Y cloc yn cychwyn i fyfyrwyr sy'n dychwelyd ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr yng Nghymru
Mae SLC yn annog myfyrwyr israddedig amser llawn sy'n dychwelyd yng Nghymru i gyflwyno eu ceisiadau am gyllid i fyfyrwyr cyn y dyddiad cau ar 25 Mehefin.
Mae SLC yn annog myfyrwyr israddedig amser llawn sy’n dychwelyd yng Nghymru i gyflwyno eu ceisiadau am gyllid i fyfyrwyr cyn y dyddiad cau ar 25 Mehefin.
Rhaid i fyfyrwyr ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr ar gyfer pob blwyddyn academaidd a dylent wneud hynny cyn y dyddiad cau i sicrhau bod eu cyllid yn ei le ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd. I ymgeisio, mae angen i fyfyrwyr fewngofnodi i’w cyfrif ar-lein i gadarnhau eu manylion ar y cais ar-lein ac yna cyflwyno eu cais. Meddai Chris Larmer, Cyfarwyddwyr Gweithredol, Gweithrediadau SLC: “Yn ôl y disgwyl, rydym wedi gweld galw mawr am ein gwasanaeth israddedig llawn amser eleni gyda lefelau ceisiadau yn uwch nag erioed. Ein cyngor i fyfyrwyr sy’n dychwelyd yw i ymgeisio nawr, fel y gallant fod yn hyderus y bydd eu cyllid i fyfyrwyr yn ei le cyn pan fydd eu hastudiaethau parhau yn yr Hydref.”
Fe basiodd y dyddiad cau ar gyfer myfyrwyr israddedig llawn amser newydd yng Nghymru i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr yn gynharach yn y mis. Dylai ymgeiswyr sydd wedi colli’r dyddiad cau ymgeisio ar-lein nawr, ac os ydynt yn gymwys byddant yn derbyn pecyn cyllid sylfaenol pan fydd eu hastudiaethau’n cychwyn. Fe wneir taliad ychwanegol cyn gynted ag y bydd eu cais llawn wedi ei brosesu.
I gefnogi pob myfyriwr gyda’u ceisiadau, mae SLC wedi darparu gwybodaeth i helpu ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin ynghylch ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr. Gall myfyrwyr hefyd gadw’n gyfredol ynghylch yr wybodaeth ddiweddaraf trwy ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar Facebook, a Twitter.
Dylai myfyrwyr sy’n dychwelyd ymgeisio ar-lein ar https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr a chofio:
- Gall Myfyrwyr yng Nghymru ymgeisio am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu am ffioedd dysgu a Benthyciad Cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Gallant hefyd ymgeisio am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru nad oes angen ei dalu’n ôl.
- Gall gymryd chwech i wyth wythnos i brosesu ceisiadau. Does dim angen i fyfyrwyr gysylltu â SLC yn ystod y cyfnod hwn i wirio statws eu cais. Fe gysylltir â nhw os bydd angen unrhyw wybodaeth atodol.
- Unwaith y bydd myfyriwr wedi ymgeisio, fe brosesir eu cais a byddant yn derbyn hysbysiad o’u hawl i gyllid. Fe gysylltir â nhw eto yn nes at ddechrau’r tymor i roi gwybod iddynt fod eu taliad ar ei ffordd.
- Gall myfyrwyr hefyd wirio cynnydd eu cais yn eu cyfrif ar-lein a gweld rhestr ‘tasgau i’w cwblhau’ i weld beth sydd angen iddynt ei wneud.
- Efallai y bydd angen i rieni a phartneriaid (noddwyr) hefyd diweddaru eu gwybodaeth os ydynt yn cefnogi cais myfyriwr sy’n dychwelyd. Unwaith y bydd myfyriwr yn cyflwyno ei gais, bydd y noddwr (neu noddwyr) a enwir yn derbyn e-bost i esbonio’r camau mae angen eu cymryd. Ceir rhagor o wybodaeth ar gefnogi cais am gyllid i fyfyrwyr ar https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/rhieni-a-phartneriaid.aspx