Datganiad i'r wasg

Darparu ar gyfer Cymru: Alun Cairns yn nodi dwy flynedd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Edrych nôl ar ddau blwyddyn llwyddiannus yn y swydd

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Alun Cairns

Alun Cairns marks two years as Secretary of State for Wales

Ddwy flynedd yn ôl i heddiw (19 Mawrth), cymerodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, ei sedd o amgylch bwrdd y Cabinet yn San Steffan gan amlinellu ei uchelgais i greu cenedl sy’n fwy uchelgeisiol, hyderus ac sy’n edrych tuag allan yn fwy nag erioed o’r blaen.

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi goruchwylio nifer o lwyddiannau allweddol i Gymru ers mis Mawrth 2016, gan gynnwys:

Diddymu Tollau Hafren

Ar ôl i Bontydd Hafren ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus ar Ionawr 8, 2018, lleihawyd y tollau i yrwyr cyn eu diddymu’n gyfan gwbl erbyn diwedd y flwyddyn. Mae hyn yn rhoi neges i fusnesau, teithwyr a thwristiaid ein bod wedi ymrwymo i gryfhau’r cysylltiadau rhwng Cymru a Lloegr.

Pwerdy’r Gorllewin ac Uwchgynhadledd Twf Hafren

Daeth dros 300 o westeion o ddwy ochr aber Afon Hafren i Uwchgynhadledd gyntaf Twf Hafren yng Ngwesty’r Celtic Manor i archwilio sut y gellir cryfhau’r cysylltiadau rhwng economi De Cymru a De Orllewin Lloegr yn dilyn y cyhoeddiad i ddiddymu Tollau Hafren yn ddiweddarach eleni.

Trenau cyfoes newydd ar gyfer De Cymru

Bydd y fflyd newydd o drenau Intercity Express fydd yn cael eu cyflwyno ar brif linellau Great Western o Lundain yn gwella profiad teithwyr yn Ne Cymru yn sylweddol.

Deddf Cymru 2017

Derbyniodd Bil Cymru Gydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2017, gan sefydlu pecyn cadarn o bwerau i aelodau Cynulliad gyda sefydlogrwydd ac atebolrwydd yn ganolog iddo.

Fframwaith Cyllidol.

Mae fframwaith cyllidol newydd sy’n nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei ariannu ar ôl datganoli rhai trethi yn garreg filltir arwyddocaol i Gymru. Mae’r cytundeb yn cynnig cyllid diogel hirdymor ar gyfer Llywodraeth Cymru ac mae’n rhoi mwy o welededd i Fae Caerdydd wrth edrych ar benderfyniadau gwario.

Bargeinion Dinesig a Bargeinion Twf

Mae Ysgrifennydd Cymru yn goruchwylio’r broses o weithredu’r cytundeb gwerth £1.2bn ar gyfer Rhanbarth Cyfalaf Caerdydd – a bydd cyfraniad Llywodraeth y DU o £500m yn darparu cronfa fuddsoddi ar gyfer y rhanbarth a chefnogi trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd. Roedd hefyd yn sbardun allweddol ar gyfer Dinas-Ranbarth Bae Abertawe fydd yn darparu bron i £1.3bn o fuddsoddiad i’r rhanbarth. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dechrau trafodaethau ffurfiol ar Fargen Twf Gogledd Cymru ac mae’n agored i gynigion ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru.

Band Eang

Mae buddsoddiad Llywodraeth y DU o £69miliwn i ddarparu band eang cyflym iawn ar draws Cymru wedi profi cynnydd cyflym o ran mynediad – o 29.4% o gartrefi a busnesau yn 2010 i 94.2% erbyn mis Rhagfyr 2017.

Y Gymraeg

Alun Cairns oedd yr Aelod Seneddol cyntaf erioed i wneud araith yn Gymraeg mewn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin, ar ôl i Lywodraeth y DU gyflwyno cynnig ym mis Chwefror y llynedd i alluogi Aelodau Seneddol i siarad Cymraeg mewn dadleuon yn San Steffan.

Cefnogaeth i fusnesau

Mae Strategaeth Ddiwydiannol fodern y Llywodraeth wedi’i chynllunio i adeiladu ar gryfderau Cymru mewn meysydd fel aerofod, technoleg a gwyddorau byw. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gwthio Cymru i fanteisio i’r eithaf ar y manteision a ddaw i Gymru o’r mentrau a’r sialensiau sydd ar y gorwel.

Cefnogi allforio

Ymunodd dros 80 o gwmnïau ag Ysgrifennydd Cymru yng Nghaerdydd ar gyfer Uwchgynhadledd Allforio Busnes Cymru yn 2017. Roedd y digwyddiad yn gyfle i gysylltu cwmnïau oedd wrthi’n dechrau allforio gydag arbenigedd a chymorth Llywodraeth y DU.

Wrth sôn am ei ddwy flynedd yn y swydd, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rwyf wedi cael y fraint o brofi’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig – gan gysylltu â phob rhan o Gymru, ei diwylliant, ei hanes a’i phobl.

Mae’r amcanion rydym ni wedi’u gwireddu dros Gymru yn ystod y cyfnod hwn yn mynd â ni gam yn nes at gyflawni gweledigaeth y Llywodraeth hon i adeiladu gwlad sy’n gweithio i bawb.

Ond mae dal gwaith i’w wneud. Wrth i ni baratoi i fyw drwy un o gyfnodau pwysicaf yn hanes ein gwlad, fe fyddaf yn parhau i fwrw ati gyda’r swydd. Byddaf yn cynnig arweiniad i sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa gryfaf posib i ffynnu pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, i feithrin economi sy’n addas ar gyfer y dyfodol, ac i ddarparu cymdeithas sy’n gryfach ac yn decach i bawb.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 Mawrth 2018 + show all updates
  1. Translation added

  2. First published.