Consultation outcome

Ymateb y llywodraeth (accessible version)

Updated 18 August 2021

Braslun a manylion cyswllt

Y ddogfen hon yw’r adroddiad ar ôl ymgynghoriad ar y papur ymgynghorol, “Ymgynghoriad ar ddyletswydd gyfreithiol newydd i gefnogi dull amlasiantaethol o atal a thaclo trais difrifol”.

Bydd yn trafod:

  • cyflwyniad: Dull y llywodraeth
  • y cefndir i’r ymgynghoriad
  • crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad
  • y camau nesaf yn dilyn yr ymgynghoriad hwn
  • ymateb manwl i’r cwestiynau penodol a godwyd yn yr ymgynghoriad

Gellir cael copïau eraill o’r adroddiad hwn a’r papur ymgynghorol trwy gysylltu â’r Uned Trais Difrifol yn y cyfeiriad isod:

Serious Violence Unit
Home Office
5th Floor, Fry Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

Ffôn: 0207 035 8303

E-bost: [email protected]

Mae’r adroddiad hwn ar gael hefyd yn GOV.UK

Gellir gofyn am fersiynau ar ffurfiau gwahanol o’r cyhoeddiad hwn gan:

[email protected]

Cwynion neu sylwadau

Os oes gennych unrhyw gwynion neu sylwadau am y broses ymgynghori dylech gysylltu â’r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.

Cyflwyniad: Dull y Llywodraeth

  1. Mae Strategaeth Trais Difrifol y Llywodraeth yn glir nad mater gorfodi’r gyfraith yn unig yw taclo trais difrifol, mae angen dull amlasiantaethol yn ymwneud ag amrywiaeth o bartneriaid ac asiantaethau fel addysg, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai, gwasanaethau ieuenctid a dioddefwyr gyda phwyslais ar ymyrraeth gynnar. Dylai camau gweithredu gael eu harwain gan dystiolaeth am y problemau a beth sy’n gweithio wrth daclo achosion sylfaenol y trais. I wneud hyn, rhaid i ni ddwyn sefydliadau at ei gilydd i rannu gwybodaeth, data a chudd-wybodaeth a’u hannog i weithio gyda’i gilydd yn hytrach nag ar eu pennau eu hunain.

  2. Mae’r ddyletswydd newydd yn un o flociau adeiladu allweddol dull iechyd cyhoeddus y Llywodraeth o atal a thaclo trais difrifol. Rydym hefyd yn buddsoddi £100m o gyllid ychwanegol yn 2019/20 i gefnogi cynnydd yng ngweithgaredd yr heddlu i daclo troseddau cyllyll. Mae hyn yn cynnwys y dyraniad dros dro o £35m i gyflwyno Unedau Lleihau Trais yn y 18 ardal llu heddlu y mae trais difrifol yn effeithio mwyaf arnynt. Bydd y ddyletswydd arfaethedig yn cyd-fynd ac yn cynorthwyo’r Unedau Lleihau Trais yn eu nod o atal a thaclo trais difrifol, trwy gynnig llwyfan strategol gyda’r amodau rheoleiddiol cywir i gefnogi cyflawni’r dull amlasiantaethol hwn yn llwyddiannus, gan gynnwys trwy’r set estynedig o bartneriaid y bydd y ddyletswydd yn disgyn arnynt.

  3. Mae’r blociau adeiladu eraill ar gyfer y dull yn cynnwys y buddsoddiad o £200m dros ddeng mlynedd yn y Gronfa Gwaddol Ieuenctid, a fydd yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar wedi ei thargedu gyda’r plant a phobl ifanc hynny sydd yn fwyaf agored i ymwneud â thrais difrifol; a sefydlu’r Tasglu Trais Difrifol, trawsbleidiol, traws-sectoraidd, sy’n cael ei gadeirio gan yr Ysgrifennydd Cartref, i roi goruchwyliaeth ychwanegol a her allanol i’r gwaith allweddol hwn.

  4. Mae hyn i gyd yn adeiladu ar Strategaeth Trais Difrifol y Llywodraeth a gyhoeddwyd yn Ebrill 2018. Yn benodol mae’n adeiladu ar y dadansoddiad o’r hyn sy’n gyrru trais difrifol a’r ffactorau risg sy’n cael eu nodi yn y Strategaeth, yn ogystal ag ymrwymiadau’r Strategaeth fel buddsoddi £22m yn y Gronfa Ieuenctid Ymyrraeth Gynnar sy’n cefnogi 40 prosiect yng Nghymru a Lloegr; a chyflwyno Canolfan Gydlynu Llinellau Sirol Genedlaethol sydd eisoes wedi trefnu tair wythnos wahanol o weithredu gorfodi’r gyfraith dwys gan arwain at fwy na 1600 o arestiadau, ymgysylltu â dros 2100 unigolyn i’w diogelu, ac atafaelu arfau a chyffuriau ar raddfa arwyddocaol.

  5. Gan nodi’r cyfleoedd a’r sialensiau sydd wedi cael eu disgrifio wrth ymateb i’r dewisiadau yn yr ymgynghoriad, mae’r Llywodraeth yn bwriadu dwyn deddfwriaeth sylfaenol ymlaen, pan fydd amser seneddol yn caniatáu, i greu dyletswydd newydd ar asiantaethau a sefydliadau perthnasol i gydweithio, trwy strwythurau partneriaeth pan fydd hynny’n bosibl, i atal a lleihau trais difrifol. Wrth wneud hynny, bydd y Llywodraeth yn creu’r amodau ar gyfer hyblygrwydd mewn ardaloedd lleol er mwyn i asiantaethau a chyrff bennu’r ffordd orau i weithio gyda’i gilydd i ymdrin â’r angen lleol. Mae’r Llywodraeth hefyd yn cydnabod rôl bwysig Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn y cyd-destun hwn, felly byddwn yn diwygio Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 i sicrhau bod trais difrifol yn flaenoriaeth glir i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol.

  6. Cwmpas daearyddol y ddyletswydd newydd arfaethedig yw Cymru a Lloegr, gan adlewyrchu un y Strategaeth Trais Difrifol. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r dull hwn sy’n cydnabod pwysigrwydd creu hyblygrwydd i ardaloedd lleol a’r bwriad i gydfynd â’r peirianweithiau sydd eisoes yn eu lle i daclo trais difrifol, a’r dirwedd wahanol yn ddeddfwriaethol ac o ran partneriaethau yng Nghymru.

Cefndir

7. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar ddyletswydd gyfreithiol newydd i gefnogi dull amlasiantaethol o atal a thaclo trais difrifol ar 1 Ebrill 2019. Roedd yn gwahodd sylwadau ar dri dewis i gyflawni dull amlasiantaethol effeithiol o atal a thaclo trais difrifol.

8. Y tri dewis a nodwyd yn y ddogfen ymgynghorol oedd:

  • Dewis un: dyletswydd newydd ar sefydliadau penodol i roi ystyriaeth ddyledus i atal a thaclo trais difrifol. Hwn oedd y dewis a ffafriwyd gan y Llywodraeth a byddai’n cael ei gyflawni trwy gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i roi dyletswydd newydd ar sefydliadau penodol i roi ystyriaeth ddyledus i atal a thaclo trais difrifol. Byddai’r rhestr o sefydliadau penodol yn cynnwys awdurdodau lleol, uwch swyddogion mewn sefydliadau cyfiawnder troseddol, addysg, sefydliadau gofal plant, cyrff iechyd a gofal cymdeithasol a’r heddlu. Ni fyddai’n gofyn am leoliad amlasiantaethol penodol ond byddai’n gweithredu i annog a gwella gweithio mewn partneriaeth a rhannu gwybodaeth.
  • Dewis dau: dyletswydd newydd trwy ddeddfu i ddiwygio Partneriaethau Diogelwch Cymunedol. Gellid gwneud hyn trwy ddeddfu i newid Partneriaethau Diogelwch Cymunedol i sicrhau bod ganddynt strategaeth i atal a thaclo trais difrifol. Byddai’r dewis hwn yn ymrwymo sefydliadau yn uniongyrchol i ddod yn aelodau o bartneriaeth (yn yr achos hwn, Partneriaeth Diogelwch Cymunedol) yn hytrach na gofyn i’r sefydliadau roi “ystyriaeth ddyledus” i atal a thaclo trais difrifol.
  • Dewis tri: dull gwirfoddol heb fod yn ddeddfwriaethol. Byddai’r dull hwn yn annog ardaloedd i fabwysiadu camau gwirfoddol i ymgysylltu â’r dull amlasiantaethol yn hytrach na chyflwyno dyletswydd statudol neu i gyd-fynd â hynny. Byddai hyn yn golygu y byddai amrywiaeth o sefydliadau yn cydnabod bod ganddynt rôl bwysig i’w chwarae wrth atal a thaclo trais difrifol. Byddai’r Llywodraeth yn cefnogi cymunedau a phartneriaethau lleol trwy hwyluso rhannu arfer gorau ar draws terfynau daearyddol a rhoi cyfarwyddyd pan fyddai’n addas.

9. Caewyd yr ymgynghoriad ar 28 Mai 2019 ac mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r ymatebion, gan gynnwys sut y mae’r broses ymgynghori wedi dylanwadu ar ddatblygu’r polisi yr ymgynghorwyd arno.

Crynodeb a chamau nesaf

10. Rydym wedi adolygu’r holl ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad, trwy’r holiadur ar-lein, cyflwyniadau trwy’r post a thrwy e-bost, rhoddwyd manylion y canlyniadau, a’r canfyddiadau o’r rhain yn y ddogfen ymateb i ymgynghoriad hon yn Atodiad A. Dangosodd yr ymatebion bod cefnogaeth glir i ddisgrifiad y Llywodraeth o ddull effeithiol ‘iechyd cyhoeddus’ amlasiantaethol o atal a thaclo trais difrifol, ond nid oedd consensws clir pa un o’r tri dewis a restrir yn y papur fyddai’n cyflawni’r dull hwn orau.

11. Fel y nodir yn y cyflwyniad, mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i greu dyletswydd newydd ar sefydliadau i gydweithio, trwy strwythurau partneriaeth sy’n bodoli pan fydd yn bosibl, i atal a lleihau trais difrifol, ac i gydnabod rôl bwysig Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn y cyd-destun hwn, rydym hefyd yn bwriadu diwygio Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998 i sicrhau bod trais difrifol yn flaenoriaeth glir i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol.

Dewis Un: Dyletswydd newydd ar sefydliadau penodol i roi ystyriaeth ddyledus i atal a thaclo trais difrifol

12. Roedd 37% o’r ymatebion yn cefnogi dewis un[footnote 1]. O’r ymatebwyr a roddodd wybodaeth am eu sector proffesiynol ac a ffafriodd un o’r tri dewis, dewis un oedd y dewis a ffafriwyd gan y sector cyfiawnder troseddol, y comisiynwyr heddlu a throseddu a’r sector ymchwil. Roedd sector yr heddlu ac aelodau o’r cyhoedd yn cefnogi dewis un a dau i’r un graddau.

13. Er bod rhai partneriaethau yn gweithio’n dda wrth daclo trais difrifol, mewn eraill mae bylchau mewn perfformiad o ran blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd, cryfder y bartneriaeth, a/neu ddiffyg neu absenoldeb elfennau pwysig fel rhannu data a chudd-wybodaeth. Bydd ymdrin â’r mater yn llwyddiannus yn golygu sicrhau bod yr holl asiantaethau perthnasol yn canolbwyntio ar atal a thaclo trais difrifol ac yn atebol amdano a dyna pam y mae dyletswydd newydd yn ddull pwysig o gyflawni hyn. Mae i’r dewis hwn y fantais o fod yn gosod dyletswydd newydd ar sefydliadau penodol neu awdurdodau ond yn gadael iddynt benderfynu beth yw’r ffordd orau i gydymffurfio. Mae felly yn cynnig hyblygrwydd, ond dylai rhesymeg dyletswydd o’r fath olygu y bydd y sefydliadau perthnasol yn ymgysylltu â’i gilydd yn y bartneriaeth leol fwyaf effeithiol i’r ardal honno.

14. Rydym yn glir bod angen dull amlasiantaethol yn cynnwys partneriaid ac asiantaethau. Bydd deddfwriaeth sylfaenol yn rhoi dyletswydd statudol ar sefydliadau neu awdurdodau penodol i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar atal a lleihau trais difrifol ac yn atebol am hynny. Rydym am gryfhau’r partneriaethau nad ydynt mor effeithiol wrth
atal a lleihau trais difrifol ar hyn o bryd trwy eu hannog i rannu data, cudd-wybodaeth a gwybodaeth i gynhyrchu dadansoddiad ar sail tystiolaeth o’r broblem a’r atebion.

15. Bydd dyletswydd o’r fath yn creu’r amodau i asiantaethau a phartneriaethau perthnasol gydweithio a chyfathrebu yn gyson, i ddefnyddio partneriaethau sy’n bodoli ac i rannu gwybodaeth a chymryd camau wedi eu cydlynu yn eu hardal leol. Yn y pen draw, rydym am leihau trais difrifol yng Nghymru a Lloegr, gan sicrhau y gall pawb ddisgwyl cydweithio a blaenoriaethu effeithiol lle bynnag y maent yn byw.

16. Yn ogystal â chynyddu cysondeb o ran blaenoriaethu ac atebolrwydd mewn sefydliadau ar gyfer atal a lleihau trais difrifol, amlygodd ymatebwyr i’r ymgynghoriad hefyd y byddai dewis un yn caniatáu hyblygrwydd lleol wrth benderfynu sut i’w weithredu.

17. Ond, yn yr un modd â dewis dau a thri, nid oedd gan ddewis un fwyafrif o ran cefnogaeth gan ymatebwyr i’r ymgynghoriad ac rydym wedi ystyried y rhesymau a roddwyd am hyn. Fel y nodir yn Atodiad A, roedd y mwyafrif o gwmpas y gred bod y dyletswyddau a’r ddeddfwriaeth sy’n bodoli yn ddigonol neu yn awgrymu bod pwysau ariannol ac amser, ond, mae’r cynnydd amlwg yr ydym wedi ei weld mewn trais difrifol ers 2014 yn awgrymu bod angen gwneud mwy.

18. Roedd ymatebwyr i’r ymgynghoriad hefyd yn codi pryderon y byddai unrhyw ddyletswydd yn cael ei osod ar weithwyr proffesiynol unigol. Y bwriad o’r dechrau oedd cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol a fyddai’n rhoi dyletswydd ar sefydliadau penodol, yn hytrach na gweithwyr proffesiynol unigol, i roi ystyriaeth ddyledus i atal a thaclo trais difrifol. Ond, rydym yn deall y pryderon a godwyd lle mae ymatebwyr i’r ymgynghoriad wedi deall bod dewis un yn debyg i’r gweithgareddau dan y “Dyletswydd Prevent”, a nodir yn y Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015, sy’n cynnwys cyfarwyddyd yn rhoi manylion am amrywiaeth o weithgareddau i staff fel dilyn hyfforddiant i ddynodi plant mewn perygl o gael eu tynnu i mewn i derfysgaeth, ac i herio syniadau eithafol. Yn ychwanegol, cododd rhai ymatebwyr bryderon am yr iaith a gynigir yn newis un, yn benodol bod “ystyriaeth ddyledus” yn rhy amwys neu yn aneglur.

19. Wrth ystyried yr ymatebion hyn, rydym wedi ailedrych ar sut y bydd y ddeddfwriaeth sylfaenol newydd yn cael ei fframio ac rydym wedi penderfynu peidio â chyflwyno deddfwriaeth i roi “ystyriaeth ddyledus”, yn hytrach byddwn yn deddfu i sicrhau bod gan sefydliadau neu awdurdodau penodol ddyletswydd i gydweithio a chynllunio i atal a lleihau trais difrifol. Bydd y newid hwn yn sicrhau mai cyfrifoldeb asiantaethau a chyrff yn hytrach na gweithwyr proffesiynol unigol fydd y ddyletswydd ac yn rhoi eglurder angenrheidiol am yr hyn a ddisgwylir, gan ddal i alluogi’r sefydliadau hynny i gael rhyddid i benderfynu pa ffordd sydd orau i gyflawni’r ddyletswydd yn eu hardal leol.

20. Rydym wedi clywed trwy’r ymatebion i’r ymgynghoriad y dylai’r ddyletswydd fod yn ddigon hyblyg i ystyried proffil y broblem mewn ardaloedd lleol. Felly, rydym yn cynnig y bydd yn agored i’r ardal leol osod ei diffiniad rhesymol ei hun o drais difrifol ar gyfer y diben o ddiffinio cwmpas ei gweithgareddau. Rydym yn disgwyl i’r diffiniad gwmpasu trais difrifol fel y mae’n cael ei ddiffinio ar gyfer dibenion Strategaeth Trais Difrifol y Llywodraeth a chynnwys pwyslais ar faterion fel troseddau difrifol mewn mannau cyhoeddus fel nodwedd greiddiol.

21. Gofynnodd yr ymgynghoriad a oedd y rhestr o asiantaethau penodol a nodir yn Atodlen 6 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 y sefydliadau cywir i weithio i daclo ac atal trais difrifol, gyda 62% o’r ymatebwyr ar-lein yn cytuno[footnote 2]. Ond, gwnaeth 107 o ymatebwyr awgrymiadau ar gyfer partneriaid ychwanegol posibl. Yr awgrymiadau a gynigiwyd amlaf i gael eu cynnwys fel partneriaid ychwanegol i’r rhai sydd eisoes wedi eu cynnwys yn Atodlen 6 oedd y sector gwirfoddol, cymunedol a ffydd, grwpiau comisiynu clinigol a’r gwasanaeth tân ac achub.

22. Er ein bod wedi ystyried yr awgrymiadau hyn, nid ydym yn teimlo ei bod yn briodol ymestyn y ddyletswydd i’r sector gwirfoddol, yn hytrach rydym yn bwriadu rhoi cyfarwyddyd a chefnogaeth i ardaloedd lleol i sicrhau bod y sectorau gwirfoddol, cymunedol a ffydd yn ymwneud â’r gweithgaredd yn effeithiol, er mwyn rhoi hyblygrwydd yn lleol i gynnwys y sefydliadau mwyaf perthnasol i daclo ac atal trais difrifol.

23. Bydd y Llywodraeth yn rhoi rhagor o ystyriaeth i’r cyflwyniadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad am sefydliadau ac awdurdodau addas a ddylai fod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd newydd. Byddwn yn gweithio ar draws y llywodraeth ac yn cynnal ymgynghori pellach anffurfiol wedi ei dargedu gyda sefydliadau a chyrff perthnasol yn dilyn ymateb y Llywodraeth, i gael trefn derfynol ar y rhestr o sefydliadau neu awdurdodau penodol.

Dewis Dau: Dyletswydd newydd trwy ddeddfu i ddiwygio Partneriaethau Diogelwch Cymunedol

24. Roedd 40% o’r ymatebwyr ar-lein yn cefnogi dewis dau[footnote 3]. O’r ymatebwyr a roddodd wybodaeth am eu sector proffesiynol ac a ffafriodd un o’r tri dewis, roedd dewis dau yn cael ei ffafrio gan y sectorau gwasanaethau tân ac achub, iechyd a gofal cymdeithasol, llywodraeth leol, tai ac adeiladu a byrddau amlasiantaethol. Roedd sector yr heddlu ac aelodau o’r cyhoedd yn cefnogi dewis un a dau i’r un graddau.

25. Mae’r dewis hwn yn wahanol i ddewis un gan ei fod yn ymrwymo sefydliadau yn uniongyrchol i ddod yn aelodau o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn hytrach na rhoi dyletswydd ar sefydliadau penodol i atal a thaclo trais difrifol. Mae i hyn y fantais o eglurder wrth ddeddfu i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol ddod yn bartneriaeth arweiniol i gyflawni’r genhadaeth allweddol hon yn erbyn trais difrifol.

26. Rydym yn cydnabod bod Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn gryfach mewn rhai ardaloedd nag eraill, a gall yr amrywiad hwn gael effaith ar effeithiolrwydd rhai Partneriaethau Diogelwch Cymunedol wrth daclo troseddau treisgar, gyda nifer o ymatebwyr yn codi’r pryder hwn. Yn ychwanegol, gall cyrraedd daearyddol Partneriaethau Diogelwch Cymunedol olygu nad dyma’r model partneriaeth gorau posibl ym mhob ardal. Ond, fe wnaeth nifer o’r ymatebwyr[footnote 4] sôn am y gwaith positif sydd ar y gweill yn eu hardal.

Mae’r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol wedi ymsefydlu yn dda gyda rhwydweithiau eang sy’n traws-wrteithio ei gilydd ac arferion gwaith sydd wedi ymwreiddio ar draws maes diogelwch cymunedol, cyfiawnder troseddol, iechyd, diogelu a’r trydydd sector. Mae ganddynt tua 20 mlynedd o ddatblygiad o ran gwybodaeth, sgiliau, arbenigedd, polisi ac arferion wedi cronni ar draws eu portffolio eang, a all weithredu fel sylfaen gadarn ar gyfer cyflwyno dyletswydd ychwanegol ac ailfywiogi statws y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

27. Credwn, lle bynnag y mae hynny’n bosibl, y dylai partneriaethau a strwythurau sy’n bodoli gael eu defnyddio i ddwyn y sefydliadau perthnasol at ei gilydd a thaclo trais difrifol. Er nad Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yw’r unig bartneriaeth sydd â chyfrifoldeb am dynnu partneriaid perthnasol at ei gilydd, fel partneriaeth amlasiantaethol sydd wedi sefydlu mae ganddynt rôl hanfodol i’w chwarae wrth daclo ac atal trais difrifol.

28. Dyna pam yr ydym yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio adran 6(1) Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998 sy’n nodi’r strategaethau y mae’n rhaid i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol eu ffurfio a’u gweithredu, i gynnwys trais difrifol yn glir. Trwy sicrhau bod Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn ffurfio a gweithredu strategaeth trais difrifol byddai’n sicrhau ei fod yn parhau yn flaenoriaeth ar lefel leol. Byddai cyfuno’r diwygiad hwn i’r Ddeddf Trosedd ac Anrhefn, gyda dyletswydd newydd ar sefydliadau neu awdurdodau penodol, yn galluogi Partneriaethau Diogelwch Cymunedol i godi’r materion i lefel strategol uwch yn ôl y gofyn o ystyried bod nifer sylweddol o Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol mewn rhai ardaloedd ac y gall hyn ei gwneud yn anodd i bartneriaid eraill ymgysylltu â hwy yn effeithiol.

Dewis Tri: Dull gwirfoddol heb fod yn ddeddfwriaethol

29. Roedd 23% o’r ymatebwyr ar-lein yn cefnogi dewis tri[footnote 5]. O’r ymatebwyr a roddodd wybodaeth am eu sector proffesiynol ac a ffafriodd un o’r tri dewis, roedd dewis tri yn cael ei ffafrio gan y sectorau gwirfoddol a chymunedol a’r sector addysg a gofal plant.

30. Dull gwirfoddol heb fod yn ddeddfwriaethol oedd y dewis yn y ddogfen ymgynghorol yr oedd lleiaf o ymatebwyr yn teimlo fyddai’r dull gorau o daclo ac atal trais difrifol. Defnyddiodd rhai ymatebwyr (25) yr ymgynghoriad i roi manylion am ddulliau gwirfoddol sy’n cael eu defnyddio yn eu hardaloedd, ac er bod rhai trefniadau gwirfoddol yn gweithio’n dda, amlygodd nifer fawr o’r ymatebwyr (87) bryderon, heb ddeddfwriaeth, y byddai’r partneriaethau mewn rhai ardaloedd yn wannach nac mewn eraill.

31. Ar 18 Mehefin 2019, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref ddyraniad dros dro o £35 miliwn i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu mewn 18 ardal i sefydlu Unedau Lleihau Trais. Bydd y rhain yn dwyn arweinwyr cymunedol a phartneriaid allweddol eraill â’r heddlu, llywodraeth leol, gweithwyr proffesiynol iechyd ac addysg at ei gilydd i ddynodi’r hyn sy’n gyrru trais difrifol ac yn datblygu ymateb i hynny. Bydd Unedau Lleihau Trais yn sicrhau bod cynllunio a chydweithio effeithiol i gefnogi dull tymor hwy o atal trais. Bydd y ddyletswydd arfaethedig yn cyd-fynd ac yn cynorthwyo’r Unedau Lleihau Trais yn eu nod o atal a thaclo trais difrifol, trwy gynnig llwyfan strategol gyda’r amodau rheoleiddiol cywir i gefnogi cyflawni’r dull amlasiantaethol hwn yn llwyddiannus, gan gynnwys trwy’r set estynedig o bartneriaid y bydd y ddyletswydd yn disgyn arnynt.

32. Rydym wedi bod yn gweithio’n glos gydag adrannau eraill y Llywodraeth ac asiantaethau partner, gan gynnwys yr heddlu ac Unedau Lleihau Trais, i ddatblygu’r set greiddiol o ofynion y bydd y rhai sy’n derbyn cyllid Uned Lleihau Trais angen eu cyflawni. Mae hyn wedi gadael i ni roi arweiniad clir i ardaloedd lleol ar sut yr ydym yn disgwyl i gyllid Uned Lleihau Trais gael ei ddefnyddio.

Ystyriaethau ychwanegol:

Arolygu, atebolrwydd a gorfodi

33. Mae’n amlwg oddi wrth y mwyafrif o ymatebion ar-lein i’r ymgynghoriad mai’r ffordd orau o ddal awdurdodau cyfrifol sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd i gyfrif fyddai trwy arolygiadau, naill ai arolygiadau thematig ar y cyd neu gan arolygaethau unigol trwy eu pwerau arolygu presennol. Byddwn yn cynnal ymgynghoriad anffurfiol gydag arolygaethau i bwyso a mesur y dewisiadau o ran trefn arolygu. Er enghraifft, trwy arolygon thematig ar y cyd.

34. Bydd disgwyl i asiantaethau perthnasol hefyd, gan gynnwys unrhyw awdurdodau cyhoeddus nad oes corff arolygu ar eu cyfer, i gyhoeddi manylion sut y maent yn cyflawni eu cyfrifoldebau dan y ddyletswydd, er enghraifft trwy drefniadau monitro presennol neu trwy gynlluniau amlasiantaethol lleol. Yn olaf, bydd y Llywodraeth yn parhau i ystyried pa weithredu gorfodi am beidio â chydymffurfio all fod yn angenrheidiol.

Cyfarwyddyd a chefnogaeth i ardaloedd lleol

35. Bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi cyfarwyddyd yn cefnogi’r ddeddfwriaeth newydd i gynorthwyo asiantaethau statudol i gyflawni dull iechyd cyhoeddus amlasiantaethol yn effeithiol. Bydd y cyfarwyddyd yn amlygu arfer gorau ac yn esbonio sut y gall gwahanol fodelau partneriaeth weithio yn ymarferol, gan gynnwys Unedau Lleihau Trais. Wrth wneud hynny, byddwn yn pwysleisio pwysigrwydd cynnwys y sectorau gwirfoddol, cymunedol a ffydd, gan gydnabod y cyfraniad allweddol y maent yn gallu ei wneud yn y maes hwn, ond hefyd yn rhoi lle i hyblygrwydd i sicrhau bod sefydliadau addas yn gweithio gyda’i gilydd i daclo’r sialensiau penodol a wynebir ar draws Cymru a Lloegr.

Atodiad A: Crynodeb o’r Ymatebion

  1. Derbyniwyd cyfanswm o 225 o ymatebion i’r papur ymgynghorol[footnote 6]. O’r 221 o ymatebwyr a atebodd y cwestiwn[footnote 7], dywedodd 57 (26%) bod eu hasiantaeth neu sefydliad yn y sector llywodraeth leol, dywedodd 31 (14%) bod eu sefydliad yn y sector gwirfoddol a chymunedol a dywedodd 29 (13%) bod eu hasiantaeth neu sefydliad yn y sector heddlu.

  2. Roedd y ddogfen ymgynghorol yn rhoi tri dewis o ran ffyrdd i daclo ac atal trais difrifol. O’r ymatebion a roddwyd i’r papur ymgynghorol, er bod cefnogaeth gyffredinol i’r weledigaeth o ddefnyddio dull amlasiantaethol o daclo ac atal trais difrifol, nid oedd un dewis a gynigiwyd i gyflawni hyn a enillodd fwyafrif y gefnogaeth.

Tabl 1: Dewis a Ffafrir

Dewis a Ffafrir %
Dewis 1 Yn Unig 37%
Dewis 2 Yn Unig 40%
Dewis 3 Yn Unig 23%

Ar gyfer pob dewis, mae’r graff yn cynnwys yr ymateb ar gyfer y rhai nad ydynt wedi ateb “Ydw” i unrhyw un o’r ddau ddewis gwahanol uchod yn unig. Nid yw’r siart hon yn cynnwys unrhyw ymatebion eraill heblaw “Ydw” a “Na”, fel “efallai” ac “o bosibl”.

3. Mae’r siart isod yn dangos y dewisiadau a ffafriwyd gan bob sefydliad neu asiantaeth, pan wnaeth yr ymatebwyr ddangos dewis a dewis proffesiwn neu faes yr oedd eu sefydliad yn gweithio ynddo.

Tabl 2: Dewis a ffafrir yn ôl sefydliad/asiantaeth

A bar chart showing the percentage of organisations/agencies that preferred each of the 3 options.

Nid yw’r siart hon yn cynnwys y rhai a atebodd ‘ydw’ i nifer o ddewisiadau

Ymatebion i gwestiynau penodol

Rhan 1: Cwestiynau cyffredinol

Pa sector y mae eich asiantaeth/sefydliad yn ei gynrychioli?

Tabl 3: Nifer o ymatebion yn ôl asiantaeth/sefydliad

Asiantaeth/sefydliad Nifer o ymatebion
Cyfiawnder Troseddol 13
Addysg a gofal plant 26
Tân 3
Iechyd a gofal cymdeithasol 22
Tai ac adeiladu 5
Llywodraeth local 56
Aelod o’r Cyhoedd 6
Byrddau Amlasiantaethol 16
Comisiynwyr Heddlu a Throseddu 10
Heddlu 29
Ymchwil 4
Sector gwirfoddol a chymunedol 31
Anhysbys 4

4. O’r 221 o ymatebwyr a atebodd y cwestiwn, dywedodd 57 (26%) bod eu hasiantaeth neu sefydliad yn y sector llywodraeth leol, dywedodd 31 (14%) bod eu sefydliad yn y sector gwirfoddol a chymunedol a dywedodd 29 (13%) bod eu hasiantaeth neu sefydliad yn y sector heddlu.

A yw eich asiantaeth/sefydliad yn rhan o unrhyw bartneriaeth amlasiantaethol bresennol neu yn gweithio gydag un fel Partneriaeth Diogelwch Cymunedol?

5. Nododd 76% o’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn bod eu sefydliad neu asiantaeth naill ai yn rhan o bartneriaeth amlasiantaethol sy’n bodoli ar hyn o bryd neu yn gweithio gydag un.

O ble mae eich asiantaeth/sefydliad yn gweithio?

6. Ac eithrio Gogledd Iwerddon, derbyniwyd ymatebion gan rai yn gweithio mewn sefydliadau neu asiantaethau ar draws y Deyrnas Unedig. Daeth y nifer fwyaf o ymatebion ar gyfer unrhyw un ardal o Lundain gyda 62 (29%) o’r 216 o ymatebwyr a atebodd y cwestiwn. Daeth y nifer isaf o ymatebion o Gymru a Lloegr o Swydd Efrog a’r Humber gyda dim ond 6 (3%).

Tabl 4: Canran o ymatebion yn ôl rhanbarth

Rhanbarth Canran o ymatebion
Dwyrain Canolbarth Lloegr 7%
Dwyrain Lloegr 10%
Llundain 29%
Gogledd Ddwyrain Lloegr 4%
Gogledd Orllewin Lloegr 9%
Yr Alban 1%
De Ddwyrain Lloegr 11%
De Orllewin Lloegr 9%
Cymru 7%
Gorllewin Canolbarth Lloegr 11%
Swydd Efrog a’r Humber 3%

Pa asiantaethau/sefydliadau ydych chi’n gweithio’n glos gyda nhw i atal a thaclo trais difrifol yn eich ardal?

Atebion lluosog yn bosibl.

7. O’r ymatebwyr a nododd eu bod yn gweithio gyda sefydliadau eraill wrth atal a thaclo trais difrifol, y sefydliadau neu sectorau a ddewiswyd amlaf oedd: yr heddlu, sector gwirfoddol a chymunedol, llywodraeth leol a iechyd a gofal cymdeithasol. Ond, dynododd y mwyafrif o ymatebwyr eu bod yn gweithio gyda’r holl sefydliadau a restrwyd.

Tabl 5: Y nifer o ymatebwyr sy’n gweithio ar y cyd â sefydliadau eraill

A bar chart showing the number of respondents working in collaboration with other organisations. Police: ~180. Voluntary and community sector, local government and health and social care ~160. Education and childcare: ~150. Criminal justice: ~140.

Rhan 2: Gwaith presennol ym maes trais difrifol

A oes gan eich asiantaeth/sefydliad ar hyn o bryd weithgareddau yn eu lle i atal/taclo trais difrifol?

8. Atebodd mwyafrif y rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn (79%) ‘oes’ i’r cwestiwn hwn bod gweithgareddau o fewn eu sefydliad neu asiantaeth ar hyn o bryd i atal a/neu daclo trais difrifol. Mae’r siart isod yn rhoi manylion yn ôl asiantaeth neu sefydliad a ymatebodd. O’r 24 o ymatebwyr o’r sector addysg a gofal plant a roddodd ateb, dywedodd 50% nad oes gan eu hasiantaeth/sefydliad ar hyn o bryd weithgareddau yn eu lle i atal/taclo trais difrifol.

Tabl 6: Nifer o ymatebwyr gyda gweithgareddau yn eu lle ar hyn o bryd

A bar chart showing the number of respondents with current activities in place.

Os ydych ar hyn o bryd yn gweithio mewn asiantaeth/sefydliad â diddordeb mewn trais difrifol:

Pa fath o weithgaredd ydych chi’n ei wneud i atal a thaclo trais difrifol?

Atebion lluosog yn bosibl.

9. Y gweithgareddau y cyfeiriwyd atynt amlaf wrth ateb y cwestiwn hwn oedd ymyrraeth gynnar a chynlluniau atal ar gyfer yr achosion sylfaenol e.e. addysg a chyllid i wasanaethau ymyrryd ac atal e.e. gwasanaethau ieuenctid a chanolfannau cyffuriau/alcohol.

Os nad ydych ar hyn o bryd â gweithgareddau yn eu lle i atal/daclo trais difrifol, pa weithgareddau ydych chi’n teimlo fyddai o fudd i ymdrin â thrais difrifol yn eich ardal?

Cwestiwn agored.

10. O’r rhai wnaeth ymateb i’r cwestiwn hwn, cododd rhai bryderon yn eu hymatebion nad yw atal neu daclo trais difrifol yn rhan o’u rôl gan fanteisio ar y cyfle i fynegi nad oeddent yn hoffi’r cynigion polisi yn y ddogfen ymgynghorol. Y pwynt mwyaf cyffredin a godwyd yn yr ymatebion hyn oedd nad yw atal neu daclo trais difrifol yn rhan o rôl yr unigolyn oedd yn ymateb neu’r sefydliad (er enghraifft gweithwyr addysg neu iechyd proffesiynol).

11. O’r rhai wnaeth ymateb yn awgrymu gweithgareddau a allai fod yn fuddiol, roedd yr awgrymiadau yn cynnwys ymyrraeth gynnar a chynlluniau atal, gan gynnwys cynnydd yn y cyllid i gefnogi mentrau a rhagor o gyllid i’r heddlu.

Rhaglenni ymyrraeth gynnar i leihau’r ffactorau risg hysbys ymhlith plant a phobl ifanc bregus.

Cyngor Canol Swydd Bedford

Mae’r Awdurdod Lleol yn neilltuo arian at wasanaethau atal a fwriadwyd i atal achosion sylfaenol trais difrifol a gwasanaethau trin cyffuriau yn benodol.

Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Durham

Rhan 3: Cwestiynau a ofynnir yng nghorff y ddogfen ymgynghorol

A ydych yn cytuno bod y weledigaeth a’r pwyslais ar ddull amlasiantaethol o atal a thaclo trais difrifol yn gywir?

Os na, esboniwch pam.

12. Dangosodd mwyafrif clir o’r ymatebwyr (86%) i’r ymgynghoriad gefnogaeth i ddull amlasiantaethol o atal a thaclo trais difrifol.

13. O’r rhai oedd yn ymateb i gwestiwn agored, roedd y mwyafrif yn ailadrodd eu cefnogaeth i ddull amlasiantaethol neu gan y rhai sy’n darparu gwaith cadarnhaol sydd ar y gweill yn eu hardal neu gefnogi ymchwil academaidd.

14. Y rhesymau a godwyd amlaf am beidio â chefnogi’r weledigaeth o ddull amlasiantathol o atal a thaclo trais difrifol oedd y pryderon nad yw’n canolbwyntio ar y broblem ehangach neu sylfaenol sy’n achosi trais difrifol, neu bryderon am y diffyg cyllid neu amser sydd gan sefydliadau.

Rwy’n meddwl bod angen gwneud mwy yn y cyfnod ymyrraeth gynnar gan asiantaethau eraill ar y cyd â’r heddlu mae cyfleoedd sy’n cael eu colli i ddargyfeirio pobl sy’n ymwneud â thrais difrifol.

Swyddog o Heddlu’r Met

… nid ydym yn ystyried bod y weledigaeth a ddatblygwyd yn yr ymgynghoriad hwn yn cynrychioli dull iechyd cyhoeddus o ymdrin â thrais difrifol yn llawn. Mae’r dull iechyd cyhoeddus yn ystyried bod trais difrifol yn epidemig sy’n rhaid ei drin gyda’r un dull ataliol system gyfan ag afiechyd epidemig.

Safer London

A ydych yn ystyried mai Dewis Un fyddai’n cyflawni gweledigaeth yr ymgynghoriad hwn orau?

Esboniwch pam os gwelwch yn dda.

15. Nododd 37% (61) o’r ymatebwyr mai Dewis Un oedd y dewis yr oeddent yn ei ffafrio. Y rhesymau a roddwyd amlaf am naill ai gytuno neu anghytuno â Dewis Un oedd bod y dyletswyddau a’r ddeddfwriaeth bresennol yn ddigon i ymdrin â thrais difrifol (39) neu nad oeddent yn hoffi defnyddio dull deddfwriaethol. Mynegodd yr ymatebwyr bryderon hefyd am y diffyg cyllid neu amser sydd gan sefydliadau a staff.

16. Mynegodd yr ymatebwyr hefyd y byddai Dewis Un yn caniatáu ar gyfer hyblygrwydd lleol wrth benderfynu sut i weithredu ac y gallai gael effaith gadarnhaol ar gysondeb ar draws Cymru a Lloegr o ran blaenoriaethu ac atebolrwydd mewn sefydliadau ar gyfer taclo trais difrifol. Fe wnaeth nifer o ymatebwyr hefyd amlygu’r gwaith cadarnhaol y maent yn ei wneud o ran taclo trais difrifol neu awgrymiadau sut y byddai Dewis Un yn gallu gweithio yn eu hardal.

Credir bod y ddyletswydd bresennol i ystyried trosedd ac anhrefn ym mhob agwedd ar ddarparu gwasanaeth yn ddigonol ac na fyddai dyletswydd arall penodol yn gwneud dim ond dyblygu hyn.

Partneriaeth Diogelwch a Chydlyniad Cymunedol Oldham

Rwy’n meddwl bod y dirwedd partneriaeth yn gymhleth ac yn mynd yn fwy felly. Byddai sylfaen statudol yn sicrhau bod gan bartneriaid fframweithiau clir y gellid eu cyflawni a byddai’n rhoi’r gallu i herio a dal pob un i gyfrif.

Tîm Diogelu, Heddlu Avon a Gwlad yr Haf

Mae hyn yn galluogi asiantaethau i flaenoriaethu’r broblem o drais difrifol ond i fod yn greadigol wrth greu atebion amlasiantaethol sy’n gweithio i’r ardal leol

Cyngor Bwrdeistref Cheltenham, Strategaeth ac Ymgysylltu

Rydym yn ystyried mai Dewis Un yw’r dull gorau o gyflawni gweledigaeth yr ymgynghoriad. Bydd sefydlu dyletswydd gyfreithiol newydd i gefnogi dull amlasiantaethol yn rhoi canolbwynt ac atebolrwydd i bartneriaid i atal a thaclo trais difrifol.”

Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent

A ydych yn ystyried mai’r asiantaethau a restrir yn Atodlen 6 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 fyddai’r partneriaid cywir i gyflawni gweledigaeth yr ymgynghoriad?

Os na, esboniwch pam.

17. O’r 185 o ymatebwyr a roddodd ateb “ydw” neu “na” pendant i’r cwestiwn hwn, teimlai 111 bod yr asiantaethau a restrir yn atodiad 6 y partneriaid cywir i gyflawni gweledigaeth yr ymgynghoriad, nid oedd 74 o’r ymatebwyr yn cytuno. Ond, aeth 107 o ymatebwyr ymlaen wedyn i ateb ail ran y cwestiwn. Teimlai mwyafrif y rhai oedd yn ymateb i’r cwestiwn hwn bod angen diweddaru’r rhestr o sefydliadau fel y nodir yn Atodiad 6. Yr awgrymiadau a gynigiwyd amlaf i gael eu cynnwys fel partneriaid ychwanegol i’r rhai sydd eisoes wedi eu cynnwys yn Atodlen 6 oedd y sector gwirfoddol, cymunedol a ffydd (23), grwpiau comisiynu clinigol (19) a’r gwasanaeth tân ac achub (15).

Mae rôl bwysig i’r sector gwirfoddol, cymunedol a ffydd ehangach yng nghyswllt cyflawni deilliannau cynaliadwy tymor hir i’r weledigaeth.

Tîm Cymunedau, Cyngor Sefton

Dylai Grwpiau Comisiynu Clinigol fod yn aelodau craidd canolog, os na fyddant yn comisiynu’r gwasanaethau cywir (gyda’r camau mwyaf effeithiol), gellid cael cynnig darniog ar draws y cyfan.

Tîm Diogelu, Heddlu Avon a Gwlad yr Haf

Efallai y dylid rhoi ystyriaeth hefyd i gynnwys Awdurdodau Tân ac Achub o ystyried eu rôl o ran atal.

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

A ydych yn ystyried mai Dewis dau fyddai’n cyflawni gweledigaeth yr ymgynghoriad hwn orau?

Esboniwch pam os gwelwch yn dda.

18. Teimlai 40% o ymatebwyr mai dewis dau fyddai orau i gyflawni gweledigaeth yr ymgynghoriad. Ond, mynegwyd pryderon gan gynnwys y diffyg arian neu amser sydd gan sefydliadau a staff. Codwyd pryderon hefyd am yr anghysondeb, yn ddaearyddol ac o ran cyrraedd, sydd gan bartneriaethau diogelwch cymunedol, bod y dewis yn targedu’r asiantaethau anghywir neu wneud awgrymiadau ar gyfer asiantaethau targed gwahanol a bod y dyletswyddau a deddfwriaeth gyfredol yn ddigonol i daclo trais difrifol.

19. Eto, roedd rhai ymatebwyr yn rhoi enghreifftiau o sut yr oeddent yn credu y gallai dewis dau weithio ac o waith cadarnhaol sydd ar y gweill yn eu hardal neu sefydliad.

Fel y nodwyd yn y ddogfen ymgynghorol, mae cyrraedd daearyddol Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn gwahaniaethu ar draws y wlad ac mewn sawl achos mae’n golygu nad dyma’r model partneriaeth gorau gan y gall gwneud penderfyniadau fod yn fwy effeithiol ar lefel strategol uwch.

Tîm Cymunedol, Cyngor Sir Dyfnaint

…y bartneriaeth sydd wedi ei sefydlu yn annigonol i gyflawni cysondeb ar draws y sector. Ni fyddai hyn yn unol â’r arferion cyfredol gan gynnwys y bartneriaeth a sefydlwyd trwy’r OPCC. Byddai pryderon y byddai hyn yn arwain at anghysondeb daearyddol trwy beidio â chysoni’r dull ar draws ardaloedd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu.

Tîm Cymunedau, Cyngor Sir Dwyrain Sussex

Mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedol mewn sefyllfa allweddol i herio trais difrifol fel arena diogelu cyd-destunol. Ond, ni all y mater gael ei drin trwy’r partneriaethau hyn yn unig ac mae angen i ddarparwyr iechyd ac addysg, ymhlith eraill, weithio yn effeithiol gyda’i gilydd, i osgoi allgau a chyflwyno gwasanaethau ar y lefel Help Cynnar.

Tîm Cymunedol, Cyngor Sir Dyfnaint

A ddylid ychwanegu at y rhestr o Bartneriaid Statudol mewn Partneriaethau Diogelwch Cymunedol fel eu bod yn gallu atal a thaclo trais difrifol yn ddigonol mewn ardaloedd lleol? Os felly, pa sefydliadau?

20. Credai’r mwyafrif o’r rhai a ymatebodd y dylid ychwanegu at y rhestr o bartneriaid statudol mewn Partneriaethau Diogelwch Cymunedol gyda 116 o ymatebwyr yn ymateb yn bendant â “dylid” i ran gyntaf y cwestiwn a 68 yn ymateb “na”. Ond, aeth 131 o ymatebwyr ymlaen i roi ymateb pellach, a’r awgrymiadau a welwyd yn fwyaf cyffredin oedd sefydliadau addysgol (ysgolion, colegau ac ati), y sectorau gwirfoddol, cymunedol a ffydd a chartrefi preswyl a landlordiaid cymdeithasol.

Addysg – yn arbennig wrth weithio ar y materion hyn oherwydd y cysylltiadau rhwng ymwneud gangiau a gwahardd/anfon o’r ysgolion. Mae gweithio gyda phobl ifanc mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion yn allweddol wrth ystyried yr agenda hon.

Safer Wolverhampton Partnership, Cyngor Dinas Wolverhampton

Y cymunedau a’r bobl ifanc y mae trais yn effeithio arnynt nad ydynt yn cael eu cynrychioli yn unrhyw un o’r dewisiadau sydd ar gael.

MAC UK

Os dewisir dewis 2, rydym yn teimlo bod yn rhaid i amrywiaeth eang o sefydliadau trydydd sector gyfrannu, gan gynnwys sefydliadau cydraddoldeb.

Diverse, Cymru

Dylai’r holl ddarparwyr tai gael mwy o rôl statudol yn atal troseddu a dylai’r holl asiantaethau iechyd gael dyletswyddau mwy clir o ran rhannu gwybodaeth a data.

Cyngor Bwrdeistref Redditch a Chyngor Dosbarth Bromsgrove

A ydych yn ystyried mai Dewis Tri fyddai’n cyflawni gweledigaeth yr ymgynghoriad hwn orau?

Esboniwch pam os gwelwch yn dda.

21|. Hwn oedd y dewis yr oedd lleiaf yn ei ffafrio gyda dim ond 23% o’r ymatebwyr yn credu mai dewis tri fyddai’r dull gorau. Y rhesymau a roddwyd amlaf i esbonio pam nad oedd yn ddull gorau oedd naill ai nad oedd yr ymatebwr yn meddwl y byddai dull gwirfoddol o daclo trais difrifol yn gweithio gan ei fod yn wan neu bod angen deddfwriaeth.

Nid oedd cefnogaeth i ddull gwirfoddol, heb fod yn ddeddfwriaethol. Yn yr hinsawdd ariannol bresennol lle mae adnoddau mor brin teimlid bod angen cael elfen o orfodaeth ac os na fyddai un, yna yn syml byddai sefydliadau yn dewis peidio gweithredu.

Heddlu Northumbria

Byddai hyn yn gam yn ôl. Mae arnom angen cryfder deddfwriaeth i daclo problem genedlaethol.

Coleg Haybrook

Er mwyn ymgysylltu â’r holl bartneriaid angenrheidiol sydd wedi eu cynnwys yn y weledigaeth hon rydym yn credu bod angen mynnu cymryd rhan.

Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu, Tân a Throseddu dros Essex

Pa gamau eraill allai gefnogi dull gwirfoddol amlasiantaethol o’r fath i daclo trais difrifol, gan gynnwys sut yr ydym yn sicrhau bod gwahanol asiantaethau yn cyfuno?

22. O’r 150 o bobl/sefydliadau a ymatebodd i’r cwestiwn am ba gamau eraill allai gefnogi dull gwirfoddol amlasiantaethol, codwyd nifer o bwyntiau gan gynnwys cyllid, rhannu gwybodaeth a chudd-wybodaeth, y gofyn am arweiniad neu strwythur llywodraethu clir a chryf a’r angen am ymyraethau prydlon a therapiwtig.

23. Yn yr un modd â’r dewisiadau blaenorol, roedd rhai ymatebwyr yn rhoi enghreifftiau o waith sy’n cael ei wneud, a modelau sy’n cael eu defnyddio yn eu hardal neu gan eu sefydliad.

Prosesau rhannu gwybodaeth haws a chyfarfodydd cyson i drafod meysydd sy’n peri pryder.

OneLife Suffolk

Cael arweinydd corff cenedlaethol sy’n cael ei gydnabod ac ag awdurdod. Nid oes raid iddo fod â chysylltiad uniongyrchol â’r llywodraeth fel y Swyddfa Gartref.

Swyddog o Heddlu’r Met

Rhan 4: Cwestiynau am y dewisiadau ymgynghori a’u heffaith posibl

24. Defnyddiwyd llawer o’r ymatebion a roddwyd i gwestiynau yn Rhan 4 o’r ddogfen ymgynghorol (amser/adnoddau, staff a chostau eraill) i fod yn sail i’n hasesiad effaith sydd wedi ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r ddogfen ymateb hon. Am ragor o fanylion gweler yr asesiad effaith cyhoeddedig.

Dewis 1: Dyletswydd newydd ar sefydliadau penodol i roi ystyriaeth ddyledus i atal a thaclo trais difrifol

Beth, os o gwbl, yw’r manteision ydych yn eu rhagweld dan y dewis a gynigir?

Atebion lluosog yn bosibl.

25. O’r ymatebwyr oedd yn rhagweld manteision dan ddewis un, y manteision a ddewiswyd amlaf oedd dull mwy cyson o atal a thaclo trais difrifol ar lefel leol, gwell cydweithio gyda sefydliadau eraill a gwell deilliannau i ddioddefwyr a gostyngiadau yn y troseddau treisgar difrifol.

Tabl 7: Manteision Dewis 1

Mantais Cyfanswm (nifer)
Dull mwy cyson wrth atal a thaclo trais difrifol ar lefel leol ~ 110
Gwell cydweithio gydag asiantaethau/sefydliadau eraill ~ 100
Gwell canlyniadau i ddioddefwyr ~ 95
Gostyngiadau mewn troseddau treisgar difrifol ~ 95
Gwell canlyniadau i droseddwyr ~ 80
Gwell prosesau sefydliado ~ 60
Lleihau pwysau ar amser ~ 20
Llai o adnoddau neu gostau i’ch asiantaeth/sefydliad ~ 20

Beth, os o gwbl, yw’r anfanteision ydych yn eu rhagweld yn deillio o’r dewis a gynigir?

Atebion lluosog yn bosibl.

26. Ticiodd y rhan fwyaf o ymatebwyr ‘na’ ar gyfer y cwestiwn hwn ac ni wnaethant ddynodi unrhyw anfanteision i’r dewis hwn. Pan godwyd pryderon, roedd y rhai yn cynnwys pwysau amser posibl a chostau.

Tabl 8: Anfanteision Dewis 1

Anfantais Cyfanswm (nifer)
Cynnydd yn y pwysau ar eich sefydliad ~ 105
Cynnydd yn yr adnoddau neu gostau i’ch sefydliad ~ 100
Dargyfeirio gwariant/adnoddau oddi wrth feysydd eraill ~ 85
Amrywiaeth lleol wrth atal a thaclo trais difrifol ~ 70
Problemau yn ymwneud â chydweithio ag asiantaethau/sefydliadau eraill ~ 55
Gwaethygu prosesau sefydliadol ~ 35
Canlyniadau gwael i ddioddefwyr/troseddwyr ~ 30

Dewis Dau: Dyletswydd newydd trwy ddeddfu i ddiwygio Partneriaethau Diogelwch Cymunedol

Beth, os o gwbl, yw’r manteision ydych yn eu rhagweld dan y dewis a gynigir?

Atebion lluosog yn bosibl.

27. Yn yr un modd â dewis un, o’r ymatebwyr oedd yn rhagweld manteision dan ddewis dau, y manteision a ddewiswyd amlaf oedd gwell cydweithio gyda sefydliadau eraill a dull mwy cyson o atal a thaclo trais difrifol ar lefel leol. Ond, fe roddodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr ‘na’ ar gyfer y manteision a restrwyd ar gyfer dewis dau.

Tabl 9: Manteision Dewis 2

Mantais Cyfanswm (nifer)
Gwell cydweithio gydag asiantaethau/sefydliadau eraill ~ 105
Dull mwy cyson wrth atal a thaclo trais difrifol ar lefel leol ~ 95
Gostyngiadau mewn troseddau treisgar difrifol ~ 85
Gwell canlyniadau i ddioddefwyr ~ 80
Gwell canlyniadau i droseddwyr ~ 75
Gwell prosesau sefydliadol ~ 65
Llai o adnoddau neu gostau i’ch asiantaeth/sefydliad ~ 20
Lleihau pwysau ar amser ~ 15

Beth, os o gwbl, yw’r anfanteision ydych yn eu rhagweld yn deillio o’r dewis a gynigir?

Atebion lluosog yn bosibl.

28. Ticiodd y rhan fwyaf o ymatebwyr ‘na’ ar gyfer y cwestiwn hwn ac ni wnaethant ddynodi unrhyw anfanteision i’r dewis hwn. Pan godwyd pryderon, roedd y rhain yn cynnwys y pwysau amser posibl a’r costau.

Tabl 10: Anfanteision Dewis 2

Anfantais Cyfanswm (nifer)
Cynnydd yn yr adnoddau neu gostau i’ch sefydliad ~ 85
Cynnydd yn y pwysau ar eich sefydliad ~ 85
Amrywiaeth lleol wrth atal a thaclo trais difrifo ~ 65
Dargyfeirio gwariant/adnoddau oddi wrth feysydd eraill ~ 60
Problemau yn ymwneud â chydweithio ag asiantaethau/sefydliadau eraill ~ 55
Gwaethygu prosesau sefydliadol ~ 35
Canlyniadau gwael i ddioddefwyr/troseddwyr ~ 25

Dewis Tri: Dull Gwirfoddol heb fod yn ddeddfwriaethol

Beth, os o gwbl, yw’r manteision ydych yn eu rhagweld dan y dewis a gynigir?

Atebion lluosog yn bosibl.

29. Yn yr un modd â dewis un a dau, o’r ymatebwyr oedd yn rhagweld manteision dan ddewis tri, y manteision a ddewiswyd amlaf oedd gwell cydweithio gyda sefydliadau eraill, dull mwy cyson o atal a thaclo trais difrifol ar lefel leol a gwell deilliannau i ddioddefwyr. Dylid nodi bod llai o ymatebion yn dynodi manteision i’r dewis hwn mewn cymhariaeth â dewisiadau un a dau.

Tabl 11: Manteision Dewis 3

Mantais Cyfanswm (nifer)
Gwell cydweithio gydag asiantaethau/sefydliadau eraill ~ 45
Dull mwy cyson wrth atal a thaclo trais difrifol ar lefel leol ~ 40
Gwell canlyniadau i ddioddefwyr ~ 40
Gwell canlyniadau i droseddwyr ~ 35
Gostyngiadau mewn troseddau treisgar difrifol ~ 30
Llai o adnoddau neu gostau i’ch asiantaeth/sefydliad ~ 25
Gwell prosesau sefydliadol ~ 15
Lleihau pwysau ar amser ~ 15

Beth, os o gwbl, yw’r anfanteision ydych yn eu rhagweld yn deillio o’r dewis a gynigir?

Atebion lluosog yn bosibl.

30. Ticiodd y rhan fwyaf o ymatebwyr ‘na’ ar gyfer y cwestiwn hwn ac ni wnaethant ddynodi unrhyw anfanteision i’r dewis hwn. Pan godwyd pryderon, roedd y rhain yn cynnwys amrywiaeth lleol wrth atal a thaclo trais difrifol; a phroblemau yn ymwneud â chydweithio â sefydliadau eraill.

Tabl 12: Anfanteision Dewis 3

Anfantais Cyfanswm (nifer)
Amrywiaeth lleol wrth atal a thaclo trais difrifol ~ 70
Problemau yn ymwneud â chydweithio ag asiantaethau/sefydliadau eraill ~ 70
Cynnydd yn y pwysau ar eich sefydliad ~ 55
Canlyniadau gwael i ddioddefwyr/troseddwyr ~55
Cynnydd yn yr adnoddau neu gostau i’ch sefydliad ~50
Gwaethygu prosesau sefydliadol ~ 45
Dargyfeirio gwariant/adnoddau oddi wrth feysydd eraill ~ 45

Cwestiynau terfynol yn ymwneud â’r holl ddewisiadau, i’r holl ymatebwyr

Beth fyddai’r ffordd orau o ddal sefydliadau sy’n ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd neu ymateb gwirfoddol i gyfrif?

31. O’r 196 o ymatebwyr i’r cwestiwn hwn, roedd y mwyafrif yn meddwl y gellid dal sefydliadau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd neu ymateb gwirfoddol i gyfrif orau trwy arolygiadau (naill ai ar y cyd neu gan arolygiaethau unigol), fel yr awgrymwyd yn y ddogfen ymgynghorol.

32. Roedd yr ymatebion eraill a roddwyd yn cynnwys awgrymiadau i sefydliadau roi adroddiadau eu hunain (er enghraifft trwy adroddiadau blynyddol neu hunanasesiadau), trwy roi adroddiad mewn cymhariaeth â dulliau mesur perfformiad wedi eu diffinio yn glir neu trwy drefniadau atebolrwydd a pheirianweithiau sy’n bodoli.

Trwy brosesau arolygu yn ychwanegol at fframweithiau perfformiad sy’n cael eu rheoli a’u monitro yn gaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Cleveland

Gyda chefnogaeth fframwaith perfformiad cenedlaethol ystyrlon sy’n mesur effaith cadarnhaol mewn cymhariaeth â’r gweithredu ac yn caniatáu cysondeb a gosod gwaelodlin i ddynodi arfer da ac ardaloedd sy’n ei chael yn anodd.

Heddlu Swydd Northampton

Cyflwyno offer hunan-archwilio, cynlluniau gweithredu a diweddariadau am weithredu i adfer

Safer North Hampshire

Heblaw eich atebion a roddwyd yn yr adrannau blaenorol, a oes unrhyw ystyriaethau eraill y byddech yn hoffi eu codi parthed un neu fwy o’r dewisiadau a gynigir?

Cwestiwn agored.

33. O’r 115 a ymatebodd i’r cwestiwn hwn, yr ymateb a nodwyd amlaf, fel y gwelwyd yn y cwestiynau blaenorol, oedd pryder am gyllid neu bwysau amser a wynebir gan eu sefydliad – mynegodd nifer o ymatebwyr hefyd y farn bod angen mwy o atebolrwydd neu arweinyddiaeth gan y Llywodraeth.

34. Unwaith eto, rhoddodd nifer o ymatebwyr o’u hamser i’n hysbysu am ddulliau lleol sy’n cael eu dilyn neu i roi ymchwil neu ddata.

Ymatebion heb fod ar-lein

35. Ochr yn ochr â’r offeryn arolwg ar-lein, derbyniwyd nifer o ymatebion yn uniongyrchol trwy’r cyfeiriad e-bost a gyhoeddwyd ac un trwy’r cyfeiriad post.[footnote 8] O’r rhain, cyflwynwyd 63 o ymatebion ar ffurf nad oedd yn cyd-fynd â’r dadansoddiad cyffredinol ac fel y cyfryw rydym wedi gorfod eu hystyried ar wahân yma.

36. O’r 59 o ymatebwyr a roddodd wybodaeth am y sector yr oedd eu hasiantaeth/sefydliad yn ei chynrychioli, roedd 25% o’r sector heddlu, 22% o’r sector llywodraeth leol, 12% o’r sector iechyd a gofal cymdeithasol, 8% o’r sector addysg a gofal plant a’r sector gwirfoddol a 5% o’r sector cyfiawnder troseddol. Rhoddwyd 18% mewn categori “arall”, roedd hyn yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd, undebau, y Comisiynydd Plant a chyrff tai.

37. O’r 81 ymateb heb fod ar-lein, nododd y mwyafrif, 78%, yn glir eu bod yn cefnogi taclo ac atal trais difrifol trwy weithio amlasiantaethol.

38. Pan oedd ymatebwyr yn mynegi cefnogaeth i un o’r dewisiadau a amlinellir yn y ddogfen ymgynghorol, roedd 14 o’r ymatebwyr yn cytuno neu yn cefnogi dewis un, roedd 15 o ymatebwyr yn cefnogi dewis dau a 15 o ymatebwyr yn cefnogi dewis tri. Mynegodd saith o ymatebwyr gefnogaeth i gyfuniad o ddewisiadau, er enghraifft, dewis un a dewis dau, dewis un a dewis tri neu ddewis dau a dewis tri.

39. Mynegodd rhai ymatebwyr hefyd eu hanghytundeb â’r dewisiadau yn y papur ymgynghorol, gyda 21 yn anghytuno â dewis un, 15 yn anghytuno â dewis dau ac 13 yn anghytuno â dewis tri.

40. Cododd y rhai a ymatebodd oddi ar-lein bryderon tebyg i’r rhai a ymatebodd ar-lein. Nid oedd naw o ymatebwyr yn cefnogi mabwysiadu dull deddfwriaethol ac awgrymodd 10 o ymatebwyr bod y dyletswyddau a’r ddeddfwriaeth bresennol yn ddigonol i daclo ac atal trais difrifol. Awgrymodd 20 o ymatebwyr bod arnynt angen mwy o eglurder ar sut y byddai’r dewisiadau yn gweithio a chododd 19 yr angen am rannu arfer gorau neu gyfarwyddyd.

41. O ran sut y gall sefydliadau sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd neu ymateb gwirfoddol gael eu dal i gyfrif, rhoddodd 16 o ymatebwyr eu barn. Roedd saith yn pledio o blaid arolygiadau unigol neu ar y cyd, awgrymodd pedwar y dylai comisiynwyr yr heddlu a throseddu fod yn llywodraethu ac yn goruchwylio unrhyw ddyletswydd, awgrymodd dau ymatebwr atebolrwydd trwy ddulliau mesur perfformiad clir a rhoi adroddiadau ac awgrymodd dau ymatebwr y dylai atebolrwydd ddigwydd trwy’r trefniadau atebolrwydd presennol.

42. Roedd yr awgrymiadau ychwanegol a godwyd gan y rhai oedd yn ymateb heb fod arlein yn cynnwys yr angen am ymyrraeth gynnar, yr angen i gynnwys y gymuned, grwpiau cymunedol a phobl ifanc a’r farn y dylai unrhyw ymateb i drais difrifol gael ei seilio ar dystiolaeth ac ymchwil.

Atodiad B - Methodoleg

  1. Datblygwyd cwestiynau’r ymgynghoriad gan swyddogion polisi a dadansoddwyr y Swyddfa Gartref. Roedd economegwyr yn ymwneud â’r cwestiynau sy’n berthnasol i’r Asesiad Effaith.

  2. Derbyniwyd cyfanswm o 288 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Derbyniwyd 207 o ymatebion trwy offeryn arolwg ar-lein y Swyddfa Gartref, a derbyniwyd 81 o ymatebion heb fod ar-lein naill ai trwy holiadur, llythyr neu e-bost. Roedd 18 o’r ymatebion hyn wedi eu llenwi i adlewyrchu’r ddogfen ymgynghori ac ychwanegwyd y rhain i’r 207 a dadansoddwyd y 225 yma gyda’i gilydd. Dadansoddwyd 63 o ymatebion ar wahân fel “ymatebion heb fod ar-lein”. Disgrifir y dadansoddiad o’r ymatebion heb fod ar-lein ymhellach yn Atodiad A.

  3. Gan fod yr ymgynghoriad yn agored i unrhyw un ymateb, nid oedd yn bosibl cyfrifo’r gyfradd ymateb.

  4. Ni wnaeth dadansoddwyr y Swyddfa Gartref bwysoli’r canfyddiadau gan nad oedd yn bosibl pennu yn hyderus pa ymatebion oedd wedi cael eu cyflwyno mewn cyd-destun personol neu broffesiynol. Yn ychwanegol, byddai’r pwysoli yn fympwyol gan fod ffactorau amrywiol a allai ddylanwadu ar faint o bwysigrwydd y gellid ei roi i wahanol ymatebion.

  5. Rhoddwyd cod yn ôl themâu amrywiol i’r cwestiynau agored yn yr holiadur ar-lein a’r ymatebion eraill a gyflwynwyd trwy e-bost neu’r post er mwyn hwyluso dadansoddi nifer fawr o ymatebion ansoddol. Defnyddiwyd dull o’r gwaelod i fyny yn bennaf i godio’r ymatebion lle’r oedd y codau yn cael eu datblygu ar sail yr ymatebion. Y fframwaith codio terfynol a ddeilliodd o’r codio ar-lein wedyn oedd y sail ar gyfer codio heb fod ar-lein, ochr yn ochr ag unrhyw godau newydd oedd yn dod i’r amlwg o ddadansoddi data heb fod ar-lein.

  6. Trwy’r broses ailadroddus hon daeth fframwaith o themâu cyffredin i’r golwg, a ddefnyddiwyd wedyn ar gyfer y dadansoddiad.

  7. Fel egwyddor arweiniol, ar gyfer pob cwestiwn dynodwyd yr atebion oedd yn digwydd amlaf a rhoddwyd adroddiad arnynt yn ôl hynny.

  8. Dadansoddwyd y cwestiynau caeedig yn ymwneud â’r tri dewis a’u costau a manteision yn Excel gan ddau ddadansoddwr i’r Swyddfa Gartref ac yna gwiriwyd y dadansoddiad hwn o ran ei ansawdd gan ddau ddadansoddwr i’r Swyddfa Gartref na fu’n ymwneud â’r dadansoddi cynt.

  9. Rhoddwyd cod i’r cwestiynau agored yn ymwneud â chostau a manteision y tri dewis a’u dadansoddi gan un dadansoddwr i’r Swyddfa Gartref yn Excel. Gwiriodd un Ymgynghoriad ar ddyletswydd gyfreithiol newydd i gefnogi dull amlasiantaethol o atal a thaclo trais difrifol dadansoddwr i’r Swyddfa Gartref na fu’n ymwneud â’r codio a dadansoddi sampl ar hap o 30 y cant o’r ymatebion a godwyd a’r dadansoddiad terfynol.

  10. Rhoddwyd cod i’r cwestiynau agored eraill i’r holiadur ar-lein a’r ymatebion heb fod arlein sy’n cael eu cofnodi yn y ddogfen hon a’u dadansoddi gan swyddogion polisi yn Excel. Cynhaliwyd y gwaith codio gan ddau swyddog polisi ar gyfer pob set o ymatebion ar-lein ac heb fod ar-lein, a gwiriodd un dadansoddwr i’r Swyddfa Gartref na fu’n rhan o’r codio sampl ar hap o tua deg y cant o’r ymatebion wedi eu codio.

  11. Nid yw’r canfyddiadau a gyflwynir yn y ddogfen hon yn cynnwys yr ymatebion gwag.

  12. Ni thorrwyd y canfyddiadau o’r ymatebion testun agored fel y maent yn cael eu cyflwyno yn y ddogfen hon i lawr yn ôl daearyddiaeth na sector oherwydd y nifer isel o ymatebion yn ôl y thema a ddynodwyd.Ymgynghoriad ar ddyletswydd gyfreithiol newydd i gefnogi dull amlasiantaethol o atal a thaclo trais difrifol

Atodiad C: Egwyddorion yr ymgynghoriad

Nodir yr egwyddorion y dylai adrannau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill eu mabwysiadu ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu polisïau a deddfwriaeth yn yr egwyddorion ymgynghori.

  1. Mae hyn yn cynnwys ymatebion ar-lein yn unig gan y rhai na wnaeth ymateb “Ydw” i unrhyw un o’r ddau ddewis arall, nid yw chwaith yn cynnwys ymatebion gwahanol i “Ydw” a “Na”, fel “efallai” ac “o bosibl”. 

  2. Atebodd 117 o ymatebwyr “ydw” i’r cwestiwn hwn ac atebodd 72 “na”. 

  3. Mae hyn yn cynnwys ymatebion ar-lein yn unig gan y rhai na wnaeth ymateb “Ydw” i unrhyw un o’r ddau ddewis arall, nid yw chwaith yn cynnwys ymatebion gwahanol i “Ydw” a “Na”, fel “efallai” ac “o bosibl”. 

  4. 38. 

  5. Mae hyn yn cynnwys ymatebion ar-lein yn unig gan y rhai na wnaeth ymateb “Ydw” i unrhyw un o’r ddau ddewis arall, nid yw chwaith yn cynnwys ymatebion gwahanol i “Ydw” a “Na”, fel “efallai” ac “o bosibl”. 

  6. Derbyniwyd cyfanswm o 288 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Derbyniwyd 207 o ymatebion trwy offeryn arolwg ar-lein y Swyddfa Gartref, a derbyniwyd 81 o ymatebion heb fod ar-lein naill ai trwy holiadur, llythyr neu e-bost. Roedd 18 o’r ymatebion hyn wedi eu llenwi i adlewyrchu’r ddogfen ymgynghori ac ychwanegwyd y rhain at y 207 a dadansoddwyd y 225 yma gyda’i gilydd. Dadansoddwyd 63 o ymatebion ar wahân fel “ymatebion heb fod ar-lein”. 

  7. Ddim yn cynnwys 4 ymateb nad oedd yn ateb y cwestiwn. 

  8. Derbyniwyd 81 o ymatebion heb fod ar-lein naill ai yn uniongyrchol trwy’r cyfeiriad e-bost cyhoeddedig ac un ymateb trwy’r post. Roedd 18 o’r ymatebion hyn wedi eu llenwi i adlewyrchu’r ddogfen ymgynghori a hynhwyswyd y 18 yma yn y 225 o ymatebion a ystyriwyd yn y dadansoddiad cyffredinol a nodir yn y bennod flaenorol.