Ymgynghoriad ar newidiadau i’n datganiadau ystadegol
Rydyn ni’n cynnig newid maint a fformat ein datganiadau ystadegol a pha mor aml rydyn ni’n eu cyhoeddi.
Cefndir
Tŷ’r Cwmnïau yw’r ffynhonnell gwybodaeth am gwmnïau corfforedig yn y Deyrnas Unedig. Mae pob cwmni cyfyngedig yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban wedi’i gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau. Mae mwy na 3.5 miliwn o gwmnïau cyfyngedig wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig, ac mae mwy na 500,000 o gwmnïau newydd yn cael eu corffori bob blwyddyn.
Cynnig i newid ein datganiadau ystadegol
Rydyn ni’n cyhoeddi amrywiaeth o ystadegau ar weithgarwch cwmnïau yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n cynnig newid maint a fformat ein datganiadau ystadegol a pha mor aml rydyn ni’n eu cyhoeddi. Gellir gweld mwy o wybodaeth am y cynnig i newid datganiadau ystadegol yma.
Cymryd rhan yn yr ymgynghoriad
Gallwch roi gwybod i ni beth yw’ch barn am y cynigion hyn trwy ymateb i’n hymgynghoriad.
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 13 Mai 2016.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 13 Mai 2016. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’n canfyddiadau cyn pen rhyw 12 wythnos ar ôl y dyddiad cau hwn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch neges e-bost at [email protected].
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 7 Mawrth 2016Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 Mai 2016 + show all updates
-
Consultation closed
-
Consultation date extended to 13 May
-
Welsh version of consultation added
-
First published.