Datganiad i'r wasg

63,700 o bensiynwyr yng Nghymru i elwa’n awtomatig o ostyngiad o £140 ym miliau’r gaeaf

Bydd bron i 65,000 o bensiynwyr bregus yng Nghymru yn derbyn £140 annisgwyl diolch i ymdrechion Llywodraeth y DU i weithio gyda chwmnïau ynni i leihau eu costau.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
hand switching on light

Cafodd cwsmeriaid cymwysedig am Gredyd Pensiwn sy’n gymwys am y gostyngiad eu hadnabod ar ôl i’r Adran Gwaith a Phensiynau wirio eu cofnodion gyda chyflenwyr ynni.

Roedd data cwsmeriaid yn cyfateb â chofnodion o fwy na 50 o gyflenwyr a gymerodd rhan er mwyn i 95% o bensiynwyr ar draws y wlad fydd yn derbyn y gostyngiad yn ei dderbyn heb orfod gwneud dim byd – sy’n arbed cyfanswm o £137 miliwn.

Bydd y gostyngiad, a elwir y Cynllun Gostyngiadau Cartref Cynnes, yn cael ei gymryd yn awtomatig o filiau ynni cyn mis Mawrth 2021, gyda rhan fwyaf o bensiynwyr yn derbyn eu gostyngiad rhwng nawr a mis Ionawr.

Bydd 220,000 o bensiynwyr eraill sy’n cwrdd â rhan o’r meini prawf ond sydd ddim eto’n elwa yn derbyn llythyr yn eu hannog i hawlio drwy linell cymorth bwrpasol.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae Llywodraeth y DU yn ymrwymo i leihau costau byw a sicrhau bod y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas yn derbyn cymorth - yn enwedig yn ystod misoedd oeraf y flwyddyn.

Yn ogystal â’r newidiadau i’r Credyd Cynhwysol, mae cyflwyno Cynllun Kickstart a chynyddu’r nifer o Anogwyr Gwaith ar draws y DU, mae’r gostyngiad ym miliau’r gaeaf yma’n dangos ein cefnogaeth i bobl o bob oedran wrth i ni adeiladu cymunedau cryfach ac economi fwy cadarn.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Thérèse Coffey:

Mae’r llywodraeth hon wedi mynd ati i helpu pensiynwyr sydd ar incwm isel gyda’u biliau ynni. Rydym yn ymwybodol pa mor bwysig yw bod pobl yn cadw eu cartrefi’n gynnes yn ystod misoedd oer y gaeaf, dyna pam mae’n bleser gen i gyhoeddi ein bod ni wedi defnyddio ein IT o sicrhau bod bron i filiwn o bensiynwyr yn gweld eu biliau yn lleihau’n awtomatig.

Bydd y Cynllun Gostyngiadau Cartref Cynnes yn cael ei hymestyn tan o leiaf mis Mawrth 2022, sy’n lleihau’r pwysau ar gwsmeriaid bregus ar incwm isel sy’n poeni am allu talu eu biliau ynni.

Mae’r gronfa o £350m, sy’n cefnogi pobl oedran gweithio yn ogystal â phensiynwyr, yn helpu Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ledled Prydain drwy dorri biliau cartrefi incwm isel o £140 y flwyddyn. Mae Credyd Pensiwn yn darparu incwm ychwanegol i’r sawl sy’n hawlio’r Pensiwn Gwladol, gyda 977,000 o bobl yn cael eu hadnabod ar gyfer y gostyngiad tanwydd drwy’r ymarferiad paru data.

DIWEDD

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Mae mwy na 1.5 miliwn o bobl hŷn ar draws Prydain yn derbyn cymorth ariannol ychwanegol drwy Gredyd Pensiwn ar hyn o bryd.

  • Rydym yn annog unrhyw un sy’n meddwl eu bod yn gymwys i fynd i gov.uk/pension-credit. Dim ond ychydig o funudau y mae’n ei gymryd i gael syniad o faint y gallent ei gael drwy ddefnyddio’r cyfrifiannell Credyd Pensiwn ar-lein, a gellir hawlio ar-lein neu drwy ffonio’r llinell gymorth am ddim 0800 99 1234.

  • Mae mwy o wybodaeth am y Cynllun Gostyngiadau Cartref Cynnes ar gael ar gov.uk/the-warm-home-discount-scheme

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Hydref 2020