bost: [email protected]

Os na allwch chi gael mynediad at fersiwn electronig o’r ddogfen, ysgrifennwch at y cyfeiriad uchod ac fe ddarperir copi papur.

Papur ymateb: Disgwylir i ymateb i’r ymarfer ymgynghori hwn gael ei gyhoeddi ar wefan y Swyddfa Gartref.

Rhagair gan yr Ysgrifennydd Cartref

Fel Ysgrifennydd Cartref, mae dewrder, aberth ac ymroddiad ein heddlu rhagorol yn drawiadol iawn. Maent yn rhedeg tuag at berygl ac yn cadw’r cyhoedd yn ddiogel; yn peryglu eu bywydau eu hunain i’n diogelu ni oll.

Pwysleisiodd marwolaeth drasig PC Andrew Harper y llynedd y risgiau erchyll a chyson mae ein swyddogion dewr yn wynebu wrth wneud dim mwy na’u swyddi. Mae eraill dan bwysau difesur wrth iddynt ein diogelu rhag troseddwyr profiadol ac elfennau gwaethaf dynoliaeth. Gall y straen chwalu eu teuluoedd.

Mae gormod o swyddogion yn talu’r prif am eu hymroddiad anhygoel i ddyletswydd gyhoeddus. Maent wir yn weision cyhoeddus, yn gwneud gwaith rhagorol dan amgylchiadau neilltuol. Maent yn haeddu’r parch, cefnogaeth ac amddiffyniad mwyaf, ac rwy’n benderfynol y byddaf yn gwneud popeth posibl i’w cadw’n ddiogel ac i wneud eu bywydau’n haws.

Dyna pam fy mod wedi cynyddu cynlluniau i gyflwyno Cyfamod yr Heddlu er mwyn gwarchod hawliau’r rhai sy’n gwasanaethu ar ein heddluoedd. Mae’r Cyfamod yn addewid i wneud mwy i gydnabod y gwasanaeth ac aberth ein heddlu ac i ddarparu’r gefnogaeth ymarferol bwysig y maent angen.

Gall yr heriau dyddiol a’r peryglon mae’n heddlu’n wynebu gael effaith ddifrifol ar bob agwedd o’u bywydau. Mae’r ymgynghoriad hwn yn holi beth arall allwn ni ei wneud i helpu eu diogelu rhag ymosodiadau ac i hybu eu llesiant. Pan fydd swyddog yn dioddef, yn aml eu teuluoedd sy’n ymateb i’r sefyllfa, felly byddwn hefyd yn edrych ar beth arall allwn ni ei wneud i gefnogi eu hanwyliaid.

Fel Ysgrifennydd Cartref, fy nghennad yw darparu’r strydoedd mwy diogel mae pobl eisiau. Dim ond trwy gefnogi a grymuso ein heddlu rhagorol i wneud eu gwaith allwn ni gyflawni hyn. Mae ganddynt fy nghefnogaeth lawn a diysgog.

Mae ein heddlu yn ymgorffori dyletswydd gyhoeddus - yn wynebu perygl yn ddyddiol fel nad oes rhaid i ni - ac rwy’n gwrthod caniatáu iddynt dalu’r pris am hynny.

Edrycha’r ymgynghoriad ar sut allwn ni sicrhau bod Cyfamod yr Heddlu yn newid eu swyddi a’u bywydau er gwell ac yn darparu tawelwch meddwl i’w teuluoedd. Rwy’n annog pawb, yn arbennig y rhai sy’n gysylltiedig i’r gwasanaeth, i ymateb a rhoi gwybod i ni sut allwn ni ddarparu Cyfamod sy’n wirioneddol gweithio i’n heddlu hynod.

Y Gwir Anrhydeddus Priti Patel AS

Ysgrifennydd Cartref

Cyflwyniad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barnau ar yr egwyddor o weithredu Cyfamod yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr, i hybu cefnogaeth ar gyfer yr heddlu a’u teuluoedd. Bydd yn edrych ar y themâu o:

  • Diogelu corfforol;
  • Iechyd a lles;
  • Cefnogaeth i deuluoedd.

Bydd hefyd yn ystyried cwmpas y Cyfamod a phwy ddylid eu cynnwys.

Mae’r ymgynghoriad wedi ei anelu at y rhai sy’n gwasanaethu gyda’r heddlu, y rhai sydd wedi gwneud yn flaenorol, eu teuluoedd ac unrhyw grwpiau gyda diddordeb mewn cefnogi’r heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Hoffem glywed gan unrhyw un sydd wedi eu heffeithio, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, gan effaith gwaith plismona ac i glywed beth arall ellir ei wneud i helpu.

Mae’r cwestiynau yn cynnwys sut ddylid cydnabod swyddogion yn gyhoeddus am eu dewrder a gwaith, a beth allwn ni wneud i ysgafnhau eu baich.

Mae copïau o’r papur ymgynghori yn cael eu hanfon at:

  • Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu
  • Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
  • Y Coleg Plismona
  • Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr
  • Cymdeithas Uwch-arolygyddion yr Heddlu
  • Cymdeithas Staff Prif Swyddogion yr Heddlu
  • Cymdeithas Genedlaethol Swyddogion yr Heddlu wedi Ymddeol
  • Cymdeithas yr Heddlu Anabl

Serch hynny, nid bwriad y rhestr hon yw bod yn hollgynhwysol nac yn unigryw a chroesawir ymatebion gan unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc a drafodir yn y papur hwn neu â diddordeb ynddo.

Y cynigion

Mae’r adran hon yn sefydlu ein cynigion ar gyfer Cyfamod yr Heddlu ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’n archwilio’r rhesymau dros gael Cyfamod ac yn ystyried beth fyddai’n addas i’w gynnwys.

Pam ein bod angen Cyfamod yr Heddlu?

Mae’r heddlu yn gwneud gwaith unigryw a hynod er gwaethaf heriau a phwysau enfawr. Mae’r Llywodraeth wedi cynnig cynlluniau ar gyfer Cyfamod yr Heddlu, wedi ei ddiogelu dan gyfraith, i gydnabod hyn ac i ddarparu’r amddiffyn a chefnogaeth maent yn ei haeddu.

Y llynedd, amlygodd Adolygiad Rheng Flaen y Swyddfa Gartref bryderon swyddogion a staff yr heddlu a’r angen i wneud mwy i’w helpu.

Nododd yr Adolygiad amrediad eang o faterion, yn cynnwys:

  • Swyddogion rheng flaen, staff a gwirfoddolwyr yn teimlo heb eu gwerthfawrogi gan y system blismona ehangach;
  • Diffyg cyswllt rhwng y rheng flaen ac uwch swyddogion/penderfynyddion cenedlaethol;
  • Amheuaeth ynghylch mesurau llesiant, ac awydd i weld gweithredu ystyrlon gydag effaith barhaus.

Roedd hyn yn amlygu angen am weithredu brys i sicrhau bod yr heddlu wedi eu cefnogi a gwerthfawrogi’n llawn. Dygwyd pecyn o fesurau uniongyrchol ymlaen mewn ymateb, ond mae’r Llywodraeth wedi parhau i chwilio am ffyrdd i wella lles yr heddlu a delio â’r pryderon hyn.

Cyflwyno Cyfamod yr Heddlu yw’r cam nesaf ar y daith hon i ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr, ystyrlon a pharhaus i swyddogion.

Byddai Cyfamod yr Heddlu yn adeiladu ar waith presennol i wella llesiant ac i annog a gorfodi darparu cefnogaeth uwch. Mae ar wahân i unrhyw benderfyniadau a phrosesau o ran cyflog ac amodau a darpariaethau pensiwn.

Mae hyn yn dilyn llwyddiant wrth gyflwyno Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012. Bwriad y Cyfamod hwn oedd delio â materion yr oedd aelodau’r lluoedd arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd yn wynebu o ganlyniad i’w gwasanaeth.

Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Cyfamod y Lluoedd Arfog Cyfamod Parhaus Rhwng Pobl y Deyrnas Unedig Llywodraeth Ei Mawrhydi a Phawb sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y Goron A’u Teuluoedd. Dyletswydd gyntaf Llywodraeth yw amddiffyn y deyrnas. Mae ein Lluoedd Arfog yn cyflawni’r cyfrifoldeb yma ar ran y Llywodraeth, gan aberthu rhai o’u rhyddidau fel dinasyddion, yn wynebu perygl ac, weithiau, yn dioddef anaf difrifol neu farwolaeth o ganlyniad i’w dyletswydd. Mae teuluoedd hefyd yn chwarae rôl allweddol o ran cefnogi effeithiolrwydd gweithredol ein Lluoedd Arfog. Yn gyfnewid, mae gan y genedl gyfan rwymedigaeth foesol i aelodau’r Gwasanaeth Llyngesol, y Fyddin a’r Awyrlu Brenhinol, ynghyd a’u teuluoedd. Maent yn haeddu ein parch a chefnogaeth, a thriniaeth deg. Ni ddylai’r rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, p’un ai’n rheolaidd neu Adfyddin, y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol, a’u teuluoedd, wynebu unrhyw anfantais o gymharu â dinasyddion eraill o ran darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus a masnachol. Mae ystyriaeth arbennig yn briodol mewn rhai achosion, yn arbennig i’r rhai sydd wedi rhoi’r mwyaf fel yr anafedig a rhai mewn profedigaeth. Mae’r rhwymedigaeth yma yn cwmpasu cymdeithas gyfan: mae’n cynnwys cyrff gwirfoddol ac elusennol, sefydliadau preifat a gweithredoedd unigolion o ran cefnogi’r Lluoedd Arfog. Mae cydnabod y rhai sydd wedi cyflawni dyletswyddau milwrol yn uno’r wlad ac yn arddangos gwerth eu cyfraniad. Nid oes gwell mynegiant o hyn nag i gynnal y Cyfamod hwn.

Nod Cyfamod y Lluoedd Arfog yw sicrhau nad yw’r rhai sy’n gwasanaethu gyda’r Lluoedd Arfog yn dioddef unrhyw anfantais o ganlyniad i’w aberthau. Rydym nawr yn bwriadu gwneud yr un peth i swyddogion yr heddlu sy’n gwasanaethu’r cyhoedd yn y frwydr yn erbyn trosedd.

Mae’r materion a wynebir wrth blismona yn wahanol iawn i’r rhai mae aelodau’r Lluoedd Arfog yn delio â nhw. Fodd bynnag, mae’r egwyddor sylfaenol o addewid i sicrhau y rhoddir cefnogaeth i weithlu unigryw sy’n wynebu heriau unigryw wrth iddynt wasanaethu’r cyhoedd yr un fath.

Byddem yn croesawu ymatebion i’r cwestiynau canlynol a sefydlir yn y papur ymgynghori hwn.

Mae’r cwestiynau’n archwilio’r cwmpas ac egwyddorion posibl, yn ogystal â geiriad y Cyfamod.

C1. I ba raddau ydych chi’n cytuno y byddai’n fuddiol i gael Cyfamod yr Heddlu?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C2. Esboniwch eich ateb.






C3. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y byddai’n fuddiol i’r Cyfamod gael ei gorffori mewn deddfwriaeth?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C4. Esboniwch eich ateb.






Byddem yn croesawu eich barnau ar gynnwys y Cyfamod. Rydym wedi sefydlu gweledigaeth ar gyfer Cyfamod yr Heddlu yn cydnabod dewrder ac ymroddiad y rhai sy’n gweithio dydd a nos i’n cadw’n ddiogel. Ein bwriad yw ffocysu ar ddiogelu corfforol, iechyd a lles a chefnogaeth i deuluoedd.

Drafft - Cyfamod yr Heddlu

Mae’r Cyfamod hwn yn cydnabod a gwerthfawrogi’r aberthau a wneir gan y rhai sy’n gwasanaethu neu wedi gwasanaethu yn ein Heddluoedd, neu’n dal swydd Cwnstabl Gwirfoddol. Bwriedir iddo sicrhau nad ydyn nhw a’u teuluoedd dan anfantais o ganlyniad i’r ymroddiad hwnnw ac i geisio lliniaru’r effaith ar fywyd dydd i ddydd. Mae’r cyfamod yn cydnabod nad yw swyddogion yr heddlu yn gyflogeion, ond yn hytrach yn dal swydd cwnstabl, sydd â lefel uchel o atebolrwydd a chyfrifoldeb personol ynghlwm i’w rôl i wneud cymunedau’n fwy diogel trwy gynnal y gyfraith yn deg a chadarn; atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol; cadw’r heddwch; diogelu a sicrhau cymunedau; ymchwilio i droseddau a dod â throseddwyr i gyfiawnder. Rhaid iddynt hefyd ddilyn cod moeseg sy’n sefydlu’r safonau ymddygiad uchel disgwyliedig gan bawb sy’n gweithio mewn plismona yng Nghymru a Lloegr, ar ddyletswydd neu beidio. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn ymestyn i gyrff gwirfoddol ac elusennol, sefydliadau preifat a gweithredoedd unigolion o ran cefnogi’r heddluoedd. Mae cydnabod y rhai sydd wedi cyflawni dyletswyddau plismona yn uno’r wlad ac yn arddangos gwerth eu cyfraniad. Nid oes gwell mynegiant o hyn nag i gynnal y Cyfamod hwn.

C5. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno fod y Cyfamod drafft uchod yn cynrychioli eich disgwyliadau?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C6. Esboniwch eich ateb ac/neu awgrymu geiriad amgen.






C7. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y byddai’n fuddiol i’r Cyfamod ffocysu ar ddiogelu corfforol?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C8. Esboniwch eich ateb.






C9. Beth mae diogelu corfforol yn ei olygu i chi yng nghyd-destun plismona?






C10. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y byddai’n fuddiol i’r Cyfamod ffocysu ar iechyd a lles?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C11. Esboniwch eich ateb.






C12. Beth mae iechyd a lles yn ei olygu i chi yng nghyd-destun plismona?






C13. I ba raddau ydych chi’n meddwl y dylai’r Cyfamod gynnwys cefnogaeth i deuluoedd?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C14. Esboniwch eich ateb.






C15. Beth mae cefnogaeth i deuluoedd yn ei olygu i chi o ran Cyfamod yr Heddlu?






Cwmpas y Cyfamod

Bydd Cyfamod yr Heddlu yn eiddo i’r Swyddfa Gartref ac felly bydd yn cwmpasu heddluoedd sydd o fewn cylch gorchwyl y Swyddfa Gartref. Hoffem archwilio pwy o fewn yr heddluoedd hynny ddylai fod o fewn y cwmpas.

C16. A oes unrhyw grwpiau eraill ydych chi’n credu dylai Cyfamod yr Heddlu gwmpasu ar wahân i swyddogion yr heddlu, e.e. gwirfoddolwyr, swyddogion wedi ymddeol?

Diogelu Corfforol

Hoffem gael eich barn ar beth allai Cyfamod wneud o ran gwella diogelu corfforol ar gyfer yr heddlu. Mae gan Brif Gwnstabliaid gyfrifoldeb i ddarparu offer a hyfforddiant diogelwch i’w swyddogion. Mae’r heddlu hefyd wedi eu diogelu gan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch. Nid oes bwriad i’r Cyfamod ddisodli’r un o’r amddiffyniadau hyn.

C17. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y gall hyfforddiant gyfrannu at wella diogelwch?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C18. Esboniwch eich ateb.






C19. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno fod gan y llywodraeth ran i’w chwarae wrth osod safonau ar gyfer cyfarpar diogelwch ar gyfer plismona?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C20. Esboniwch eich ateb.






C21. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y gallai safonau cenedlaethol cyson ar gyfer hyfforddiant diogelwch personol gyfrannu at wella diogelwch mewn plismona?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C22. Esboniwch eich ateb.






C23. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno fod cyfarpar diogelwch personol ar gyfer swyddogion rheng flaen yn addas ar gyfer heddlu modern amrywiol?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C24. Esboniwch eich ateb.






Iechyd a Lles

Mae Cyfamod yr Heddlu yn ceisio adeiladu ar beth sy’n bosibl i heddluoedd ddarparu ar lefel leol trwy anfon neges glir i’r genedl parthed yr aberth a risgiau dyddiol a wynebir gan ein heddlu a’u teuluoedd. Hoffem gael eich barn ar beth ellir ei wneud i ddangos cefnogaeth y genedl i’r heddlu trwy gynnig gwelliannau i ddarpariaethau lles sydd eisoes ar waith.

C25. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y byddai Cyfamod yr Heddlu yn delio â materion lles ar lefel genedlaethol?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C26. Esboniwch eich ateb.






C27. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y dylid sefydlu mesurau diogelwch i sicrhau y gall y rhai sy’n gwasanaethu yn yr heddlu gael mynediad cyflym at ofal meddygol ar gyfer materion sy’n codi o ganlyniad i’w swydd?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C28. Esboniwch eich ateb.






C29. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno bod angen darpariaethau iechyd meddwl penodol ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn plismona?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C30. Esboniwch eich ateb.






C31. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno fod gan y sector preifat rôl o ran cefnogi anghenion lles yr heddlu?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C32. Esboniwch eich ateb.






C33. Sut ydych chi’n meddwl y gallai’r sector preifat gefnogi lles yr heddlu?






Cefnogaeth i deuluoedd

Yn aml bydd gofyn i’r rhai sy’n gweithio i’r heddlu ymateb i ddigwyddiadau difrifol ac annisgwyl. Gall natur a goblygiadau’r gwaith hwn yn aml effeithio ar deuluoedd y rhai sy’n gwasanaethu yn yr heddlu.

Hoffem glywed eich barn ar sut allwn ni helpu teuluoedd i deimlo eu bod wedi eu cefnogi’n well.

C34. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno fod cymdeithas eisoes yn cydnabod yr aberthau a wneir gan yr heddlu a’u teuluoedd?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C35. Esboniwch eich ateb.






C36. Pa ddulliau cydnabyddiaeth yng nghyd-destun yr heddlu ydych chi’n ymwybodol ohonynt?






C37. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno fod cofebion, y system anrhydeddau, gwobrau sector yr heddlu a mathau eraill o gydnabyddiaeth yn bwysig o ran helpu teuluoedd i deimlo eu bod wedi eu cefnogi?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C38. Esboniwch eich ateb.






C39. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno bod yr anrhydeddau/medalau sydd ar gael i’r heddlu (gwobrau Dewrder, gwobrau’r Ymerodraeth, Medalau’r Heddlu’r Frenhines, Medal Hir-wasanaeth ac Ymddygiad Da’r Heddlu, Medal Hir-wasanaeth y Gwnstabliaeth Wirfoddol) yn gydnabyddiaeth briodol o ddewrder, gwasanaeth ac ymroddiad y rhai sy’n ymwneud â phlismona?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C40. Esboniwch eich ateb.






C41. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno fod anrhydeddau yn bwysig i helpu teuluoedd deimlo eu bod wedi eu cefnogi?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C42. Esboniwch eich ateb.






C43. I ba raddau ydych chi’n cytuno/anghytuno y byddai Cyfamod yr Heddlu yn ychwanegu gwerth i helpu teuluoedd deimlo eu bod wedi eu cefnogi?

Cytuno’n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf
         

C44. Esboniwch eich ateb.






C45. A oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill ar y mater o Gyfamod yr Heddlu nad ydynt wedi cael sylw penodol yn unrhyw rai o’r cwestiynau uchod?






Diolch am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.

Amdanoch chi

Defnyddiwch yr adran hon i ddweud wrthym amdanoch eich hun

Teitl swydd neu eich rhinwedd wrth ymateb i’r ymarfer ymgynghori hwn (er enghraifft, aelod o’r cyhoedd)  
Os ydych chi wedi gwasanaethu o fewn plismona’n flaenorol, nodwch yma a chynnwys unrhyw fanylion y teimlwch chi fydd yn ein helpu i wneud y defnydd gorau o’ch ymatebion  
Os ydych chi’n aelod teulu rhywun sy’n gwasanaethu mewn plismona, rhowch wybod i ni beth yw’ch perthynas â’r swyddog  
Dyddiad  
Enw cwmni/sefydliad (os yn berthnasol)  
Os hoffech i ni gydnabod derbyn eich ymateb, ticiwch y blwch  
Y cyfeiriad y dylid anfon cydnabyddiaeth iddo, os yn wahanol i’r uchod  

Os ydych yn cynrychioli grŵp, dywedwch enw’r grŵp a rhoi crynodeb o’r bobl neu sefydliadau yr ydych yn eu cynrychioli.





Manylion cyswllt a sut i ymateb

Anfonwch eich ymateb erbyn 22 Ebrill 2020 at:

Cyfamod yr Heddlu
Uned Gweithlu a Phroffesiynoldeb yr Heddlu
Y Swyddfa Gartref
6th Floor, Fry Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF

E-bost: [email protected]

Cwynion neu sylwadau

Os oes gennych unrhyw gwynion neu sylwadau am y broses ymgynghori dylech gysylltu â’r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.

Copïau ychwanegol

Gellir cael copïau pellach o’r ymgynghoriad hwn o’r cyfeiriad yma ac mae hefyd ar gael ar-lein yma.

Gellir gofyn am fersiynau ar ffurfiau gwahanol o’r cyhoeddiad hwn o:

E-bost: [email protected]

Cyhoeddi ymateb

Bydd papur yn crynhoi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gyhoeddi ymhen deufis. Bydd y papur ymateb ar gael ar-lein ar gov.uk.

Grwpiau cynrychioliadol

Gofynnir i grwpiau cynrychioliadol roi crynodeb o’r bobl a sefydliadau y maent yn eu cynrychioli wrth ymateb.

Cyfrinachedd

Gellir cyhoeddi neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a ddarparir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, yn cynnwys gwybodaeth bersonol, yn unol â chyfundrefnau mynediad i wybodaeth (sef yn bennaf Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA), y Ddeddf Diogelu Data 2018 (DPA) a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIR).

Os ydych am i’r wybodaeth a roddwch gael ei thrin yn gyfrinachol, dylech fod yn ymwybodol, dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, bod Cod Ymarfer statudol yn bodoli y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag o ac sy’n delio â rhwymedigaethau cyfrinachedd, ymysg pethau eraill. O ganlyniad, byddai’n ddefnyddiol pe gallech esbonio i ni pam yr ydych yn ystyried fod y wybodaeth yr ydych wedi ei darparu i ni yn gyfrinachol. Os byddwn yn derbyn cais i ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i’ch esboniad, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cynnal cyfrinachedd dan bob amgylchiad. Ni ystyrir ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddo ei hun, yn rhwymol ar y Swyddfa Gartref.

Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu eich data personol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data a, gan amlaf, bydd hyn yn golygu na ddatgelir eich data personol i drydydd parti.

Egwyddorion yr ymgynghoriad

Nodir yr egwyddorion y dylai adrannau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill eu mabwysiadu ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu polisïau a deddfwriaeth yn yr egwyddorion ymgynghori.