Cysylltiad newydd Crossrail yn dod â Chymru a Dinas Llundain yn nes at ei gilydd
Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld â phrosiect Crossrail yn Paddington
Bydd cysylltiad Crossrail yn byrhau teithiau ar draws Llundain i lai nag 20 munud o 2018 ymlaen, gan helpu cymudwyr sy’n teithio i Gymru ac yn ôl drwy Paddington.
Mae tua 50,000 o dunelli o ddur a gyflenwyd gan wneuthurwr o Gymru, Celsa, wedi cael ei ddefnyddio wrth adeiladu’r prosiect, sy’n galluogi cymudwyr i gyrraedd y West End, y Ddinas a Canary Wharf heb orfod newid trenau.
Bydd taith nodweddiadol o’r orsaf newydd yn Paddington i Canary Wharf yn torri mwy na chwarter awr oddi ar yr amser teithio ar drenau tanddaearol ar hyn o bryd.
Bydd y cam hwn yn atgyfnerthu statws cynyddol Caerdydd fel canolfan gwasanaethau ariannol ac yn ei gwneud yn haws i deithwyr busnes gyrraedd Cymru wrth i’r wlad barhau i ddenu prosiectau buddsoddi mawr.
Cafodd Mr Crabb ei dywys o gwmpas y safle adeiladu 35 metr dan wyneb y ddaear i weld y gwaith sy’n parhau ar y strwythur tri llawr. Bydd yr orsaf newydd yn Paddington yn agor yn 2018, a disgwylir y bydd 25 miliwn o deithwyr yn mynd trwyddi bob blwyddyn.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Caerdydd yn tyfu’n sydyn fel un o ganolbwyntiau gwasanaethau ariannol Prydain, ac rydyn ni angen yr isadeiledd priodol i ategu’r twf anochel mewn teithio at ddibenion busnes.
Bydd Crossrail yn torri amserau teithio rhwng Caerdydd a Dinas Llundain yn sylweddol, gan wneud Cymru’n gyrchfan hyd yn oed yn fwy deniadol ar gyfer buddsoddiadau busnes.
Mae gan y prosiect gysylltiadau cryf â Chymru, gyda miloedd o dunelli o ddur o Gymru yn rhan o’r gwaith adeiladu.
Dywedodd Terry Morgan, Cadeirydd Crossrail:
Bydd prosiect Crossrail yn trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus, gan ei gwneud yn gyflymach ac yn haws i bobl gyrraedd ardaloedd busnes pwysig Llundain. Bydd cymudwyr sy’n cyrraedd Paddington o Gymru yn elwa ar drenau newydd a gwasanaethau rheolaidd a fydd yn eu galluogi i deithio drwy’r brifddinas a thu hwnt heb orfod newid trenau.
Mae gwelliannau yn Paddington yn cynnwys Prosiect Integredig Paddington (PIP), prosiect cydweithio agos rhwng Transport for London, Network Rail a Crossrail Limited i greu gorsaf integredig gyda gwell profiad i deithwyr a chyfnewidiadau hawdd. Fel rhan o hyn, mae gorsaf llinell Hammersmith & City newydd wedi cael ei hadeiladu i leddfu gorlenwi, ynghyd â mynedfa newydd i gerddwyr at lwybr tynnu’r gamlas a chyfleuster newydd i dacsis i’r dwyrain o’r orsaf bresennol.
Bydd prosiect Crossrail yn dod â 1.5 miliwn yn ychwanegol o bobl o fewn 45 munud i ardaloedd cyflogaeth, hamdden a busnes allweddol Llundain, ac yn annog adfywio yr holl ffordd ar draws y brifddinas. Bydd llinell Elizabeth yn cario dros 200 miliwn o deithwyr y flwyddyn, gan ychwanegu 10% at gapasiti rheilffyrdd canol Llundain.
Bydd y rheilffordd newydd yn cael ei gweithredu gan Transport for London a bydd yn cael ei hadnabod fel llinell Elizabeth pan fydd gwasanaethau’n cychwyn.
Bydd dewisiadau teithio newydd ar gael, gan gynnwys gwasanaethau uniongyrchol i ddwyrain Llundain, a thrwy newid trên unwaith yn Farringdon gall teithwyr gyrraedd meysydd awyr Gatwick a Luton drwy ddefnyddio rhwydwaith Thameslink, a fydd yn cael ei uwchraddio a’i ehangu.
Diwedd
Gwybodaeth am Crossrail
-
Cyfanswm yr arian sydd ar gael i gyflawni prosiect Crossrail yw £14.8 biliwn. Bydd y llwybr yn mynd drwy 40 o orsafoedd ac yn rhedeg dros 100km o Reading a Heathrow yn y gorllewin, drwy dwneli newydd deuol 21km (13 milltir) dan ganol Llundain i Shenfield ac Abbey Wood yn y dwyrain.
-
Mae prosiect Crossrail yn cael ei gyflawni gan Crossrail Limited (CRL). Mae CRL yn is-gwmni sydd dan berchnogaeth gyflawn Transport for London. Noddir Crossrail ar y cyd gan yr Adran Drafnidiaeth a Transport for London.
-
Cewch ragor o wybodaeth am Crossrail yn www.crossrail.co.uk
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 9 Mawrth 2016Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 Mawrth 2016 + show all updates
-
Added translation
-
First published.