Tŷ’r Cwmnïau’n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dyfarniad gan y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR)
Rydym wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dyfarniad Rhagoriaeth CIPR yn y categori ‘y defnydd gorau o ddulliau digidol’.
Mae Dyfarniadau Rhagoriaeth CIPR yn cydnabod y gwaith rhagorol mae sefydliad wedi’i gyflawni ar gyfer ei gwsmeriaid a’i gyflogeion. Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dyfarniad CIPR yn eich nodi chi fel arweinydd y diwydiant ym maes cyfathrebu allanol, ac yn dangos gwerth cysylltiadau cyhoeddus i’r byd busnes ehangach.
Mae’r dyfarniad ‘defnydd gorau o ddulliau digidol’ yn cydnabod ymgyrch neu brosiect sy’n llwyddiannus wrth gyflawni amcanion cysylltiadau cyhoeddus gan ddefnyddio’r cynnwys ar sianelau cyfryngau digidol mewn ffordd ddychmygus.
Gwnaethom gyflwyno ein hastudiaethau achos busnesau bach, animeiddiadau ‘Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud’ a’r cynnwys ‘Esgusion Rhyfedd dros beidio â Ffeilio’ yn Saesneg, oedd yn rhan o’n hymgyrch gyffredinol ‘Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud’.
Dywedodd Louise Smyth, Prif Weithredwr Tŷ’r Cwmnïau a Chofrestrydd Cwmnïau Lloegr a Chymru:
Rydym wrth ein bodd i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer dyfarniad mor fawr ei fri. Mae nifer o sefydliadau cydnabyddedig ac uchel eu parch yn ein categori ni, felly mae’n wych bod ein gwaith cyfathrebu ni’n cael ei ystyried yn yr un dosbarth â’r sefydliadau hyn.
Mae ein tîm cyfathrebu wedi gweithio’n galed iawn ar yr ymgyrch hon, gan ddangos brwdfrydedd ac ymroddiad i gynhyrchu cynnwys dychmygus a chreadigol ar draws ein holl sianelau digidol allanol. Llongyfarchiadau a phob lwc i bawb sydd ar y rhestr fer.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 5 Ebrill 2019Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 Ebrill 2019 + show all updates
-
Welsh translation added.
-
First published.