Caerdydd yn datblygu fel canolfan ariannol y DU, meddai’r Ysgrifennydd Gwladol
Daeth dros 50 o brif arweinwyr busnes Cymru at ei gilydd heno yn Gwydyr House i nodi effaith gynyddol y diwydiant gwasanaethau ariannol.
Daeth dros 50 o brif arweinwyr busnes Cymru at ei gilydd heno (1 Rhagfyr 2015) ar gyfer derbyniad yn Gwydyr House i nodi effaith gynyddol Cymru ar y diwydiant gwasanaethau ariannol.
Dywedodd ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, wrth y gwesteion fod gan Gymru, flwyddyn ar ôl uwchgynhadledd buddsoddi’r DU yng Nghasnewydd, y ffigurau mewnfuddsoddiad gorau ers chwarter canrif.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru:
Rydyn ni wedi ymrwymo i adfer cydbwysedd twf drwy sicrhau bod manteision economi sy’n datblygu yn amlwg ledled y DU.
Rydw i eisiau gweld y sector ariannol yng Nghymru yn parhau i gynyddu.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru fod y sectorau ariannol a gwasanaethau proffesiynol yn ne Cymru yn cefnogi 96,000 o swyddi erbyn hyn.
Dywedodd yn y cyfarfod fod y Llywodraeth yn gwella cysylltiadau rheilffyrdd i sicrhau bod “y sector gwasanaethau ariannol ar y ddau ben i’r M4” wedi’i gysylltu yn y modd mwyaf effeithlon posib.
Rydyn ni’n lleihau amser teithiau drwy drydanu prif lwybr y Great Western, a bydd cyflwyno Crossrail yn dod ag ardaloedd ariannol Caerdydd a Canary Wharf yn nes at ei gilydd.
Bydd y gwelliannau hyn, sydd wedi gwneud Caerdydd yn lle mwy cyfleus a haws i’w gyrraedd, yn sicrhau bod y brifddinas ar frig y rhestr wrth i gwmnïau gwasanaethau ariannol ystyried lleoliadau i fuddsoddi ynddyn nhw.
Bydd yr orsaf Crossrail tri llawr sy’n cael ei hadeiladu yn Paddington yn lleihau’r amser mae’n gymryd i deithio ar draws Llundain o tua 20 munud o 2018 ymlaen, a rhagwelir y bydd yn cael ei defnyddio gan tua 25 miliwn o deithwyr y flwyddyn.
Cynhaliwyd y derbyniad yn Gwydyr House yn dilyn digwyddiad ym mhencadlys y Grŵp Admiral fis diwethaf i lansio menter Canolfan Rhagoriaeth Ariannol De Cymru – sy’n cael ei gefnogi gan Swyddfa Cymru a’r Trysorlys.
Bydd Masnach a Buddsoddi’r DU (UKTI), un o gyrff y llywodraeth sy’n helpu cwmnïau wedi’u lleoli yn y DU i lwyddo yn yr economi fyd-eang, yn cydweithio’n agos â diwydiant a llywodraeth leol i roi hwb i’r sector ariannol yng Nghymru.
Hefyd, dywedodd Mr Crabb fod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Rhanbarth Prifddinas Caerdydd ar Fargen “gwirioneddol drawsffurfiol” i’r Ddinas.
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru: “Rwy’n gwybod y bydd busnesau Caerdydd a De Cymru yn manteisio ar y cyfleoedd hyn”.