Cyllideb 2018 a blaenoriaethau’r Strategaeth Ddiwydiannol i Gymru
Alun Cairns yn cynnull y Bwrdd Cynghori ar yr Economi yng Nghaerdydd
Y prif eitemau ar yr agenda fydd manteisio ar flaenoriaethau allweddol y Strategaeth Ddiwydiannol a Chymru ar gyfer Cyllideb 2018 yng nghyfarfod cynrychiolwyr busnes Cymru a Llywodraeth y DU yng Nghymru yng Nghaerdydd heddiw (10 Mai).
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn croesawu aelodau ei Fwrdd Cynghori ar yr Economi i Bwynt Caspian lle byddant yn trafod sut y gellir manteisio i’r eithaf ar effaith gadarnhaol y Strategaeth Ddiwydiannol yng Nghymru. Bydd y trafodaethau’n canolbwyntio yn benodol ar archwilio Cytundebau yn y Sector, cyfleoedd twf trawsffiniol, diddymu’r rhwystrau at arloesedd a datblygu cytundebau masnach a buddsoddi newydd er mwyn cynyddu allforion.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’r Strategaeth Ddiwydiannol yn rhan hollbwysig o gynllun Llywodraeth y DU i ysgogi twf ar draws y Deyrnas Unedig gyfan a chreu mwy o swyddi a chyfleoedd medrus iawn, sy’n talu cyflogau uchel.
Disgwylir i gytundebau newydd yn y Sector, y coridorau twf a buddsoddiad mewn ymchwil a datblygiad gefnogi diwydiannau’r dyfodol, ac mae gan y DU – a Chymru yn benodol – gyfle i arwain y byd. Rwy’n awyddus i glywed barn ein harweinwyr busnes blaenllaw am sut y gall Cymru fanteisio ar ei chryfderau a defnyddio’r buddiannau sy’n gysylltiedig ag ymgorffori’r Strategaeth yn gadarn yn ein cynlluniau twf.
Mae’r Bwrdd Cynghori ar yr Economi yn darparu llwyfan i Lywodraeth y DU glywed yn uniongyrchol sut mae busnesau yng Nghymru yn llwyddo ar lawr gwlad, a chlywed eu barn ar sut maent hwy’n elwa ar bolisi Llywodraeth y DU a beth arall y gellir ei wneud i gefnogi eu huchelgeisiau i dyfu ymhellach.
Bydd cyfarfod heddiw yn gyfle hefyd i rannu syniadau ar y mesurau y byddai’r gymuned fusnes yng Nghymru yn hoffi eu gweld wedi’u cynnwys yn y Gyllideb pan gaiff ei chyhoeddi gan Ganghellor y Trysorlys yn yr hydref.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhannu’r cynigion gyda’r Trysorlys er mwyn iddynt allu eu hystyried yn y cyfnod sy’n arwain at y digwyddiad ariannol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Ychwanegodd Alun Cairns:
Ers 2010, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno mesurau cadarn i helpu i ailadeiladu economi Cymru.
O’r ymrwymiad i ddiddymu’r tollau ar Bont Hafren i’r Bargeinion Dinesig a Thwf ar hyd a lled y wlad, mae’r rhain yn ddatganiadau cadarn o’n bwriad i hybu ffyniant Cymru.
Ond mae llawer mwy o waith i’w wneud. Wrth i ni edrych ymlaen at Gyllideb y Canghellor, mae’n bwysig i mi gael y cyfle i glywed am y mathau o gynigion polisi y byddai cynrychiolwyr busnes yng Nghymru yn hoffi i Lywodraeth y DU eu hystyried er mwyn ysgogi ein heconomi ymhellach.
Byddaf yn awyddus iawn i glywed eu safbwyntiau ar y prif rwystrau at dwf a’u barn hwy ar beth ddylai’r blaenoriaethau seilwaith allweddol eu cynnwys. Byddaf yn rhannu canlyniad y trafodaethau hyn gyda Changhellor y Trysorlys i sicrhau bod llais y gymuned fusnes yng Nghymru yn cael ei chlywed yn glir yn San Steffan.