Tŷ’r Cwmnïau’n lansio addewid i gynorthwyo cwsmeriaid sy’n agored i niwed
Rydym yn cydnabod y gall fod yn anodd i ddefnyddwyr sy’n eu cael eu hunain mewn sefyllfaoedd agored i niwed gydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol, ac rydym yn addo cynorthwyo cwsmeriaid yn ystod y cyfnodau hynny.
Ein nod yn Nhŷ’r Cwmnïau yw darparu profiad cwsmeriaid di-dor i’n holl ddefnyddwyr.
Rhaid i’r holl gwsmeriaid gydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol, megis ffeilio eu cyfrifon yn brydlon. A gall hynny fod yn anodd pan fyddant mewn sefyllfa lle maent yn agored i niwed.
Rydym yn cydnabod y gall cwsmeriaid fod yn agored i niwed am gyfnodau byr ac am gyfnodau hir, ac y gall y cyfnodau hyn ailddigwydd. Bydd rhai yn agored i niwed yn ystod cyfnodau eithriadol o anodd, ac eraill oherwydd heriau mwy hirdymor.
Mae amrywiaeth eang o ffactorau’n cyfrannu at fod yn agored i niwed, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
-
problemau iechyd corfforol neu iechyd meddwl
-
amgylchiadau ariannol
-
newidiadau i amgylchiadau bywyd – megis profedigaeth neu ddod yn ofalwr
Er mwyn cynorthwyo ein cwsmeriaid i gwblhau eu rhwymedigaethau statudol, byddwn:
-
yn adolygu ein polisïau’n rheolaidd
-
yn darparu gwasanaethau proffesiynol i’n holl gwsmeriaid
-
yn hyfforddi’n cydweithwyr i roi cymorth gwell i’n cwsmeriaid sy’n agored i niwed
-
yn defnyddio system cynadleddau achos ac yn sicrhau y caiff arferion gorau eu rhannu
-
yn defnyddio arbenigedd allanol i’n herio ni i wella ein gwasanaethau
-
yn deall ein cwsmeriaid ac yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu’n effeithiol
Ein haddewid
Rydym yn addo gweithio gyda’n cwsmeriaid yn ystod y cyfnodau anodd hyn i sicrhau eu bod yn gallu defnyddio ein gwybodaeth a’n gwasanaethau mewn ffordd sy’n addas at eu hanghenion.
Hyfforddiant
Mae ein timau sy’n ymwneud â chwsmeriaid yn allweddol i’r gwaith o sicrhau ein bod ni’n adnabod ein cwsmeriaid sy’n agored i niwed ac yn eu helpu. Byddwn yn sicrhau y bydd ein pobl ni’n cael hyfforddiant addas i adnabod a chynorthwyo cwsmeriaid a all fod yn agored i niwed, a’u cyfeirio hefyd at gymorth ychwanegol.
Adolygu perfformiad yn rheolaidd
Er mwyn sicrhau gwelliant cyson i’n harferion busnes o ran gofal cwsmeriaid, byddwn yn adolygu ein polisïau’n rheolaidd. Byddwn yn defnyddio arbenigedd allanol i herio ac i awgrymu gwelliannau pan fo angen.
Darllenwch (yn Saesneg) sut wnaethom gadw dyfarniad safon rhagoriaeth mewn gwasanaethau cwsmeriaid yn ddiweddar, yn dilyn adolygiad annibynnol allanol o’n gwasanaethau.
Darparu gwasanaeth proffesiynol
Byddwn yn ceisio deall ein cwsmeriaid, er mwyn sicrhau bod y cyfathrebu rhyngom yn effeithiol bob amser. Byddwn yn ceisio darparu gwasanaeth proffesiynol i’n cwsmeriaid bob amser, ac yn ceisio bod ag ymagwedd hyblyg - o fewn y terfynau a osodir gan ddeddfwriaeth.
Caiff ein haddewid ei wneud ochr yn ochr â’n siarter cwsmeriaid newydd a gwell. Nod y siarter yw nodi lefel y gwasanaeth y gall ein cwsmeriaid ei ddisgwyl gennym, a’r hyn rydym wedi ymrwymo i’w ddarparu i’n cwsmeriaid.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd canfod, cynorthwyo a chynnig atebion i gwsmeriaid sy’n agored i niwed. A gobeithiwn fod yr addewid hwn yn dangos ein hymrwymiad i gynorthwyo cwsmeriaid drwy gyfnodau anodd.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 6 Chwefror 2020Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Chwefror 2020 + show all updates
-
Added translation
-
First published.