Cam hollbwysig tuag at ddatganoli cyllidol
Mae Trysorlys y DU ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cwrdd â Gweinidog Cyllid llywodraeth Cymru mewn cam pwysig tuag at well datganoli cyllidol.
Fel rhan o’r pecyn newydd o bwerau treth a benthyca sy’n cael eu datganoli drwy Fil Cymru, mae Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd yng Nghymru wedi cytuno i weithio gyda’i gilydd i ystyried a ddylai Gweinidogion Cymru allu dyroddi bondiau.
Cytunwyd ar fanylion y trefniant hwn yn ffurfiol yn y cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw (20 Hydref) rhwng David Gauke AS a Danny Alexander AS, Trysorlys Ei Mawrhydi; Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb AS a Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt AC.
Dywedodd Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys:
Roedd cyfarfod Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd heddiw yn garreg filltir bwysig yn setliad datganoli’r DU ac o ran gweithredu pwerau treth a benthyca newydd llywodraeth Cymru, fel yr argymhellir gan y Comisiwn Silk.
Rydyn ni wedi gwneud cynnydd pwysig tuag at gytuno ar ddull y gallai gweinidogion Cymru ei ddefnyddio i ddyroddi bondiau Cymreig, er mwyn cynyddu’r amrywiaeth o opsiynau benthyca sydd ganddyn nhw.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Rwy’n dymuno gweld setliad datganoli hirhoedlog a theg, sy’n gweithio i bobl Cymru.
Ynghyd â Bil Cymru, mae cyfarfod cyntaf Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd heddiw’n tanlinellu, unwaith eto, ymrwymiad llywodraeth y DU i gyflwyno a chryfhau’r broses hon.
Byddaf yn dal ati i weithio gyda’r Trysorlys a Llywodraeth Cymru i sicrhau’r fargen orau i Gymru er mwyn rhoi hwb i swyddi, codi safonau byw a denu buddsoddiad.
Dywedodd David Gauke, Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys:
Mae’r llywodraeth hon yn benderfynol o gynyddu atebolrwydd ac ymreolaeth llywodraeth Cymru. Dyna pam y mae’r bil pwysig, Bil Cymru, yn datganoli trethi am y tro cyntaf, gan roi mwy o ymreolaeth i lywodraeth Cymru dros dreth tirlenwi, treth dir y dreth stamp a threth incwm.
Dywedodd Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Cymru:
Wrth i ddatganoli fwrw ymlaen, gyda phwerau cyllidol newydd yn dod i Gymru, mae’n bwysig bod ein dwy lywodraeth yn cydweithio’n agos i sicrhau bod y system yn gweithio’n dda – er lles pobl yng Nghymru a ledled y DU.
Heddiw, fe wnaethon ni drafod amrediad eang o faterion ariannol, sy’n cael goblygiadau mawr i Gymru. Roeddwn i’n canolbwyntio ar ddatganoli ardrethi busnes yn llawn o fis Ebrill 2015. Roedden ni hefyd yn rhoi sylw i’r achos dros Gymru’n cael pwerau i ddyroddi bondiau, a’r angen i edrych ar ariannu teg unwaith eto.
Hefyd, trafododd Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd yng Nghymru ddatblygiad y bil pwysig, sef Bil Cymru, sydd newydd fod drwy gam pwyllgor yn Nhŷ’r Arglwyddi. Mae’r Bil yn rhoi rhagor o bwerau benthyca newydd i lywodraeth Cymru a mwy o gyfrifoldeb dros dreth tirlenwi, treth dir y dreth stamp a threth incwm o 10c (yn amodol ar refferendwm) - y tro cyntaf i lywodraeth Cymru reoli pwerau treth.
Mae llywodraeth y DU a llywodraeth Cymru hefyd wedi cytuno i ailedrych ar y trefniadau ar gyfer ystyried cyllid cymharol yng ngoleuni’r pwerau sydd ym Mil Cymru, gan adeiladu ar broses y cydadolygiad y cytunwyd arni ym mis Hydref 2012, a gynhaliwyd cyn yr adolygiad o wariant yn 2013.