Y Gyllideb yn rhoi hwb enfawr i fusnesau a chartrefi yng Nghymru
Swyddfa Cymru yn ymateb i'r Cyllideb
Heddiw (dydd Mercher, 20 Mawrth) dywedodd David Jones AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y bydd Cyllideb 2014 yn helpu cartrefi a busnesau yng Nghymru drwy roi hwb i fuddsoddi, swyddi a thwf yng Nghymru.
Dywedodd Mr Jones y bydd cyhoeddiad y Canghellor yn lleihau costau ynni, yn helpu gyda chostau byw ac yn rhoi mwy o sicrwydd economaidd i bobl sy’n gweithio’n galed ledled Cymru. Yn sgil y mesurau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw, bydd Pecyn Ynni i Fusnesau’r Llywodraeth yn arbed hyd at £230 miliwn i fusnesau Cymru rhwng 2016/2017 a 2018/2019.
Bydd y Llywodraeth hefyd yn digolledu diwydiannau ynni-ddwys am brisiau trydan uwch, a fydd werth tua £2 biliwn erbyn 2018/19. At ei gilydd, bydd diwydiannau ynni-ddwys yng Nghymru ar eu hennill o tua £240 miliwn rhwng 2016/2017 a 2018/2019 diolch i’r pecyn hwn.
Bydd cartrefi yn elwa hefyd. Erbyn 2018/2019, dylai bil cyfartalog pob cartref fod wedi gostwng £15 yn sgil rhewi’r Cymorth ar gyfer Prisiau Carbon, yn ogystal â’r £50 y mae’r Llywodraeth wedi’i arbed, ar gyfartaledd, i bob cartref yn ôl Datganiad yr Hydref.
Mewn mesurau eraill a gyhoeddwyd heddiw, gallai bron i 200,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru elwa o becyn a fydd yn gwella eu mynediad at gyllid, wrth i’r Llywodraeth ymgynghori ynghylch sut mae sicrhau bod busnesau bach a chanolig y gwrthodwyd rhoi benthyciad iddynt yn cael eu cyfateb yn well i ddarparwyr credyd eraill. Bydd hyn hefyd yn cyflymu’r broses pan fydd busnesau bach neu ganolig angen i’w banc weithredu er mwyn cael arian yn rhywle arall.
At ei gilydd, bydd Llywodraeth Cymru yn elwa o £36 miliwn ychwanegol o rym gwario – gan gynnwys arian ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd, trwsio tyllau yn y ffyrdd, atgyweirio eglwysi cadeiriol, adfywio ystadau a grantiau prentisiaethau i gyflogwyr. Bydd hyn yn golygu bod y Llywodraeth wedi cynyddu gwariant Llywodraeth Cymru bron i £800 miliwn ers Adolygiad o Wariant 2010.
Yfory (20 Mawrth) bydd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cyflwyno Bil Cymru a fydd yn datganoli pwerau treth a benthyca newydd i Gymru. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i fod yn atebol am fwy o’r arian mae’n ei wario, ac yn rhoi mwy o adnoddau iddi ddatblygu economi Cymru.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’r Gyllideb sydd wedi’i chyhoeddi heddiw yn dangos yn glir bod ymrwymiad y Llywodraeth i dwf cadarn, cynaliadwy a chytbwys yn gweithio, ac y bydd busnesau a theuluoedd ledled Cymru yn parhau i elwa o’r adferiad economaidd.
Roeddwn yn arbennig o falch o weld bod y Canghellor wedi datgelu pecyn radical o fesurau i leihau costau ynni. Bydd hyn yn hwb i’w groesawu i’r diwydiannau ynni-ddwys sy’n cyflogi miloedd o bobl ledled Cymru, a bydd hefyd yn lleihau biliau ynni i deuluoedd sy’n gweithio’n galed.
Byddaf yn cyflwyno Bil Cymru yfory, a fydd yn rhoi pwerau treth a benthyca newydd i Gymru. Ond bydd rhaid i Lywodraeth Cymru fanteisio ar y cyfle a datblygu twf economaidd Cymru gyda’r pwerau newydd sy’n cael eu cynnig.
Gwyddom nad yw’r gwaith wedi’i gwblhau a bod mwy i’w wneud, ond mae’r Llywodraeth hon wedi dangos y gallwn, drwy lynu wrth ei chynllun economaidd, sicrhau dyfodol economaidd mwy llewyrchus i bobl Cymru.
Cyhoeddodd y Canghellor y bydd y lwfans personol ar gyfer treth incwm yn codi hefyd – o £10,000 yn 2014/15 i £10,500. Bydd 1.2 miliwn o drethdalwyr yng Nghymru ar eu hennill yn sgil hyn, a bydd 14,000 o unigolion ar incwm isel yn cael eu heithrio’n llwyr rhag talu treth incwm. O’u hystyried gyda’i gilydd, mae’r newidiadau i’r trothwy lwfans personol ers 2010 wedi eithrio 155,000 o bobl yng Nghymru rhag talu treth incwm.
Hefyd, bydd dros 600,000 o bensiynwyr yng Nghymru yn gallu cynyddu eu pensiwn £25 yr wythnos drwy ddewis y dosbarth newydd o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol.
Mae cyfradd gychwynnol y dreth cynilo hefyd yn cael ei lleihau – o 10% i 0% – a bydd y band sy’n berthnasol i’r dreth cynilo yn cael ei ymestyn o £2,790 i £5,000, a allai fod yn fanteisiol i 74,000 o gynilwyr yng Nghymru.
Hefyd, bydd y Llywodraeth yn cynyddu’r terfynau cyffredinol a’r terfynau ar gyfer ISA arian o £11,520 i £15,000, a bydd hyd at 299,000 o ddeiliaid cyfrifon ISA yng Nghymru yn elwa o hyn.
Dywedodd un o Weinidogion Swyddfa Cymru, Stephen Crabb:
Bydd y Gyllideb hon yn sicrhau bod yr adferiad economaidd yn parhau yng Nghymru, gyda mwy o swyddi, mwy o fuddsoddi a mwy o dwf.
Mae’r Llywodraeth hon yn un sy’n buddsoddi yng Nghymru, ac mae’r cynigion i sicrhau bod busnesau bach a chanolig yn cael mynediad at gyllid yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod Cymru yn parhau’n gystadleuol yma a thramor.
Rydyn ni’n sylweddoli ei bod yn gyfnod anodd, a dyna pam y bydd cynllun y Canghellor i gynyddu’r lwfans personol ar gyfer treth incwm yn cael ei groesawu yng Nghymru, wrth i filoedd o bobl ar incwm isel gael eu heithrio rhag talu treth incwm o gwbl.
Mae’r economi yng Nghymru yn dal ar y trywydd iawn, diolch i’r penderfyniadau anodd mae’r Llywodraeth hon wedi’u gwneud yn y gorffennol.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson:
Mae teuluoedd a busnesau yng Nghymru yn elwa o gynllun economaidd hirdymor y Llywodraeth Glymblaid.
Yn sgil y Gyllideb hon, bydd Llywodraeth Cymru yn elwa o £36 miliwn ychwanegol o rym gwario – arian mae’n gallu ei wario ar unrhyw beth, o amddiffynfeydd rhag llifogydd a thyllau yn y ffyrdd i drwsio eglwysi cadeiriol ac adfywio ystadau.
Mae hyn yn golygu bod y Llywodraeth wedi cynyddu bron i £800 miliwn ar rym gwario Llywodraeth Cymru ers Adolygiad o Wariant 2010.
O bensiynau i ynni, ac o fusnesau bach a chanolig i gynilwyr, bydd y Gyllideb hon yn lleihau costau ac yn sicrhau bod gan bobl fwy o arian yn eu pocedi.
Wrth wneud hynny, rydym yn gweithio i greu dyfodol mwy llewyrchus i Gymru ac i weddill y DU.
Cafodd ffigurau cyflogaeth diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol eu cyhoeddi heddiw hefyd. Mae’r ffigurau hyn yn dangos bod 1,000 yn fwy o bobl wedi bod yn gweithio yng Nghymru dros y chwarter diwethaf.
Maent hefyd yn dangos mai Cymru welodd y cwymp mwyaf yn y gyfradd ddiweithdra o blith holl wledydd a rhanbarthau’r DU dros y chwarter diwethaf – a dros y flwyddyn diwethaf yn ei chyfanrwydd – gan ostwng i 6.7 y cant o’i gymharu â ffigur y DU, sef 7.2 y cant.
Wrth sôn am y ffigurau, dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’r ffigurau hyn yn dangos unwaith eto ein bod yn parhau i weld arwyddion addawol o dwf ac adferiad yng Nghymru. O dan y Llywodraeth hon, mae nifer y bobl sy’n gweithio yng Nghymru yn fwy na 1.38 miliwn am y tro cyntaf yn ein hanes.
Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo’n gadarn i sicrhau bod pobl o oedran gweithio yng Nghymru yn cael cyfle i fod yn rhan o’r farchnad lafur er mwyn gwella’u rhagolygon gyrfa, lleihau’r risg o ddiweithdra hirdymor a dibyniaeth ar les, a hybu symudedd cymdeithasol a mwy o dwf economaidd.