Cymru gryfach mewn Teyrnas Unedig gadarn
Fil Cymru drafft yn cael ei gyhoeddi yn y Senedd
Bydd Bil newydd Cymru yn creu Cymru gryfach o fewn Teyrnas Unedig gadarn. Dyna fydd Stephen Crabb yn ei ddweud heddiw wrth i Fil Cymru drafft gael ei gyhoeddi yn y Senedd.
Mae’r Bil drafft yn datgan mewn manylder sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyflawni ymrwymiadau Dydd Gŵyl Dewi i greu setliad datganoli cryfach, cliriach a thecach i Gymru, i wrthsefyll pob her a ddaw yn y dyfodol.
Dyma’r prif fesurau:
-
model cadw pwerau fel y bo pobl Cymru’n gwybod yn union pa bwerau sydd gan y Cynulliad a’u bod yn gallu ei ddal i gyfrif.
-
pwerau newydd pwysig i Gymru dros ynni, trafnidiaeth a llywodraeth leol ac etholiadau’r Cynulliad.
-
mwy o bwerau i’r Cynulliad dros ei faterion ei hun, gan gynnwys y gallu i newid ei enw
Bydd Bil newydd Cymru yn gwneud i ddatganoli weithio’n well dros bobl Cymru. Bydd cael mwy o eglurder ynglŷn â beth sydd wedi’i ddatganoli yn golygu llai o deithiau costus i’r Goruchaf Lys a mwy o amser i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar y materion sy’n cyfrif.
Mae’r Bil drafft yn elfen allweddol o’r pecyn radical o fesurau y mae’r Llywodraeth yn ei weithredu er mwyn rhoi sylfaen gadarn a hirhoedlog i ddatganoli Cymru.
Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn craffu ar y Bil drafft cyn y broses ddeddfu, ac fe’i cyflwynir i’r Senedd yn y Flwyddyn Newydd. Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i drafod â Llywodraeth Cymru fanylion y model cadw pwerau ochr yn ochr â’r broses o graffu cyn y broses ddeddfu.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru:
Mae Cymru wedi gwrthod yn gadarn y math o genedlaetholdeb a oedd yn bygwth rhannu ein Teyrnas Unedig y llynedd. Ond fel Ysgrifennydd Gwladol, rydw i’n cydnabod bod dyhead yng Nghymru am fwy o lais ym materion Cymru o fewn setliad datganoli cadarnach.
Mae’r setliad ar hyn o bryd yn ansefydlog ac yn aneglur a’r unig bobl sy’n elwa arno yw’r cyfreithwyr. Mae’n bryd inni gael setliad datganoli cadarn sy’n gweithio dros bobl Cymru.
Mae’r Bil drafft heddiw yn rhan o becyn cynhwysfawr a fydd, ochr yn ochr â’n hymrwymiadau i ddiogelu cyllid Cymru, yn datganoli cyfrifoldebau newydd a phwysig a fydd yn arwain at newid sylweddol mewn datganoli yng Nghymru.
Bydd Bil newydd Cymru yn gwneud yn union beth y dywedasom y byddai’n ei wneud: sef bodloni dyhead pobl Cymru am ddatganoli a chreu Cymru gryfach o fewn Teyrnas Unedig gadarn.
Gyda’r dangosyddion economaidd i gyd yn symud i’r cyfeiriad iawn, bellach mae gan Gymru gyfle euraid i symud ymlaen a chyflawni ei photensial fel cenedl flaengar sy’n rhagori ar yr holl ddisgwyliadau yn yr economi fyd-eang. Bydd Bil newydd Cymru yn gyfle i Gynulliad Cymru ganolbwyntio ar gyrraedd y nod hwnnw drwy roi terfyn ar yr holl ddadlau am ddatganoli sydd wedi nodweddu gwleidyddiaeth Cymru am ormod o amser.
Bydd llawer o drafod yn ystod y misoedd sydd i ddod ar fanylion y Bil a byddaf yn parhau i wrando’n ofalus. Ond os ydym o ddifri am fanteisio ar y cyfle yma i yrru ein cenedl yn ein blaen, mae’n rhaid i ni gydweithio i greu Bil Cymru cadarn sy’n gweithio dros bobl Cymru.