Terfyn Amser Ffeilio Cyfrifon 31 Rhagfyr 2018
Os ydych chi'n un o'r nifer o gwmnïau sy'n gorfod ffeilio eu cyfrifon erbyn diwedd Rhagfyr, peidiwch â'i adael i'r funud olaf.
Gallwch osgoi oedi gyda’r post trwy ffeilio’ch cyfrifon ar lein.
Bydd arnoch angen cod dilysu, felly os oes rhaid ichi ofyn am god caniatewch ddigon o amser. Bydd yn fynd i’ch swyddfa cofrestredig a gall cymrud 5 diwrnod i gyrraedd trwy’r post.
Ffeiliwch yn gynnar a ffeilio arlein
Ffeilio ar-lein cyn dyddiad cau Nos Galan a byddwn yn anfon e-bost atoch yn cadarnhau bod eich cyfrifon wedi dod i law. Byddwn yn anfon ebost arall atoch pan fyddant wedi cofrestru.
Gall gymryd cyn lleied â 15 munud o’r dechrau i’r diwedd a byddwch yn gwybod bod eich cyfrifon wedi’u cyflwyno ar amser.
Os ydych chi’n gwmni bach, ni allwch ffeilio cyfrifon cryno mwyach. Darllenwch ein stori newyddion i ddarganfod eich opsiynau.
Osgoi gwrthodiadau
Gyda gwiriadau’n rhan o’r broses i sicrhau bod eich cyfrifon yn bodloni’r gofynion, mae ein gwasanaeth ffeilio ar lein yn eich helpu i osgoi gwrthodiadau.
Mae’n bosibl y bydd angen i gyfrifon a gyflwynir gael eu gwirio â llaw a dim ond yn ystod oriau swyddfa mae hyn yn cael ei wneud. Gall cymrud dros wythnos i wneud hyn yn ysod amseroedd brysur.
Gwiriwch pa mor hir yr ydym yn ei gymryd i brosesu dogfennau papur (Saesneg yn unig).
Os oes rhaid i chi ffeilio cyfrifon papur, efallai y byddwch am ddefnyddio gwasanaeth cyflenwi gwarantedig y diwrnod nesaf. Gallai cyflwyno gymryd mwy o amser na arfer, oherwydd y nifer uchel o bost yn ystod y gwyliau.
Anfonwch eich cyfrifon yn dda cyn dyddiad cau Nos Galan, rhag ofn bod angen amser arnoch i’w hailgyflwyno. Os gwrthodir eich cyfrifon a bod angen eu hailgyflwyno, gallech fod yn rhy hwyr i osgoi cosb.
Ni dderbynnir oedi drwy’r post fel esgus dros ffeilio’n hwyr.
Argaeledd gwasanaethau ar-lein
Mae ein gwasanaethau ar-lein ar gael 24 awr y diwrnod, 7 dowrnod yr wythnos. Gwirio bod eich cwmni wedi’i gofrestru ar gyfer ffeilio ar lein a bod y cyfrifon rydych eisiau eu ffeilio wedi’u galluogi ar y gwasanaeth.
Fe gewch gosb os derbynnir cyfrifon a ailgyflwynwyd ar ôl y dyddiad cau. Ffeiliwch nhw yn gynnar a chaniatáu amser ar gyfer hyn.
Ffeilio cyfrifon yn ein swyddfeydd
Dim ond yn ein swyddfa yng Nghaerdydd y mae staff ar gael i dderbyn dogfennau dros y gwyliau i gyd. Mae yna gyfleusterau blwch llythyrau yn Llundain a Chaeredin. Dim ond yn ystod oriau swyddfa y gall ein swyddfa yn Belfast dderbyn post.
Gallwch wirio ein hamserau agor dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd cyn ffeilio’ch cyfrifon yn un o’n swyddfeydd.
Mwy o wybodaeth am gyfrifon a chosbau
Dysgwch fwy am ein gwasanaeth WebFiling a chod dilysu’r cwmni y bydd ei angen arnoch ar gyfer ffeilio ar-lein.
Gallwch gael gwybod mwy am baratoi’ch cyfrifon (yn Saesneg) neu ddarllen canllawiau manwl ar gyfrifon.
Mae gwybodaeth ar gael hefyd am gosbau ffeilio hwyr.
Os ydych chi’n ffeilio’ch cyfrifon ar bapur yna darllenwch ein cyngor am fanylion cwmnïau ar ddogfennau papur.
Os na allwch chi ffeilio’ch cyfrifon ar amser, anfonwch e-bost at [email protected] cyn gynted â phosib. Cynnwys enw, rhif y cwmni a’ch rhesymau dros fod angen estyniad.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr 2015Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 Tachwedd 2018 + show all updates
-
Updated for December 2018.
-
Updated for December 2017.
-
2016 notice
-
Added translation