Alun Cairns: “Rhaid i Gymru fanteisio ar y cyfleoedd i werthu ei brand i'r byd”
Neges Ysgrifennydd Cymru ar ddechrau gŵyl Wythnos Cymru yn Llundain
Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn annog sefydliadau diwylliannol a busnesau gorau Cymru i fanteisio ar y cyfleoedd i hybu Cymru ar lwyfan fyd-eang yn ystod y fenter Wythnos Cymru yn Llundain, sy’n cael ei lansio heddiw (24 Chwefror).
Bwriad Wythnos Cymru yn Llundain yw hybu buddiannau Cymru yn Llundain drwy gyfres o weithgareddau a digwyddiadau rhwng 24 Chwefror a 10 Mawrth, mewn nifer o sectorau a lleoliadau ym mhrifddinas y DU.
Yn ystod y bythefnos, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn annog busnesau Cymru i werthu eu cynnyrch a’u gwasanaethau i’r farchnad fyd-eang yn y digwyddiad Dathlu Masnach Cymru yn yr Adran Masnach Ryngwladol a’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn cynnal derbyniad yn Nhŷ Gwydyr i ddathlu cryfder ac amrywiaeth diwylliant Cymru, yn ogystal â chydnabod cyfraniad diwydiant y celfyddydau tuag at dwf y diwydiant twristiaeth yng Nghymru drwy draddodi araith mewn digwyddiad dros dro yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Bydd Stuart Andrew, Gweinidog Llywodraeth y DU, yn cadeirio cyfarfod gydag arbenigwyr y diwydiant twristiaeth i drafod sut byddai modd i Lywodraeth y DU gefnogi’r farchnad ffyniannus yng Nghymru. Fel rhan o’r dathliadau, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru hefyd yn mynd i dderbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn Rhif 10 Stryd Downing ar gyfer unigolion blaenllaw o’r byd busnes, y cyfryngau, twristiaeth a chwaraeon yng Nghymru.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Wythnos Cymru yn Llundain yn gyfle gwych i fusnesau a sefydliadau o Gymru greu argraff ar lwyfan byd-eang. Mae gennym ni rai o’r diwydiannau cryfaf yn y byd ym meysydd awyrofod, amaethyddiaeth a’r farchnad bwyd a diod.
Hon yw’r ail flwyddyn yn olynol i ni gyfuno’r holl ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain o dan un teitl cyffredinol, sy’n dangos cryfder brand ein gwlad i’r byd ehangach.
Mae’r ymgyrch hon yn cyd-fynd ag uchelgeisiau Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU i hwyluso rhagor o gyfleoedd i fuddsoddi a masnachu rhwng Cymru, y Deyrnas Unedig a’r byd. Fy ngwaith i yw hybu buddiannau Cymru, ac rydw i’n edrych ymlaen at chwarae fy rhan yn cynrychioli brand a diwylliant Cymru drwy gydol yr wythnos.
Sefydlwyd Wythnos Cymru yn Llundain gan Dan Langford a Mike Jordan, dau berson busnes o Gymru sydd â chysylltiadau busnes cryf â Llundain.
Dywedodd Dan Langford, Cadeirydd Wythnos Cymru yn Llundain:
Mae gennym ni raglen wych o ddigwyddiadau eleni i ddathlu a hyrwyddo Cymru yn ogystal â nodi Dydd Gŵyl Dewi ledled Llundain, gan gynnwys dros 70 o weithgareddau a digwyddiadau sy’n mynd i’r afael â phob agwedd ar fywyd a busnes Cymru.
Dan arweiniad Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a gyda chefnogaeth bwysig nifer o adrannau eraill y llywodraeth, mae’r gefnogaeth gan Lywodraeth y DU wedi bod yn aruthrol. Rydym yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru i wireddu’r uchelgais cyffredin, sef hyrwyddo Cymru fodern i weddill y byd.
Diolch enfawr hefyd i’r bobl a’r sefydliadau, o blith y Cymry ar Wasgar yn Llundain ac o Gymru, sy’n arwain llawer o’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal. Gyda’n gilydd byddwn yn sicrhau bod Cymru’n cael ei gweld a’i chlywed yng nghanol un o’r prifddinasoedd pwysicaf yn y byd.
Drwy gynnal calendr o ddigwyddiadau yn ystod y bythefnos o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi, bydd yr ŵyl yn rhoi llwyfan i weithgarwch cymunedau Cymreig sydd eisoes wedi’u lleoli yn Llundain ac yn hybu’r gorau o Gymru yn Llundain, gan helpu sefydliadau ym mhob sector i hyrwyddo eu cynnyrch a’u gwasanaethau, yn ogystal ag ehangu eu rhwydweithiau a’u cynulleidfaoedd.