Bargen Dinas Caerdydd - darn barn gan Greg Clark a Stephen Crabb
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Gaerdydd.
Os yw llwyddiant yn esgor ar lwyddiant, mae prifddinas ieuengaf Ewrop yn dechrau ar sylfaen gref.
Yn ddiweddar, enwyd Caerdydd fel dinas breswyl orau’r Deyrnas Unedig - gyda diweithdra isel, safonau byw ar gynnydd a chostau byw cymharol isel.
Ac mae’r byd ehangach yn sylwi ar hyn, hefyd. Pan feddyliwch chi am y Chwe Gwlad, Cwpan yr FA, Gemau Prawf Criced, Cyfres y Lludw, Tlws Pencampwyr yr ICC, Cwpan Rygbi’r Byd ac yn awr Cynghrair y Pencampwyr 2017, mae Caerdydd yn cael ei chydnabod fwyfwy fel lleoliad o’r radd flaenaf ar gyfer cynnal digwyddiadau mawr. Pan ychwanegwch chi Gwpan Ryder ac uwchgynadleddau NATO at y cyfan, mae’n amlwg bod rhanbarth Prifddinas Caerdydd yn creu argraff fawr iawn.
Ond mae gan Gaerdydd lawer iawn mwy i’w gynnig na dim ond digwyddiadau mawr. Mae’n gartref i sector diwydiannau creadigol sydd ar gynnydd, sydd wedi gweld sioeau teledu llwyddiannus fel y Gwyll / Hinterland yn cael eu gwerthu o amgylch y byd. Caerdydd yw cefndir sioeau llwyddiannus amrywiol fel Doctor Who a Pobol y Cwm. Yng Ngwynllŵg, mae Stiwdios Pinewood yn golygu bod Caerdydd i’w gweld ym mhob cwr o’r byd
Mae Caerdydd a Rhanbarth y Brifddinas yn cael eu cydnabod yn gynyddol fel canolfan flaenllaw ar gyfer buddsoddi mewn uwch-dechnoleg busnesau newydd a buddsoddwyr mawr. Fel prifddinas, y mae hefyd yn ganolfan o bwys ar gyfer gwasanaethau ariannol.
Dyma rai o’r cryfderau sydd eisoes yn gwneud Rhanbarth y Brifddinas, Caerdydd, yn unigryw.
Mae Bargen Dinas yn rhoi’r cyfle i symud Caerdydd i uwch gynghrair dinasoedd Ewrop.
Pan lansiwyd Bargeinion Dinasoedd gyntaf yn 2011, roedd arweinwyr lleol yn wyliadwrus. Mae hanes hir o lywodraethau’n dweud wrth gymunedau beth i’w wneud y tu ôl i fwgwd ‘lleoleiddio’.
Roedd y Bargeinion, fodd bynnag, yn nodi dull newydd - y Llywodraeth yn gofyn i arweinwyr lleol osod yr agenda. Mae Bargeinion Dinasoedd yn gweithio pan ddaw arweinwyr cynghorau lleol, y sector preifat a phartneriaid pwysig eraill at ei gilydd i gyflwyno gweledigaeth o sut i redeg y rhanbarth i’r Llywodraeth ganolog. Yn aml, y cyfuniad o gyllid lleol a chyllid y Llywodraeth ganolog yw’r allwedd i ddatgloi buddsoddiad newydd mewn prosiectau cyfalaf a seilwaith mawr.
O fewn chwe mis i’r cyhoeddiad am y cysyniad o Fargeinion Dinasoedd, roedd wyth o Fargeinion wedi eu cadarnhau. Dair blynedd yn ddiweddarach, cytunwyd ar 28 o Fargeinion Dinasoedd, gyda’r dinasoedd yn amrywio o Plymouth i Glasgow.
Dywedodd arweinydd Cyngor Glasgow, a gytunodd ar Fargen Dinas gyda’r Llywodraeth y llynedd:
Ni ddylai datganoli ystyrlon fod yn fater o drosglwyddo pwerau rhwng un senedd a’r llall yn unig.
Mae Bargen Dinas Glasgow a Dyffryn Clyde wedi newid pethau o ddifrif, gan greu 29,000 o swyddi parhaol, 15,000 o swyddi adeiladu a datgloi £3.3 biliwn o fuddsoddiad yn y sector preifat.
Byddwn wrth fy modd yn gweld rhagor o fargeinion dinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig, yn enwedig yng Nghymru a’r Alban, sydd rywfaint ar ei hôl hi yn hyn o beth.
Pwrpas datganoli i lefel dinas-ranbarthoedd yw meithrin economi mewn ffordd well, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a gwella diwygiadau i wasanaethau cyhoeddus mewn lleoedd penodol.
Mae’r momentwm ynghylch datganoli i ardaloedd lleol yn cynyddu ar draws y wlad. Mae cydnabyddiaeth gynyddol bod pob man yn wahanol ac na fydd yr hyn sy’n gweithio mewn un lle yn gweithio cystal yn rhywle arall o reidrwydd. Mae hyn yn ymddangos yn amlwg i unrhyw un sydd wedi ymweld â dinasoedd mawr y wlad. Rhaid i Gaerdydd beidio â cholli’r chwyldro hwn.
Mae Bargeinion Dinasoedd llwyddiannus yn seiliedig ar syniadau mawr i ddatgloi twf ar draws dinasoedd a’u hardaloedd economaidd ehangach. Maen nhw’n gweithio orau pan fydd pawb yn yr ardal leol, gan gynnwys arweinwyr dinesig, busnes ac addysg uwch, yn dod at ei gilydd i ddweud wrth y Llywodraeth beth sydd angen ei newid a beth ellir ei wneud yn well.
Nid oes cyllideb sefydlog nac uwchgynllun Whitehall ar gyfer Caerdydd. Yn hytrach, mae hon yn drafodaeth ddilys gyda chytundeb yn dibynnu ar gryfder y syniadau sy’n dod o’r ddinas ei hun.
Yn gynharach yn y mis hwn, cyhoeddwyd yn y Gyllideb bod y llywodraeth yn gweithio tuag at ddatganoli gyda Rhanbarth Dinas Sheffield, Rhanbarth Dinas Lerpwl, a Leeds, Gorllewin Swydd Efrog ac awdurdodau sy’n bartneriaid.
Rhaid i Gaerdydd weithredu nawr i wneud yn siŵr nad yw’n cael ei goddiweddyd gan y dinasoedd uchelgeisiol eraill hyn. Heddiw, rwyf wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru i’w annog i fanteisio’n llawn ar y cyfle hwn.
Nawr yw’r adeg i weithredu. Gwnewch gynnig rhy dda i’w wrthod i’r llywodraeth, ac achubwch ar y cyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth hwn i gytuno ar Fargen Dinas ar gyfer Rhanbarth y Brifddinas, Caerdydd.