‘Mae Band Eang yn elfen allweddol o lwyddiant economaidd Cymru'
Llywodraeth y DU yn cyhoeddi hwb ariannol i fusnesau Cymru
O heddiw ymlaen, bydd busnesau sydd wedi’u lleoli yn nwy ddinas ‘cysylltiad cyflym’ Cymru yn cael budd o fynediad gwell a chynt i’r rhyngrwyd wrth i’r cynllun talebau cysylltiad band eang gael ei gyflwyno mewn 10 dinas ledled y DU.
Heddiw (7 Rhagfyr) mae Gweinidogion Swyddfa Cymru wedi nodi’r cyhoeddiad a wnaed gan yr Ysgrifennydd Diwylliant, Maria Miller, a fydd yn golygu y gall busnesau yng Nghaerdydd a Chasnewydd fanteisio ar gyfran o’r £100m sydd ar gael i’w cysylltu i fand eang cyflym o ansawdd gwell.
Mae’r cynllun yn rhan graidd o’r rhaglen i drawsnewid band eang y mae’r Llywodraeth yn ei chyflwyno ledled y wlad. Daw’r cyllid o brosiect ‘Dinasoedd Cysylltiad Cyflym’ y Llywodraeth sydd werth £150 miliwn, ac mae’n rhan annatod o gynnig y Llywodraeth i fusnesau bach sydd hefyd yn cael ei lansio heddiw.
Bydd y cynllun talebau yn golygu y bydd busnesau’n gallu gwneud cais am grantiau o hyd at £3,000 yr un tuag at y gost o osod band eang gwell a chynt a chynnig gwasanaethau cynt a mwy dibynadwy i gwsmeriaid. Bydd yn dod â budd i fentrau busnes bach a chanolig eu maint yn ogystal â helpu dinasoedd i greu swyddi a denu buddsoddiadau newydd fel rhan o uchelgais y Llywodraeth i wneud y DU y lle gorau yn Ewrop i wneud busnes.
Ar ben hyn, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi darparu bron i £57 miliwn ar gyfer Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cartrefi a busnesau yn rhai o fannau mwyaf anhygyrch Cymru yn gallu cael band eang.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae band eang cyflym iawn yn elfen allweddol o lwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol. Erbyn 2015, byddwn wedi trawsnewid darpariaeth band eang yng Nghymru y tu hwnt i bob disgwyl. Bydd cynnydd dramatig mewn cyflymder a bydd band eang sefydlog a symudol cyflym iawn yn gyffredin. Byddwn yn annog busnesau yng Nghaerdydd ac yng Nghasnewydd i fanteisio i’r eithaf ar y cynllun talebau a lansiwyd heddiw.
Mae cyhoeddiad heddiw yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed ym mis Hydref y bydd 151 tref a phentref arall yng Nghymru yn cael band eang ffibr cyflym iawn fel rhan o’r prosiect Cyflymu Cymru sy’n werth miliynau o bunnoedd. Mae’n debyg mai dyma’r peth pwysicaf y gallwn ni ei wneud i ddiogelu cynaliadwyedd ein busnesau a’n cymunedau gwledig.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb:
Mae lansio’r cynllun talebau yn garreg filltir hollbwysig yn ein hymgyrch i wneud Cymru’n wlad sydd gyda’r gorau yn y byd o ran cysylltedd, sy’n cynnig marchnad gref i ddefnyddwyr ac sy’n lle gwych i wneud busnes.
Mae darparu mynediad o ansawdd uchel i’r rhyngrwyd yn hollbwysig i dwf ein heconomi ac mae cyhoeddiad heddiw yn dangos bod y Llywodraeth hon yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod gan y DU y seilwaith digidol gorau bosib.
Nodyn i Olygyddion
- Bydd y cynllun talebau cysylltiad band eang yn cael ei ymestyn i 12 dinas arall o amgylch y DU yn gynnar yn 2014.
-
Y dinasoedd sy’n gymwys heddiw yw Belfast, Salford, Portsmouth, Caerdydd, Derby, Bryste, Caeredin, Casnewydd, Llundain a Manceinion.
-
Yn 2011, neilltuodd y llywodraeth £100 miliwn ar gyfer Cronfa Band Eang Trefol er mwyn creu hyd at ddeg dinas ‘cysylltiad cyflym’ ledled y DU. Darparwyd cronfa arall gwerth £50 miliwn yn 2012 ar gyfer ‘ail don’ o ddinasoedd a fydd yn elwa o’r prosiect hwn
-
Bydd y dinasoedd cysylltiad cyflym hyn yn elwa o fand eang cynt a gwell, yn ogystal ag ardaloedd eang o fynediad diwifr i’r rhyngrwyd ar gyfer y cyhoedd (wifi)
-
Cyhoeddwyd enwau’r dinasoedd cysylltiad cyflym mewn dwy don. Roedd y don gyntaf, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2012, yn cynnwys y dinasoedd canlynol: Manceinion, Birmingham, Bryste, Belfast, Newcastle, Leeds a Bradford (cynnig ar y cyd), Caeredin, Caerdydd a Llundain
-
Cyhoeddodd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yr ail don o ddinasoedd cysylltiad cyflym ym mis Rhagfyr 2012, sef: Aberdeen, Brighton a Hove, Caergrawnt, Coventry, Derby, Derry/Londonderry, Casnewydd, Rhydychen, Perth, Portsmouth, Salford a Chaerefrog
-
Mae’r lansiad heddiw yn rhan o becyn ehangach o fuddion newydd ar gyfer cwmnïau bach a chanolig eu maint a gyhoeddwyd ar Sadwrn Busnesau Bach fel rhan o gynnig newydd Llywodraeth y DU i fusnesau bach.
-
Fel rhan o fuddsoddiad ehangach y Llywodraeth mewn band eang, mae Llywodraeth y DU, drwy Broadband Delivery UK (BDUK), wedi darparu £57 miliwn tuag at brosiect Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 7 Rhagfyr 2013Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 Rhagfyr 2013 + show all updates
-
Adding Welsh translation
-
First published.