Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn Nhŷ’r Cwmnïau
Crynodeb o’n llwyddiannau ym maes cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol dros y 6 mis diwethaf
Fel un o sefydliadau’r llywodraeth a chyflogwr mawr, mae cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn bwysig i ni. Rydym yn cymryd ein heffaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o ddifrif.
Cynaliasom ein hwythnos Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol gyntaf ym mis Awst. Yn ystod yr wythnos, tynasom sylw at ein gwaith ym mhedwar maes Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol – yr amgylchedd, pobl, caffael a’r gymuned.
Rydym yn falch bod cydweithwyr o’n pedair swyddfa ar draws y Deyrnas Unedig (Caerdydd, Caeredin, Belfast a Llundain) i gyd yn cyfrannu at y meysydd gwaith hyn.
Dyma grynodeb o’n huchafbwyntiau ym maes cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol dros y 6 mis diwethaf.
Rhoi offer cyfrifiadurol i elusen Autism Puzzles Cymru
Rhoesom 40 o’n hen gyfrifiaduron i gwmni Computer Disposals Limited (CDL) yn gynharach eleni. Ymrwymodd y cwmni yn ei dro i adnewyddu 25% ohonynt yn llwyr a’u rhoi yn ôl i ni er mwyn i ni eu rhoddi i’r gymuned.
Penderfynasom roi’r cyfrifiaduron i Autism Puzzles Cymru (APC). Mae APC yn elusen sy’n darparu gwasanaeth allgymorth i deuluoedd sy’n mynd trwy ddiagnosis o awtistiaeth. Yn hael iawn, rhoddodd CDL offer ychwanegol inni a olygai ein bod wedi rhoi 10 cyfrifiadur i APC ynghyd â monitorau, bysellfyrddau a llygod.
Diolch i’r rhodd hon, mae APC yn sefydlu ystafell TG newydd. Bydd hon yn helpu’r elusen i ddarparu gweithdai a chynnig cyfleusterau i deuluoedd er mwyn iddynt chwilio am wybodaeth.
Rhoi siwmperi i elusen Rainbow of Hope
Roedd hi’n Ddiwrnod Siwmperi Nadolig ar 14 Rhagfyr. Gofynasom i’n staff roi siwmperi i’r elusen Rainbow of Hope. Elusen yng Nghaerdydd yw hon sy’n cynorthwyo pobl ddigartref a difreintiedig.
Casglasom siwmperi dynion yn benodol, gan mai’r rhain yr oedd eu hangen mwyaf yn ôl Rainbow of Hope.
Gwirfoddoli ar draws y Deyrnas Unedig
Manteisiwyd ar fwy na 300 o gyfleoedd i weithwyr wirfoddoli yn ystod y flwyddyn. Roedd y rhain yn cynnwys:
- helpu yng nghanolfan anifeiliaid Hope Rescue
- cymryd rhai mewn gweithdai crefft yn Nhŷ Hafan
- trefnu prosiectau adfywio mewn nifer o ysgolion cynradd yn ne Cymru a Chaeredin
- cyfrannu 800kg o fwyd i fanc bwyd Caeredin
Rydym wedi ymrwymo i gynyddu ein gwaith gwirfoddol yn 2019.
Codi arian i’n cymunedau lleol
Yn ogystal â gwirfoddoli, rydym yn cefnogi ein cymunedau lleol trwy godi arian. Hyd yma eleni, rydym wedi codi ychydig dros £7,000. Mae hyn y cynnwys:
- dros £1,200 i Blant mewn Angen
- dros £500 i Gymdeithas Alzheimer’s
- dros £450 i Ganolfan Canser Felindre
- dros £300 i Macmillan Cancer Support yn ein swyddfa yng Nghaeredin
Ers 2012, mae gweithwyr Tŷ’r Cwmnïau wedi codi bron £56,000.
Lleihau ein heffaith amgylcheddol
Mae ein grŵp amgylcheddol wedi bod yn gweithio’n galed i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Yn ystod y 3 mis diwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar leihau’r defnydd o blastigau untro yn ffreutur y staff.
Rydym wedi rhoi’r gorau i ddarparu cwpanau coffi a chloriau untro. O ganlyniad, aeth 6,000 yn llai o gwpanau i safle tirlenwi pob mis. Hefyd, erbyn hyn mae ein holl gyllyll a ffyrc a chynwysyddion bwyd plastig yn fioddiraddadwy.
Trwy’r ddau gynllun hyn a mwy, rydym wedi lleihau maint y gwastraff sy’n mynd i safle tirlenwi, ac wedi arbed bron £17,000.
Rydym yn defnyddio ein sianelau cymdeithasol yn rheolaidd i hyrwyddo ein gweithgareddau ym maes cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Os hoffech gael gwybod mwy, defnyddiwch yr hashnod #CompaniesHouseCSR.