Y cloc yn cychwyn i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr yng Nghymru
Mae SLC yn atgoffa myfyrwyr israddedig amser llawn newydd yng Nghymru bod ganddynt ychydig dros bythefnos i fynd er mwyn ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr cyn y dyddiad cau ar 4 Mehefin.
Mae SLC yn atgoffa myfyrwyr israddedig amser llawn newydd yng Nghymru bod ganddynt ychydig dros bythefnos i fynd er mwyn ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr cyn y dyddiad cau ar 4 Mehefin. Y dyddiad cau ar gyfer myfyrwyr sy’n dychwelyd yw 25 Mehefin.
Ymgeisio cyn y dyddiad cau yw’r ffordd orau i fyfyrwyr sicrhau bod ganddynt eu harian yn ei le ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd. Gall myfyrwyr newydd ymgeisio nawr hyd yn oed os nad ydynt yn siŵr pa gwrs fyddant yn ei astudio, neu pa brifysgol fyddant yn ei mynychu.
Meddai Derek Ross, Cyfarwyddwyr Gweithredol Gweithrediadau SLC: “Hyd yma eleni, rydym eisoes wedi gweld cynnydd arwyddocaol mewn myfyrwyr yn ymgeisio am gyllid. Mae ceisiadau wedi cynyddu dros 10% blwyddyn ar flwyddyn, ac rydym yn rhagweld mai dyma fydd y flwyddyn academaidd brysuraf erioed. Rydym yn annog myfyrwyr i gyflwyno eu ceisiadau cyn y dyddiadau cau sydd ar ddod. Trwy wneud hynny, gallant fod yn hyderus y bydd eu cyllid i fyfyrwyr yn ei le cyn cychwyn eu hastudiaethau yn yr Hydref.
“I gefnogi myfyrwyr a’u rhieni a phartneriaid (noddwyr) gyda’u ceisiadau, rydym wedi darparu gwybodaeth gyda’r nod o helpu ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin ynghylch ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr. Trwy gydol y flwyddyn, byddwn yn darparu hyd yn oed mwy o adnoddau ar-lein i gefnogi myfyrwyr wrth i’r daith cyllid i fyfyrwyr barhau. Gallant hefyd wylio ein ffilm fer a chadw’n gyfredol ynghylch yr wybodaeth ddiweddaraf trwy ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar Facebook a Twitter.”
Dylai myfyrwyr ymgeisio ar-lein ar https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr a chofio:
- Gall Myfyrwyr yng Nghymru ymgeisio am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu am ffioedd dysgu a Benthyciad Cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Gallant hefyd ymgeisio am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru nad oes angen ei dalu’n ôl.
- Gall gymryd chwech i wyth wythnos i brosesu ceisiadau. Does dim angen i fyfyrwyr gysylltu â SLC yn ystod y cyfnod hwn i wirio statws eu cais. Fe gysylltir â nhw os bydd angen unrhyw wybodaeth atodol. *Gall myfyrwyr hefyd wirio cynnydd eu cais yn eu cyfrif ar-lein a gweld rhestr ‘tasgau i’w cwblhau’ i weld beth sydd angen iddynt ei wneud.
- Efallai y bydd angen i rieni a phartneriaid (noddwyr) hefyd ddarparu manylion incwm eu haelwyd os ydynt yn cefnogi cais myfyriwr. Unwaith y bydd myfyriwr yn ymgeisio, bydd y noddwr (neu noddwyr) a enwir yn derbyn e-bost i esbonio’r camau mae angen eu cymryd. Ceir rhagor o wybodaeth ar gefnogi cais am gyllid i fyfyrwyr ar https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/rhieni-a-phartneriaid.aspx
DIWEDD
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa’r wasg y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar 0141 306 2120 / [email protected]
Nodiadau Golygyddol
Terfynau Amser
- Y dyddiad cau ar gyfer myfyrwyr newydd yw 4 Mehefin ac ar gyfer myfyrwyr sy’n parhau, y dyddiad yw 25 Mehefin. Bydd myfyrwyr yn dal i allu ymgeisio wedi’r dyddiadau cau, ond nid oes sicrwydd y cânt eu talu mewn pryd ar gyfer dechrau’r tymor.
Awgrymau wrth wneud cais am gyllid i fyfyrwyr
- Ymgeisiwch hyd yn oed os nad oes gennych chi le wedi ei gadarnhau mewn prifysgol - Hyd yn oed os nad ydych chi’n gwybod pa gwrs fyddwch chi’n ei wneud neu i ba brifysgol fyddwch chi’n mynd, dylech ymgeisio ar-lein nawr ar [https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr] (https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr) Dewiswch y cwrs y mae’n fwyaf tebygol y byddwch yn ei astudio a gallwch ddiweddaru’r cais yn hwyrach os bydd angen.
- Cadwch eich dogfennau pwysig wrth law wrth ymgeisio - Cadwch eich rhif Yswiriant Gwladol, manylion pasbort a banc wrth law cyn i chi gychwyn eich cais gan y gofynnir i chi ddarparu’r wybodaeth yma wrth i chi ymgeisio. Os nad oes gennych gyfrif banc yn eich enw, dylech agor un. Byddwn ei angen er mwyn gallu talu eich arian i chi.
- Darparu eich tystiolaeth ategol ar-lein - I wneud cais, bydd angen i chi greu cyfrif ar-lein ac efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi eich cais, felly cofiwch gyflwyno unrhyw dystiolaeth pan ofynnir i chi ei darparu. Gellir cyflwyno’r holl dystiolaeth ar wahân i rai mathau o brawf hunaniaeth neu breswylio yn ddigidol trwy’ch cyfrif ar-lein. Ni allwn brosesu eich cais nes ein bod wedi cael yr holl dystiolaeth angenrheidiol.
- Dywedwch wrthym os yw incwm eich aelwyd wedi newid – Os ydych chi wedi ymgeisio am Fenthyciad Cynhaliaeth yn seiliedig ar incwm eich aelwyd, yna bydd angen i’ch noddwr - fel arfer eich rhieni neu bartner - ddarparu manylion incwm eu haelwyd ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol. Ar gyfer ceisiadau blwyddyn academaidd 21/22, mae hynny’n golygu blwyddyn dreth 19-20. Os yw’ch noddwr yn disgwyl y bydd ei incwm yn gostwng o 15% neu fwy, mae modd gofyn am asesiad Incwm Blwyddyn Gyfredol (CYI). Dim ond wedi i chi gyflwyno eich cais y gellir gofyn am CYI a phan fydd eich noddwr hefyd wedi cyflwyno incwm yr aelwyd ar gyfer blwyddyn dreth 19-20 i gefnogi eich cais yn ogystal. I wneud hyn, ewch i https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/rhieni-a-phartneriaid/sut-mae-incwm-cartref-yn-effeithio-ar-gais.aspx i lawrlwytho fersiwn ddigidol o’r ffurflen. Unwaith y byddwch wedi ei llenwi, gallwch ei lanlwytho yn syth o’ch cyfrif ar-lein.
- Deall faint o gyllid y gallech fod â hawl i’w gael - Gall myfyrwyr yng Nghymru ymgeisio am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu am ffioedd dysgu a Benthyciad Cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Gallant hefyd ymgeisio am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru nad oes angen ei dalu’n ôl. Gwyliwch y ffilm Darganfod Cyllid i Fyfyrwyr i gael gwybod mwy..
Gwyliwch y ffilm Darganfod Cyllid i Fyfyrwyr i gael gwybod mwy
- Gwiriwch os gallech fod yn gymwys i gael cefnogaeth ychwanegol - Efallai y bydd cyllid ychwanegol ar gael os oes gennych chi anabledd neu blentyn neu oedolyn dibynnol sy’n ddibynnol arnoch chi’n ariannol. https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/myfyrwyr-israddedig/myfyrwyr-newydd/pa-gymorth-ariannol-sydd-ar-gael.aspx
- Cadwch eich manylion cyswllt yn gyfredol – efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi trwy gydol y flwyddyn gyda gwybodaeth bwysig, felly sicrhewch fod eich manylion cyswllt yn gyfredol ar eich cyfrif ar-lein.
- Dilynwch Gyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) ar gyfryngau cymdeithasol Gall myfyrwyr gadw’n gyfredol gyda’r holl wybodaeth ddiweddaraf am gyllid i fyfyrwyr trwy ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar Facebook a Twitter.