Gweinidogion cabinet yn gweld ffyniant bro ar waith yn ffatri Airbus
Y Prif Weinidog, y Canghellor ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld ag Airbus ym Mrychdyn i gwrdd â phrentisiaid ac i weld y gwaith sy’n cael ei wneud i hybu swyddi.
Mae’r Prif Weinidog, y Canghellor ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ymweld â ffatri Airbus yng Ngogledd Cymru, lle gwelwyd effeithiau positif y buddsoddiad mewn swyddi yn yr ardal a’r ymrwymiad i helpu teuluoedd gyda chostau byw.
Cyfarfu’r gweinidogion â nifer o brentisiaid ar ddydd Gwener 12 Awst, a thrafodwyd sut mae gwella sgiliau a rhagolygon swyddi yn hanfodol i ysgogi twf economaidd a ffyniant bro ar draws y DU.
Wrth ymateb i’r ffigurau GDP diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw, sy’n dangos bod yr economi wedi crebachu 0.1% yn y tri mis hyd at fis Mehefin, fe wnaeth y Canghellor ailddatgan mai ei “brif flaenoriaeth” oedd gweithio gyda Banc Lloegr i gael chwyddiant o dan reolaeth a thyfu’r economi.
Daw’r ymweliad wrth i ystadegau ddangos bod dros 7 miliwn o gyfrifon banc ar draws y DU wedi derbyn y taliad costau byw cyntaf o £326, gyda £324 pellach i ddod yn yr hydref. Gwelodd gweithwyr ledled Cymru doriad hefyd yn eu cyfraniadau Yswiriant Gwladol fis diwethaf, sef arbedion o £396 miliwn mewn cartrefi eleni.
Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson:
Cwmnïau fel Airbus sy’n gyrru twf economaidd, ffyniant bro ac yn cefnogi miloedd o swyddi hynod fedrus i bobl ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.
Roedd hi’n wych cael ymweld â safle Brychdyn yng Ngogledd Cymru – y safle cynhyrchu adenydd mwyaf yn y byd – i weld eu gwaith ac i glywed gan brentisiaid ar ddechrau eu gyrfaoedd gydag Airbus.
Byddwn yn parhau i helpu pobl ar draws y wlad i ddod o hyd i swyddi da a’u cefnogi drwy’r heriau costau byw.
Dywedodd Canghellor y Trysorlys Nadhim Zahawi:
Mae’n wych bod yma yng Nghymru i gwrdd â phrentisiaid mor frwdfrydig a thalentog.
Rwy’n gwybod ei bod hi’n gyfnod heriol a bod pobl yng Nghymru yn poeni am brisiau’n codi. Dyna pam y mae’r llywodraeth yn cynnig swm digynsail o gymorth gwerth £37 biliwn i helpu aelwydydd, gan gynnwys disgownt o £400 ar filiau ynni i bob cartref yng Nghymru y gaeaf hwn.
Ond mae’n bwysig cofio bod yna bocedi o optimistiaeth – mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru ar lefel hanesyddol o isel, ac mae busnesau fel Airbus yn cyhoeddi buddsoddiadau anferthol newydd, a fydd yn hwb i ragolygon pobl yn y rhanbarth.
Fe wnaeth y DU adfer yn gyflym o’r pandemig, gyda’r twf cyflymaf yn y G7 y llynedd, ac rwy’n hyderus y gallwn hefyd oresgyn y sialensiau byd-eang sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Syr Robert Buckland:
Mewn adegau hynod o heriol, mae Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar dyfu’r economi a chynyddu cyfleoedd i bobl ar draws Cymru.
Ochr yn ochr â’r cymorth rydym yn ei roi i gartrefi yng Nghymru, mae’n wych gweld cwmni fel Airbus yn buddsoddi yn ei weithlu gyda’i gynlluniau i greu 550 o swyddi, gan adeiladu ar ei raglen brentisiaethau a rhoi hwb i’w gyfleusterau cynhyrchu ym Mrychdyn.
Dywedodd Uwch Is Lywydd Airbus a Phennaeth Safle Brychdyn, Jerome Blandin:
Roedd hi’n wych bod y Prif Weinidog, y Canghellor ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ymweld â’n safle ym Mrychdyn heddiw ac i gwrdd â rhai o’n staff arbennig.
Mae Airbus wedi buddsoddi’n helaeth yn ei weithlu a’i gyfleusterau yng Ngogledd Cymru, y De Orllewin ac o amgylch y DU, gan gyfrannu’n sylweddol at agenda ffyniant bro y llywodraeth. Rydyn ni wedi hyfforddi dros 1,100 o brentisiaid yn ystod y deng mlynedd diwethaf ac wedi gwario tua £250 miliwn bob blwyddyn ar Ymchwil a Datblygu yma yn y DU.
Ym mis Mai, cyhoeddodd Airbus gynnydd yng nghyfradd gynhyrchu ein hawyrennau masnachol un eil - i nifer digynsail o 75 o awyrennau A320 bob mis erbyn Tachwedd 2025. Ar gyfer y DU, mae hynny’n golygu y bydd cynnydd o 550 yn ein gweithlu yng Ngogledd Cymru a byddwn yn buddsoddi £100 miliwn pellach mewn cyfleusterau cynhyrchu ychwanegol erbyn 2025 i fodloni’r galw cynyddol yn fyd-eang.