Cyllideb 2013 ar frig yr agenda yng nghyfarfod y Grŵp Cynghori ar Fusnes
[](http://www.swyddfa.cymru.gov.uk/files/2013/02/Business-Advisory-Group-Meeting.jpg) Y cyhoeddiad sydd i ddod am y Gyllideb oedd prif ffocws…
Y cyhoeddiad sydd i ddod am y Gyllideb oedd prif ffocws y trafodaethau ymhlith cynrychiolwyr o gymuned fusnes Cymru yn ystod cyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn Llundain heddiw (26 Chwefror 2013).
Croesawodd Mr Jones aelodau’r Grŵp Cynghori ar Fusnes i Dŷ Gwydyr ac yno manteisiodd ar y cyfle i holi am farn yr aelodau ar y cynigion polisi yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnwys yn y Gyllideb pan fydd yn cael ei chyhoeddi gan Ganghellor y Trysorlys fis nesaf (20 Mawrth).
Hefyd bu’r aelodau’n trafod cefnogi swyddi a thwf yng Nghymru, yn ogystal a datblygu Rhanbarthau Dinesig yng Nghymru.
Fel rhan o’r broses o lunio polisiau, mae Trysorlys EM yn croesawu safbwyntiau rhanddeiliaid ar y darpariaethau yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnwys yn y Gyllideb, gyda’r nod o ysgogi twf economaidd.
Trafodwyd a datblygwyd syniadau gan aelodau’r Grŵp yn y cyfarfod heddiw a nawr bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhannu’r cynigion gyda’r Trysorlys, ar gyfer eu hystyried yn ystod y cyfnod yn arwain at Gyllideb 2013.
Dywedodd Mr Jones:
“Mae cyfarfodydd y Grŵp Cynghori ar Fusnes yn gyfle defnyddiol i mi fesur yn uniongyrchol sut mae busnesau’n gwneud ar y tir yng Nghymru, a chlywed eu safbwyntiau am sut mae polisiau’r Llywodraeth yn effeithio arnynt.
“Wrth i ni edrych ymlaen at gyhoeddi Cyllideb y Canghellor fis nesaf, roedd yn bwysig i mi gael cyfle i glywed am y math o gynigion polisi yr hoffent weld y Trysorlys yn eu hystyried er mwyn helpu i gefnogi a datblygu economi Cymru.
“Roedd gen i ddiddordeb penodol mewn clywed eu barn am y prif rwystrau sy’n atal twf a beth ddylai fod yn flaenoriaethau seilwaith allweddol yn eu barn hwy. Byddaf yn rhannu canlyniadau’r trafodaethau hyn gyda Changhellor y Trysorlys yn awr, i sicrhau bod llais cymuned fusnes Cymru’n cael ei glywed yn groyw a chlir.”
Yn ystod y cyfarfod, cadeiriodd yr Ysgrifennydd Gwladol drafodaeth ar yr amgylchedd busnes ar hyn o bryd, ac ar ymateb busnesau i’r her economaidd bresennol.
Hefyd trafododd y grŵp yr argymhellion a wnaed yn adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru ar Ranbarthau Dinesig, a gyhoeddwyd y llynedd. Roedd y Grŵp, dan gadeiryddiaeth Dr Elizabeth Haywood, yn adrodd yn ol ym mis Gorffennaf ac argymhellodd y dylid sefydlu rhanbarthau dinesig yn ne ddwyrain Cymru ac yn ardal Bae Abertawe.
Chwaraeodd yr Athro Michael Scott o Brifysgol Glyndwr ran bwysig yn y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, gan gymryd y cyfle i drafod manteision posib mabwysiadu rhanbarthau dinesig yng Nghymru. Cadeiriodd yr Ysgrifennydd Gwladol drafodaeth ar farn aelodau’r Grŵp Cynghori ar Fusnes ar sut ddylid datblygu Rhanbarthau Dinesig yn awr yng Nghymru.
Hefyd, croesawodd Mr Jones aelodau newydd, sef Sanjay Bowry o Ddulas a’r Athro Michael Scott a Robert Lloyd Griffiths o Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru, i’w cyfarfod cyntaf o’r Grŵp Cynghori ar Fusnes.
Dywedodd Robert Lloyd Griffiths:
“Mae Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru wedi ymrwymo i weithio gyda llywodraethau ym Mae Caerdydd a San Steffan er mwyn cynrychioli safbwyntiau ein haelodau. Mae ein hymwneud a Grŵp Cynghori ar Fusnes Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn rhan bwysig o’n proses ymgysylltu ac yn gyfle pwysig iawn i drafod materion sy’n effeithio ar lwyddiant economi Cymru.”