Datganiad i'r wasg

Cyllideb i atgyweirio’r sylfeini a sicrhau newid i Gymru

Mae’r Canghellor wedi gwneud penderfyniadau tymor hir i adfer sefydlogrwydd, ailadeiladu Prydain ac amddiffyn pobl sy’n gweithio ledled Cymru.

HM Treasury

Mae’r Canghellor wedi cyflwyno Cyllideb i atgyweirio’r sylfeini er mwyn cyflawni’r addewid o newid ar ôl degawd a hanner o ddiffyg twf. Amlinellodd gynlluniau i ailadeiladu Prydain gan sicrhau nad yw pobl sy’n gweithio ledled Cymru yn wynebu trethi uwch yn eu slipiau cyflog.

Mae Llywodraeth y DU wedi etifeddu sefyllfa heriol; £22 biliwn o bwysau ar wariant yn ystod y flwyddyn heb ei ariannu, dyled ar ei huchaf ers y 1960au, rhagolwg afrealistig ar gyfer gwariant adrannol, a diffyg cynnydd mewn safonau byw.

Mae’r Gyllideb hon yn gwneud penderfyniadau anodd i adfer sefydlogrwydd economaidd ac ariannol er mwyn i Lywodraeth y DU allu buddsoddi yn nyfodol economaidd Cymru a gosod y sylfeini ar gyfer twf ar draws y DU fel ei phrif genhadaeth.

Cyhoeddodd y Canghellor y bydd Llywodraeth Cymru yn cael setliad o £21 biliwn yn 2025/26 – y mwyaf mewn termau real yn hanes datganoli. Mae hyn yn cynnwys ychwanegiad o £1.7 biliwn drwy fformiwla Barnett, gyda £1.5 biliwn ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd a £250 miliwn ar gyfer buddsoddiad cyfalaf.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r Gyllideb hon wedi cyflawni dros Gymru am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth.

Bydd y setliad mwyaf ers datganoli yn rhoi’r hwb mwyaf erioed i wariant Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus fel y GIG tra bydd miloedd o bobl sy’n gweithio ar hyd a lled Cymru yn elwa ar y codiad yn eu cyflogau heddiw.

Ychydig dros wythnos ar ôl nodi trychineb Aberfan, mae’n briodol ein bod wedi ymrwymo £25 miliwn i wneud tomenni glo yn ddiogel. Mae’n dyst i’r berthynas newydd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru sy’n seiliedig ar gydweithredu, parch a chyflawni.

Byddwn hefyd yn sbarduno twf economaidd ac yn cefnogi ein diwydiannau yng Nghymru sydd gyda’r gorau yn y byd gyda Pharthau Buddsoddi, Porthladdoedd Rhydd a chyllid ar gyfer cymunedau ledled Cymru.

Rydym wedi blaenoriaethu arian i gefnogi ein cymunedau dur, gyda bron i £100 miliwn i gefnogi gweithwyr a busnesau.

Mae’r Gyllideb hon yn cyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Cymru, ac mae’n dangos y gwahaniaeth y gallwn ei wneud pan fydd dwy lywodraeth yn cydweithio er budd pawb.

Amddiffyn pobl sy’n gweithio a safonau byw

Er bod angen gwneud penderfyniadau anodd i atgyweirio’r sefyllfa a etifeddwyd, mae’r Canghellor wedi ymrwymo i amddiffyn safonau byw pobl sy’n gweithio. Mae’r penderfyniadau a wnaed gan y Canghellor i ailadeiladu cyllid cyhoeddus yn galluogi Llywodraeth y DU i gyflawni ei haddewid i beidio â chynyddu Yswiriant Gwladol na TAW ar bobl sy’n gweithio yng Nghymru, sy’n golygu na fyddant yn gweld trethi uwch yn eu slip cyflog.

  • Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn codi o £11.44 i £12.21 yr awr o fis Ebrill 2025. Mae’r cynnydd o 6.7% – sy’n werth £1,400 y flwyddyn i weithiwr amser llawn – yn gam sylweddol tuag at sicrhau cyflog byw go iawn.
  • Bydd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol i bobl ifanc rhwng 18 ac 20 oed hefyd yn gweld y cynnydd mwyaf erioed o £8.60 i £10 yr awr.
  • Bydd pobl sy’n gweithio yn elwa oherwydd y cynnydd hwn – amcangyfrifir bod mwy na 70,000 o weithwyr isafswm cyflog yng Nghymru yn 2023.
  • Mae’r Canghellor wedi penderfynu amddiffyn pobl sy’n gweithio yng Nghymru rhag cael eu llusgo i fracedi treth uwch drwy gadarnhau y bydd trothwyon Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu dadrewi o 2028-29 ymlaen.
  • Mae’r Canghellor hefyd yn amddiffyn modurwyr drwy rewi treth tanwydd am flwyddyn – toriad treth gwerth £3 biliwn, gyda’r toriad dros dro o 5c yn cael ei ymestyn tan 22 Mawrth 2026. Bydd hyn o fudd i oddeutu 2.1 miliwn o bobl yng Nghymru, gan arbed £59 i’r gyrrwr car cyffredin, £126 i yrwyr faniau a £1,079 i yrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm y flwyddyn nesaf.
  • Er mwyn cefnogi tafarndai a bragwyr llai yng Nghymru, mae Llywodraeth y DU yn torri ceiniog ar y dreth ar gynnyrch drafft cymwys; mae hynny’n cynrychioli oddeutu 3 o bob 5 diod alcoholig sy’n cael ei werthu mewn tafarndai. Mae’r mesur hwn yn gostwng biliau treth dros £70 miliwn y flwyddyn, gan dynnu ceiniog oddi ar beint cryfder cyfartalog mewn tafarn. Bydd y rhyddhad sydd ar gael i fân gynhyrchwyr yn cael ei ddiweddaru i helpu bragwyr a gwneuthurwyr seidr llai.  
  • Bydd dros 600,000 o bensiynwyr yng Nghymru yn elwa ar gynnydd o 4.1% i Bensiwn y Wladwriaeth (newydd neu sylfaenol) ym mis Ebrill 2025. Mae hyn yn golygu £470 ychwanegol y flwyddyn i’r rheini sy’n cael Pensiwn newydd y Wladwriaeth a £360 yn ychwanegol y flwyddyn i’r rheini sy’n cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.
  • Bydd aelwydydd sy’n gymwys i gael Credyd Pensiwn yn cael £465 y flwyddyn yn fwy ar gyfer pensiynwyr sengl a hyd at £710 y flwyddyn yn fwy ar gyfer cyplau yn sgil cynnydd o 4.1% yn y Warant Isafswm Safonol ar Gredyd Pensiwn, sydd o fudd i 80,000 o bensiynwyr yng Nghymru.
  • Bydd tua 1.1 miliwn o deuluoedd yng Nghymru yn gweld eu budd-daliadau oedran gweithio yn cael eu huwchraddio yn unol â chwyddiant - cynnydd o £150 ar gyfartaledd yn 2025-26.
  • Bydd lleihau uchafswm yr ad-daliadau dyled y gellir eu didynnu o daliad Credyd Cynhwysol aelwyd bob mis o 25% i 15% yn arwain at fudd o fwy na £420 y flwyddyn ar gyfartaledd i deulu yng Nghymru.
  • Bydd y terfyn enillion wythnosol ar gyfer Lwfans Gofalwr yn codi £45 yr wythnos o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, gan ehangu cymorth i fwy o ofalwyr yng Nghymru a’u helpu i gydbwyso cyfrifoldebau gwaith a gofalu. Dyma’r cynnydd mwyaf erioed i’r terfyn enillion ac mae’n rhoi sicrwydd i ofalwyr gydag ymrwymiad y bydd y terfyn enillion yn cynyddu gyda’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn y dyfodol.

Ailadeiladu Prydain

Ni fydd Llywodraeth y DU yn dychwelyd i gyni - yn hytrach bydd yn rhoi hwb i fuddsoddi er mwyn ailadeiladu Prydain a gosod y sylfeini ar gyfer twf yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys £160 miliwn o gyllid wedi’i dargedu ar gyfer Llywodraeth Cymru, gyda £150 miliwn ohono mewn buddsoddiad cyfalaf.

  • Bydd Llywodraeth y DU yn darparu £88 miliwn ar gyfer Bargeinion Dinesig a Thwf, gan ddatgloi twf a buddsoddi ledled Cymru.
  • Mae’r llywodraeth hefyd wedi cadarnhau bod £80 miliwn o gyllid ar gael ar gyfer Bwrdd Trawsnewid Port Talbot / Tata Steel, ac mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i gefnogi’r gweithwyr a’r busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y camau i ddatgarboneiddio Tata Steel.
  • Bydd £29 miliwn yn cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru ar gyfer costau adeiladu angenrheidiol y cyfleusterau ffin yng Nghaergybi a Sir Benfro.
  • Bydd y gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i gynnal a chadw, a diogelu, tomenni glo nas defnyddir yn cael ei gefnogi gan £25 miliwn o gyllid yn 2025/26.
  • Mae’r Gyllideb yn rhoi sicrwydd i arweinwyr lleol a buddsoddwyr drwy gadarnhau cyllid ar gyfer rhaglenni’r Parthau Buddsoddi a Phorthladdoedd Rhydd ledled y DU - gan gynnwys y Porthladd Rhydd Celtaidd lle bydd safleoedd treth yn weithredol o fis nesaf ymlaen.
  • Mae’r Canghellor wedi ymrwymo Llywodraeth y DU i weithio’n agos â Llywodraeth Cymru ar y Strategaeth Ddiwydiannol, y strategaeth seilwaith 10 mlynedd a’r Gronfa Gyfoeth Genedlaethol - i sicrhau bod manteision y rhain yn cael eu teimlo ar draws y DU ac fel rhan o’r broses o ailosod y berthynas rhwng y llywodraethau. Bydd y rhain yn denu biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad yn niwydiannau twf ac ynni glân y DU sydd gyda’r gorau yn y byd.
  • Bydd rhannau o Gymru nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol yn elwa yn sgil cyflwyno seilwaith digidol sy’n cael ei alluogi gan dros £500 miliwn o fuddsoddiad ledled y DU ym Mhrosiect Gigabit a’r Rhwydwaith Gwledig a Rennir.
  • Bydd map treth corfforaethol yn rhoi’r sefydlogrwydd a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau i wneud penderfyniadau buddsoddi tymor hir ac i gefnogi ein cenhadaeth twf. Mae’n cadarnhau ein cynnig cystadleuol, gyda’r gyfradd Treth Gorfforaethol isaf yn y G7 a chymorth hael ar gyfer buddsoddi ac arloesi.
  • Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn bwrw ymlaen i weithredu cyfraddau rhyddhad treth o 45%/40% ar gyfer theatrau, cerddorfeydd, amgueddfeydd ac orielau o 1 Ebrill 2025 er mwyn rhoi sicrwydd i fusnesau yn sector diwylliannol ffyniannus Cymru.

Atgyweirio cyllid cyhoeddus

Mae’r Canghellor wedi nodi’n glir, er ei bod am ddiogelu pobl sy’n gweithio gyda mesurau i leihau costau byw, y byddai’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Bydd y Gyllideb yn gofyn i fusnesau a’r rhai cyfoethocaf dalu cyfran deg ar yr un pryd â gwneud trethi’n decach. Bydd hyn yn mynd yn syth at atgyweirio sylfeini economi’r DU.

  • Bydd cyfradd Yswiriant Gwladol Cyflogwyr yn cynyddu 1.2 pwynt canran, i 15%. Bydd y Trothwy Eilaidd – y lefel y mae cyflogwyr yn dechrau talu yswiriant gwladol ar gyflog pob gweithiwr – yn gostwng o £9,100 y flwyddyn i £5,000 y flwyddyn.
  • Bydd y busnesau lleiaf yn cael eu diogelu oherwydd bydd y Lwfans Cyflogaeth yn cynyddu i £10,500 o £5,000, a fydd yn golygu bod cwmnïau yng Nghymru yn gallu cyflogi pedwar gweithiwr Cyflog Byw Cenedlaethol ar sail amser llawn heb dalu yswiriant gwladol cyflogwyr ar eu cyflogau.
  • Bydd Treth Enillion Cyfalaf yn cynyddu o 10% i 18% ar gyfer y rheini sy’n talu’r gyfradd is, ac o 20% i 24% ar gyfer y rheini sy’n talu’r gyfradd uwch.
  • Er mwyn annog entrepreneuriaid i fuddsoddi yn eu busnesau, bydd Rhyddhad Gwaredu Asedau Busnes (BADR) yn parhau i fod yn 10% eleni, cyn codi i 14% ar 6 Ebrill 2025 ac 18% o 6 Ebrill 2026-27.
  • Cynhelir cyfyngiad oes BADR ar £1 miliwn. Bydd cyfyngiad oes y Rhyddhad i Fuddsoddwyr yn cael ei ostwng o £10 miliwn i £1 miliwn.
  • Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dweud y bydd y newidiadau i Dreth Enillion Cyfalaf yn codi dros £2.5 biliwn y flwyddyn ac y bydd y DU yn parhau i fod â’r gyfradd Treth Enillion Cyfalaf isaf o blith unrhyw wlad yn y G7 Ewropeaidd.
  • Bydd trothwyon Treth Etifeddiant yn aros ar eu lefelau presennol am ddwy flynedd arall hyd at Ebrill 2030. Bydd mwy na 90% o ystadau y tu allan i’w gwmpas bob blwyddyn. O fis Ebrill 2027, bydd pensiynau a etifeddir yn destun Treth Etifeddiant. Mae hyn yn cael gwared ar wyrdroad sydd wedi arwain at ddefnyddio pensiynau fel cyfrwng cynllunio treth i drosglwyddo cyfoeth yn hytrach na’u pwrpas gwreiddiol o ariannu ymddeoliad.
  • O fis Ebrill 2026, bydd rhyddhad eiddo amaethyddol a rhyddhad eiddo busnes yn cael eu diwygio. Bydd y gyfradd uchaf o ryddhad yn parhau yn 100% am y £1 miliwn cyntaf o asedau busnes ac amaethyddol cyfunol - bydd hynny’n llwyr ddiogelu’r rhan fwyaf o fusnesau a ffermydd. Bydd yn gostwng i 50% ar ôl y £1 miliwn cyntaf. Bydd y diwygiadau’n effeithio ar y 2,000 o ystadau cyfoethocaf bob blwyddyn. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y bydd y diwygiadau i’r Dreth Etifeddiant yn codi £2 biliwn i gefnogi sefydlogrwydd.
  • O 2026-27 bydd y Doll Teithwyr Awyr ar gyfer hediadau pellter byr a phellter hir yn codi 13% i’r bunt agosaf, sy’n addasiad rhannol i gyfrif am y chwyddiant uchel blaenorol. Ar gyfer teithwyr economi, mae hyn yn golygu uchafswm o £2 ychwanegol fesul hediad pellter byr, a bydd tocynnau i blant o dan 16 oed yn parhau i fod wedi’u heithrio o’r Doll Teithwyr Awyr. Bydd y Doll Teithwyr Awyr ar gyfer awyrennau preifat mwy yn codi 50% arall.

Cyhoeddodd y Gyllideb hefyd becyn o fesurau sy’n cymell pobl i beidio â chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n achosi afiechyd, drwy:

  • Adnewyddu’r grisiau treth tybaco sy’n cynyddu’r holl gyfraddau treth tybaco yn unol ag RPI+2% yn ogystal â chynnydd sy’n uwch na’r grisiau ar gyfer tybaco rholio â llaw (cyfanswm o RPI+12%).  
  • Cyflwyno treth fêpio newydd ar gyfradd safonol o 22c/ml o fis Hydref 2026 ymlaen, ynghyd â chynnydd untro pellach yn y dreth ar dybaco er mwyn cynnal y cymhelliad ariannol i ddewis fêpio yn hytrach nag ysmygu. 
  • Er mwyn helpu i fynd i’r afael â gordewdra a niwed arall a achosir gan lefelau siwgr uchel, bydd Ardoll y Diwydiant Diodydd Meddal yn cynyddu i gyfrif am chwyddiant ers iddo gael ei ddiweddaru ddiwethaf yn 2018, a bydd y dreth yn codi yn unol â chwyddiant bob blwyddyn wedyn.
  • Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn uwchraddio’r dreth ar alcohol yn unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu ar 1 Chwefror 2025, ac eithrio ar gyfer y rhan fwyaf o ddiodydd mewn tafarndai.

Mae Llywodraeth y DU wedi nodi’r camau nesaf i gyflawni ei hymrwymiadau maniffesto treth yn Natganiad mis Gorffennaf. Ar ôl ymgynghori ar fanylion terfynol y polisïau lle bo hynny’n briodol, mae’r Gyllideb hon yn cyflawni ymrwymiadau maniffesto Llywodraeth y DU i godi refeniw i dalu am y Camau Cyntaf, gyda diwygiadau sy’n seiliedig ar degwch, ac sy’n mynd i’r afael ag osgoi trethi drwy wneud y canlynol:  

  • Bydd trefn newydd sy’n seiliedig ar breswylfa yn disodli’r drefn bresennol ar gyfer y rheini nad yw eu domisil yn y DU o fis Ebrill 2025 a bydd yn cael ei dylunio i ddenu buddsoddiad a thalent i’r DU.
  • Ni fydd modd defnyddio ymddiriedolaethau y tu allan i Brydain mwyach i gysgodi asedau rhag Treth Etifeddiant, a bydd trefniant pontio ar waith i’r bobl sydd wedi gwneud cynlluniau yn seiliedig ar y rheolau presennol.
  • Bydd y gostyngiad arfaethedig o 50% ar gyfer incwm tramor ym mlwyddyn gyntaf y drefn newydd yn cael ei ddileu.
  • Bydd diwygiadau i’r drefn ar gyfer y rheini nad yw eu domisil yn y DU yn codi cyfanswm o £12.7 biliwn yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.
  • Bydd y driniaeth dreth ar gyfer llog sy’n cael ei gario yn cael ei diwygio drwy gynyddu cyfraddau’r Dreth Enillion Cyfalaf ar log sy’n cael ei gario i 32% yn y lle cyntaf ac yna, o fis Ebrill 2026, bydd yn symud i drefn ddiwygiedig – gyda rheolau penodol i adlewyrchu nodweddion y dyfarniad.
  • Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn cyflwyno TAW o 20% ar addysg a gwasanaethau preswylio a ddarperir am dâl gan ysgolion preifat o 1 Ionawr 2025.

Hefyd, mae’r Canghellor wedi cryfhau’r cyfrifoldeb ariannol drwy ddwy reol gyllidol newydd sy’n rhoi cyllid cyhoeddus ar lwybr cynaliadwy ac yn blaenoriaethu buddsoddiad i gefnogi twf hirdymor, ac egwyddorion sefydlogrwydd newydd. Cynhelir Adolygiadau o Wariant bob dwy flynedd, gan bennu cynlluniau am o leiaf dair blynedd i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus bob amser yn cael eu cynllunio ac yn gwella gwerth am arian. 

Bydd un digwyddiad cyllidol mawr y flwyddyn yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i deuluoedd a busnesau o ran newidiadau treth a gwariant, ac yn rhoi mwy o eglurder i Lywodraeth Cymru o ran gosod ei chyllideb ei hun.  Bydd Clo Ariannol hefyd yn sicrhau na fydd unrhyw lywodraeth yn y dyfodol yn gallu diystyru’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol eto.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Hydref 2024