Mae gwasanaethau Companies House Direct a WebCHeck yn cau
Er gwaethaf rhywfaint o oedi, y bwriad o hyd yw cau'r gwasanaethau hyn a bydd dyddiad cau ffurfiol yn cael ei bennu'n hwyrach yn 2022.
Rydym yn adolygu ein sefyllfa’n barhaus a byddwn mewn cysylltiad â defnyddwyr pan fydd dyddiad cau wedi’i bennu ar gyfer Companies House Direct (CHD) a WebCHeck.
Dod o hyd i wybodaeth am gwmnïau a’i diweddaru yw ein prif swyddogaeth ar gyfer chwilio am gwmni o hyd a dyma le rydym yn cyfeirio ein defnyddwyr.
Ychwanegwyd cofnodion cwmni wedi’u diddymu at Dod o hyd i wybodaeth am gwmnïau a’i diweddaru. Mae mwy o gofnodion wedi’u diddymu ar gael nag erioed o’r blaen gyda 1.5 miliwn o gofnodion cwmni ychwanegol wedi’u huwchlwytho. Mae’r wybodaeth hon am ddim ac mae’n cynnwys y cofnodion ar gyfer pob cwmni a ddiddymwyd ers mis Ionawr 2010.
Amlygodd ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad ar dryloywder Corfforaethol a diwygio’r gofrestr yr angen i gydbwyso tryloywder corfforaethol gwell â phryderon preifatrwydd data cyfreithlon.
Ar gyfer cwmnïau a ddiddymwyd cyn 2010 (hyd at 20 mlynedd) mae mynegai enwau cwmnïau wedi’i ddiddymu ar gael, gan ddarparu gwybodaeth sylfaenol am gwmnïau ac adroddiadau cwmnïau. Bydd copïau o ddogfennau ar gyfer y cwmnïau hyn ar gael ar gais gan ein canolfan gyswllt am ffi.
Gweler ein canllawiau ar gofnodion a ddiddymwyd.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 20 Ionawr 2022Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 Ionawr 2022 + show all updates
-
Added translation
-
First published.