Consultation outcome

Domestic abuse protection notices and protection orders: draft statutory guidance for the police flowchart (Welsh accessible version)

Updated 27 November 2024

Hysbysiad a gorchymyn gwarchod rhag cam-drin domestig (DAPN/DAPO) – map proses

Sylwch mai bwriad y map proses hwn yw bod yn drosolwg lefel-uchel o’r broses DAPN/DAPO. Dylai hyn gael ei ystyried a’i adolygu ar y cyd â’r Canllaw statudol llawn.

Cam-drin domestig yn cael ei nodi gan yr heddlu:

  • Troseddwr (T) 18 oed neu’n hŷn
  • Dioddefwr (D) yn 16 oed neu’n hŷn
  • (T) yn gam-driniol neu’n fygythiol tuag at rywun sydd “â chysylltiad personol”

Ymwneud yr heddlu:

Yr heddlu’n bresennol ac yn arestio T. Cwblhau asesiad risg gyda D. Ystyriaeth gynnar i addasrwydd DAPN. Casglu tystiolaeth.

WASTAD yn ystyried nodi ac erlyn am droseddau gwirioneddol.

Ymgynghori a cheisio awdurdod am DAPN gan gwnstabl sydd â rheng arolygydd o leiaf, a hynny’n gynnar.

Rhaid cyfiawnhau fod DAPN yn gymesur ac angenrheidiol i warchod yr unigolyn rhag camdriniaeth neu fygythiad o gamdriniaeth gan T. Ystyried hawliau dynol y D a’r T, a barn D.

Ni ellir cadw T yn y ddalfa at ddibenion cyflwyno DAPN.

-DGP ar yr achos
-Rhybuddio T
-T ar fechnïaeth gydag amodau heb roi gwarchodaeth ddigonol i D
Oes

A oes angen DAPN?

Na -Erlyn am drosedd(au) gwirioneddol
-Amodau mechnïaeth sy’n gwarchod D
-Ystyried DAPO arunig i warchod D

Cyhoeddi DAPN

Awdurdodwyd gan uwch-swyddog heddlu (rheng Arolygydd o leiaf) a’i roi i T yn ysgrifenedig gan gwnstabl yn bersonol.

  • Ystyriaethau – lles unrhyw un dan 18, barn pawb dan sylw, sylwadau gan T, NID oes angen cydsyniad D.
  • Amodau –peidio ag ymyrryd. Gall ymyrryd gynnwys mynd yn agos neu i mewn i eiddo D, hyd yn oed mewn achosion lle nad yw T a D yn cyd-fyw.
  • Hysbysiadau – yn ysgrifenedig ac yn bersonol, seiliau cyhoeddi. Cyfrifoldeb T am gydymffurfio ag amodau, pwerau arestio am dorri, clywir cais am DAPO ymhen 48 awr.
  • Rhybudd o Wrandawiad – Wedi i DAPN gael ei roi, rhaid i heddwas ofyn am gyfeiriad i (T) i gyflwyno Rhybudd o Wrandawiad o gais am DAPO. Caiff y Rhybudd o Wrandawiad hwn dan Adran 27 (5) ei drin fel gwŷs. Rhaid rhoi hwn i T ym mhob achos ac y mae ar wahân i’r DAPN. Swyddog yn hysbysu’r Adrannau a’r Asiantaethau perthnasol fod DAPN wedi ei roi.

Torri DAPN

Angen gweithredu BRYS – ystyriwch nodi ac erlyn am droseddau gwirioneddol.

  • Hysbysu D am y torri
  • Hysbysu’r asiantaethau perthnasol am y torri Gall swyddog arestio
  • Cadw yn y ddalfa
  • Llys ymhen 24 awr neu os yn gynt, gwrando ar y cais.
  • Casglu tystiolaeth/paratoi papurau llys.

Amserlen – uchafswm o 48 awr

Gwrandewir ar gais am DAPO ymhen 48 awr o amser rhoi’r DAPN.

Cais am DAPO yn dilyn DAPN

Rhaid gwneud cais trwy gŵyn. Y DAPN yw’r gŵyn. Rhaid ei gyflwyno i’r llys ynadon a heb fod yn hwyrach na 48 awr wedi cyflwyno’r DAPN (ac eithrio Suliau a Gwyliau Banc Cyhoeddus)

Rhaid rhoi rhybudd am wrandawiad y cais i T a thybir ei fod wedi ei roi os gadawyd yn y cyfeiriad a roddwyd gan T. Os na roddodd T gyfeiriad yna rhaid i’r llys fod yn fodlon y gwnaed ymdrechion rhesymol i gyflwyno’r rhybudd.

Cais am DAPO arunig

Gellir gwneud cais amdano gyda phenderfyniad i gyhuddo os oes angen gwarchod D rhag T yn ystod achos troseddol neu na fydd canlyniad achos troseddol yn rhoi digon o warchodaeth.

Gwneud cais gan yr heddlu heb neu gyda rhybudd i T, trwy osod cwyn yn y llys ynadon a gwneud cais am wŷs. Os gwnaed heb rybudd, rhaid rhoi tystiolaeth i’r llys ynglŷn â pham y gwnaed cais heb rybudd am DAPO.

Cais am DAPO mewn achosion llys troseddol sy’n dal ymlaen:

Cafwyd P yn euog o drosedd.

Rhybudd ar y diffynnydd a’r llys ymlaen llaw gyda gorchymyn drafft.

Rhaid i’r heddlu weithio’n agos gyda GEG ar y cais a’r argymhellion.

Cais DAPO

  • Amodau - Bu P yn cam-drin neu yn bygwth cam-drin D a bod DAPO yn angenrheidiol a chymesur er mwyn gwarchod D.
  • Ystyried - Lles unrhyw un dan 18, barn pawb dan sylw (nid oes angen cydsyniad D), sylwadau gan T, cofnodion perthnasol yr heddlu i ganfod a yw T eisoes yn destun gorchymyn llys arall neu waharddeb. Ymwneud ag asiantaethau eraill ynghylch yr amodau, gan gynnwys gwasanaethau CD. Ystyried nodweddion gwarchodedig.
  • Cais – Ystyried pa ofynion fyddai fwyaf effeithiol i ddiogelu’r person a warchodir ac i ymdrin ag ymddygiad camdriniaethol T a theilwrio’r cais yn unol â hynny.
    • Nodi hyd y gorchymyn (dim isafswm nac uchafswm)
    • Nodi hyd yr amodau

Enghreifftiau o amodau y gellid eu cynnwys, ond nid y rhain yn unig:

  • Gwahardd cysylltu â D
  • Gwahardd rhag dod o fewn pellter penodol i eiddo (e.e., cartref D, man gwaith, ysgol plentyn, etc.)
  • Gwahardd o eiddo.
  • Gofynion cadarnhaol (rhaglen troseddwyr, rhaglen cam-ddefnyddio sylweddau, rhaglen iechyd meddwl). Os ystyrir PR, ymwneud â sefydliadau brysbennu i asesu fel rhan o’r cais.
  • Monitro electronig (cyrffiw neu barth eithrio)

Caniatáu DAPO

  • Heddlu i roi DAPO i T.
  • Cysylltu â D i roi gwybod am y penderfyniad.
  • Hysbysu D am waharddiadau a hyd y DAPO a chamau i’w cymryd os torrir y gorchymyn.
  • Adolygu Asesiad Risg i D ac unigolion eraill.
  • Hysbysu’r adrannau a’r asiantaethau perthnasol fod DAPO wedi ei wneud.

Gwrthod DAPO

  • Cysylltu â’r person sydd yn bersonol gysylltiedig i’w hysbysu am y penderfyniad
  • Ystyried cyfeirio ar wasanaeth CD
  • Cyfoesi asesiad risg DASH/DARA – sicrhau bod mesurau diogelu yn ddigonol.
  • Hysbysu’r adrannau a’r asiantaethau perthnasol.
  • Ymwneud ag asiantaethau eraill, cyfeirio posib i MARAC a chynllunio diogelwch.
  • Tynnu marciwr DAPN o’r PNC.

Ymwneud amlasiantaethol

  • Bydd IDVA yn rhoi cefnogaeth annibynnol a chyfarwyddyd yn uniongyrchol i’r dioddefwr.
  • Efallai y bydd angen gweithredu brys cyn MARAC yn dibynnu ar yr amserlen
  • Asiantaethau MARAC i nodi a gosod mesurau/camau diogelwch i gefnogi a diogelu’r D ac unrhyw blant.

Torri DAPO

Angen gweithredu BRYS

  • Cysylltu â T ac ymchwilio i’r torri
  • Gall swyddog arestio T.
  • Gall llys gadw yn y ddalfa neu ar fechniaeth
  • Hysbysu’r D am y torri.
  • Hysbysu adrannau ac asiantaethau perthnasol am y torri
  • Casglu tystiolaeth/paratoi papurau llys
  • Siarad â GEG am benderfyniad ynghylch cyhuddo.

DAPO yn dod i ben

  • Dal i ganoli ar y dioddefwr, ystyried anghenion, gofynion a diogelwch D.
  • Ystyried a oes angen cais i ymestyn y DAPO
  • Gofalu bod yr holl wybodaeth yn cael ei gofnodi a bod modd ei adfer ar PND/systemau’r llu lleol.