100 diwrnod tan Uwchgynhadledd 2014 NATO yng Nghymru
Mewn 100 diwrnod bydd sylw’r byd wedi ei hoelio ar Gymru
Bydd y Prif Weinidog, David Cameron, ac Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, Anders Fogh Rasmussen, yn arwain un o’r cynulliadau mwyaf erioed o arweinwyr y byd i gael ei gynnal yn y DU ar gyfer Uwchgynhadledd 2014 NATO.
Bydd Penaethiaid Llywodraethau o 28 aelod NATO ac uwch swyddogion o 30 gwlad bartner NATO yn cwrdd yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd rhwng 4 a 5 Medi.
Dyma fydd yr Uwchgynhadledd NATO gyntaf i’w chynnal yn y DU ers croesawu’r Gynghrair i Lundain yn 1990 a dyma’r tro cyntaf y bydd Arlywydd presennol UDA yn ymweld â Chymru yn swyddogol. At ei gilydd, disgwylir oddeutu 2,000 o gynadleddwyr, gydag oddeutu 1,500 o newyddiadurwyr.
Bydd Uwchgynhadledd NATO yn rhoi cyfle unigryw i Gymru arddangos y gorau sydd ganddi i’w gynnig i gynulleidfa fyd-eang o biliynau, gan gadarnhau ein henw da rhyngwladol a’n gallu i gynnal digwyddiadau o bwysigrwydd byd-eang ac rwyf yn ffyddiog y byddwn yn cyrraedd y nod.
Mae’r llywodraethau yn Llundain ac yng Nghaerdydd yn gweithio’n galed i sicrhau bod Cymru yn cael y manteision gorau o’r uwchgynhadledd a’i bod yn cael ei hyrwyddo fel lle gwych ar gyfer ymweliadau, busnes ac astudiaethau.
Bydd llywodraeth y DU hefyd yn hyrwyddo Cymru dramor, gan ddefnyddio ein rhwydwaith helaeth o lysgenadaethau, consyliaethau ac uchel gomisiynau ym mhedwar ban byd.
Gan adeiladu ar yr uwchgynhadledd, rwyf yn bwriadu cynnal cynhadledd masnach rhyngwladol yng Nghymru i fedi’r manteision gorau posibl yn dilyn ein cyfnod ar y llwyfan rhyngwladol. Mae hyder busnesau ar draws y DU yn uwch nag erioed o’r blaen ac ar eich uchaf yng Nghymru ers 2009. Mae llawer o alw am gynnyrch a gwasanaethau Prydain – a thrwy hynny – y rheini sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru ac, fel gwlad, ni fu ein proffil byd-eang erioed mor uchel. Bydd y gynhadledd fasnach yn rhoi cyfleoedd ychwanegol i’n hallforwyr Cymreig sydd gyda’r gorau yn y byd.
Mae’n bwysig addysgu pobl ifanc am swyddogaeth y DU yn NATO, ac oherwydd hynny datblygwyd adnodd dysgu ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed a bydd ar gael i ysgolion ledled y DU cyn bo hir.
Mae’n addas hefyd y bydd uwchgynhadledd eleni, a fydd yn canolbwyntio ar ‘Ddyfodol NATO’ yn cael ei chynnal yng Nghymru, sydd ers tro byd wedi bod ar flaen y gad yn y diwydiannau awyrofod ac amddiffyn. Mae cwmnïau yng Nghymru yn cyflogi miloedd o bobl yn y sector hwn ac yn darparu offer a chefnogaeth o ansawdd uchel i gefnogi ein lluoedd arfog ardderchog o amgylch y byd.
Yn ardal Casnewydd ei hun mae canolfan fwyaf a mwyaf blaengar Ewrop o dechnoleg arfogaeth filwrol. Mae gennym gwmnïau peirianneg amddiffyn blaengar hefyd yng ngogledd Cymru, fel Raytheon UK. Mae ei safle ym Mrychdyn yn cynhyrchu’r dechnoleg sy’n cael ei defnyddio yn yr awyrennau Sentinel, system oruchwylio â chriw mwyaf datblygedig y DU. Mae’n hanfodol ein bod yn manteisio ar yr uwchgynhadledd i sicrhau bod y cynrychiolwyr yn cael gwybod am arbenigedd Cymru yn y sector amddiffyn.
Mae gan Gymru, wrth gwrs, hanes milwrol balch a chysylltiadau cryf â’n lluoedd arfog. Ers canrifoedd mae ein milwyr wrth gefn wedi bod yn elfen gref o fyddin Prydain. Yn ddiweddar mae unedau a milwyr wrth gefn o Gymru wedi cael eu hanfon ac wedi gwasanaethu ar ymgyrchoedd yn Irac ac yn Afghanistan. Ynys Môn yw cartref RAF y Fali, canolfan gyda’r orau yn y byd ar gyfer awyrennau’r fyddin, sy’n chwarae rhan allweddol yn yr economi leol ac sy’n gwneud cyfraniad pwysig at amddiffyn a gwydnwch y DU – rhywbeth sy’n cael ei gydnabod gan y nifer o wledydd sy’n anfon eu peilotiaid yno i’w hyfforddi.
Ym mis Medi bydd arweinwyr y byd yn dod ynghyd yng Nghymru i drafod materion sy’n eithriadol o bwysig i ni gyd: terfysgaeth, môr-ladrata, gwledydd ansefydlog, ymosodiadau seiber a sialens sicrhau sefydlogrwydd mewn byd ansefydlog. Bydd yr uwchgynhadledd hefyd yn canolbwyntio ar sicrhau bod holl wledydd NATO yn meddu ar yr offer, y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i amddiffyn eu hunain.
Ond yn ddiau, o’r holl gyfleoedd a ddaw drwy Uwchgynhadledd NATO eleni yng Nghymru, efallai mai’r pwysicaf yw atgyfnerthu’r neges bod buddiannau’r byd a’i bobl yn dal i gael eu hamddiffyn orau drwy gydweithio agos.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Uwchgynhadledd 2014 Nato dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 27 Mai 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 Mai 2014 + show all updates
-
Added translation
-
Added translation
-
First published.