Adfywio 17 o gyfleusterau pêl-droed ar lawr gwlad ar hyd a lled Cymru drwy fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU
Cyhoeddodd buddiolwyr buddsoddiad cychwynnol o £1.3 miliwn mewn cyfleusterau pêl-droed ar lawr gwlad ar hyd a lled Cymru eleni
-
Bydd 17 prosiect yn elwa o’r gyfran gyntaf o fuddsoddiad gwerth £230 miliwn mewn cyfleusterau pêl-droed ar hyd a lled y Deyrnas Unedig i godi’r gwastad o ran mynediad at ddarpariaeth chwaraeon o ansawdd
-
Bydd y gwelliannau’n cael eu gwneud mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru
Bydd cyfleusterau pêl-droed ar lawr gwlad ar hyd a lled Cymru yn elwa o £1.3 miliwn gychwynnol o gyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwelliannau, fel rhan o ymrwymiad mawr i godi’r gwastad o ran mynediad at weithgarwch corfforol ar draws y wlad.
Bydd 17 o brosiectau ar hyd a lled Cymru yn cael cyllid i greu ac i wella caeau, ystafelloedd newid a phafiliynau, er mwyn i ragor o gymunedau lleol allu cael gafael ar gyfleusterau o ansawdd uchel.
Mae’r prosiectau wedi cael eu dewis oherwydd eu bod yn gallu darparu cyfleusterau gwell mewn ardaloedd difreintiedig, cefnogi defnydd aml-chwaraeon a chynyddu cyfranogiad ymysg grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, merched a chwaraewyr anabl.
Mae enghreifftiau’n cynnwys Cae Pêl-droed Baglan, a fydd yn cael £100,000 i droi eu cae glaswellt yn laswellt artiffisial 3G, gwella cyfleusterau ar gyfer gêm y menywod a darparu ar gyfer anghenion pawb yn y gymuned. Mae dros £57,000 wedi cael ei roi i Hyb Clwb Ysgol y Grango yn Wrecsam i ddarparu cyfleusterau gwell ar gyfer rhagor o glybiau cymunedol. Bydd £35,000 yn helpu i uwchraddio’r wyneb a newid y llifoleuadau yng Nghae Piod yng Ngheredigion.
Mae rhestr lawn o’r prosiectau sy’n cael eu hariannu ar gael yma.
Bydd y cyllid, ynghyd â chyfraniadau gan y clybiau a phartneriaid lleol eraill, yn gwella ansawdd cyfleusterau cymunedol, yn dod â phobl at ei gilydd i fwynhau chwaraeon yn eu hardal leol, yn adfywio cymunedau ac yn gwella cydlyniant cymdeithasol.
Mae’n rhan o fuddsoddiad gwerth £25 miliwn ar draws y DU mewn cyfleusterau ar lawr gwlad yn ystod y flwyddyn ariannol hon, o gyfanswm o £230 miliwn a fydd yn cael ei fuddsoddi i helpu i adeiladu neu i uwchraddio hyd at 8,000 o gaeau o ansawdd ar draws y DU dros y pedair blynedd nesaf. Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi’r gwaith o adeiladu neu adnewyddu tai clybiau, cyfleusterau newid ac adeiladau cymunedol.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyflwyno’r rhaglen ar ran Llywodraeth y DU yng Nghymru. Yn dilyn ymrwymiad Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dewis buddsoddi £1.3 miliwn i wella cyfleusterau ar lawr gwlad eleni - mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gweithio gyda’r ddwy lywodraeth i fanteisio i’r eithaf ar y buddsoddiad hwn ar y cyd i gymunedau lleol.
Dywedodd Nigel Huddleston, Gweinidog Chwaraeon y DU:
Rydym wedi ymrwymo i wella mynediad at gyfleusterau chwaraeon o ansawdd uchel ar gyfer pobl ddifreintiedig a phobl sy’n cael eu tangynrychioli yng Nghymru.
O ystafelloedd newid i fenywod yng Nghaeau Chwarae Treborth ym Mangor i feysydd chwarae newydd yn y Trallwng ac Abertawe, bydd hyn yn sicrhau bod rhagor o bobl yn gallu mwynhau manteision iechyd corfforol a meddyliol chwaraeon mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf yn eu cymuned leol.
Meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae clybiau pêl-droed ar lawr gwlad wrth galon eu cymunedau, gan ddarparu cyfleoedd chwaraeon ond hefyd gan ddod â manteision iechyd a chymdeithasol diddiwedd i blant ac i oedolion lleol.
Maen nhw’n chwarae rhan bwysig iawn ac rydw i wrth fy modd bod Llywodraeth y DU yn gwneud y buddsoddiad hwn mewn cyfleusterau ar hyd a lled Cymru a fydd yn helpu’r clybiau a’r grwpiau sy’n cael y cyllid hwn i barhau â’u gwaith gwych.
Dywedodd y Prif Weithredwr Noel Mooney o Gymdeithas Bêl-droed Cymru:
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn falch o fod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i wella cyfleusterau ar draws Cymru ac rydym yn ddiolchgar am eu cefnogaeth.
Gwella’r cyfleusterau ar draws Cymru yw prif amcan strategol Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae’r rownd gychwynnol hon o gyllid yn nodi dechrau taith gyffrous, a bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda’i holl randdeiliaid, i greu cronfa buddsoddi mewn cyfleusterau er mwyn cyflawni prosiectau effeithiol ar draws pob cwr o Gymru wrth i ni ymdrechu i wneud pêl-droed yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.
Mae cyhoeddiad heddiw yn dilyn ‘Datganiad o Ddiddordeb’ ar y cyd a gyflwynwyd i UEFA gan Gymdeithasau Pêl-droed Lloegr, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon, yr Alban a Chymru ddydd Mercher (23 Mawrth).
Mae Llywodraethau’r DU, Iwerddon, yr Alban a Chymru wedi cadarnhau eu cefnogaeth i gyflwyno’r Datganiad o Ddiddordeb ac, o gofio nad yw Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn cyfarfod yn ffurfiol ar hyn o bryd, mae swyddogion yn dal i ddilyn y broses yn agos.
Disgwylir i drafodaethau ffurfiol ar fanylebau technegol y twrnamaint gael eu cynnal gyda chorff llywodraethu pêl-droed Ewrop dros yr wythnosau nesaf, cyn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch cyflwyno cais ffurfiol.
Wrth sôn am bosibilrwydd cynnal UEFA EURO 2028, ychwanegodd Nigel Huddleston, y Gweinidog Chwaraeon:
Mae’n newyddion da gan y Cymdeithasau Pêl-droed ac mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda nhw a’n partneriaid yn Llywodraeth Iwerddon a’r Gweinyddiaethau Datganoledig i ddod â phrif ŵyl pêl-droed ryngwladol UEFA i’r DU ac Iwerddon.
Mae ein partneriaeth unigryw yn creu’r posibilrwydd ar gyfer yr EUROs gorau erioed, ac rydym yn frwd ynghylch dod ag un arall o brif ddigwyddiadau chwaraeon y byd yma, gan greu dathliad go iawn o bêl-droed i bobl y DU ac Iwerddon.
Mae’r llywodraeth yn parhau i ddangos ei hymrwymiad i chwaraeon a hamdden, gan gyhoeddi’n ddiweddar ei bod hefyd yn buddsoddi £30 miliwn i adnewyddu dros 4,500 o gytiau tenis ar hyd a lled y DU.