Ymgynghoriad ar newidiadau i’n datganiadau ystadegol
Read the full outcome
Detail of outcome
Cawsom 12 ymateb i’r ymgynghoriad.
Ar ôl dadansoddi’r ymatebion, rydym wedi penderfynu byddwn:
- yn lleihau’r cyfnod o amser rhwng cyhoeddiadau Cwmnïau Corfforedig yn y DU o bob mis i bob chwarter. Y ffigurau ar gyfer mis Mehefin 2016, a fydd yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2016, bydd y cyhoeddiad misol olaf. Bydd y cyhoeddiad chwarterol newydd gyntaf ym mis Hydref 2016 ar gyfer ffigurau sy’n cwmpasu mis Gorffennaf hyd fis Medi 2016.
- yn lleihau’r hyd y cyhoeddiad Cwmnïau Corfforedig yn y DU. Byddwn yn sicrhau bod y wybodaeth a ddarparwn yn dal i fod yn ddefnyddiol ac yn llawn gwybodaeth er mwyn ateb gofynion anghenion ein defnyddwyr.
- yn lleihau’r cyfnod o amser rhwng cyhoeddiadau ystadegol Cosbau Ffeilio Hwyr o bob mis i bob 6 mis. Bydd y cyhoeddiad misol olaf ystadegau Cosbau ffeilio hwyr yn dangos ffigurau mis Mehefin 2016 a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2016. Bydd y ffigurau ar gyfer cyfnod o chwe mis rhwng mis Ebrill hyd fis Medi 2016 yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2016, a ffigurau ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref 2016 hyd fis Mawrth 2017 yn cael eu cyhoeddi yn fis Ebrill 2017.
- bydd pwyntiau esboniadol allweddol yn cyd-fynd â’r table data allweddol ar gyfer ystadegau Cosbau Ffeilio Hwyr. Byddwn yn sicrhau bydd y pwyntiau allweddol yn darparu esboniad defnyddiol mewn ffurf gryno
Mae’r ymateb llawn ar gael yn Saesneg yn unig.
Original consultation
Consultation description
Cynnig i newid y cyfnod o amser rhwng cyhoeddiadau ystadegol
Mae Tŷ’r Cwmnïau’n cyhoeddi amrywiaeth o ystadegau ar weithgarwch cwmnïau yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n cynnig newid pa mor aml rydyn ni’n cyhoeddi rhai o’r ystadegau hyn. Nodir y cyhoeddiadau, ynghyd â’r newidiadau a gynigir i ba mor aml y cânt eu cyhoeddi, yn y tabl isod.
Teitl y cyhoeddiad | Pa mor aml yn awr | Pa mor aml yn ôl y cynnig |
---|---|---|
Cwmnïau Corfforedig yn y DU | Bob mis | Bob chwarter |
Ystadegau Cosbau Ffeilio Hwyr | Bob mis | Ddwywaith y flwyddyn |
Cynnig i newid fformat ein cyhoeddiadau ystadegol
Ar yr un pryd â lleihau pa mor aml rydyn ni’n rhyddhau ein cyhoeddiadau Cwmnïau Corfforedig yn y Deyrnas Unedig ac Ystadegau Cosbau Ffeilio Hwyr, rydyn ni hefyd yn cynnig newid fformat y cyhoeddiadau. O ran y cyhoeddiad Cwmnïau Corfforedig yn y Deyrnas Unedig, rydyn ni’n cynnig lleihau hyd y ddogfen PDF yn sylweddol.
Bydd y ddogfen yn canolbwyntio’n benodol ar y pwyntiau allweddol mewn perthynas â gweithgarwch y gofrestr am y cyfnod o dri mis, a chymariaethau â’r un cyfnod o dri mis yn y flwyddyn flaenorol. Caiff gwybodaeth am weithgarwch hanesyddol y gofrestr ei chadw ar gyfer y cyhoeddiad blynyddol, Gweithgareddau’r Gofrestr Cwmnïau. Bydd yr adroddiad chwarterol yn dal i gynnwys gwybodaeth gefndir allweddol, a byddwn yn dal i gyhoeddi’r ystod lawn o dablau data i gyd-fynd â phob datganiad.
Rydyn ni’n cynnig ymestyn y cyhoeddiad Ystadegau Cosbau Ffeilio Hwyr i gynnwys pwyntiau allweddol sy’n ymwneud â’r ffigurau ac yn eu hesbonio. Rhagwelwn mai cyhoeddiad ar y we yn hytrach na dogfen PDF fydd hwn. Unwaith eto, byddwn yn dal i gyhoeddi gwybodaeth gefndir allweddol a thablau data i gyd-fynd â phob datganiad.
Gofyn am gyfraniad defnyddwyr
Bydd y newidiadau a gynigir yn caniatáu i ni ddefnyddio mwy o adnoddau ar ddatblygu’r ystadegau a’r deunydd ategol sy’n cyd-fynd â hwy. Os cânt eu derbyn, bydd y newidiadau’n cael eu gwneud dros 2016. Rydyn ni’n gofyn am eich barn chi am y newidiadau a gynigir fel y gallwn fod yn sicr bod ein cynhyrchion yn diwallu’ch anghenion chi. Rydyn ni eisiau deall beth sy’n bwysig i chi a’r effaith y byddai’r newidiadau hyn yn ei chael arnoch chi ac ar eich gwaith.
Gofynnwn i chi ystyried y cynigion a chymryd oddeutu 15-20 munud i ymateb i gwestiynau’r ymgynghoriad. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 29 Ebrill 2016. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’n canfyddiadau cyn pen rhyw 12 wythnos ar ôl y dyddiad cau hwn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch neges e-bost [email protected].
Updates to this page
Published 3 March 2016Last updated 24 June 2016 + show all updates
-
Final outcome added.
-
Deadline extended to 13 May
-
First published.